Swydd Wag -- Rheolwr Adolygu Cynorthwyol x2

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
HEO - £32,460 - £39,690
£29,100, ond gall cyflog cychwynnol o hyd at £32,900 gael ei gynnig ar gyfer ymgeisydd eithriadol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Casglu a defnyddio gwybodaeth i gynorthwyo i sicrhau bod gweithgareddau AGIC yn canolbwyntio ar ddiogelwch cleifion ac ansawdd ac yn sbarduno gwelliannau yn y gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru.

Cynorthwyo i ddarparu rhaglen o weithgaredd arolygu, ymchwilio a/neu reoleiddio yn brydlon ac i safon broffesiynol.

Rheoli a chymryd rhan mewn timau (a allai gynnwys staff AGIC a/neu adolygwyr allanol o amrywiol gefndiroedd) i ddarparu arolygiadau ac ymchwiliadau i safon broffesiynol.

Prif dasgau

Disgwylir i reolwyr adolygu cynorthwyol AGIC weithio’n hyblyg ar draws y timau sy’n darparu gweithgarwch arolygu, ymchwilio neu reoleiddio ac mae hyn wedi ei adlewyrchu yn yr amrywiaeth o dasgau isod. Yn ystod eu gyrfa, byddant yn cael eu hannog a’u cefnogi i gael profiad mewn amrywiaeth o swyddogaethau AGIC.

Tasgau penodol i’r swydd

Casglu a defnyddio gwybodaeth

1. Cydweithio gyda thimau arolygu, rheoleiddio ac adolygu gwasanaeth eraill, a chyda rhanddeiliaid eraill fel sy’n briodol, i nodi a rhannu gwybodaeth a datblygu’r sail tystiolaeth ar gyfer gwaith AGIC.

2. Pan fo’n briodol, cydgysylltu gydag achwynwyr yn uniongyrchol a phan fo’n angenrheidiol, cyfarfod â nhw i drafod eu pryderon, er mwyn gallu casglu’r wybodaeth sydd ganddynt a barnu a yw eu pryderon yn codi materion amddiffyn a/neu ddiogelu cleifion ar unwaith neu’n darparu tystiolaeth o fethiant systemig.

3. Ar sail barhaus, defnyddio’r wybodaeth a’r manylion a gasglwyd o wahanol ffynonellau i gynnal asesiadau risg o’r systemau a’r gwasanaethau sy’n gweithredu ar wahanol lefelau trwy GIG Cymru, o fewn Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, Sefydliadau a Gwasanaethau Gofal Iechyd Annibynnol er mwyn nodi argymhellion i’w gweithredu gan AGIC.  Gallai camau o’r fath gynnwys atgyfeirio pryderon i gorff arall sydd mewn sefyllfa well i ymdrin â’r mater neu’r maes sy’n peri pryder.

Cynllunio a darparu

4. Cefnogi’r gwaith cyffredinol o reoli a chydgysylltu’r rhaglen flynyddol o weithgarwch y cytunwyd arni ar gyfer y tîm, a allai gynnwys

  • Datblygu cwmpas arolygiadau/ymchwiliadau a’r dull o’u cynnal, gan sicrhau bod y pwyslais yn gywir ac y defnyddir y sgiliau a’r adnoddau yn y modd gorau
  • Arwain, trefnu a rheoli arolygiadau ac ymchwiliadau unigol yn unol â’r amserlenni a’r cyllidebau y cytunwyd arnynt
  • Trefnu gweithgareddau a chasglu a choladu’r dystiolaeth angenrheidiol yn unol â’r safonau a’r gweithdrefnau a bennir gan AGIC
  • Prosesu cofrestriadau, amrywiadau, ymholiadau a datgofrestriadau yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a chanllawiau AGIC
  • Arwain, trefnu a chynnal, ar y cyd ag adolygwyr arbenigol pan fo hynny’n berthnasol, yr holl gyfweliadau, arolygiadau ac archwiliadau sy’n ofynnol wrth ystyried ceisiadau i gofrestru a pharatoi argymhellion a phenderfyniadau rheoleiddio i’w cymeradwyo gan y Pennaeth Rheoleiddio

5. Gwneud gwaith i ymateb i faterion a phryderon gofal iechyd sy’n dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn, pan fo’n briodol, a allai gynnwys

  • cynllunio, llunio, trefnu ac arwain adolygiadau arbennig, arolygiadau ac ymchwiliadau proffil uchel.
  • sicrhau bod y dystiolaeth ar gyfer unrhyw gamau gorfodi posibl yn cael eu paratoi yn unol â’r fframwaith rheoleiddio perthnasol a pholisïau a gweithdrefnau AGIC.

