Swydd Wag -- Arweinydd Polisi Bil Bysiau

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Bysiau
SEO - £41,700 - £49,370
£41,700
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Cyfnod penodol / Secondiad am ddwy flynedd
2 flynedd
Caerdydd, Cymru gyfan
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Pwrpas y swydd yw cyfrannu'n uniongyrchol at y datblygiad polisi sy'n sail i Fil Bws newydd, sy'n flaenoriaeth Gweinidogol allweddol. Mae hon yn rôl graidd o ran polisi sy'n ymgorffori sawl agwedd ar y broses ddeddfwriaethol. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio mewn amgylchedd proffil uchel a bydd disgwyl iddynt gydweithio gydag ystod eang o randdeiliaid mewnol fel cynghorwyr cyfreithiol, cyfreithwyr drafftio, rheolwyr rhaglenni deddfwriaethol ac amrywiol dimau polisi ar draws Llywodraeth Cymru.

Bydd y gwaith yn gofyn am sgiliau dadansoddol cryf a'r gallu i reoli blaenoriaethau sy'n cystadlu tra'n gweithredu fel yr arweinydd ar elfennau o'r polisi ar gyfer y Bil.  Bydd sawl agwedd o'r rôl yn hynod sensitif ac o'r herwydd bydd angen ymwybyddiaeth o'r amgylchedd gwleidyddol ar ddeiliad y swydd.

Bydd deiliad y swydd yn gweithredu heb fawr o oruchwyliaeth o fewn cylch gwaith diffiniedig h.y. y meysydd polisi y maent yn gyfrifol amdanynt.  Bydd disgwyl iddynt ddefnyddio eu crebwyll o ddydd i ddydd a nodi atebion polisi yn annibynnol o fewn eu cylch gwaith. Bydd ganddynt rywfaint o ddisgresiwn o ran blaenoriaethu eu gwaith o fewn ffiniau'r amserlen ddeddfwriaethol.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn cefnogi cydweithwyr o fewn y tîm drwy ddarparu sesiynau briffio ac adroddiadau ysgrifenedig sy'n cynnwys argymhellion priodol.

Prif dasgau

Bydd prif ddyletswyddau'r swydd hon yn cynnwys:

  • Cyfrifoldeb am ffrydiau gwaith polisi penodol o fewn y Bil, gan gynnwys cynghori ac ymateb i gwestiynau gan gynghorwyr cyfreithiol a drafftio cyfreithwyr am y meysydd polisi hynny;
  • Gweithio gyda Phennaeth y Gangen i ddatblygu a gweithredu'r cyfeiriad polisi cyffredinol ar gyfer y Bil
  • Datblygu a drafftio Asesiadau Effaith yn asesu effaith y cynigion polisi;
  • Gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i gefnogi’r broses o roi eu polisi ar waith
  • Cyfrannu at ac arwain rhywfaint ar yr ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol;
  • Cyfrannu at a lle bo hynny'n berthnasol arwain datblygiad a drafftio'r dogfennau allweddol sydd eu hangen i gyd-fynd â'r Bil megis y Memorandwm Esboniadol, Asesiad Effaith Rheoleiddio a Nodiadau Esboniadol;
  • Cyfrannu at a lle y bo'n berthnasol arwain y briffio Gweinidogol ar gyfer drafftio, cyflwyniadau, Cwestiynau'r Senedd, gohebiaeth a sesiynau briffio eraill; a
  • Cyfathrebu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol a dylanwadu arnynt er mwyn cefnogi amcanion polisi'r Bil.

Cyfleoedd datblygu

Dyma gyfle i arwain gwaith datblygu a rheoli polisïau mewn maes gweinidogol allweddol sydd â.

Cyfle i fod yn rhan o dîm Bil, gan reoli deddfwriaeth drwy broses y Senedd. 

Dyddiad Cau

04/04/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Arweinyddiaeth

  • Ystyried effeithiau gweithgareddau eich hun a'r tîm ar randdeiliaid a defnyddwyr terfynol.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Dadansoddi a defnyddio ystod o wybodaeth berthnasol, gredadwy o ffynonellau mewnol ac allanol i gefnogi penderfyniadau.

Gweithio ar y Cyd

  • Buddsoddi amser i ddatblygu ffocws cyffredin ac ysbryd tîm cadarnhaol gwirioneddol lle mae cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn parchu ei gilydd.

