Swydd Wag -- Prif Swyddog Milfeddygol Cymru

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Uwch Wasanaeth Sifil 2
tua £93,000
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan

Dyddiad Cau

15/07/22 23:55

Pwrpas y Swydd

Mae'r rôl filfeddygol unigryw hon yn Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfleoedd rhagorol i arweinydd sicrhau newid cynaliadwy a phendant i'r cymunedau gwledig a'r sector ffermio yng Nghymru. Mae gan y rôl bresenoldeb gweladwy, proffil uchel yng Nghymru, y DU ac ar adegau yn rhyngwladol.

Yn ei hanfod, diben y swydd yw rhoi cyngor proffesiynol ac uwch gymorth yn uniongyrchol i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig.

Yn ogystal, fel Cyfarwyddwr yn Llywodraeth Cymru, y rôl hefyd yw bod yn aelod gweithgar o uwch arweinwyr y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn ogystal ag yn gorfforaethol ar draws Llywodraeth Cymru.

Dyma rai o'r cyfrifoldebau allweddol

Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar sail drawslywodraethol i gefnogi'r Gweinidog dros Faterion Gwledig: 

  • Darparu cyngor proffesiynol strategol i Weinidogion ac uwch swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru.
  • Gweithredu fel llefarydd proffesiynol Llywodraeth Cymru ar faterion iechyd a lles anifeiliaid gan gynnwys trafod ar y cyfryngau.
  • Cynllunio a darparu rhaglenni diogelu iechyd anifeiliaid a dileu clefydau credadwy sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n canolbwyntio ar egwyddorion allweddol rheoli clefydau heintus, gan roi ystyriaeth lawn i oblygiadau lles cysylltiedig, gan gyfrannu at ddiogelu iechyd y cyhoedd drwy'r agenda Un Iechyd.
  • Arwain ymateb y Llywodraeth i achosion o glefydau anifeiliaid egsotig.
  • Darparu cyngor milfeddygol arbenigol ar sail ymyrraeth y Llywodraeth ar glefydau anifeiliaid ac ar y camau sy'n angenrheidiol i liniaru clefydau anifeiliaid a/neu ddileu clefydau.
  • Darparu cyfeiriad strategol ar gyfer datblygu polisi ar gyfer gwella a hyrwyddo lles anifeiliaid ym mhob rhywogaeth a gedwir, gan gydnabod yr agenda Un Lles sy'n gwneud y cysylltiad rhwng lles pobl a lles anifeiliaid.
  • Rhoi arweiniad a chyfeiriad i APHA yng Nghymru, gan sicrhau bod polisïau iechyd a lles anifeiliaid yn cael eu cyflawni drwy Gytundeb lefel Gwasanaeth sy'n darparu her a chymorth, yn enwedig yn ystod ymateb brys a lliniaru risg clefydau.
  • Gweithio mewn partneriaeth â llywodraethau eraill ledled y DU, gan sicrhau bod polisïau mor gyson a chydlynol â phosibl, tra'n parchu datganoli pwerau iechyd a lles anifeiliaid, gyda dealltwriaeth a chynrychiolaeth gyffredin o'r dystiolaeth y seilir y polisïau hynny arni.
  • Gweithredu fel Pennaeth Proffesiwn ar gyfer milfeddygon Llywodraeth Cymru, gan feithrin gallu a chapasiti.
  • Ymgysylltu'n rhagweithiol ar lefel uwch â chyrff milfeddygol allanol, ar safonau/gallu a chapasiti proffesiynol, ac ar bolisïau iechyd a lles anifeiliaid y Llywodraeth.
  • Cydweithio â chydweithwyr mewn gweinyddiaethau eraill yn y DU sy'n hyrwyddo buddiannau sy'n benodol i Gymru yng nghyd-destun swyddi'r DU a'r UE, gan sicrhau bod strwythurau llywodraethu ar ôl gadael yr UE, ledled y DU yn effeithiol; a safonau iechyd anifeiliaid (SPS) a lles anifeiliaid yn cael eu cynnal, drwy Fframwaith Cyffredin Iechyd a Lles Anifeiliaid y DU.
  • Cefnogi masnach ryngwladol mewn anifeiliaid a chynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid, drwy roi sicrwydd iechyd a lles anifeiliaid i bartneriaid masnachu; cynghori'r Llywodraeth ar safonau a gofynion iechyd a lles anifeiliaid i ddiogelu'r boblogaeth da byw a'r diwydiant ffermio sydd bellach yn masnachu fel trydedd wlad.
  • Ymgysylltu â phartneriaid cyflawni, y proffesiwn milfeddygol, a rhanddeiliaid gan gynnwys gweithredu fel y prif gyswllt rhwng Llywodraeth Cymru a'r Ysgol Gwyddorau Milfeddygol, Prifysgol Aberystwyth.
  • Bod yn aelod gweithgar o uwch arweinwyr y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn ogystal ag yn gorfforaethol ar draws Llywodraeth Cymru.
  • Gweithio ar y cyd â'r Is-adran Môr a Physgodfeydd, a'r partner cyflawni CEFAS (Canolfan yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Gwyddor Dyframaethu) sy'n arwain ymateb Llywodraeth Cymru i achosion o glefydau pysgod.
  • Gweithredu fel uwch gwsmer polisi i'r rhaglen Adnabod Da Byw a Chofnodi Symudiadau yn yr adran Materion Gwledig.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Asesiadau ar gyfer Ymgeiswyr ar y Rhestr Fer yn Unig:

Profion Seicometrig Ar-lein  

Ymarfer Ymgysylltu â Staff/Rhanddeiliaid 

Trafodaeth Anffurfiol Weinidogol

Cyfweliad Panel a Cyflwyniad



Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

Recriwtio Di-enw

Dylech ddileu eich enw o'ch CV a'ch datganiad personol ar ôl ichi gyflwyno eich cais.


Telerau'r Penodiad

Mae hon yn swydd barhaol, ac mae ar gael i weithwyr parhaol Gwasanaeth Sifil y DU (a recriwtiwyd drwy gystadleuaeth deg ac agored) neu ar sail symud ar draws neu ddyrchafiad. Mae'r swydd hon hefyd ar gael i'r rhai sy'n dymuno ymuno â'r Gwasanaeth Sifil ac i'r rhai sy'n dymuno gwneud cais ar sail benthyciad, neu ar sail secondiad am hyd at ddwy flynedd i ddechrau.


Manylion llawn yn y pecyn i ymgesiwyr.

wythnos yn dechrau 12 Medi 2022
RecriwtioUWS@llyw.cymru

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.