Swydd Wag -- Cyfreithiwr Ymgyfreitha

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Gwasanaethau Cyfreithiol
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£53,440
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru yng nghanol cyfnod o newid mawr ar adeg dyngedfennol yn hanes materion y DU a Chymru, ac mae’r penderfyniadau sydd ynghlwm wrth y gwaith hwn yn destun proses herio a chraffu nas gwelwyd o’r blaen. O’r herwydd, rydym yn awyddus i benodi nifer o gyfreithwyr ymgyfreitha dawnus o fewn yr Adran i gyflawni ystod eang o waith ymgyfreitha a ddygir gan Lywodraeth Cymru ac a ddygir yn ei herbyn.

Mae ein cyfreithwyr ymgyfreitha yn chwarae rôl allweddol wrth gyflawni canlyniadau llwyddiannus i Weinidogion Cymru mewn ystod eang o feysydd polisi, drwy amddiffyn eu penderfyniadau pan gânt eu herio, a sicrhau bod y setliad datganoli yn cael ei ddiogelu. Mae gwaith Tîm Ymgyfreitha’r Adran yn cynnwys ymgyfreitha cyfraith gyhoeddus craidd, gan gynnwys adolygiadau barnwrol ac atgyfeiriadau i’r Goruchaf Lys, lle penderfynir ar gwestiynau o bwysigrwydd cyfansoddiadol. Mae cyfreithwyr ymgyfreitha hefyd yn cynnalachosion Tribiwnlys, ac weithiau materion ymgyfreitha sifil, Cymruac yn cefnogi’r Llywodraeth mewn cwestau ac ymchwiliadau cyhoeddus. Mae’r gwaith o natur proffil uchel a heriol, yn cynnwys bod yn bresennol yn y llys a'r tribiwnlysoedd (gan gynnwys rhai cyfleoedd i gynnig gwasanaeth eirioli, e.e. yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf ac yn cynnig cyfle unigryw i ymdrin ag achosion o gryn ddiddordeb cyfansoddiadol.

A chanddi fwy na 100 o gyfreithwyr a staff cymorth, sy’n gweithio mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc, yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yw’r adran gyfreithiol fwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am ddarparu pob gwasanaeth cyfreithiol i Weinidogion Cymru. Mae cyfreithwyr yr Adran wrth galon y llywodraeth ddatganoledig, gan chwarae rôl ganolog wrth ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth Gymreig, a chynghori ar faterion cymhleth o ran y gyfraith gyhoeddus, contractau gwerth uchel y llywodraeth, ar brosiectau ac iddynt arwyddocâd cenedlaethol, ac ar ddatblygiadau cyfansoddiadol mawr. 

Os oes gennych brofiad ym maes ymgyfreitha – yn enwedig o ran y gyfraith gyhoeddus a chyfraith weinyddol – a bod gweithio ar flaen y gad o ran y gyfraith ymgyfreitha sydd o bwys yng Nghymru a thu hwnt o ddiddordeb ichi, hoffai Llywodraeth Cymru glywed gennych.

Y cyflog cychwynnol:

  • Os oes gennych dair blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso neu fwy wrth gael cynnig y swydd: £53,440 (dim modd negodi) ac yn codi’n raddol dros dair blynedd i £63,900;
  • Os oes gennych lai na thair blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso wrth gael cynnig y swydd, y cyflog cychwynnol fydd £32,460 (dim modd negodi). Gallech fod yn gymwys i gael eich ailraddio i radd a chyflog Cyfreithiwr pan fyddwch wedi gwneud blwyddyn o wasanaeth neu pan fydd gennych dair blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso, pa un bynnag fydd yn digwydd gyntaf (yn amodol ar berfformiad boddhaol). Noder, os bydd y dyddiad pan fo gan unigolyn dair blynedd o brofiad yn dod o fewn y cyfnod prawf, ni fydd yn mynd i’r radd nesaf hyd nes y bydd y cyfnod prawf wedi dod i ben.

