Swydd Wag -- Cyfieithydd (x8)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Y Gwasanaeth Cyfieithu
EO - £26,900 - £30,610
Gellir cynnig hyd at bwynt uchaf y raddfa i ymgeiswyr eithriadol.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Gwahanol leoliadau
Cymru Gyfan
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cynorthwyo Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar gyfer Llywodraeth Cymru a'i Gweinidogion, a chefnogi’r Llywodraeth i gydymffurfio â gofynion ieithyddol statudol.

Yn ystod eich 18 mis cyntaf yn y swydd, byddwch yn dilyn cynllun strwythuredig er mwyn eich helpu i ddeall cyd-destun gwaith cyfieithydd yn Llywodraeth Cymru - hynny yw, datblygu dealltwriaeth o waith y gwasanaeth a’r Llywodraeth yn ehangach, ymgynefino ag arddull, terminoleg a chyweiriau’r gwaith cyfieithu - ynghyd â mireinio’ch sgiliau cyfieithu. Disgwylir i bob Cyfieithydd ymrwymo i ddysgu o’r adborth a gaiff ar ei waith cyfieithu beunyddiol a’i berfformiad yn y swydd. Bydd hynny yn rhan allweddol o’r cyfle a roddir i chi ddatblygu yn y proffesiwn ac ymbaratoi ar gyfer gwneud cais am ddyrchafiad i swydd Uwch-gyfieithydd ymhen rhyw 18 mis.

Prif dasgau

Gweithio fel aelod o dîm mawr o Gyfieithwyr ac Uwch-gyfieithwyr, ynghyd â staff cymorth a staff arbenigol eraill, sydd wedi’u lleoli ledled Cymru.  

 

Cyfieithu ysgrifenedig

  • Cyfieithu o ddydd i ddydd dan arweiniad Uwch-gyfieithydd a fydd yn goruchwylio’ch gwaith. Yn ogystal ag adolygu’ch cyfieithiadau i sicrhau eu bod yn addas i’w diben, fe fydd yr Uwch-gyfieithydd hefyd yn rhoi adborth ichi ar bob darn o waith. Bydd disgwyl i chi ddysgu o’r adborth hwnnw er mwyn mireinio’ch sgiliau cyfieithu a datblygu’r gallu i gymryd cyfrifoldeb am ansawdd eich gwaith eich hun.
  • Yn ystod eich 18 mis cyntaf yn y swydd, byddwch yn rhannu’ch amser rhwng gweithio yn yr Uned Cyfieithu Deddfwriaeth a’r Uned Cyfieithu Testun. Bydd y gwaith cyfieithu’n cynnwys amrywiaeth eang o destunau yn ymwneud â pholisïau Llywodraeth Cymru a’r ddeddfwriaeth.

 

Terminoleg, arddull ac ansawdd

  • Sicrhau bod eich gwaith cyfieithu yn gywir, yn briodol ac yn cydymffurfio bob amser â chywair, arddull a therminoleg safonol y Gwasanaeth Cyfieithu ar gyfer y math o destun dan sylw.
  • Ymgyfarwyddo â’r prif egwyddorion ar gyfer safoni termau a dilyn trefniadau gosodedig y Gwasanaeth ar gyfer paratoi a rhannu termau drwy gyfrwng TermCymru.
  • Cydweithio â chyfieithwyr ac eraill i sicrhau cysondeb ar draws arddull y Gwasanaeth Cyfieithu, a chynorthwyo i ddatblygu a rhannu’r canllawiau arddull a ddefnyddir ganddo.
  • Treulio cyfnod o amser yn gweithio yn yr Uned Ddatblygu, sef yr Uned yn y Gwasanaeth Cyfieithu sy’n cefnogi’r gwaith cyfieithu o safbwynt terminoleg, arddull, iaith a thechnoleg. Byddwch yn cael eich trwytho yn hanfodion y broses rheoli terminoleg a chael profiad ymarferol o waith o’r fath, yn ogystal ag agweddau eraill ar waith yr Uned.

Gwasanaeth i gwsmeriaid

  • Meithrin perthynas â chwsmeriaid mewn meysydd polisi Gweinidogol neu dimau cyfreithiol penodol. Bydd hyn yn golygu deall gofynion cyfieithu Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun Rheolau Sefydlog Senedd Cymru a'r Safonau Iaith, deall y gweithdrefnau deddfu a’r meysydd pwnc, a mynd i’r afael â materion sy’n codi wrth drefnu gwaith cyfieithu.

 

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

  • Defnyddio systemau craidd y Llywodraeth, ynghyd â systemau a meddalwedd arbenigol y Gwasanaeth Cyfieithu, i’w llawn botensial o ddydd i ddydd. Mae’r systemau arbenigol yn cynnwys cof cyfieithu, system llif gwaith, system rheoli dogfennau, meddalwedd drafftio deddfwriaeth a meddalwedd fynegeio.
  • Helpu’r Gwasanaeth i ddatblygu’r defnydd o offer TGCh arbenigol a chadw ar drywydd y datblygiadau technolegol diweddaraf sy’n hyrwyddo prosesau cyfieithu.

