Swydd Wag -- Arweinydd Tîm Cyfieithu Deddfwriaeth

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
SEO - £41,700 - £49,370
Cynigir cyflog cychwynnol rhwng £40,100 a £44,200 i'r ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a pherfformiad yn y cyfweliad
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Gwahanol leoliadau
I'w gadarnhau

Manylion am y cyfle

Dyma swydd broffesiynol yng Ngwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru sy’n gofyn am gyfuniad o sgiliau gwas cyhoeddus craff ac ieithydd profiadol. Mae hon yn un o ddwy swydd Arweinydd Tîm Cyfieithu Deddfwriaeth sy’n atebol i Bennaeth yr Uned Cyfieithu Deddfwriaeth ac sy’n gyfrifol am:

  • arwain y ddarpariaeth cyfieithu deddfwriaeth ar gyfer gwaith meysydd pwnc a phortffolios Gweinidogol penodol
  • rheoli llif gwaith y tîm
  • arwain a rheoli tîm o gyfieithwyr mewnol
  • rheoli a defnyddio contractau gyda chyflenwyr allanol
  • datblygu a gwella’r gwasanaeth cyfieithu a ddarperir i gwsmeriaid.

Disgrifiad o'r Gradd

Arwain ar gyflenwi gwasanaethau cyfieithu

  • Bod yn atebol am bob agwedd ar y gwasanaethau cyfieithu a ddarperir gan y tîm ar gyfer meysydd pwnc a phortffolios Gweinidogol penodol er mwyn cefnogi’r Llywodraeth i ddiwallu anghenion cyfieithu deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
  • Meithrin perthynas â chwsmeriaid allweddol a deall patrymau gwaith cwsmeriaid y portffolio, yn enwedig Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol a’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, gan gynllunio gwaith y tîm ar sail y gofynion.
  • Cydweithio’n effeithiol o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu ag arweinyddion timau eraill a swyddogion Uned Fusnes y Gwasanaeth gan sicrhau cysondeb arferion gwaith ar draws y Gwasanaeth.
  • Rheoli a monitro contractau cyfieithu a sefydlwyd ar gyfer y tîm o dan Gytundeb Fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, a chyfathrebu’n effeithiol â’r cyflenwyr i gomisiynu gwaith.

Defnyddio adnoddau’n effeithiol

  • Cadw’n driw at gylch gwaith penodedig y Gwasanaeth Cyfieithu er mwyn defnyddio adnoddau cyfieithu i’w llawn botensial ac yn unol â blaenoriaethau’r sefydliad.
  • Dadansoddi ceisiadau’n fanwl, gofyn am arweiniad yn ôl y galw ar y lefel briodol a thrafod ceisiadau gydag arweinwyr y timau cyflenwi eraill a chyda’r swyddogion perthnasol er mwyn sicrhau cysondeb polisi cyfieithu ar draws y Gwasanaeth cyfan.
  • Cynllunio, trefnu a goruchwylio gwaith y tîm er mwyn sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael, yn adnodd mewnol ac allanol, yn cael eu defnyddio’n effeithlon. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda'r Uned Fusnes i ddyrannu llwyth gwaith i bob unigolyn yn briodol ac yn effeithlon gan gynnwys penderfynu rhoi'r gwaith ar gontract cyfieithu allanol ai peidio.
  • Deall gwerth y dechnoleg gyfieithu a manteisio arni i’r eithaf i hwyluso’r broses gyfieithu ac i ddarparu gwasanaeth effeithlon, gan gyfrannu at gaffael systemau newydd a datblygu systemau.
  • Cydweithio ag Uned Ddatblygu’r Gwasanaeth i gynllunio’n effeithiol ar gyfer safoni terminoleg ddeddfwriaethol briodol ac i fonitro a chynnal ansawdd y gwaith cyfieithu.

