Swydd Wag -- 8777 - Uwch Swyddog Grantiau Cyfalaf

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Cyllido Tai
SEO - £41,700 - £49,370
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
'I' w gadarnhau'

Pwrpas y swydd

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm sy'n cyflawni blaenoriaethau strategol allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Mae'r swydd yn eistedd o fewn y Tîm Cyllido Tai. Mae'r tîm yn gyfrifol am reoli a gweinyddu'r Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol. Grant Tai Cymdeithasol yw'r ffynhonnell ariannu allweddol ar gyfer datblygu tai cymdeithasol newydd.

Mae'r rhaglen yn chwarae rhan allweddol yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi newydd ar gyfer rhent cymdeithasol.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain a rheoli'r rhaglen ar gyfer awdurdodau lleol penodol gan gynnwys cymeradwyo ceisiadau cynlluniau a thaliadau.

Bydd angen i ddeiliad y swydd reoli ei waith i sicrhau bod terfynau amser yn cael eu bodloni a bod yn hyblyg i addasu i newid blaenoriaethau o fewn y tîm.

Prif dasgau

Prif gyfrifoldebau'r swydd yw:

  • Arwain a rheoli gweinyddu'r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol (SHG) ar gyfer awdurdodau lleol penodol, gan gymeradwyo cynlluniau cyflenwi penodol i sicrhau bod y gyllideb yn cael ei dyrannu a'i gwario.
  • Rheoli a chydlynu cymeradwyo cynlluniau a thalu'r Grant Tai Cymdeithasol.
  • Rheoli llwyth gwaith y tîm a phob agwedd o'r Grant Tai Cymdeithasol i sicrhau bod cymeradwyaeth a thaliadau yn cael eu gwneud ar amser ac yn unol â Gweithdrefnau Llywodraeth Cymru.
  • Cymeradwyo cynlluniau a thaliadau o fewn terfynau dirprwyedig
  • Ymgysylltu'n eang â rhanddeiliaid allanol ar lefel Cyfarwyddwr
  • Gweithio ar y cyd gyda thimau eraill o fewn Llywodraeth Cymru gan ddarparu gwybodaeth ynglŷn â sut mae'r Grant Tai Cymdeithasol yn cyfrannu at feysydd polisi eraill.
  • Darparu drafftiau o gyngor polisi, briffio a gohebiaeth
  • Rheoli'r broses ar gyfer diwygio ffioedd cyfreithiol a roddwyd ar gynlluniau tai cymdeithasol sydd wedi derbyn grant a chysylltu â Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Defnyddiwch Excel i ddarparu gwybodaeth rheoli ar y rhaglen.

Cyfleoedd datblygu

Mae hwn yn apwyntiad cyfnod penodol/secondiad am 2 flynedd.

Dyddiad Cau

05/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Bydd yr Ymddygiadau a'r Sgiliau canlynol yn cael eu hasesu yn y cyfweliad.

Ymddygiadau’r Gwasanaeth Sifil

Arwain a chyfathrebu

  • Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.

Cyflawni ar gyflymder 

  • Monitro eu gwaith eu hunain a gwaith y tîm yn rheolaidd yn unol â cherrig milltir neu dargedau, a gweithredu’n brydlon i gadw gwaith ar y trywydd iawn a chynnal perfformiad.

Gwneud penderfyniadau effeithiol 

  • Gwneud penderfyniadau pan fo angen, hyd yn oed os ydynt yn rhai anodd neu amhoblogaidd.

Cydweithio a phartneru

  • Gwneud penderfyniadau pan fo angen, hyd yn oed os ydynt yn rhai anodd neu amhoblogaidd.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

Bydd y meini prawf canlynol sy’n benodol i'r swydd yn cael eu hasesu yn y cam sifftio a’r cyfweliad.

  • Gallu ddadansoddi gwybodaeth rifiadol, ystyried opsiynau a gwneud argymhellion ar y ffordd ymlaen.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda’r gallu i dyfu perthnasoedd gweithio effeithiol a chynnal rhwydweithiau â rhanddeiliaid mewnol ac allanol
  • Sgiliau cydlynu a threfnu wedi datblygu'n dda.

Mae sgiliau Excel cryf yn ddymunol.

Yn eich CV a'ch datganiad personol, rhowch dystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut ydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd ar gyfer y rôl hon.

Proses Asesu

Mae 3 cham i'r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 - Cyflwyno CV a Datganiad Personol

Lanlwythwch eich CV a'ch Datganiad Personol (dim mwy na 2 dudalen). Rydym am i chi ddangos yn arbennig sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd. Rydym wedi’u rhestru yn adran Meini Prawf Penodol i’r Swydd yr hysbyseb.

  • Pwysig: byddwn yn asesu’ch CV a'ch datganiad personol ar sail y meini prawf sy’n benodol i’r swydd sy’n cael eu rhestru isod. Sicrhewch fod eich datganiad personol yn esbonio sut rydych chi'n bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd (tua 300 gair ar gyfer pob maen prawf.

Cam 2 – Sifftio’r CV

Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn asesu CVs a datganiadau personol yr holl ymgeiswyr.

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo i ddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf gofynnol sy’n benodol i’r swydd yn derbyn prawf sgiliau ar-lein/ (teitl) cyflwyniad o 5 munud.

Cam 3 - Cyflwyniad

Cyflwyniad an 5 munud, pwnc I’w gynghori

Dyddiad cyfweliadau:  I'w gadarnhau.

Cam 4 – Cyfweliad

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar yr Ymddygiadau/Sgiliau a'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a ddisgrifir yn yr hysbyseb hon.

Yn y cyfweliad, gofynnir cwestiynau i chi a fydd yn gyfle ichi roi tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut ydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a’r Ymddygiadau a’r Sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sian Coggins

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.