Swydd Wag -- Syrfëwr Cynorthwyol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Seilwaith Eiddo
HEO - £32,460 - £39,690
£30,600
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Gogledd Cymru, Y Canolbarth
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae hon yn swydd ar gyfer unigolyn sydd wedi cymhwyso’n rhannol neu weithiwr proffesiynol profiadol ym maes eiddo, i gynorthwyo yn y gwaith o reoli portffolio tir ac eiddo seilwaith economaidd rhanbarth y Gogledd (sy’n cynnwys Canolbarth Cymru), gan sicrhau bod gwerth a pherfformiad asedau eiddo adeiledig yn cael eu cynyddu cymaint ag y bo modd wrth gyflawni amcanion ehangach y rhaglen eiddo.

Gweledigaeth y Gyfarwyddiaeth yw helpu i gyflenwi eiddo modern a chyfleus ar gyfer y farchnad, sydd ar gael i fusnesau er mwyn cynyddu manteision economaidd yn y rhanbarth cymaint ag y bo modd. Mae’r is-adran rheoli eiddo o fewn y Gyfarwyddiaeth yn gweithio wyneb yn wyneb â’r cyhoedd. Maent yn dîm cyflawni sy’n canolbwyntio ar faterion masnachol ac mae ganddynt sgiliau mewn ymarfer cyffredinol, gwerthuso, deddfwriaeth Landlord a Thenant, rheoli tir, rheoli cyfleusterau a rheoli prosiectau. Ei rôl yw:

  • Cynorthwyo yn y gwaith o sicrhau bod portffolio asedau tir ac eiddo’r Adran yn cael ei reoli mewn modd effeithlon a rhagweithiol o ddydd i ddydd, gan gefnogi busnesau a sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn erbyn amcanion yr adran ac amcanion polisi
  • Rheoli’r gwaith o ddarparu Gwasanaethau Rheoli Eiddo ar gyfer ystad yr Economi a Seilwaith, i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau cyfreithiol, contractiol a pholisi, a bod ei hasedau tir ac eiddo yn cael eu defnyddio mewn modd effeithiol
  • Cefnogi strategaethau a pholisïau ehangach yr adran i sicrhau cydymffurfiaeth, aliniad a gwerth am arian

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli a chynnal trafodaethau ynghylch eiddo masnachol. Gall hyn gynnwys gosod eiddo, adnewyddu lesau/trwyddedau, adolygu rhent a rheoli asedau tir ac asedau adeiledig.

Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo yn y gwaith o reoli’r portffolio, i sicrhau bod gwaith a threfniadau ar gyfer rheoli cyfleusterau’n cael eu cychwyn a’u cwblhau mewn modd amserol, ac yn benodol y rhoddir y sylw priodol i gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch wrth reoli asedau.  

Bydd deiliad y swydd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn rôl amrywiol lle bydd yn ymdrin â’r cyhoedd, gan sicrhau’r safonau uchaf o wasanaeth ar gyfer cwsmeriaid ac ar gyfer cwmnïau sy’n chwilio am eiddo, lle maent wedi nodi y gallwn ni eu helpu i ddod o hyd i eiddo sy’n bodloni eu gofynion busnes.

 

Prif dasgau

  • Cyfrannu at y gwaith o reoli portffolio tir ac eiddo’r Adran o ddydd i ddydd.
  • Weithio o dan Syrfëwr Eiddo Canolbarth Cymru (Band Rheoli 1) ac Arweinydd Tîm Canolbarth Cymru (Band Gweithredol 2), i reoli’n annibynnol lwyth o achosion Landlord a Thenant ar gyfer Gogledd Cymru, gan gynnwys trafod lesau, tenantiaethau, trwyddedau a chontractau gwerthu/prynu mewn modd sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau, a rhoi cyfarwyddiadau i gynghorwyr cyfreithiol mewnol i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau mewn modd amserol.
  • Cysylltu â gweithwyr proffesiynol allanol, cleientiaid a chynghorwyr cyfreithiol.
  • Rheoli contractau/trefniadau rheoli cyfleusterau presennol mewn modd amserol, ac yn benodol mewn modd sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau iechyd a diogelwch statudol.
  • Coladu a dadansoddi gwybodaeth am eiddo a’i chyflwyno mewn fformat addas.
  • Rheoli cyllidebau ac arian mewn modd effeithlon.
  • Gyda chymorth y Syrfëwr Eiddo, cynnal trafodaethau ynghylch eiddo, rhoi cyfarwyddiadau i gyfreithwyr a pharatoi contractau, yn unol â deddfwriaeth tir ac eiddo bresennol a chyfredol.
  • Paratoi adroddiadau ysgrifenedig cywir a chlir mewn perthynas â thrafodiadau eiddo i’w  cyflwyno i gael eu hystyried gan Dîm Arweinyddiaeth yr Adran Eiddo.
  • Ymdrin â cheisiadau rhyddid gwybodaeth mewn modd amserol ac effeithlon.
  • Drafftio cyflwyniadau a briffiau ar gyfer Gweinidogion, ac atebion i ohebiaeth gan Weinidogion a chwestiynau gan Lywodraeth Cymru.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd yn cynnig cyfle gwych i weithio mewn maes cyflawni proffil uchel.  Mae'r swyddogaeth rheoli eiddo yn ategu amcanion ehangach yr adran a Llywodraeth Cymru. Mae'r portffolio yn amrywiol a bydd yn rhoi llwyth gwaith eang ac amrywiol i ddeiliad y swydd a fydd yn ategu ei ddatblygiad personol a phroffesiynol ym maes arolygu eiddo a rheoli ystadau masnachol.  Mae'n darparu ymyriadau a rôl bwysig wrth gyflenwi a sicrhau argaeledd eiddo yn y farchnad fasnachol, ac wrth ddarparu eiddo sydd ar gael i gwmnïau brodorol a chwmnïau sy’n buddsoddi o’r tu allan, boed yn fusnesau presennol neu fusnesau newydd.

