Swydd Wag -- Cyfreithiwr - yr Is-adran Busnes, Seilwaith a’r Trysorlys

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Gwasanaethau Cyfreithiol
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£53440
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Parhaol, tymor penodol neu secondiad
Parhaol, tymor penodol neu secondiad – Bydd yr ymarfer yn ceisio dod o hyd i ymgeiswyr llwyddiannus i ddechrau swydd fydd yn codi yn ystod y 12 mis wedi hynny.
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol o fewn Llywodraeth Cymru yn chwilio am nifer o gyfreithwyr hynod ddawnus i gryfhau ei gallu i weithredu mewn cyfnod hanfodol bwysig yn hanes Cymru a’r DU. Os yw gweithio ar flaen y gad ym maes y gyfraith yn apelio atoch, byddai Llywodraeth Cymru yn falch pe bai gennych ddiddordeb. Efallai eich bod yn gyfreithiwr ar gychwyn eich gyrfa, yn gyfreithiwr profiadol sy’n dymuno cymhwyso’ch sgiliau mewn cyd-destun newydd a gwahanol, neu’n awyddus i weithio mewn amgylchedd sy’n cynnig ac yn mabwysiadu trefniadau gwaith hyblyg.

A chanddi fwy na 100 o gyfreithwyr a staff cymorth, sy’n gweithio mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc, yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yw’r adran gyfreithiol fwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am ddarparu pob gwasanaeth cyfreithiol i Weinidogion Cymru. Mae cyfreithwyr yr Adran wrth galon y llywodraeth ddatganoledig, gan chwarae rôl ganolog wrth ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth Gymreig, a darpariaethau ar gyfer Cymru yn neddfwriaeth y DU, a chynghori ar faterion cymhleth o ran y gyfraith gyhoeddus, ar brosiectau ac iddynt arwyddocâd cenedlaethol, ac ar ddatblygiadau cyfansoddiadol mawr. Mae Llywodraeth Cymru yng nghanol cyfnod o newid a heriau na welwyd eu tebyg erioed o’r blaen, ac, yn ogystal â darparu’r cymorth cyfreithiol angenrheidiol i gyflawni’r Rhaglen Lywodraethu, mae angen i’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol ymgymryd â gwaith hollbwysig mewn cysylltiad â’r ymateb i bandemig COVID-19 a’r adferiad ar ei ôl.

Mae’r swyddi a hysbysebir yma am rolau yn y Tîm Contractau Masnachol a Chyhoeddus.

Os oes gennych brofiad mewn un neu fwy o’r meysydd a restrir isod a bod y cyfle i gyfrannu at ein hymateb i’r heriau datblygu economaidd rydym yn eu hwynebu ar yr adeg dyngedfennol hon o ddiddordeb ichi, a hynny wrth weithio o fewn amgylchedd hyblyg a chefnogol lle mae digon o gyfle i feithrin eich sgiliau proffesiynol ac ennill mwy o brofiad, hoffai Llywodraeth Cymru glywed gennych.

Mae gwaith cyfreithiol yr Is-adran yn amrywio, felly hoffem glywed gan gyfreithwyr sydd â sgiliau a phrofiad mewn un o’r meysydd canlynol o leiaf:

  • negodi, drafftio, dehongli a gorfodi cytundebau a grantiau masnachol;
  • caffael cyhoeddus;
  • buddsoddi a chyllido ecwiti a/neu ddyledion;
  • cyfraith cwmnïau a llywodraethu corfforaethol;
  • partneriaethau cyhoeddus/preifat a chyd-fentrau.

