Swydd Wag -- Cafcass Cymru – Rheolwr Cefnogi Busnes

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafcass Cymru
EO - £26,900 - £30,610
£24,415
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Y De-orllewin
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Bydd y swydd hon yn rheoli tîm o chwe aelod o staff cymorth busnes wedi'u lleoli yn swyddfa Abertawe, yn Nhîm Ardal De Orllewin Cymru, ac yn adrodd yn uniongyrchol i'r Pennaeth Gweithrediadau.

Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod swyddogaeth gweinyddu busnes y tîm yn cael ei rheoli'n effeithiol ac yn effeithlon.  Bydd hyn yn ymwneud ag ymdrin â gwybodaeth sensitif, gymhleth a chyfrinachol o fewn yr amgylchedd tîm ehangach.

Bydd deiliad y swydd yn rhan o rwydwaith y Rheolwyr Cymorth Busnes sy'n gyfrifol am y prosesau gweinyddol o fewn y sefydliad.

Bydd lleoliad parhaol y swydd yn swyddfa Abertawe. Efallai y bydd angen teithio i swyddfeydd eraill o bryd i'w gilydd.

Prif dasgau

  • Cyfrifoldeb dros reolaeth effeithlon ac effeithiol y swyddogaeth cymorth busnes o fewn ardal De Orllewin Cymru, gan sicrhau pob agwedd ar arwain a rheoli'r tîm cymorth busnes o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys goruchwylio a rheoli llwythi gwaith, rheoli absenoldebau, cynnal adolygiadau rheoli perfformiad a datblygu staff.
  • Gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Gweithrediadau i gyflawni ei ddyletswyddau a darparu cymorth gweinyddol uniongyrchol, gan gynnwys rheoli dyddiaduron, cynorthwyo â pharatoadau ar gyfer cyfarfodydd, a llunio a pharatoi gohebiaeth.
  • Sicrhau bod cymorth a chefnogaeth effeithiol yn cael eu rhoi i reolwyr practis wrth gwblhau eu dyletswyddau, gan gynnwys trefniadau dyrannu achosion, cwynion, cysylltu â'r llysoedd, a thasgau eraill gyda rhanddeiliaid allweddol a thasgau allweddol eraill yn ôl gofynion y Pennaeth Gweithrediadau.
  • Gweithio fel tîm gyda rheolwyr cymorth busnes eraill er mwyn sicrhau ansawdd ac effeithiolrwydd cyson swyddogaethau gweinyddol Cafcass Cymru i gefnogi darpariaeth gwasanaethau rheng flaen i blant sy'n ymwneud ag achosion teuluol yng Nghymru, gan gynnwys trefniadau cyflenwi ar ran rheolwyr cymorth busnes eraill yn ôl y gofyn a chyfrannu at y rhwydwaith rheolwyr cymorth busnes.
  • Ar lefel leol, sicrhau a rheoli'r gwaith o reoli system rheoli achosion electronig y sefydliad (IRIS) mewn modd effeithiol, cywir ac effeithlon ac unrhyw systemau rheoli gwybodaeth eraill a fabwysiadir gan y sefydliad.
  • Cyfrifoldeb dros sicrhau bod y timau ardal yn cydymffurfio â'r polisïau a gweithdrefnau perthnasol, gan gynnwys rheoli a diogelu gwybodaeth a chofnodion a deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
  • Goruchwylio ymgysylltiad yr holl staff (gan gynnwys eich hunan) o fewn timau cymorth busnes yr ardal ddynodedig, yn ogystal â rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau, gan sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu a'u bod yn cadw at ddeddfwriaeth a gofynion cydraddoldeb y sefydliad.

Cyfleoedd datblygu

Mae’r swydd hon yn cynnig cyfleoedd sylweddol i chwarae rhan bwysig mewn gwasanaeth i Gymru gyfan, gan gynnwys ymwneud ag amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau gan gynnwys cyfreithwyr a llysoedd. Wrth wneud hynny, bydd deiliad y swydd yn magu ac yn datblygu sgiliau arwain a rheoli, cyfathrebu a chyflawni.

Dyddiad Cau

11/11/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  1. Cyflawni’n Brydlon - Dal ati i fod yn bositif a chanolbwyntio ar wireddu canlyniadau hyd yn oed os bydd pethau’n mynd o chwith.
  2. Rheoli Gwasanaeth Safonol – Egluro’n glir i gwsmeriaid beth y gellir ei wneud.
  3. Arwain a Chyfathrebu - Bod yn hyderus wrth gynnal trafodaethau neu gyfweliadau anodd.
  4. Gwella Gallu Pawb - Bod yn atebol am ddatblygiad y tîm a datblygiad unigolion drwy nodi anghenion o ran gallu a chyflawni amcanion datblygu yn gyson.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Profiad blaenorol o reoli ac arwain tîm/timau yn llwyddiannus i gyflawni canlyniadau.
  2. Profiad o weithio mewn sefydliad cyflym sy'n ymdrin â chwsmeriaid, gan ddeall anghenion a gofynion cwsmeriaid.
  3. Gallu bodloni dyddiadau cau, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu drwy gydol y broses i bob teulu sy'n gysylltiedig ag achosion llys teulu.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Kate Thomas - kate.thomas@gov.wales - 03000 257859 / Matt Wright - matthew.wright@gov.wales - 03000 628159

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.