Croesewir ceisiadau gan rai sydd wedi mynegi diddordeb o’r blaen mewn ymuno â thîm cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn ogystal.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan rai sydd, ar hyn o bryd, yn cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu, er enghraifft pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl anabl.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon drwy, gysylltu â LegalRecruitment.WG.Legal@gov.wales

Prif dasgau

Mae gwaith yr Adran yn amrywio a gall weithiau gynnwys gweithio gyda chynghorwyr cyfreithiol allanol, neu oruchwylio eu gwaith. Felly pennir cyfrifoldebau penodol drwy gyfeirio at sgiliau a phrofiad penodol y cyfreithwyr a gaiff eu penodi. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl cyflawni’r cyfrifoldebau canlynol:

  • Darparu cyngor cyfreithiol mewn cysylltiad â phob agwedd ar ymgyfreitha’r gyfraith gyhoeddus , a chyfrannu at ddarparu’r cyngor hwnnw, o’r cam ymchwilio cychwynnol/cyn gweithredu i’r penderfyniad terfynol a’r costau;
  • Drafftio neu helpu i ddrafftio dogfennaeth berthnasol sy’n deillio o achosion cyfreithiol, gan gynnwys ymatebion i lythyrau protocol cyn gweithredu, manylion hawliadau, datganiadau’r amddiffyniad, datganiadau am gostau, datganiadau tystion, etc;
  • Rheoli llwyth achosion er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Rheolau’r Weithdrefn Sifil a/neu reolau perthnasol y tribiwnlys;
  • Ystyried y chwiliadau datgelu angenrheidiol yn unol â’r ddyletswydd gonestrwydd;
  • Cynnig gwasanaeth eirioli lle y bo’n briodol – bydd angen bod yn bresennol yn y llys a/neu’r tribiwnlysoedd;
  • Cyfarwyddo a chefnogi Cwnsleriaid allanol i ddarparu cyngor arbenigol, a/neu gynnig gwasanaeth eirioli mewn achosion a ddygir gan y Llywodraeth neu yn ei herbyn;
  • Cydymffurfio ag ymddygiad proffesiynol a rheolau moesegol, a helpu i dyfu enw da’r tîm fel ymgyfreithwyr teg a chyfrifol;
  • Datblygu arferion gorau o ran rheoli ymgyfreitha a ddygir gan Lywodraeth Cymru neu yn ei herbyn;
  • Darparu hyfforddiant mewn meysydd arbenigol i adrannau cleientiaid.

Cyfleoedd datblygu

Fel un o gyfreithwyr y llywodraeth byddwch yn rhan o'r Gwasanaeth Sifil ac o Broffesiwn Cyfreithiol y Llywodraeth. Bydd eich profiad yn rhoi dealltwriaeth unigryw ichi o’r setliad datganoli yng Nghymru. Mae’n cynnig cyfle unigryw i gyfreithwyr weithio mewn amgylchedd deinamig sy’n eu rhoi wrth galon llywodraeth ddatganoledig, prosiectau o arwyddocâd cenedlaethol ac â phroffil cenedlaethol, ar flaen y gad o ran datblygiadau cyfansoddiadol mawr ac yn flaenllaw yn y broses o greu polisi a gwneud cyfreithiau.

Dyddiad Cau

27/03/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau;

Gwneud penderfyniadau effeithiol

  • Defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth i gefnogi penderfyniadau a chyngor cywir, arbenigol. Ystyriwch yr opsiynau’n ofalus, goblygiadau a risgiau eraill o benderfyniadau.

Cyfathrebu a dylanwadu

  • Cyfathrebu pwrpas a chyfeiriad gydag eglurder, uniondeb a brwdfrydedd. Parchu anghenion, ymatebion a barn pobl eraill.

Gweithio ar y cyd

  • Ffurfio partneriaethau a pherthynas effeithiol â phobl yn fewnol ac yn allanol, o ystod o gefndiroedd amrywiol, gan rannu gwybodaeth, adnoddau a chymorth.