Dyddiad Cau

12/04/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Sicrhau Canlyniadau Masnachol:

Gwybod pan nad yw canlyniadau a/neu wasanaethau sy’n deillio o drefniad masnachol yn cael eu cyflawni i’r ansawdd neu’r safon ofynnol, a chymryd y camau priodol.


Gwneud Penderfyniadau Effeithiol:

Egluro’n glir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, sut y gwnaed penderfyniad.


Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd:

Weithio gyda’r tîm i bennu blaenoriaethau, llunio cynlluniau clir a rheoli gwaith i ddiwallu anghenion y cwsmer a’r busnes.


Newid a gwella:

Bod yn fentrus wrth argymell newidiadau ar gyfer gwella, gan rannu’r adborth hwn ag eraill mewn modd adeiladol.

 

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

1. Sgiliau trafod eiddo gyda rhywfaint o wybodaeth ymarferol am gyfraith eiddo a chontractau, gyda phwyslais penodol ar ddeddfwriaeth Landlord a Thenant

2. Gwybodaeth ymarferol am reoli cyfleusterau, ynghyd â dealltwriaeth a rhywfaint o brofiad perthnasol o’r maes hwn

3. Y gallu i gynllunio, rheoli a chwblhau gwaith mewn modd cywir ac amserol, a chynnal dadansoddiadau cyllidebol ac ariannol mewn modd effeithlon           

Proses Asesu

Cwestiwn Sy'n Benodol i’r Swydd
Bwriad y cam hwn yw nodi ymgeiswyr nad ydynt yn gymwys.

Cam Sifftio
Bydd proses sifftio dau gam yn cael ei chynnal ar gyfer ymgeiswyr sy'n cyrraedd y cam hwn.

Cam Sifftio Rhan 1
Bydd y dystiolaeth a roddwch yn eich cais mewn perthynas â manylion y swydd yn cael ei hasesu gan banel recriwtio. Os byddwch yn llwyddiannus ar yr adeg hon, bydd eich cais yn symud ymlaen i Gam Sifftio Rhan 2

Cam Sifftio Rhan 2
Bydd panel recriwtio’n asesu'r dystiolaeth rydych wedi’i rhoi yn eich cais ar gyfer y pedwar cymhwysedd sy'n weddill. Os byddwch yn llwyddiannus ar yr adeg hon, cewch eich gwahodd i gyfweliad ar-lein drwy Microsoft Teams a phrawf dadansoddi senario.

Y Cyfweliad
Ar ddechrau'r cyfweliad byddwch yn cael e-bost mewn perthynas â senario penodol i'w ddadansoddi (tua 45 munud). Wedyn byddwch yn rhoi cyflwyniad 10 munud i'r panel recriwtio ar eich dadansoddiad/canfyddiadau. Yn dilyn egwyl gysur fer, bydd y cyfweliad yn mynd yn ei flaen a gofynnir cwestiynau ichi ynghylch y cymwyseddau a manylion y swydd a nodir yn yr hysbyseb swydd.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Lleoliad: Canolbarth Cymru/Gogledd Cymru

Llawn amser – ystyrir ceisiadau gan staff sydd am weithio’n rhan amser neu rannu swydd 

Martin Williams - martin.willliams2@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.