Swydd Wag -- Uwch-reolwr Cyflenwi Eiddo

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Seilwaith Eiddo
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£50,870
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Y De-ddwyrain, Y De-orllewin
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae'r Gyfarwyddiaeth Seilwaith Economaidd yn rhan o Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol (ESNR). 

Gweledigaeth y Gyfarwyddiaeth yw helpu i greu seilwaith modern a chysylltiedig i gydgysylltu gwasanaethau cyhoeddus a datblygiadau eraill er mwyn sicrhau'r manteision economaidd rhanbarthol mwyaf posibl.   Mae'r Gyfarwyddiaeth yn gyfrifol am rai o'r rhaglenni a'r prosiectau mwyaf a mwyaf cymhleth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r is-adran Eiddo o fewn y gyfarwyddiaeth yn dîm sy'n canolbwyntio ar fasnach, sy'n wynebu cwsmeriaid ac sydd â sgiliau arolygu, peirianneg sifil, adeiladu a chynllunio a'u rôl yw: 

• Darparu seilwaith eiddo o ansawdd uchel, gan ddarparu amrywiaeth o safleoedd ac adeiladau ledled Cymru i ddiwallu anghenion busnesau

• Darparu atebion pwrpasol o ran eiddo a seilwaith i'r Sector Cyhoeddus a Phreifat

• Rheoli'r ddarpariaeth o Wasanaethau Rheoli Eiddo i Bortffolio yr Economi a Thrafnidiaeth fel bod rhwymedigaethau cyfreithiol, cytundebol a pholisi Llywodraeth Cymru yn cael eu bodloni a bod asedau'n cael eu defnyddio'n effeithiol

• Llywodraethu ac adolygu gan gymheiriaid o'r holl drafodion eiddo ar draws ESNR drwy'r Tîm Arweinyddiaeth Eiddo

• Cefnogi strategaethau a pholisïau adrannol a thraws-lywodraeth ehangach i sicrhau cydymffurfiaeth, aliniad a gwerth am arian gyda dadansoddiad arbenigol a gwybodaeth am faterion datblygu eiddo, cynllunio ac adeiladu 

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain ar amrywiol brosiectau seilwaith eiddo sy'n cynnwys trafodaethau masnachol (sy'n aml yn sensitif) a allai gynnwys prynu, datblygu, adeiladu, gwerthu neu drosglwyddo asedau seilwaith eiddo. Bydd deiliad y swydd yn darparu penderfyniadau technegol, cyflawni a sicrwydd uwch ar gyfer nifer o raglenni a phrosiectau cymhleth. 

Bydd deiliad y swydd yn cynrychioli Cymru mewn trafodaethau ar y lefel uchaf un gyda chwmnïau a chyrff cyhoeddus rhyngwladol yng Nghymru a lle bo angen gyda Llywodraeth y DU.

 

 

Prif dasgau

  • Cynghori cleientiaid mewnol ar ddatrysiadau eiddo o dan arweiniad y sector preifat ar gyfer cwmnïau a phrosiectau
  • Datblygu a gweithredu prosiectau a mecanweithiau cyflawni sy'n cydymffurfio i gefnogi'r gwaith o ddarparu prosiectau seilwaith eiddo.
  • Adeiladu a defnyddio lefel uchel o arbenigedd mewn fframweithiau cynllunio a datblygu cyfreithiol a statudol fel y maent yn berthnasol i'r broses o ddarparu seilwaith eiddo.
  • Trafod Cyd-fentrau gyda phartneriaid cyhoeddus a phreifat.
  • Gweithio gyda perchnogion a hyrwyddwyr prosiectau mawr er mwyn i brosiectau symud ymlaen i gam lle maent yn "Barod am Fuddsoddi". Yn dilyn hynny, gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i hyrwyddo'r prosiectau hynny i ddarpar Fuddsoddwyr.
  • Caffael ac arwain timau proffesiynol amlddisgyblaethol i ddarparu atebion eiddo effeithiol
  • Rheoli, gwerthuso a monitro perfformiad prosiectau sy'n darparu adroddiadau cynnydd rheolaidd i sicrhau darpariaeth effeithiol yn unol â'r gyllideb a ragwelir, allbynnau a chanlyniadau polisi trawsbynciol eraill.
  • Datblygu a chynnal ystod o gysylltiadau cynhyrchiol â Buddsoddwyr, Datblygwyr, Perchnogion Eiddo a sefydliadau'r Sector Cyhoeddus a'r Trydydd Sector gyda'r nod o feithrin dealltwriaeth o gyfleoedd yn y farchnad i gyflawni prosiectau sydd o fudd i Gymru ac sy'n cyd-fynd â pholisi a blaenoriaethau'r Llywodraeth.
  • Trafod caffael eiddo, cytundebau datblygu, gwarediadau, prydlesi ac ati ac yn ôl yr angen cyfarwyddo a rheoli cynghorwyr allanol gan gynnwys priswyr a chyfreithwyr.
  • Bydd deiliaid y swyddi yn darparu gwasanaeth datrys problemau rhagorol i gwsmeriaid mewnol ac allanol a bydd yn darparu ymateb hyblyg a chyflym i fewnfuddsoddiadau mawr a chwmnïau cynhenid wrth ddatblygu atebion cyflenwi sy'n galluogi busnesau i fuddsoddi a datblygu yng Nghymru.
  • Cyfrifoldeb rheoli llinell uniongyrchol dros staff technegol mewnol a rheoli timau ymgynghori allanol