      Rheoli tîm

      • Bod yn rheolwr llinell ar Uwch-gyfieithwyr y tîm. Gosod safonau ansawdd a llwyth gwaith ar gyfer y tîm; monitro allbwn a pherfformiad a chymryd camau priodol i gywiro unrhyw ddiffyg.
      • Arwain a rheoli drwy esiampl a chyfathrebu’n effeithiol â thîm o gyfieithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar wasgar ledled y wlad.
      • Sicrhau bod y tîm yn gweithio yn unol â gweithdrefnau a systemau’r gangen.
      • Annog y cyfieithwyr i ymroi i’w datblygu eu hunain yn barhaus fel proffesiynolion cyfieithu ac fel gweision cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru.

      Cydweithio a chyfrannu

      • Cydweithio ag arweinyddion tîm eraill y Gwasanaeth Cyfieithu – ee, ar brosiectau biliau ac ar waith a rennir gan y ddwy uned.
      • Cydweithio â’r Uned Ddatblygu ar ddatblygiadau o ran caffael a datblygu systemau technoleg, safoni terminoleg ac ansawdd.
      • Cydweithio â Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol a’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol (ac adrannau polisi a chyrff allanol eraill fel y bo’r angen) er mwyn datblygu offer TG i gynorthwyo’r broses ddrafftio, ac er mwyn casglu, cysoni, safoni a rhannu termau deddfwriaethol.
      • Rhoi cyngor proffesiynol arbenigol ar faterion sy'n ymwneud â gwaith ieithyddion deddfwriaethol i gydweithwyr ar bob lefel yn Llywodraeth Cymru.
      • Ymgymryd ag ystod eang o wasanaethau cyfieithu a ddarperir gan y tîm, fel y bo dyletswyddau eraill yn caniatáu, er enghraifft gwaith mwy cymhleth a thra sensitif.
      • Cyfrannu ar gais rheolwyr y Gwasanaeth at brosiectau cyfieithu neu gorfforaethol yn ôl y gofyn.

            Cyfleoedd datblygu

            • Cyfle i ddatblygu’r gallu i reoli a datblygu staff.
            • Cyfle i arwain tîm o gyfieithwyr deddfwriaethol proffesiynol yn un o wasanaethau cyfieithu mwyaf Cymru. Mae’r swydd hon yn swydd allweddol i ddiwallu anghenion cyfieithu deddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
            • Cyfle i gydweithio’n agos â chwnsleriaid deddfwriaethol, cyfreithwyr a chwsmeriaid eraill i ddiwallu anghenion cyfieithu deddfwriaethol Llywodraeth Cymru. 
            • Cyfle i gyfrannu ar lefel arweinydd i waith proffesiwn sy’n hanfodol i agenda Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo a hybu’r defnydd o’r Gymraeg, mewn cangen sy’n gweithio’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y sefydliad.
            • Cyfle i ddatblygu sgiliau iaith arbenigol mewn cyfieithu deddfwriaethol, gan gyfuno sgiliau iaith proffesiynol â swyddogaeth gwas cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru.

            Dyddiad Cau

            04/01/22 16:00

            Cymhwystra

            Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

            Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

            Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

            Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

            Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

            Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

            Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

             

            Hyderus o ran Anabledd

            Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r diffiniad cymdeithasol o anabledd, lle cydnabyddir bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu i analluogi pobl sydd â namau neu gyflyrau iechyd, sy’n niwrowahanol neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel bo pob aelod staff (neu ddarpar staff newydd) yn gallu cyflawni hyd eithaf eu gallu.

            Rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw berson anabl y mae ei gais yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd. ‘Meini prawf gofynnol’ yw bod rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ar bob cam o’r broses asesu cyn cyfweliad sy’n dangos eich bod yn bodloni’r gofynion yn y disgrifiad swydd yn gyffredinol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfa pobl anabl.

            Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, yn niwrowahanol neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ac am drafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o’r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddwn yn rhoi addasiadau ar waith pe baech yn llwyddo, e-bostiwch RecriwtioAllanol@llyw.cymru cyn gynted â phosibl a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac unrhyw gwestiynau sydd gennych.

             

            Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

            Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


            Sgiliau yn y Gymraeg

            Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

            Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

            Hanfodol
            Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
            Rhugl
            Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
            Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

            Partneriaeth Gymdeithasol

            O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

            Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
            •         PCS
            •         Prospect
            •         FDA

            Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
            •         cyflog
            •         telerau ac amodau
            •         polisïau a gweithdrefnau
            •         newid sefydliadol

            Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

            Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

            Ymddygiad

            Newid a Gwella - Chwilio am gyfleoedd i greu newid effeithiol ac awgrymu syniadau arloesol ar gyfer gwella. Adolygu ffyrdd o weithio, gan gynnwys ceisio a darparu adborth.
            Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth i gefnogi penderfyniadau a chyngor cywir, arbenigol. Ystyried yn ofalus yr opsiynau, y goblygiadau a risgiau eraill o benderfyniadau.
            Gweithio ar y Cyd - Ffurfio partneriaethau a pherthynas effeithiol a phobl yn fewnol ac yn allanol, o ystod o gefndiroedd amrywiol, gan rannu gwybodaeth, adnoddau a chymorth.
            Rheoli Gwasanaeth Safonol - Cyflawni amcanion gwasanaeth gyda rhagoriaeth, arbenigedd ac effeithlonrwydd proffesiynol, gan ystyried anghenion cwsmeriaid amrywiol.
            Er bod y blychau ychwanegol hyn yn ymddangos ar eich ffurflen gais, nid oes angen i chi gyflwyno unrhyw dystiolaeth yma. Teipiwch 'ddim yn berthnasol' yn y blwch a pharhewch.
            Er bod y blychau ychwanegol hyn yn ymddangos ar eich ffurflen gais, nid oes angen i chi gyflwyno unrhyw dystiolaeth yma. Teipiwch 'ddim yn berthnasol' yn y blwch a pharhewch.

            Proses Asesu

            Ffurflen Gais 

            Wrth lenwi'r Ffurflen Gais ar gyfer y cyfle hwn gofynnir ichi ddarparu tystiolaeth, ar ffurf enghreifftiau go iawn, o'ch sgiliau, eich profiad a'ch gallu yn y pedwar Ymddygiad Uwch Swyddogion Gweithredol a restrir uchod. Dyma'r rhan bwysicaf o'ch Ffurflen Gais a bydd panel recriwtio yn y Cam Sifftio yn ei hasesu. 

            CV

            Gofynnir ichi ddarparu CV gyda’ch ffurflen gais a bydd panel recriwtio yn y Cam Sifftio yn ei asesu. Defnyddir y dystiolaeth yn y CV i asesu’r maen prawf Profiad a’r tri maen prawf Technegol a restrir isod.

            Profiad 

            • Profiad o weithio ar lefel uwch fel cyfieithydd neu olygydd Cymraeg, neu mewn disgyblaeth berthnasol

            Technegol

            • Gradd neu gymhwyster cyfatebol
            • Sgiliau drafftio, cyfieithu a golygu o’r radd flaenaf yn Gymraeg ac yn Saesneg
            • Y gallu i ddarparu cyngor proffesiynol i swyddogion ar bob lefel ynghylch materion ieithyddol a gweithredol

            Cyfweliad Ar-lein 

            Bydd y Cyfweliad ar-lein yn digwydd trwy Microsoft Teams. Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r Fframwaith Proffil Llwyddiant yn unol â’r ymrwymiad yng Nghynllun Gweithlu y Gwasanaeth Sifil i ddenu a chadw pobl dalentog a phrofiadol o sectorau amrywiol. Bydd y cyfweliad yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau yn seiliedig ar Ymddygiadau’r Proffil Llwyddiant a byddant yn archwilio'n fanwl yr hyn y gallwch chi ei wneud.

