Swydd Wag -- Rheolwr Cyflawni - Porth Digidol Cymru

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon
SEO - £41,700 - £49,370
£37,600, ond gellir cynnig hyd at £39,750 ar gyfer ymgeisydd eithriadol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
3 mlynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
22/01/2018 - 26/01/2018

Pwrpas y swydd

Gan weithio fel rhan o'r tîm marchnata cyrchfan a lle o fewn Llywodraeth Cymru, bydd y swydd newydd hon yn hollbwysig wrth greu a chadarnhau hunaniaeth newydd i Gymru sy'n gyfoes, diddorol a deniadol: brand sy'n rhoi sylw i Gymru o fewn Prydain ac yn Rhyngwladol ac yn magu hyder pobl Cymru i greu eu dyfodol yn hyderus. Trwy ddatblygu a gofalu am wefannau brand Cymru a defnyddio'r dulliau hynny i fynd â hanes ein cenedl i gynulleidfa fwy a mwy gwerthfawr ar draws sianeli ar-lein ac, yn fwy penodol, y bobl hynny fydd yn byw, yn gweithio, yn hamddena a buddsoddi yng Nghymru yn y dyfodol.

Gan fod yn atebol i Bennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chreadigol, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli y prosiect a darparu y platfform ar gyfer prosiect Porth Digidol Cymru - gan gefnogi brand Cymru ar draws y maes twristiaeth, busnes a thu hwnt.  Gyda phrofiad a brwdfrydedd i ddeall profiad y defnyddiwr ar-lein byddant yn sicrhau bod ein gwefannau newydd a'r platfform ar gyfer y brand yn cael eu datblygu yn unol â strategaeth ein brand, gan ddarparu'r profiad gorau i'r defnyddiwr. 

Prif dasgau

  • Rheoli datblygiad parhaus a cynnal a chadw gwefannau brand Cymru a sicrhau eu bod yn datblygu ac yn sicrhau profiad i'r defnyddiwr sydd y gorau o'i fath. Sicrhau ei bod yn hawdd chwilio gwefannau a bod unrhyw broblemau technegol sy'n codi yn cael eu datrys.
  • Cynllunio a rheoli datblygiad gwefannau newydd brand Cymru a datblygu mwy ar ein gwefannau presennol. Datblygu manyleb o ran gofynion cysylltiedig i gefnogi prosiectau o'r fath.
  • Bod yn rheolwr llinell i'r Swyddog Gweithredol Platfformau ac Adeiladu a Swyddog Gweithredol y Gronfa Ddata i sicrhau eu bod hwy a'u hadroddiadau uniongyrchol wedi'u hysgogi ac yn effeithiol. Rheoli blaenoriaethau sy'n newid yn aml a sicrhau eu bod bob amser yn glir ynghylch yr hyn a ddisgwylir ganddynt.
  • Rheoli ein prif asiantaeth datblygu gwefan a sicrhau bod y prosiectau y maent yn gweithio arnynt yn cael eu cyflawni yn foddhaol ac yn dod i mewn ar amser ac yn cadw at y gyllideb.
  • Gweithio'n effethiol gyda'n prif asiantaeth creadigol a brand yn ogystal â'n prif asiantaeth ddigidol.
  • Perthynas weithio glos gyda'r uwch dîm a'r prif frand i sicrhau fod pob elfen o'r datblygiadau yn gweithio i gefnogi brand Cymru.
  • Gweithio gyda chydweithwyr yn y tîm Cynnwys o fewn yr Hwb a'r tîm Marchnata Twristiaeth i helpu gyda cyhoeddi cynnwys a rheoli. Helpu i sicrhau bod adnoddau a llwyth gwaith yn cael eu rheoli ar draws y darn.
  • Rheoli perthynas gyda busnesau, rhanddeiliaid a phartneriaid fel y bo angen.
  • Rheoli cyllideb datblygu'r we o ddydd i ddydd sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn swydd allweddol o fewn y tîm marchnata brand ac mae'n cynnig y cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu eu sgiliau a'u profiad yn yr hyn sy'n brosiect cyffrous i ddiffinio brand ar gyfer Cymru. Un fydd yn dibynnu ar gyflawni rhagoriaeth ym maes marchnata digidol sy'n cael ei arwain gan gynnwys.