 

Meithrin sgiliau eraill

  • Ar ôl magu profiad o weithio yn y Gwasanaeth Cyfieithu, rhoddir cyfle i Gyfieithwyr feithrin sgiliau adolygu gwaith cyd-gyfieithwyr, prawfddarllen cyhoeddiadau, a gwirio gwaith swyddogion sy’n drafftio yn y Gymraeg.
  • Gan ddibynnu ar gryfderau’r unigolyn ac anghenion busnes y Gwasanaeth, cyfrannu at brosiectau, gan gynnwys prosiectau cyfieithu a phrosiectau cyffredinol y tu hwnt i’r maes cyfieithu.
  • Gan ddibynnu ar allu a phrofiad, helpu i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg mewn cyfarfodydd Gweinidogol. Cynorthwyo, yn ôl y galw, ag agweddau eraill ar ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd.
  • Gwneud unrhyw dasg resymol arall ar gais arweinydd tîm neu reolwyr eraill y Gwasanaeth Cyfieithu.

 

Cyfleoedd datblygu


  •        Gweithio mewn gwasanaeth cyfieithu mawr, amlddisgyblaeth, a mireinio ac ehangu’ch sgiliau cyfieithu.
  •        Dysgu rhagor am feysydd gwaith Llywodraeth Cymru a chyfrannu at waith y Llywodraeth ddatganoledig sy’n gwasanaethu pobl Cymru.
  •        Treulio cyfnod o amser yn dysgu hanfodion gwaith terminoleg ac arddull y Gwasanaeth Cyfieithu.
  •        Cyfle i wneud cais am ddyrchafiad i swydd Uwch-gyfieithydd ar ôl cwblhau’r 18 mis cyntaf yn llwyddiannus.
  •        Cefnogaeth i sefyll profion aelodaeth cymdeithasau cyfieithu proffesiynol, megis Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yr ITI/IOL. Telir y ffioedd profi ac aelodaeth gan y Gwasanaeth Cyfieithu.

Dyddiad Cau

21/05/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  • Gwella gallu pawb - Cymryd cyfrifoldeb am ansawdd eu gwaith eu hunain a chwilio am gyfleoedd i wella drwy ddysgu yn barhaus.
  • Rheoli gwasanaeth safonol - Gweithio gyda'r tîm i osod blaenoriaethau, creu cynlluniau clir a rheoli'r holl waith er mwyn diwallu anghenion y cwsmer a'r busnes.
  • Gweld y darlun cyflawn - Canolbwyntio ar nod a bwriad cyffredinol yr hyn y maen nhw'n ceisio ei gyflawni, ac nid ar y dasg yn unig.
  • Collaborating and partnering - Proactively seek information, resources and support from others outside own immediate team in order to help achieve results. 

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Gradd neu gymhwyster cyfatebol, ynghyd â sgiliau cadarn yn y Gymraeg a'r Saesneg.
  2. Profiad o weithio yn broffesiynol ym maes y Gymraeg fel cyfieithydd neu olygydd neu mewn swydd sy'n gofyn am sgiliau Cymraeg o'r radd flaenaf.
  3. Meddu ar sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn ynghyd â'r gallu a'r parodrwydd i'w datblygu ymhellach.

Proses Asesu

Mae tri cham i'r broses ymgeisio, sef:


Cam 1: Cyflwyno ffurflen gais. 

Disgwylir ichi gyflwyno’ch atebion yn Gymraeg. At ddibenion y cam hwn, bydd angen ichi ateb pob cwestiwn a darparu tystiolaeth ar gyfer pob cymhwysedd a maen prawf, ac eithrio Cymwyseddau 2,3 a 4 (sef ‘Rheoli Gwasanaeth Safonol’, ‘Gweld y Darlun Cyflawn’ a ‘Collaborating and Partnering’).  

Asesir ansawdd ieithyddol yr holl atebion fel cam cyntaf y broses ddidoli. Os bydd yr ansawdd yn ddiffygiol, ni fydd y panel yn ystyried y ffurflen ymhellach.


Cam 2: Profion cyfieithu. 

Os bydd y ffurflen gais yn dderbyniol o ran ei hansawdd ieithyddol a’r atebion i’r cwestiynau gofynnol, fe’ch gwahoddir i sefyll set o brofion fel a ganlyn:

• dau ddarn (cyffredinol a deddfwriaethol) i’w cyfieithu dros gyfnod o ryw ddwy awr yn eich cartref, ac a gyflwynir drwy gyfarfod Microsoft Teams ar 8 Mehefin 2021.


Cam 3: Cyfweliadau. 

Os bydd canlyniadau eich profion yn dderbyniol, cewch wahoddiad i gyfweliad a gynhelir drwy gyfrwng Microsoft Teams. Bwriedir cynnal y cyfweliadau yn ystod yr w/d 19 Gorffennaf 2021.

Yn y cyfweliadau, bydd y panel yn eich holi am y tri Maen Prawf Penodol i’r Swydd, ac am y pedwar Cymhwysedd. Sylwer y bydd disgwyl ichi roi ateb Saesneg i’r cwestiwn ynghylch y pedwerydd Maen Prawf sef ‘Collaborating and Partnering’

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Os bydd gennych unrhyw bryderon am gael eich profi neu eich cyfweld drwy MS Teams o'ch cartref, e-bostiwch Helen Phillips neu Llinos Pierce Williams.

Mae staff y Gwasanaeth Cyfieithu yn gweithio gartref ar hyn o bryd, ond bydd rhai desgiau gennym yn y swyddfeydd canlynol pan fydd modd dychwelyd yn rhannol: Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i weld pecyn gwybodaeth am ein swyddi cyfieithu: https://llyw.cymru/ymgyrch-recriwtio-cyfieithwyr-2021

Helen Phillips (Helen.Phillips@llyw.cymru) / Llinos Pierce Williams (Llinos.PierceWilliams@llyw.cymru)

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.