Prif dasgau

Mae gwaith yr Is-adran yn amrywio a gall weithiau gynnwys gweithio gyda chynghorwyr cyfreithiol allanol, neu oruchwylio eu gwaith. Felly pennir cyfrifoldebau penodol drwy gyfeirio at sgiliau a phrofiad penodol y cyfreithwyr a gaiff eu penodi. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl cyflawni’r cyfrifoldebau canlynol: 

  • Cynghori a chefnogi cleientiaid mewnol mewn cysylltiad â chyfraith a phrosesau caffael cyhoeddus;
  • Darparu cyngor ar ystod eang o gontractau cyhoeddus a chytundebau masnachol, gan gynnwys y rhai sy’n hwyluso’r gwaith o ddarparu cymorth ariannol i fusnesau a buddsoddiadau Llywodraeth Cymru mewn prosiectau a arweinir yn allanol sy’n cefnogi amcanion polisi, ynghyd â’u negodi a’u drafftio;
  • Cefnogi gwaith diwydrwydd dyladwy mewn cysylltiad â chynigion am gymorth a buddsoddiadau Llywodraeth Cymru ar ffurf grantiau, dyledion, ecwiti neu gyd-fentrau;
  • Asesu’r agweddau cydymffurfedd cymorthdaliadau ar gynigion am gymorth gan y Llywodraeth;
  • Darparu cyngor ar ddefnyddio, adolygu ac addasu cytundebau safonol, gan gynnwys contractau ar gyfer gwasanaethau, grantiau, contractau ymgynghori, a dogfennaeth cyllid corfforaethol arall;
  • Darparu cyngor ar ddehongli a gorfodi contractau, ac ar anghydfodau posibl;
  • Darparu cyngor ar gyfraith cwmnïau a llywodraethu corfforaethol o ran is-gwmnïau sydd ym mherchenogaeth lawn Llywodraeth Cymru;
  • Cymryd rhan mewn gweithgorau llywodraethu a datblygu polisi o fewn y sefydliad cyfan, a’u cynghori;
  • Unrhyw ddyletswyddau, cyfrifoldebau, tasgau neu brosiectau eraill a nodir gan Uwch Gyfreithiwr, Dirprwy Gyfarwyddwr neu Gyfarwyddwr yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol sy’n gweddu i lefel cyfrifoldeb y swydd;
  • Cefnogi cydweithwyr yn yr Adran, a chamu i’r adwy, fel y mae Uwch Gyfreithiwr, Dirprwy Gyfarwyddwr neu Gyfarwyddwr yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yn gofyn ichi ei wneud;
  • Darparu hyfforddiant mewn meysydd arbenigol i adrannau cleientiaid. 

Am ragor o fanylion am yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, darllenwch y pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr:

https://www.llyw.cymru/sites/default/files/inline-documents/2023-01/cyfreithiwr-masnachol-gradd-7-gwasanaethau-cyfreithiol-llywodraeth-cymru.pdf

 

Cyfleoedd datblygu

Fel un o gyfreithwyr y llywodraeth byddwch yn rhan o’r Gwasanaeth Sifil ac o Broffesiwn Cyfreithiol y Llywodraeth. Bydd eich profiad yn rhoi dealltwriaeth unigryw ichi o’r setliad datganoli yng Nghymru. Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i gyfreithwyr weithio mewn amgylchedd deinamig sy’n eu rhoi wrth galon llywodraeth ddatganoledig, yn flaenllaw yn y broses o greu polisi a gwneud cyfreithiau, ac ar flaen y gad o ran datblygiadau cyfansoddiadol mawr.

Dyddiad Cau

20/02/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol – Egluro eich deallusrwydd eich hun ac anghenion a disgwyliadau rhanddeiliaid cyn gwneud penderfyniadau. 

Cyfathrebu a dylanwadu – Cyfathrebu ag eraill mewn ffordd glir, onest a brwdfrydig er mwyn meithrin ymddiriedaeth. Esbonio materion cymhleth mewn modd sy’n hawdd ei ddeall. 

Gweithio ar y cyd – Adeiladu a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau yn weithgar er mwyn cyflawni cynnydd ar amcanion a rennir. Herio rhagdybiaethau tra’n fodlon cyfaddawdu os yw’n fuddiol i symud ymlaen. 

Cyflawni’n Brydlon – Cynnal lefelau perfformiad eich hun mewn amgylchiadau heriol ac annog eraill i wneud yr un peth.


Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

1. Bydd yn ofynnol ichi ddangos eich medrusrwydd mewn o leiaf un o’r meysydd canlynol o ymarfer cyfreithiol proffesiynol, sy’n ofynion penodol i’r swydd; 

  • Darparu cyngor ym maes caffael cyhoeddus;
  • Darparu cyngor mewn cysylltiad â darparu cyllid neu fuddsoddiadau ar ffurf dyledion, ecwiti neu grantiau;
  • Darparu cyngor ar gyfraith cwmnïau a llywodraethu corfforaethol;
  • Darparu cyngor mewn cysylltiad â phartneriaethau cyhoeddus/preifat a chyd-fentrau.

    2.  Profiad o ddarparu cyngor ar gontractau cyhoeddus a/neu fasnachol, ynghyd â’u drafftio a’u dehongli. 

    3. Ymwybyddiaeth a dirnadaeth fasnachol gadarn, gan gefnogi dealltwriaeth o’r sbardunau a fydd yn dylanwadu ar sefydliad preifat neu sefydliad yn y trydydd sector.

    Proses Asesu

    Y cam ymgeisio:

    • Ffurflen gais ar-lein wedi’i chwblhau
    • CV cyfredol yn nodi eich hanes gyrfaol gyda chyfrifoldebau allweddol a chyflawniadau, gan gynnwys y cymwysterau proffesiynol angenrheidiol. Rydym yn argymell eich bod yn rhoi sylw gofalus i’r adrannau “Pwrpas y swydd” a “Prif dasgau” er mwyn sicrhau bod eich CV yn adlewyrchu’r sgiliau a’r profiad yr ydym yn chwilio amdanynt.
    • Datganiad personol nad yw’n fwy na 2,100 o eiriau. Caiff unrhyw beth y tu hwnt i hyn ei ddiystyru. Dylai’r datganiad esbonio sut mae eich cymwysterau proffesiynol, eich sgiliau, eich priodweddau a’ch profiad yn cyd-fynd â’r canlynol:
       - y pedwar ymddygiad ac
       - y tri maen prawf penodol i’r swydd. 
      Rydym yn argymell eich bod yn anelu at ysgrifennu tua 200-300 o eiriau ar gyfer pob un o’r chwe chategori.
    • Gwybodaeth monitro Cydraddoldeb a Chynhwysiant wedi’i chwblhau

    Rydym yn argymell eich bod yn darllen y canllawiau yn y dolenni amgaeedig i’ch helpu i ymgeisio ar gyfer y swyddi hyn. Maent yn esbonio sut i ddangos tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swyddi.
    Canllawiau Recriwtio ar gyfer Ymgeiswyr Allanol 

    Proffiliau Llwyddiant - GOV.UK (www.gov.uk)

    Cynhelir cam sifftio cychwynnol ar ymatebion penodol i’r swydd, a dim ond yr ymgeiswyr hynny sy’n bodloni’r gofynion a fydd yn camu ymlaen. Bydd ail gam sifftio yn asesu’r ymddygiadau, a dim ond yr ymgeiswyr hynny sy’n bodloni’r gofynion a gaiff eu gwahodd am gyfweliad.

    Cam y cyfweliad (os yw’r ymgeisydd wedi llwyddo yn y cam sifftio);
    Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddiannus yn y cam sifftio yn cael eu gwahodd i gyfweliad. 
    Bydd y meini prawf penodol i’r swydd a’r ymddygiadau hefyd yn cael eu hasesu yn y cam hwn. 

    Os bydd sgorau cyffredinol ymgeiswyr yn gyfartal, rhoddir blaenoriaeth i’r ymgeiswyr hynny a enillodd sgorau uwch mewn perthynas â’r meini prawf penodol i’r swydd.

    Adborth
    Darperir adborth ar gyfer y cam sifftio dim ond ar ôl i’r cynllun gael ei gwblhau. 

    Gwybodaeth arall

    • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
    • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
    • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
    • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

    Cyflog yn dechrau ar £53,440 (dim modd negodi) gyda dros dair blynedd o brofiad (wrth gael cynnig y swydd) ac yn codi’n raddol dros 3 blynedd i £63,900.

