Swydd Wag -- Prentisiaethau Llwybr Digidol Data a Thechnoleg (DDaT)

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil

Manylion y swyddi

Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£19,240
18 mis
37 awr yr wythnos. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy'n dymuno gweithio'n rhan-amser, ond bydd angen i chi fedru gweithio o leiaf 21 awr yr wythnos er mwyn cael digon o amser i gyflawni'r prentisiaeth
Lleoliad yn debygol o cynnwys Merthyr, Llandudno, Trefforest.

Ein Prentisiaethau

Oes gennych chi ddiddordeb mewn technoleg a sut y gellir ei defnyddio i wella gwasanaethau a'u gwneud yn haws eu defnyddio.  Ydych chi'n frwdfrydig ynghylch datrys problemau a meddwl am syniadau creadigol newydd? Oes gennych chi sgiliau cyfathrebu da ac yn hoffi mynd at wraidd problemau?  Os felly, gallai’r Llwybr Prentisiaeth Digidol Data a Thechnoleg (DDaT) fod yn gyfle ichi gymryd y cam cyntaf tuag at yrfa yn y maes digidol, data a thechnoleg. 

Mae hon yn brentisiaeth 18 mis Lefel 3 mewn TGCh, sy'n cynnig cyflog cychwynnol o £19,200 a swydd yn Llywodraeth Cymru.

 Beth fyddaf yn ei wneud fel Prentis ar y Llwybr DDaT?

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau o dimau sy'n gweithio ym meysydd DDaT ar draws Llywodraeth Cymru i wella ein gwasanaethau a'n gwefannau.  Mae gan Lywodraeth Cymru bobl yn y proffesiynau DDaT sy'n gweithio mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys: 

  • Iechyd
  • Twristiaeth
  • Addysg
  • Yr Amgylchedd

Yn ystod eich prentisiaeth, byddwch yn cael eich lleoli mewn o leiaf ddwy swydd, a fydd yn rhoi cyfle ichi weld amrywiaeth y gwaith a wneir ar draws Lywodraeth Cymru.  Yn ystod y lleoliadau hyn, byddwch yn datblygu gwahanol sgiliau, fel :

  • Codio
  • Profi
  • Datblygu gwefannau
  • Diogelwch TG
  • Dadansoddi busnes
  • Gweithio ystwyth
  • Defnyddio data'n effeithiol
  • Cyflwyno gwybodaeth mewn ffyrdd creadigol a diddorol.
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Sgiliau trefnu

Bydd y lleoliadau hefyd yn rhoi blas ichi ar wahanol rolau sydd ar gael o fewn y proffesiwn DDaT er mwyn ichi allu ystyried eich opsiynau gyrfa yn y dyfodol. 

Ar ôl ichi gwblhau eich prentisiaeth ar y Llwybr DDaT, byddwch yn gymwys i ymgeisio am y Brentisiaeth DDaT Arbenigol Lefel 4, a fydd yn caniatáu ichi arbenigo mewn rôl benodol o fewn y proffesiwn.     

Pa gymhwyster a hyfforddiant fydda i’n eu cael?

Byddwch yn astudio tuag at Lefel 3 mewn TGCh, Meddalwedd, y We a Thelathrebu.  Yn ogystal â chael y profiad gwaith gorau posib, byddwch hefyd yn mynd i sesiynau yn y coleg ac yn cwrdd yn rheolaidd â'ch tiwtor, a fydd yn eich cefnogi wrth ichi weithio tuag at y cymhwyster.

Cynhelir y sesiynau dosbarth dros gyfnod o 18 mis neu fwy. Byddwch yn treulio 80% o'r amser hwn yn datblygu eich sgiliau tra byddwch yn eich lleoliadau, ac 20% o'ch amser yn dilyn hyfforddiant yn y dosbarth, yn dysgu ar-lein, yn astudio ar eich pen eich hun, neu'n cwblhau aseiniadau. Er mwyn ennill eich tystysgrif prentisiaeth Lefel 3 (sy'n gymhwyster ynddo'i hun), bydd angen ichi gwblhau eich holl waith, eich aseiniadau a’ch arholiadau yn llwyddiannus, a chynhyrchu portffolio o dystiolaeth sy'n dangos yr holl gymwyseddau sydd wedi eu cynnwys yn y safon.