6. Gweithio fel rhan o dimau adolygu thematig/adolygu gwasanaeth fel bo’r galw.

Cyflwyno adroddiadau a gwneud gwaith dilynol

7. Cofnodi a hysbysu ynglŷn â chanfyddiadau, a pharatoi adroddiadau drafft sy’n addas ar gyfer eu diben, o ansawdd uchel ac sy’n addas i’w cyhoeddi i’r cyhoedd. Mae’n bosibl y bydd yn ofynnol cyflwyno llawer o adroddiadau AGIC ar ffurf rhwydd ei darllen, neu ffurf wahanol sy’n bodloni anghenion penodol unigolion. 

8. Cyfrannu at ddigwyddiadau’r cyfryngau a’r wasg sy’n cyfleu rhaglen arolygu a chanfyddiadau AGIC.

9. Cydweithio gydag eraill i sicrhau bod gwaith dilynol yn cael ei wneud ynglŷn ag unrhyw ddiffygion a nodir yn ystod adolygiadau ac ymchwiliadau.

Effaith bersonol

10. Sicrhau trefniadau cyfathrebu effeithiol gyda darparwyr gofal iechyd GIG ac annibynnol

11. Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys cydweithwyr o fewn AGIC, Llywodraeth Cymru, Darparwyr Gofal Iechyd, Arolygiaethau a phroffesiynau Gofal Iechyd eraill i rannu gwybodaeth a gweithio ynghyd i wella gwasanaethau gofal iechyd.

Tasgau cyffredin

1. Rheoli, cefnogi a gwerthuso staff, trwy brosesau sydd wedi eu sefydlu gan Lywodraeth Cymru

2. Cydweithio gyda chydweithwyr trwy AGIC

3. Datblygu a chyfrannu at weithgareddau corfforaethol AGIC

4. Rheoli ei ddatblygiad proffesiynol parhaus ei hun a datblygiad aelodau’r tîm

5. Ategu cenhadaeth, diben, swyddogaeth a gwerthoedd AGIC

Cyfleoedd datblygu

Mae’r swydd hon yn rhan o’r Proffesiwn Arolygwyr Gofal Iechyd. Disgwylir i chi lunio, cynnal a dilyn cynllun datblygiad proffesiynol priodol a dilyn hyfforddiant a bennir gan AGIC.

Dyddiad Cau

27/02/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  1. Gosod y Trywydd - Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Nodi amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth berthnasol a dibynadwy a chydnabod, lle bo hynny’n angenrheidiol, bod angen casglu data newydd o ffynonellau mewnol ac allanol
  2. Ymwneud â Phobl - Arwain a Chyfathrebu - Cyfathrebu’n brydlon drwy ddefnyddio arddulliau a chyfryngau priodol, gan gynnwys sianeli digidol, er mwyn sicrhau bod gymaint o ddealltwriaeth ac effaith â phosibl
  3. Gwireddu Canlyniadau - Rheoli Gwasanaeth Safonol - Gweithio gyda’r tîm i bennu blaenoriaethau, nodau, amcanion ac amserlenni 
  4. Gwireddu Canlyniadau - Cyflawni’n Brydlon - Monitro eu gwaith eu hunain a gwaith y tîm yn rheolaidd yn unol â cherrig milltir neu dargedau, a gweithredu'n brydlon i gadw gwaith ar y trywydd iawn a chynnal perfformiad

Meini prawf sy’n benodol i’r swydd

  1. Profiad o gynnal arolygiadau a/neu adolygiadau neu ddealltwriaeth o’r broses trwy fframwaith broffesiynol i sicrhau bod cwmpas priodol i adolygiadau a’u bod yn seiliedig ar dystiolaeth.
  2. Gwybodaeth o safonau gofal iechyd a rheoliadau yng Nghymru a deddfwriaeth sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth diogel ac effeithiol o wasanaethau Iechyd Meddwl , yn benodol Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Amddifadu o Ryddid
  3. Profiad o gasglu a choladu tystiolaeth, dadansoddi, dod i gasgliadau, a chyfleu’r rhain yn eglur.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Rhys Jones - 03000 628256 / Zoe Weaver - 03000 628539

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.