Datblygu Eich Hun ac Eraill

  • Myfyrio ar eich gwaith eich hun, ceisio'n barhaus a gweithredu ar adborth er mwyn gwella perfformiad eich hun a'r tîm.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Profiad o ddatblygu polisi i wella gwasanaethau cyhoeddus, ac asesu effaith y polisi hwnnw.
  2. Byddai profiad o'r broses ddeddfwriaethol, sgiliau drafftio cadarn a phrofiad o ddrafftio dogfennau ar gyfer eu cyhoeddi yn ddymunol. Byddai ymwybyddiaeth o’r broses ddeddfwriaethol ac amgylchedd gwleidyddol y Senedd, a barn gadarn i helpu i'w llywio hefyd yn ddymunol.
  3. Y gallu i weithio'n adeiladol gydag ystod o bartneriaid mewnol ac allanol i sefydlu a bwrw ymlaen ag amcanion ar y cyd.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae nifer fawr o'r tîm wedi'u lleoli ym Mharc Cathays, bydd gofyn teithio achlysurol i swyddfa Caerdydd, yn unol â'r angen busnes.

Efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd deithio rhywfaint ledled Cymru, yn dibynnu ar anghenion busnes.

Manteision gweithio o fewn Llywodraeth Cymru

Lle alla i weithio?

Ar gyfer llawer o rolau, rydym yn gweithredu dull hybrid o weithio - a elwir yn 'Gweithio’n Glyfar'; Mae hyn yn cynnwys cyfuniad o waith yn y cartref a’r swyddfa.  Efallai y cewch gyfle i weithio o gartref yn dibynnu ar yr anghenion busnes ac ymrwymiadau eich tîm.  Bydd eich trefniadau gwaith yn cael eu trafod a'u cytuno â'ch rheolwr llinell pan fyddwch yn ymuno.

Byddwn yn ystyried ceisiadau i weithio mewn lleoliadau penodol yn seiliedig ar amgylchiadau personol fel cyfrifoldebau gofalu neu nam neu gyflwr iechyd. Dywedwch wrthym y lleoliadau a ffefrir gennych yn eich CV yn y blwch 'Lleoliadau a Ffefrir’. 

Drwy ymgeisio am y rôl hon, byddwch yn barod i weithio yn un o'r lleoliadau canlynol fel eich prif swyddfa.

  • Caerdydd, Bedwas, Merthyr Tudful, Abertawe, Aberystwyth, Llandudno, Caerfyrddin

Beth yw'r manteision?

Mae nifer o fanteision gwych i weithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Yr ystod cyflog ar gyfer y radd hon yw £41,700 to £49,370.
  • Bydd unigolion ar delerau ac amodau Llywodraeth Cymru yn cael 31 diwrnod o wyliau yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint.  
  • Rydym yn cynnig oriau hyblyg i'ch helpu i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.  
  • Byddwch hefyd yn gallu ymaelodi â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Manteision eraill

  • Gweithio Hyblyg – Rydym yn cefnogi staff i reoli y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith drwy weithio gartref (yn amodol ar angen busnes ac os yn briodol ar gyfer y rôl)
  • Patrymau Gwaith – Mae opsiynau gwahanol ar gael: Llawn amser, Rhan Amser, Rhannu Swyddi, Oriau Cywasgedig, Tymor Ysgol ac ati. (yn amodol ar angen busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl)
  • Cynllun Ceir Gwyrdd – sy'n eich galluogi i brydlesu car allyriadau carbon isel iawn newydd sbon a thalu amdano o’ch cyflog
  • Cyllid Cefnogol – Benthyciadau cyn cyflog ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd gan gynnwys: tocynnau teithio tymor, gofal llygaid, offer TG, Beicio i’r Gwaith a mwy
  • Absenoldeb rhiant – 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu ar gyflog llawn a 15 diwrnod o absenoldeb tadolaeth
  • Amser Lles – Awr les benodol bob wythnos i'w defnyddio yn ystod oriau swyddfa. Boed hyn am dro yn y parc lleol, ioga, myfyrdod neu gampfa, mae hyn yn amser i chi
  • Tâl – Cynyddrannau cystadleuol ar draws y bandiau cyflog
  • Hyfforddiant a Chynnydd - Mynediad at hyfforddiant a datblygiad wedi'i deilwra i'ch rôl
  • Cynhwysiant ac Amrywiaeth – Rydym yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn gallu bod yn hwy eu hunain, ac nid oes unrhyw un yn teimlo gwahaniaethu yn erbyn
  • Ymgysylltu â Staff – Mae gennym ystod eang o rwydweithiau gweithgar a chroesawgar iawn, gan gynnwys: Awtistiaeth, Gofalwyr, Merched Gyda'n Gilydd, PRISM (ein rhwydwaith LGBTQ+) a llawer mwy
  • Diogelwch a Iechyd Galwedigaethol – Timau ymroddedig i roi cymorth a chefnogaeth sydd ei angen fwyaf i staff
  • Iechyd Meddwl – Rhaglen Cymorth i Weithwyr a llinell gymorth bwrpasol i gefnogi staff i reoli eu hiechyd meddwl
  • Offer TG cyfredol - Bydd Gliniaduron gyda Office 365 yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran pa bryd, sut a ble rydych chi'n gweithio
  • 3 Undeb – Mae 3 undeb yn ein sefydliad ar hyn o bryd
Robbie Thomas - DeddfwriaethBysiau.BusLegislation@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.