    Gweithio’n Glyfar
    Mae Llywodraeth Cymru yn annog arferion Gweithio’n Glyfar. Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar sut rydych yn defnyddio eich amser, a ble a sut rydych yn gweithio, er mwyn bodloni anghenion busnes yn y ffordd fwyaf cynhyrchiol. Mae hyn yn rhoi cryn hyblygrwydd i staff o ran lleoliad ac oriau gwaith. Mae gweithio’n glyfar ac yn hyblyg yn dod yn nodwedd barhaol ar ein bywyd gweithio yng Nghymru, a bydd Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd yn hyn o beth.

    Gofynion Cymhwystra
    Cymhwysedd Proffesiynol:
    Rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i ymarfer fel Cyfreithiwr, Bargyfreithiwr neu Weithredwr Cyfreithiol Siartredig (gan fodloni’r meini prawf mynediad proffesiynol isod, neu rai cyfatebol hanesyddol) yng Nghymru a Lloegr ac, ar adeg gwneud y cais, rhaid bod ganddynt 3 blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso o leiaf.

    Mynediad proffesiynol i Weithredwyr Cyfreithiol Siartredig (h.y. Cymrodyr): mae Gweithredwyr Cyfreithiol Siartredig yn gymwys i wneud cais (i) pan fo ganddynt Radd Gymwys yn y Gyfraith (QLD); neu (ii) pan fyddant wedi cwblhau Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith (GDL)/yr Arholiad Proffesiynol Cyffredinol (CPE); neu (iii) pan fyddant wedi pasio arholiadau (h.y. wedi cael sgôr o 50% neu uwch) Lefel 6 CILEx ym mhob un o'r saith pwnc cyfraith sylfaenol a ganlyn:
    1. Cyfraith Contractau
    2. Cyfraith Trosedd
    3. Cyfraith Ecwiti ac Ymddiriedolaethau
    4. Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd
    5. Cyfraith Tir
    6. Cyfraith Gyhoeddus
    7. Y Gyfraith Gamweddau
    Dylai Gweithredwyr Cyfreithiol Siartredig nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn fodlon derbyn sgôr gyfartalog gyffredinol o 65% neu uwch ar gyfer yr arholiadau yn y saith pwnc cyfraith sylfaenol (pan y’u hastudiwyd ar Lefel 6 CILEx).
    Mae’r Diploma Lefel 6 CILEx yn y Gyfraith ac ym maes Ymarfer yn cael ei osod a’i asesu ar Lefel 6, lefel gradd anrhydedd. I’r unigolion y mae ganddynt eisoes radd gymwys yn y gyfraith, mae CILEx hefyd yn cynnig diploma cyflym i Raddedigion y gellir ei ddefnyddio yn hytrach nag LPC neu BPTC i gwblhau eich astudiaethau cyfreithiol. Ar ôl ichi gwblhau’r Diploma Lefel 6 yn y Gyfraith ac ym maes Ymarfer, bydd arnoch angen cwblhau cyfnod o gyflogaeth gymhwyso ac yna bydd modd ichi ymgeisio i fod yn Gymrawd CILEx a defnyddio’r dynodiad CILEx.
    Fel rhan o’r gwiriadau cyn cyflogi, bydd hi’n ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu tystiolaeth eu bod yn gyfreithwyr cymwys.

    Mae croeso i ymgeiswyr sy’n dymuno ymuno ar gyfle benthyg rhwng llywodraethau ymgeisio.

    Croesewir ceisiadau gan rai sydd wedi mynegi diddordeb o’r blaen mewn ymuno â thîm cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn ogystal. 

    Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan rai sydd, ar hyn o bryd, yn cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu, er enghraifft pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl anabl. 

    Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y swyddi hyn drwy:

    •    gysylltu â LegalRecruitment.WG.Legal@gov.wales i ofyn am sgwrs ffôn â Dirprwy Gyfarwyddwr/Uwch Gyfreithiwr yn yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, a fydd yn hapus i drafod y swyddi; neu
    •    gysylltu â LegalRecruitment.WG.Legal@gov.wales i ofyn am ddolen i’n sesiwn wybodaeth ar-lein a fydd yn cael ei chynnal ddydd Llun 13 Chwefror rhwng 12:30 a 13:30 o’r gloch.

    LegalRecruitment.WG.Legal@gov.wales

    Sut i wneud cais

    Anghydfod a Chwynion

    Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

    Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.