            Bydd yr Ymddygiadau a gaiff eu hasesu yn y cyfweliad yr un fath â'r rhai y gofynnwyd ichi eu cyflwyno yn eich Ffurflen Gais, sef Newid a Gwella, Gwneud Penderfyniadau Effeithiol, Gweithio ar y Cyd a Rheoli Gwasanaeth Safonol.

            Asesiad

            Bydd yr asesiad ar-lein yn digwydd trwy Microsoft Teams. Bydd yn profi dau o’r meini prawf Technegol sef sgiliau drafftio, cyfieithu a golygu o’r radd flaenaf yn Gymraeg a Saesneg, a’r gallu i ddarparu cyngor proffesiynol i swyddogion ar bob lefel ynghylch materion ieithyddol a gweithredol.

            Gwybodaeth arall

            • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
            • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
            • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
            • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
            • Ar hyn o bryd, mae gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru staff yn swyddfeydd Aberystwyth, Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin a Chyffordd Llandudno. Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ddweud pa leoliad y byddent yn ei ffafrio yn ystod y cam penodi, pan fo sawl lleoliad yn bosibl ar gyfer y swydd.
            • Mae swyddi y recriwtir iddynt fel rhan o’r ymgyrch recriwtio hon yn agored yn gyffredinol i bobl o’r DU, y rhai sydd â hawl i aros a gweithio yn y DU a’r rhai sy’n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil. Gwiriwch eich cymhwysedd yma:
              o    Fisâu y DU a Mewnfudo – GOV.UK (www.gov.uk)
              o    Rheolau cenedligrwydd – GOV.UK (www.gov.uk)
            • Cyn penodi, bydd gofyn i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau derbyniol, gwreiddiol fel rhan o’r gwiriadau cyn-gyflogaeth. Os daw hi’n amlwg ar gam diweddarach yn y broses nad ydych chi’n gymwys i ymgeisio, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu nôl.
            • Ni ellir ymestyn y dyddiadau cau/amserlenni a nodwyd gydol y broses asesu hon.
            • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n darllen eich ebyst ar eich prif gyfeiriad e-bost cofrestredig yn rheolaidd rhag ofn ein bod wedi cysylltu â chi ynghylch y broses asesu.
            Llinos Pierce Williams - Llinos.PierceWilliams@llyw.cymru

            Sut i wneud cais

            Dylid gwneud pob cais am y swydd hon ar-lein trwy system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.

            Os oes gennych nam a fyddai'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch RecriwtioAllanol@llyw.cymru i ofyn am becyn cais mewn fformat arall, neu i ofyn am addasiad rhesymol sy'n gysylltiedig â nam er mwyn cyflwyno'ch cais .

            I wneud cais, bydd angen i chi gael cyfrif ar ein system ymgeisio ar-lein. Cliciwch y botwm 'Gwneud Cais' isod, a gofynnir i chi 'Fewngofnodi' os oes gennych gyfrif eisoes, neu 'Gofrestru' os nad oes gennych gyfrif eto. Gallwch gofrestru mewn ychydig funudau. Bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i allu cofrestru. Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer cyfrif a mewngofnodi, cewch eich cyfeirio at y cam cyntaf y broses asesu.

            Os hoffech chi wneud cais am y swydd wag hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen ‘Newid Iaith / Change Language’ ar frig y dudalen hon, i fynd â chi i fersiwn Gymraeg yr hysbyseb hon, a gallwch ei defnyddio i wneud cais yn Gymraeg.

            I gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio, gweler Canllawiau Recriwtio Ymgeiswyr Allanol.

            I gael rhagor o wybodaeth am Ymddygiad a Chryfderau'r Gwasanaeth Sifil a sut y cânt eu defnyddio ar gyfer recriwtio yn y Gwasanaeth Sifil, gweler Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil.

            Anghydfod a Chwynion

            Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

            Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.