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd yn cynnig cyfle gwych i weithio mewn maes cyflawni proffil uchel.  Buddsoddi mewn seilwaith yw un o'r blaenoriaethau pennaf i Lywodraeth Cymru. Gall ddarparu ysgogiad pwysig y mae mawr ei angen, gan greu'r amodau ar gyfer twf cynyddol a chynaliadwy ym mhob rhan o Gymru yn y tymor canolig a'r tymor hwy.  Y gyfarwyddiaeth Seilwaith Economaidd sy'n gyfrifol am y buddsoddiadau seilwaith mwyaf a wnaed erioed gan Lywodraeth Cymru gyda chyfanswm y cyfraniad o arian cyhoeddus o fwy na £2bn dros y 5 mlynedd nesaf. Bydd deiliad y swydd yn arwain ar negodiadau cymhleth a fydd yn sicrhau y gellir sicrhau buddsoddiad mawr ei angen gan y sector preifat i gyfateb â'r arian cyhoeddus sylweddol iawn hwn.

Dyddiad Cau

12/04/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Dim sgiliau
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Cyflawni Canlyniadau Masnachol - Deall y sbardunau masnachol a fydd yn dylanwadu ar sefydliad sector preifat neu drydydd sector a'r ysgogiadau y gellir eu defnyddio wrth negodi/dylanwadu ar drefniadau cytundebol

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Nodi'r prif faterion mewn problemau cymhleth, egluro dealltwriaeth neu ddisgwyliadau rhanddeiliaid, er mwyn ceisio'r opsiwn gorau

Cyflawni ar Gyflymder - Cynnal perfformiad effeithiol mewn amgylchiadau anodd a heriol, gan annog eraill i wneud yr un peth

Cydweithredu a ffurfio partneriaeth – Cynnwys partneriaid yn weithredol er mwyn sicrhau canlyniad busnes drwy gydweithio sy'n sicrhau gwell canlyniadau i ddinasyddion

 

Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

1.    Profiad o reoli'r gwaith o gyflawni prosiectau seilwaith eiddo mawr neu gymhleth yn llwyddiannus a phrofiad ymarferol o'r fframweithiau a phrosesau cyfreithiol a statudol sy'n gysylltiedig â darparu safleoedd ac adeiladau cyflogaeth parod i fuddsoddi ynddynt.

2.    Nid yw gwybodaeth am grantiau a chymorthdaliadau/cymorth gwladwriaethol yn hanfodol ond byddai'n ddymunol, neu fel arall y gallu i gymhathu gwybodaeth gymhleth, ariannol, rheoleiddiol neu gyfreithiol yn gyflym.

3.    Y gallu i nodi a sicrhau cyfleoedd i gyflawni prosiectau seilwaith eiddo drwy atebion arloesol

Proses Asesu

Cwestiwn Sy'n Benodol i’r Swydd
Bwriad y cam hwn yw nodi ymgeiswyr nad ydynt yn gymwys.

Cam Sifftio
Bydd proses sifftio dau gam yn cael ei chynnal ar gyfer ymgeiswyr sy'n cyrraedd y cam hwn.

Cam Sifftio Rhan 1
Bydd y dystiolaeth a roddwch yn eich cais mewn perthynas â manylion y swydd yn cael ei hasesu gan banel recriwtio. Os byddwch yn llwyddiannus ar yr adeg hon, bydd eich cais yn symud ymlaen i Gam Sifftio Rhan 2

Cam Sifftio Rhan 2
Bydd panel recriwtio’n asesu'r dystiolaeth rydych wedi’i rhoi yn eich cais ar gyfer y pedwar cymhwysedd sy'n weddill. Os byddwch yn llwyddiannus ar yr adeg hon, cewch eich gwahodd i gyfweliad ar-lein drwy Microsoft Teams a phrawf dadansoddi senario.

Y Cyfweliad
Ar ddechrau'r cyfweliad byddwch yn cael e-bost mewn perthynas â senario penodol i'w ddadansoddi (tua 45 munud). Wedyn byddwch yn rhoi cyflwyniad 10 munud i'r panel recriwtio ar eich dadansoddiad/canfyddiadau. Yn dilyn egwyl gysur fer, bydd y cyfweliad yn mynd yn ei flaen a gofynnir cwestiynau ichi ynghylch y cymwyseddau a manylion y swydd a nodir yn yr hysbyseb swydd.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Lleoliad:

De Cymru, fodd bynnag mae’n bosibl y bydd angen I ddeiliad y swydd weithio mewn rhannau eraill o Gymru o bryd I’w gilydd.

Patrwm gwaith:

Amser llawn – bydd ceisiadau yn cael eu hystyried gan staff sy’n dymuno gweithio yn rhan amser neu rannu swydd 


Tim Howard tim.howard@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.