Swydd Wag -- Pennaeth y Gangen Amgylchedd Hanesyddol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cadw
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
£61,090
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Y De-ddwyrain
1af o Orfennaf, 2019

Pwrpas y swydd

Mae Cadw yn un o asiantaethau mewnol Llywodraeth Cymru ac mae’n cyfuno swyddogaethau rheoleiddio, cynghori a dyfarnu grantiau yn yr amgylchedd hanesyddol ehangach â’r gwaith o ddiogelu, cynnal a chadw a chyflwyno casgliad cenedlaethol o henebion hanesyddol, gan gynnwys dau Safle Treftadaeth y Byd.

Bydd deilydd y swydd yn atebol i Ddirprwy Gyfarwyddwr Cadw, gan arwain y gwaith o ddiogelu a chynnal a chadw’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru a gweithredu i feithrin isadran Llywodraeth Cymru sy’n perfformio’n dda ac yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr.

Bydd deilydd y swydd yn dod yn rhan o uwch dîm rheoli Cadw, a bydd ganddo gyfrifoldeb arwain a rheoli ar gyfer staff sy’n gweithio mewn pedwar grŵp busnes allweddol – yr arolygiaeth henebion, y tîm cadwraeth ac adfywio, y tîm diogelu a gweithredu polisi, a’r tîm rheoli gwybodaeth. Bydd gan ddeilydd y swydd rôl arweinyddiaeth arwyddocaol oddi mewn i Cadw ac yn y sector treftadaeth ehangach yng Nghymru.

Fel aelod o uwch dîm rheoli Cadw, bydd deilydd y swydd yn gwneud cyfraniad allweddol at flaenoriaethu gwaith ar gyfer yr is-adran gyfan a’r sefydliadau a ariennir ganddi. Hefyd, bydd yn helpu i ddatblygu a gweithredu polisi ar gyfer holl sector yr amgylcheddol hanesyddol.

Prif dasgau

  • Gwneud gwaith arweinyddiaeth strategol ledled Cadw, gan gyfrannu at waith yr uwch dîm rheoli, cynrychioli’r is-adran a chymryd lle’r Dirprwy Gyfarwyddwr yn ôl yr angen yng ngweithgareddau Llywodraeth Cymru a fforymau a rhwydweithiau ehangach. 
  • Cyfarwyddo a rheoli Cangen yr Amgylchedd Hanesyddol, gan gynnwys sicrhau’r safonau perfformiad a busnes uchaf posibl yn unol â thargedau’r is-adran a gofynion Llywodraeth Cymru. 
  • Pennu cyfeiriad strategol y gangen, arwain y gwaith o ddatblygu cynlluniau busnes y gangen, ac adrodd ar gynnydd yn erbyn cyflawniad i uwch dîm rheoli Cadw a Bwrdd Mewnol Cadw. 
  • Cyfrifoldeb am fonitro a gwariant cyllidebau Cangen yr Amgylchedd Hanesyddol – gan gynnwys refeniw (tua £2 filiwn y flwyddyn ar hyn o bryd) a chyfalaf (tua £1 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd). 
  • Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu safonau ac egwyddorion pensaernïol a thechnegol y sector y cytunir arnynt ar gyfer diogelu amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae hyn yn cynnwys y prosesau caniatâd ar gyfer Adeiladau Rhestredig a Henebion Cofrestredig. 
  • Goruchwylio ac arwain y gwaith o ddiogelu asedau hanesyddol sydd o arwyddocâd cenedlaethol, gan gynnwys pennu cyfeiriad blaenoriaeth a strategol ar gyfer rhaglenni dynodi, a’r broses o’u gweithredu. 
  • Arwain gwaith y Gangen wrth ddiogelu a chyflwyno eiddo hanesyddol Cadw, gan weithio gyda Phennaeth y Gangen Eiddo yn ein Gofal a Phennaeth y Gangen Ymgysylltiad Cyhoeddus a      Gwasanaethau Ymwelwyr. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion statudol ac Egwyddorion Cadwraeth Cadw. 
  • Arwain y gwaith o ddatblygu a meithrin partneriaethau a rhwydweithiau strategol er mwyn hyrwyddo cadwraeth, diogelwch a dealltwriaeth o’r amgylchedd hanesyddol. 
  • Arwain y gwaith o ddarparu cyngor ar gadwraeth a chyflwyno asedau hanesyddol i awdurdodau lleol a sefydliadau amrywiol yng Nghymru, gan gynnwys rhwydweithiau a fforymau sy’n cynnwys      cynrychiolwyr Cadw. 
  • Arwain y gwaith datblygu a gweithredu strategol ar gyfer rhaglenni grant cyfalaf a refeniw, gan gefnogi’r rhai sy’n berchen, yn rheoli neu’n diogelu asedau hanesyddol dynodedig ledled Cymru. 
  • Gosod safonau a goruchwylio’r gwaith o gyflwyno rhaglenni gwaith gan gontractwyr prosiectau, Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru a sefydliadau trydydd sector eraill sy’n derbyn cyllid grant refeniw gan Cadw. Hefyd, helpu i fonitro rhaglen waith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
  • Arwain y gwaith o gofnodi, dogfennu a rheoli gwybodaeth yn ymwneud ag amgylchedd hanesyddol      Cymru. 
  • Darparu cyngor i Weinidogion Cymru, adrannau Llywodraeth Cymru a chydweithwyr lefel uwch      Cadw ar gyfer materion yn ymwneud â chynnal a chadw a diogelu’r amgylchedd hanesyddol. 
  • Cynnal a datblygu cysylltiadau a rhwydweithiau proffesiynol â phroffesiynau perthnasol yng      Nghymru a thu hwnt.

Cyfleoedd datblygu

Mae Cadw yn annog staff i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus yn ogystal â chefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu penodol sy’n gysylltiedig ag anghenion busnes.

Dyddiad Cau

04/06/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

  • Newid a Gwella: Mynd ati’n effeithiol i dderbyn, defnyddio a rhannu gwybodaeth a safbwyntiau cwsmeriaid gan ystod amrywiol o randdeiliaid er mwyn gwella polisi a darpariaeth 
  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol: Gwneud penderfyniadau anodd mewn ffordd bragmatig trwy bwyso a mesur y cymhlethdodau perthnasol a’r angen i weithredu
  •  Arwain a Chyfathrebu: Bod ar gael i staff a rhanddeiliaid ac ymgymryd yn rheolaidd â gweithgareddau sy’n ymgysylltu â phobl sy’n ymwneud â’r maes gwaith, a meithrin eu hymddiriedaeth
  • Cyflawni’n gyflym: Egluro blaenoriaethau, rolau a chyfrifoldebau’r busnes a sicrhau perchenogaeth unigol a thîm

Meini Prawf Penodol:

  1. Mae cymhwyster proffesiynol mewn disgyblaeth ym maes treftadaeth ac aelodaeth o sefydliad proffesiynol perthnasol yn hanfodol.
  2. Gwybodaeth gyfoes am y fframwaith cyfreithiol ar gyfer diogelu’r amgylchedd hanesyddol, a phrofiad o weithio oddi mewn i’r fframwaith.
  3. Mae profiad sylweddol o weithio ar lefel uwch reoli ym maes treftadaeth mewn sefydliad sy’n gyfrifol am ddiogelu a rheoli’r amgylchedd hanesyddol yn hanfodol.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Gwilym Hughes - 03000 256033

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.