Cyflawni’n brydlon

  • Cymryd cyfrifoldeb dros gyflawni canlyniadau amserol ac o ansawdd gyda ffocws ac egni.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd;

  1. Profiad o gynnal a chynghori ar ymgyfreitha ym maes y gyfraith gyhoeddus – yn enwedig mewn cyd-destun rheoleiddiol a/neu o ran achosion adolygiadau barnwrol;
  2. Dealltwriaeth gadarn o’r fframwaith deddfwriaethol a’r rheolau gweithdrefnol perthnasol sy’n llywodraethu ymgyfreitha ym maes y gyfraith gyhoeddus;
  3. Gwybodaeth am setliad datganoli Cymru.

Proses Asesu

Y cam ymgeisio

  • Ffurflen gais ar-lein wedi’i chwblhau
  • CV cyfredol yn nodi eich hanes gyrfaol gyda chyfrifoldebau allweddol a chyflawniadau, gan gynnwys y cymwysterau proffesiynol angenrheidiol. Rydym yn argymell eich bod yn rhoi sylw gofalus i’r adrannau “Pwrpas y swydd” a “Prif dasgau” er mwyn sicrhau bod eich CV yn adlewyrchu’r sgiliau a’r profiad yr ydym yn chwilio amdanynt.
  • Datganiad personol nad yw’n fwy na 2,100 o eiriau. Caiff unrhyw beth y tu hwnt i hyn ei ddiystyru. Dylai’r datganiad esbonio sut mae eich cymwysterau proffesiynol, eich sgiliau, eich priodweddau a’ch profiad yn cyd-fynd â’r canlynol:
    • y pedwar ymddygiad ac
    • y tri maen prawf penodol i’r swydd.

Rydym yn argymell eich bod yn anelu at ysgrifennu tua 300 o eiriau ar gyfer pob un o’r saith categori.

  • Gwybodaeth monitro Cydraddoldeb a Chynhwysiant wedi’i chwblhau

Rydym yn argymell eich bod yn darllen y canllawiau yn y dolenni amgaeedig i’ch helpu i ymgeisio ar gyfer y swyddi hyn. Maent yn esbonio sut i ddangos tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swyddi.

Canllawiau Recriwtio ar gyfer Ymgeiswyr Allanol (dolen)

Proffiliau Llwyddiant - GOV.UK (www.gov.uk)


Cynhelir cam sifftio cychwynnol ar ymatebion penodol i’r swydd, a dim ond yr ymgeiswyr hynny sy’n bodloni’r gofynion a fydd yn camu ymlaen. Bydd ail gam sifftio yn asesu’r cymwyseddau, a dim ond yr ymgeiswyr hynny sy’n bodloni’r gofynion a gaiff eu gwahodd am gyfweliad.

Cam y cyfweliad (os yw'r ymgeisydd wedi llwyddo yn y cam sifftio);

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn y cam sifftio yn cael eu gwahodd i gyfweliad.
Bydd y meini prawf penodol i'r swydd a'r cymwyseddau hefyd yn cael eu hasesu yn y cam hwn.

Os bydd sgorau cyffredinol ymgeiswyr yn gyfartal, rhoddir blaenoriaeth i’r ymgeiswyr hynny a enillodd sgorau uwch mewn perthynas â’r meini prawf penodol i’r swydd.

Adborth

Darperir adborth ar gyfer y cam sifftio dim ond ar ôl i'r cynllun gael ei gwblhau. 

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Cymru Gyfan

Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu y gellir bod yn hyblyg o ran lleoliad y swydd, yn amodol ar anghenion y busnes. Gellir gweld rhestr o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar ein gwefan (www.cymru.gov.uk). Noder na fydd hi bob amser yn bosibl ichi allu gweithio yn y lleoliad a ddewisir gennych, ond bydd ceisiadau yn cael eu hystyried.

Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’n staff yn gweithio o bell ar hyn o bryd oherwydd y pandemig. Er bod union drefniadau gwaith y cyfnod ar ôl y pandemig yn dal yn cael eu hystyried, mae’n debygol y bydd y trefniadau gwaith cyfunol neu “leoliad gwaith” hybrid yn dod yn fwy arferol i lawer o staff yn y dyfodol. Sylwch, yn y rôl hon, bydd angen teithio a bod yn bresennol yn y llys a’r tribiwnlysoedd.

LegalRecruitment.WG.Legal@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.