Swydd Wag -- Uwch Gynghorydd Datblygu Llyfrgelloedd

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
CyMAAL
SEO - £41,700 - £49,370
37,600
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan, Y Canolbarth
Yn ystod Awst 2019

Pwrpas y swydd

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisi a darpariaeth llyfrgelloedd cyhoeddus. Bydd deiliad y swydd hefyd yn arwain y dyletswyddau statudol sy'n gysylltiedig â llyfrgelloedd cyhoeddus sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 er mwyn sicrhau bod awdurdodau llyfrgelloedd cyhoeddus yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd arwain mentrau polisi arloesol megis Pob Plentyn yn Aelod o Lyfrgell, y Gronfa Trawsnewid Cyfalaf ar gyfer llyfrgelloedd cyhoeddus, datblygu gwasanaethau llyfrgell digidol gan gynnwys y Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol, ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd a marchnata.

Prif dasgau

  • Rhoi cyngor ar bolisïau i'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon o ran y ddarpariaeth llyfrgelloedd cyhoeddus
  • Rheoli Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru er mwyn cyflawni dyletswyddau statudol y Gweinidog mewn perthynas â Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, gan gynnwys datblygu systemau monitro yn y dyfodol yn ôl yr angen
  • Datblygu a rheoli rhaglenni a phrosiectau er mwyn helpu i ddatblygu'r sector llyfrgelloedd yng Nghymru, a hyrwyddo'r gwaith o ymgysylltu â chynulleidfaoedd, gan gynnwys defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol
  • Monitro gwariant a chyllidebau cysylltiedig
  • Meithrin cydberthnasau a gweithio'n effeithiol gydag amrywiaeth o bartneriaid o'r sector llyfrgelloedd yng Nghymru, gan gynnwys cyrff a grwpiau proffesiynol
  • Paratoi cyngor a briffiadau i'r Gweinidog a llunio ymatebion i ohebiaeth ac ymholiadau
  • Rheoli gwaith y Tîm Datblygu Llyfrgelloedd, gan gynnwys rheoli staff
  • Cyfrannu at y gwaith o reoli'r is-adran
  • Cyflawni tasgau eraill yn ôl yr angen sy'n briodol i'r rôl a'r radd

Cyfleoedd datblygu

Yn ogystal â meithrin gwybodaeth a phrofiad helaeth o'r sector llyfrgelloedd yng Nghymru, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn datblygu ei sgiliau arwain a rheoli mewn amgylchedd rhaglen sy'n effeithio ar lawer o feysydd polisi ar draws Llywodraeth Cymru gan gynnwys addysg, gwasanaethau digidol, cymunedau a threchu tlodi, dysgu gydol oes, iechyd a llesiant, cyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd.

Dyddiad Cau

27/06/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Clwstwr Strategol – Pennu'r Cyfeiriad

Gweld y darlun cyfan 

  • Ceisio deall sut mae'r gwasanaethau, y gweithgareddau a'r strategaethau yn y maes yn gweithio gyda'i gilydd i greu gwerth i'r cwsmer/defnyddiwr terfynol

 

Clwstwr Pobl – Ymgysylltu â Phobl

Arwain a Chyfathrebu

  • Cyfathrebu mewn modd   syml a gonest sy'n ennyn diddordeb yr holl randdeiliaid a sefyll yn gadarn   pan fo angen 

Clwstwr Perfformiad – Sicrhau Canlyniadau

Rheoli Gwasanaeth o Safon

  • Datblygu, gweithredu, cynnal ac adolygu systemau a safonau gwasanaeth er mwyn darparu ansawdd, effeithlonrwydd a gwerth am arian 

Cyflawni'n gyflym

  • Monitro eich gwaith eich hun a gwaith y tîm yn rheolaidd yn erbyn cerrig milltir neu dargedau a gweithredu'n brydlon er mwyn cadw'r gwaith ar y trywydd cywir a chynnal perfformiad.

Meini Prawf Penodol i'r swydd:

  1. Cymhwyster proffesiynol mewn astudiaethau llyfrgell a/neu wybodaeth
  2. Profiad proffesiynol o weithio yn y sector llyfrgelloedd neu gyda'r sector llyfrgelloedd, a gwybodaeth gynhwysfawr am y sector a materion proffesiynol cyfredol
  3. Profiad o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
mary.ellis@gov.wales - 03000622105

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.