Swydd Wag -- Ailddefnyddio a Thrwsio - Arweinydd Polisi

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Yr Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol
SEO - £41,700 - £49,370
£41,700
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Dwy flynedd. Penodiad cyfnod penodol.
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau.

Pwrpas y swydd

Y swydd hon fydd yn arwain y gwaith o wireddu’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gefnogi hybiau ailddefnyddio a thrwsio a datblygu cyfleusterau ailgylchu cymunedol yng nghanol trefi yn ogystal â'r ymrwymiad i hyrwyddo cyfleusterau trwsio ac ailddefnyddio ac annog siopa diwastraff.

Mae'r ymrwymiad i drwsio ac ailddefnyddio yn rhan o'r gofyn statudol i roi’r hierarchaeth wastraff ar waith, fel y'i mynegir mewn nifer o gynlluniau a strategaethau gan gynnwys Mwy nag Ailgylchu– strategaeth i wireddu'r economi gylchol yng Nghymru; Net Sero Cymru; a'r Cynllun Gweithredu ar Weithgynhyrchu.

Wrth arwain ar ailddefnyddio a thrwsio, bydd deiliad y swydd yn rhoi arweiniad ar nod strategol Llywodraeth Cymru i:

Ddatblygu diwylliant o ailddefnyddio, trwsio ac ail-weithgynhyrchu yn ein cymunedau a chanol trefi, a mae'r maes polisi hwn yn bwysig i atal gwastraff a sicrhau arbedion carbon sylweddol, a hefyd i sicrhau’r manteision economaidd posibl a ddaw o weithredu o fewn economi fyd-eang sy’n datgarboneiddio, a'r manteision cymdeithasol sylweddol. Mae'r rôl yn bwysig o ran cyrraedd y targedau gofynnol statudol ar gyfer ailgylchu a lleihau allyriadau.

Bydd deiliad y swydd yn cydweithio â busnesau a rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, gan arwain y gwaith o ddatblygu polisi a chynnal mentrau'n llwyddiannus gan gynyddu'r seilwaith sydd ar gael a gweithio i newid ymddygiad fel ag sydd ei angen er mwyn i ailddefnyddio, trwsio ac ail-weithgynhyrchu ddod yn rhan o ddiwylliant Cymru.

datblygu a darparu polisïau manwl a chefnogi gweithredu ar draws y llywodraeth i helpu i feithrin diwylliant o ailddefnyddio, trwsio ac ail-weithgynhyrchu mewn busnesau ac yn y sector cyhoeddus.

Prif dasgau

  1. Rhoi arweiniad o ran yr eitemau gwaith penodol yn y rhaglen gyffredinol sy'n ymdrin â thrwsio ac ailddefnyddio, gan sbarduno gwireddu ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu a’r strategaeth Ailgylchu a Mwy.
  2. Goruchwylio'r gwaith o gwmpasu a chyflwyno astudiaethau a threialon casglu tystiolaeth mewn perthynas â thrwsio ac ailddefnyddio yng Nghymru, gan asesu data a gwybodaeth i ddatblygu opsiynau ac atebion polisi credadwy.
  3. Gweithio mewn meysydd cymhleth ac amlochrog, gan ddeall y cysylltiadau sy'n pontio’r ystod o swyddogaethau o fewn a thu allan i'r llywodraeth.
  4. Nodi problemau posibl a dewis prosesau a gweithdrefnau ar gyfer rhoi polisi ar waith.
  5. Asesu'r adnoddau sydd eu hangen er mwyn diwygio, a defnyddio strwythurau llywodraethu a chynllunio busnes yr isadrannau i sicrhau'r adnoddau angenrheidiol ar gyfer gweithredu'n llwyddiannus.
  6. Sefydlu pecyn o fetrigau perfformiad er mwyn monitro'r ddarpariaeth.
  7. Gweithio'n agos gyda strwythurau llywodraethu a thimau cyflenwi rhaglenni ehangach, gan roi sylw i faterion yn ôl y gofyn a chyflwyno adroddiadau cywir ac amserol i fyrddau prosiectau a rhaglenni.
  8. Gweithio gyda chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru, yn enwedig yr isadrannau Cymunedau a Threchu Tlodi a'r Economi, i sicrhau eu bod yn deall ac yn rheoli gweithgarwch i annog mwy o drwsio ac ailddefnyddio.
  9. Cydweithio â chymunedau a phobl i ddeall sut y gall trwsio ac ailddefnyddio gefnogi canol trefi a mentrau ehangach sy'n seiliedig ar le.
  10. Cynrychioli'r maes polisi a Llywodraeth Cymru mewn cyfarfodydd neu rwydweithiau allanol, gan ddod yn arbenigwr yn y maes polisi hwn.
  11. Gweithio'n agos gyda chydweithwyr cyfathrebu Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyflawni i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud.
  12. Paratoi papurau briffio a chynghori ar bolisi i gefnogi penderfyniadau Gweinidogion ac ymatebion i ohebiaeth gan Weinidogion, mewn cydweithrediad agos â gwasanaethau cyfreithiol a swyddogaethau eraill ar draws Llywodraeth Cymru.
  13. Arwain y gwaith o roi tystiolaeth a sicrwydd i Weinidogion Cymru ar effeithiolrwydd y camau a gymerir i annog trwsio ac ailddefnyddio.

Cyfleoedd datblygu

Cyfle i weithio mewn maes polisi sy'n datblygu'n gyflym ac sy'n dod i'r amlwg.  Cyfle i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hyrwyddo nod Llywodraeth Cymru o annog symud i Economi Gylchol, gan gyfrannu at fynd i'r afael â'r Argyfyngau Hinsawdd a Natur.

Dyddiad Cau

26/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Pennu Cyfeiriad - Gwneud Penderfyniadau Effeithiol  - Adnabod patrymau a thueddiadau mewn ystod eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu costau, manteision, risgiau ac ymatebion posibl

Ymgysylltu â Phobl – Arwain a Chyfathrebu - Cyfathrebu mewn modd syml, gonest ac ymgysylltiol â'r holl randdeiliaid a sefyll ar dir pan fo angen

Sicrhau Canlyniadau – Cyflawni Canlyniadau Masnachol - Casglu a defnyddio tystiolaeth i asesu costau, manteision a risgiau ystod eang o opsiynau cyflawni wrth wneud penderfyniadau masnachol

Sicrhau Canlyniadau – Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd - Gwneud defnydd effeithiol o sgiliau a thechnegau rheoli prosiect i gyflawni canlyniadau, gan gynnwys nodi risgiau a lliniaru camau gweithredu

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Y gallu i ddehongli gwybodaeth i fwydo’r broses penderfynu ar bolisi, gan gynnwys tynnu sylw at bwyntiau allweddol mewn tystiolaeth gymhleth, a gweld y cysylltiadau rhwng gwahanol feysydd a pholisïau.
  2. Profiad o reoli a chynllunio prosiectau, gyda'r gallu i addasu wrth i amgylchiadau a thystiolaeth newid. Sgiliau rhyngbersonol cryf, gan gynnwys wrth gydweithio a thrafod ag uwch randdeiliaid a dylanwadu arnynt.
  3. Sgiliau ysgrifennu rhagorol, gyda phrofiad o dynnu gwybodaeth o ystod eang o ffynonellau i wneud pwyntiau allweddol, ac o ddrafftio canllawiau, sesiynau briffio i Weinidogion a gohebiaeth.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio a gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu cyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio a gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu cyfweliad.
Gail Merriman - ResourceEfficiencyAndCircularEconomy@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.