Byddwch yn cael hyfforddiant a chymorth ychwanegol gan y proffesiwn DDaT o fewn Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag yn cael manteisio ar gyfleoedd hyfforddi a datblygu hefyd a gynigir o fewn Llywodraeth Cymru.

Ble bydda i’n gweithio?

Disgwylir i Brentisiaid y Llwybr DDaT fod yn hyblyg ac yn barod i deithio i gael hyfforddiant ac ymgymryd â lleoliadau.

Yng Nghaerdydd y cynhelir yr hyfforddiant NVQ ar gyfer y cohort cyfan er mwyn sicrhau bod y niferoedd yn ddigon uchel i allu rhedeg y sesiynau.  Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eich bod yn teithio cyn lleied â phosibl, ac y bydd y teithiau yr ydych yn eu gwneud yn werth chweil ac y bydd cyfleoedd ychwanegol ar gael yn eu sgil. Rydym yn rhagweld y bydd angen ichi dreulio hyd at 4 wythnos yn cael hyfforddiant yng Nghaerdydd yn ystod y brentisiaeth, ac y bydd yr wythnosau hyn yn rhai dwys sy'n digwydd fesul un ar y tro.   Bydd yn bosibl hawlio costau teithio.

Drwy ymgeisio am y brentisiaeth hon, rydych yn dangos y byddwch yn fodlon gweithio mewn un o'r lleoedd canlynol:

  • Merthyr
  • Llandudno
  • Trefforest

Byddwn yn ystyried pa le yr ydych wedi ei ddewis wrth eich anfon i gyflawni swydd, ond ni allwn warantu y byddwn yn gallu cynnig lleoliad yn y lle hwnnw.  Byddwn yn ystyried ceisiadau i weithio mewn lleoedd penodol os byddwch wedi dewis ar sail amgylchiadau personol fel cyfrifoldebau gofalu. Nodwch eich dewis lleoliad yn y blwch ‘Gwybodaeth Ychwanegol’.  Byddwch dim ond yn cael cynnig swydd yn y lleoedd rydych wedi nodi, gwaeth beth yw’r gorchymyn teilyngdod.

Byddwch yn ymwybodol fod lleoliad eich swydd yn gallu newid wrth i’r swydd newid, fydd hwn fesul achos a byth fwy nag awr o eich lleoliad cyntaf.  Fydd yn cael ei drafod gyda chi yn ystod y broses cyfweld a sefydlu.

Fydd hwn yn rhoi cyfle i chi symud o gwmpas y sefydliad i swyddi gwahanol pan mae argaeledd o fwn timoedd.  Fel y dechreuodd uchod gall hyn fod mewn swyddfeydd gwahanol gan gymryd i mewn i ystyriaeth  addasiadau rhesymol a manylion teithio.

 Beth rydym yn chwilio amdano mewn Prentis Llwybr DDaT?

Rydym yn chwilio am rywun sydd:

  • â diddordeb mewn technoleg
  • yn frwdfrydig dros wella sut mae pethau'n cael eu gwneud
  • yn agored i newid ac yn barod i roi cynnig ar bethau newydd
  • yn dda am ddatrys problemau
  • yn gweithredu gyda rhesymeg a methodoleg
  • yn dda am ddadansoddi


Beth yw’r gofynion mynediad?

Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais, rhaid ichi fodloni’r amodau canlynol:

  • Byddwch o leiaf yn 16 oed erbyn 16 Medi 2019.  Nid oes unrhyw derfyn o ran pa mor hen ydych.
  • Ni fyddwch mewn addysg amser llawn pa fyddwch yn dechrau Rhagfyr 2019 - Ionawr 2020.
  • Nid oes rhaid ichi fod ag unrhyw gymwysterau penodol. Os ydych eisoes yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 neu uwch mewn TGCh, Meddalwedd, y We a Thelathrebu neu bwnc tebyg, efallai na fyddwch yn gymwys i ymuno â'r cynllun prentisiaethau hwn (os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni drwy e-bostio lleoliadau.placements@llyw.cymru).
  • Bydd angen ichi fodloni gofynion cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil  er mwyn gwneud cais.

Ein Proses Ddethol

I wneud cais, fydd angen i chi cwblhau ffurflen gais ar lein, yna atodi Datganiad Personol yn ateb y cwestiynnau isod yn yr opsiwn atodi dogfen ategol

1. Meddyliwch am enghraifft o dechnoleg sy'n gwella rhywbeth yn ein bywyd bob dydd (er enghraifft ap, dyfais neu wefan newydd).  Heb ddefnyddio mwy na 500 o eiriau, dywedwch wrthym sut mae technoleg wedi gwella'r agwedd honno o fywyd yn eich barn chi, a beth yw'r pethau cadarnhaol a negyddol ynglŷn â’r enghraifft hon. 

2. Pam ydych chi eisiau astudio am brentisiaeth yn Llywodraeth Cymru?

3. Dywedwch wrthym am amser pan wnaethoch ddefnyddio sgiliau digidol a TG i gyflawni’n llwyddiannus? Gallwch cynnwys esiampl o unrhyw agwedd o’ch addysg, gwaith neu fywyd cymdeithasol.

4. Pa sgiliau ydych wedi dysgu o’ch addysg, gwaith neu fywyd cymdeithasol fyddai’n bwysig yn eich rôl yn Llywodraeth Cymru? Cadwch mewn ystyriaeth y manylion “rydym yn chwilio am rywun sydd” a rhestrwyd yn yr hysbyseb.

Yn ogystal fydd angen i chi gwblhau ffurflen cymhwysedd ALS a atodwyd.  Atodwch y ddogfen yma yn eich Datganiad Personol.

ffurflen cymhwysedd ALS


Ddylech anelu at ysgrifennu 500 gair ar gyfer y cwestiwn cyntaf, yna tua 300 gair yr un am gweddill y cwestiynnau.  Yn ogystal, cofiwch i ddweud eich lleoliad dewisiol yn y blwch “gwybodaeth ychwanegol”.

Pan fyddwch wedi cyflwyno eich ffurflen gais, bydd y broses ddethol yn cynnwys y camau canlynol:

  • Cam 1 - Sifft gyntaf ar sail Cwestiwn 1

  • Cam 2 - Ail sifft ar sail Cwestiynau 2, 3 a 4

  • Cam 3 – Cyfweliadau a cadarnhau cymhwysedd

  • Cam 4 – Prawf West

Canllaw Ymgeiswyr

Y Gymraeg

Mae sgil yn y Gymraeg yn beth da i’w gael, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y rolau hyn. Rydym yn annog siaradwyr Cymraeg ar bob lefel i ymgeisio am y swyddi hyn gan ein bod yn awyddus i gynyddu gallu dwyieithog y proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg yn Llywodraeth Cymru. Mae gennym amrywiaeth o swyddi lle bydd cyfle ichi ddefnyddio eich sgiliau. Gallwn hefyd eich helpu i ddysgu Cymraeg os byddwch chi’n dymuno.

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Canllawiau ar ysgrifennu eich cais

Canllaw Cyfweliad

Manylion cyswllt er mwyn cael rhagor o wybodaeth

Mae gwybdoaeth gyffredinol ynghylch y Prentisiaethau, gan gynnwys dogfen Cwestiynau Cyffredin, ar gael ar ein tudalen gwe. Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, cysylltwch â Desg Gymorth y Ganolfan Cydwasanaethau Canolog ar 03000 255454 neu DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru

Dyddiad cau

16/09/19 16:00

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.