Dyddiad Cau

10/01/18 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Mae hon yn swydd Rheolwr Cyflawni fel a ddiffinnir yn y swyddogaethau digidol, data a thechnolegol sy'n cael eu diffinio gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (Government Digital Service - GDS, gweler https://www.gov.uk/government/publications/delivery-manager-skills-they-need/ ), ac oherwydd hynny mae'r sgiliau a'r cymwyseddau isod yn berthnasol.

Fel rhan o'ch cais, dylech baratoi datganiad personol sy'n amlinellu sut rydych chi'n cwrdd â'r gofynion HANFODOL isod.  Ni ddylai'ch datganiad personol fod yn hirach na 2 ochr A4.  Dylech hefyd atodi copi cyfredol o'ch CV.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn atodi'r ddau ddogfen hyn, gan mae'n anhebygol y bydd eich cais yn llwyddiannus hebddynt.

Sgiliau hanfodol yn ôl fframwaith Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth:

  1. Meddu ar wybodaeth fanwl ac arwain ar amrywiol ddulliau a thechnegau Hyblyg a Darbodus, gyda'r gallu i hyfforddi o fewn a thu allan i'w tîm. Yn gallu cynrychioli a bod yn eiriolwr ar gyfer y dulliau a'r technegau hyn, bod yn arloesol a sicrhau eu bod yn gwybod am y tueddiadau diweddaraf. Yn gallu sefydlu dull o roi adborth i dimau a bod yn gyfrifol am gyfieithu a mesur gwerth (yr hyn sy'n cael ei roi i mewn a beth ddaw allan) a sut y mae hyn yn berthnasol i amcanion ymarferol y llywodraeth ac anghenion y defnyddiwr. Gallu sicrhau bod y tîm yn ymwybodol o'r sefyllfa a'r hyn y mae pawb arall yn gweithio arno. Sicrhau bod arferion gweithio yn cael eu pwysleisio er mwyn cyflawni yn effeithiol.
  2. Gallu cyfathrebu yn effeithiol ar draws ffiniau sefydliadol, technegol a gwleidyddol, gan ddeall y cyd-destun. Gallu eirioli a chyfathrebu yr hyn y gall tîm ei wneud i sicrhau ymddiriedaeth a dilysrwydd. Yn gallu adweithio ac ymateb  yn llwyddiannus i heriau.
  3. Yn gallu datrys materion a phroblemau. Yn sbarduno timau a phennu amserlen, gan sicrhau bod timau yn gweithio tuag at gyflawni ymrwymiadau. Yn gallu trafod elfennau o reoli risg megis rheoli ac olrhain dulliau o liniaru risg yn llwyddiannus. Yn gallu rheoli amrywiol fathau o ddibyniaethau ar draws timau, adrannau a llywodraeth yn gyffredinol.
  4. Canolbwyntio ar ganlyniadau. Gallu herio a gwella prosesau sefydliadol anghymesur sy'n cael effaith ar ddatblygiadau'r tîm. Gallu nodi yr hyn sy'n gweithio orau i'r tîm a phryd i ddefnyddio prosesau penodol. Yn deall bod yn rhaid i bob cam mewn proses ychwanegu gwerth. Yn gallu dylanwadu a gwneud newidiadau positif i'r sefydliad.

Sgiliau hanfodol sy'n benodol i'r swydd:

  1. Profiad o gyflawni prosiectau digidol ar raddfa fawr gan feddu ar frwdfrydedd dros brofiad ar-lein y defnyddiwr
  2. Sgiliau digidol uwch gan gynnwys profiad ymarferol gydag amrywiol systemau rheoli cynnwys - a Drupal o ddewis
  3. Hanes o brofiad  o reoli prosiect mewn amgylchedd brysur lle y mae amser yn brin - gan gynnwys sgiliau cyfathrebu rhagorol gan weithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol


Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Jon Munro - 0300 061 6124 - jon.munro@gov.wales / Craig Goodwin - 07583 148425 - craig.goodwin@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.