Swydd Wag -- Cymorth Busnes - Cafcass Cymru - Gogledd Cymru

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafcass Cymru
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£22,150
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Gogledd Cymru
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Cafcass Cymru yn un o Is-adrannau'r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru. Mae Cafcass Cymru yn gyfrifol am ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant wedi'u heffeithio gan achosion llys teuluol.

Mae gan Cafcass Cymru 11 o swyddfeydd ar draws Cymru o fewn pum ardal weithredol ddaearyddol. Y pum ardal ddaearyddol yw:

  • Gogledd Cymru
  • De Cymru
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • De-orllewin Cymru
  • Gwent

Mae'r hysbyseb hon yn cwmpasu swyddi gwag yn ardal Gogledd Cymru (swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno a Wrecsam).

Mae swyddi Cymorth Busnes yn Cafcass Cymru yn ganolog wrth roi cymorth hanfodol i'r timoedd gweithredol o fewn y sefydliad, a sicrhau bod y timoedd gweithredol yn cael eu rheoli mewn modd hwylus ac effeithlon.

Mae'r swyddi hyn yn unigryw o fewn Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi Rheolwyr Ymarfer, Cynghorwyr Llys Teulu/Gweithwyr Cymdeithasol Llys Teulu a Rheolwyr Cymorth Busnes i ddarparu gwasanaeth effeithiol i Lysoedd Teulu ar draws Cymru.

Mae'r maes gwaith hwn yn ymwneud â gwybodaeth sensitif, gyfrinachol a manwl iawn, gan fydd y deiliaid swydd yn ymdrin â gwybodaeth ynglŷn ag achosion wrth gefnogi gwasanaethau ar gyfer plant agored i newid yn ystod cyfnodau anodd iawn yn eu bywydau.

Prif dasgau

  • Darparu gwasanaeth cymorth gweithredol cynhwysfawr gan gynnwys sgrinio ceisiadau a gorchmynion llys, fformatio dogfennau cyfrinachol, drafftio gohebiaeth a chofnodion i safon uchel, trefnu cyfarfodydd, monitro'r mewnlif gohebiaeth, ffeilio a dyletswyddau gweinyddol eraill, wrth fodloni terfynau amser tyn.
  • Cyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid mewnol ac allanol gan gynnwys llysoedd, yr Heddlu ac Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, cyfreithwyr, ymarferwyr gwaith cymdeithasol a defnyddwyr gwasanaethau.
  • Delio â thrafodaethau ffôn sensitif ac ymholiadau wrth y dderbynfa gan ddefnyddwyr gwasanaethau fel bo angen.
  • Bod yn gyfrifol am eich tasgau mewnbynnu data eich hun, cyfrannu at sicrhau dilysrwydd y data yn system rheoli achosion Cafcass Cymru (IRIS), adrodd am wallau a rhoi cymorth a chyngor i gydweithwyr.
  • Cyfrannu at gadw a chynnal cofnodion mewnol, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn ag achosion, sicrhau bod cofnodion iShare wedi'u cwblhau a bod y gwaith yn cydymffurfio â gofynion Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth.
  • Bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl wybodaeth gyfrinachol yn cael ei thrin yn effeithlon ac yn briodol ac yn unol â'r arweiniad a’r dogfennau polisi perthnasol.
  • Cyfrannu at sicrhau bod y swyddfa’n cael ei rheoli’n hwylus o ddydd i ddydd, gan ymdrin â gohebiaeth, ei chofnodi a'i dosbarthu, a chynnal a dyrannu offer swyddfa.
  • Efallai bydd angen i ddeiliad y swydd ymgymryd â dyletswyddau eraill o fewn ei dîm er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau corfforaethol, e.e. Swyddog Cymorth Cyntaf, Swyddog Tân, Swyddog Asesu Cyfarpar Sgrin Arddangos.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn rhoi'r cyfle i weithio mewn rôl o bwys mewn sefydliad sy'n canolbwyntio ar blant. Mae'r swyddi yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau â Cafcass Cymru, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol.

Dyddiad Cau

15/02/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Pennu’r Cyfeiriad – Gwneud penderfyniadau effeithiol
Gwneud a chofnodi penderfyniadau effeithiol, gan ddilyn y meini prawf, fframweithiau neu ganllawiau perthnasol ar gyfer gwneud penderfyniadau
Ymgysylltu â Phobl – Arwain a Chyfathrebu
Gweithredu mewn modd teg a pharchus wrth ymdrin ag eraill
Gwireddu Canlyniadau - Rheoli Gwasanaeth Safonol
Mynd ati i holi am wybodaeth gan gwsmeriaid er mwyn deall eu hanghenion a’u disgwyliadau a rheoli gwybodaeth yn briodol
Sicrhau Canlyniadau – Cyflawni’n Brydlon
Gweithio mewn modd trefnus, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd i gyflawni’n brydlon a safonol

Meini prawf penodol i'r swydd

Dealltwriaeth dda a phrofiad o ddefnyddio amrywiaeth o becynnau TG gan gynnwys Microsoft Word, Excel a PowerPoint.
Gallu gweithio fel rhan o dîm yn dda ac ar eich pen eich hun yn ddigymell. Mae angen rhywfaint o brofiad o weithio gyda sefydliadau allanol.
Gallu monitro a storio data allweddol yn ddiogel, yn gywir, yn hyderus ac yn gyfrifol.

Proses Asesu

Caiff ceisiadau eu sifftio, wedyn bydd ymgeiswyr llwyddianus yn derbyn gwahoddiad i gyfweliad

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gorfod aros yn y swydd am o leiaf 2 flynedd cyn bod yn gymwys i symud swyddi (amod eu bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd eraill sy'n gymwys ar y pryd).  

Mae staff cymorth busnes Cafcass Cymru yn darparu gwasanaeth llinell flaen sy’n gweithredu rhwn 9yb a 5yh, er bod hyblygrwydd o ran oriau gwaith sy’n gymwys o’r angen busnes.

Lleoliad y swydd – Mae'r hysbyseb hon yn cwmpasu swyddi gwag yn ardal Gogledd Cymru (Swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno a Wrecsam). Ar hyn o bryd mae staff Cafcass Cymru yn gweithio o bell, ond yn y tymor hir byddwn yn mabwysiadu dull cyfunol a hyblyg sy'n ymgorffori gweithio swyddfa a gweithio o bell, gan ystyried angen busnes a sut mae defnyddwyr gwasanaeth eisiau ymgysylltu â ni. Felly, dylai ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl y bydd yn ofynnol iddynt fynychu'r swyddfa benodol yn rheolaidd

Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu penodi yn nhrefn teilyngdod i swyddi gwag sydd ar gael ar unwaith. Cedwir rhestr wrth gefn o ymgeiswyr y gellir eu penodi i rôl o fewn 12 mis i'r cynnig cychwynnol os bydd swydd addas yn codi.

Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiol o brofiadau byw a phroffesiynol. Mae Cafcass Cymru wedi ymrwymo'n weithredol i ddod yn sefydliad cynyddol amrywiol sy'n diwallu anghenion yr ystod amrywiol o ddefnyddwyr gwasanaeth. Ategir hyn gan ddull deinamig o ddysgu a datblygu. Mae nifer o rwydweithiau Amrywiaeth y gall staff gymryd rhan ynddynt, sy'n cynnwys Y Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig, Rhwydwaith PRISM LHDTRh+, a'r Rhwydwaith Menywod Ynghyd.
CafcassCymruHR@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.