Swydd Wag -- Rheolwr Strategaeth, Polisi ac Ymgysylltu
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Cefnogi'r Uwch-reolwr Strategaeth, Polisi ac Ymgysylltu, gan ddatblygu'r Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid newydd a datblygu strategaeth ymgysylltu. Rhoi cyngor parhaus i staff AGIC unwaith y caiff y strategaeth ymgysylltu ei rhoi ar waith.
Cefnogi'r Uwch-reolwr Strategaeth, Polisi ac Ymgysylltu i reoli rhanddeiliaid a rhoi cyngor i adrannau eraill AGIC ar y broses o gydweithio'n effeithiol â rhanddeiliaid.
Goruchwylio dull AGIC o ymateb i ymgynghoriadau, gan sganio'r gorwel am ddiweddariadau perthnasol i bolisi.
Rheoli prosiect a chefnogi'r broses o gynhyrchu strategaeth ac adroddiadau blynyddol AGIC.
Cydlynu presenoldeb AGIC mewn digwyddiadau allanol, gan fod yng ngofal stondin a rheoli unrhyw dîm a ddaw ynghyd i gynrychioli'r sefydliad mewn digwyddiad.
Prif dasgau
Tasgau penodol i'r swydd
- Datblygu a chynnal cyswllt â rhanddeiliaid perthnasol, yn fewnol ac yn allanol, sy'n cynnwys Grŵp Gwasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
- Cefnogi dull AGIC o gydweithio â rhanddeiliaid drwy roi cyngor a chreu cynnwys i'w ddefnyddio yng ngwaith rhanddeiliaid ym mhob rhan o'r sefydliad.
- Cyfrannu at y broses o ddatblygu a chynnal pecyn cymorth ymgysylltu ar gyfer AGIC
- Gweithio gyda'r tîm Adolygu er mwyn sicrhau bod y broses o fapio rhanddeiliaid ar waith ar ddechrau pob Adolygiad a chydweithio â nhw i ddatblygu cynllun ymgysylltu.
2.Cefnogi dull AGIC o gydweithio i ysgogi gwella gwasanaeth a system gofal iechyd. Yn benodol:
- Nodi a goruchwylio dull AGIC o ymgynghori a chyhoeddi polisi sy'n effeithio ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas ag AGIC.
- Cefnogi AGIC mewn digwyddiadau allanol sy'n cyfrannu at amcanion sefydliadol cyffredinol
- Ymgymryd â gwaith ymchwil a rhoi sesiynau briffio er mwyn helpu i ddatblygu safle polisi AGIC ar faterion cyfredol a materion amserol
- Rheoli prosiect y gylchred adrodd a datblygiad strategaeth blynyddol yn AGIC
Tasgau cyffredin
- Cydweithio â chydweithwyr yn AGIC.
- Cymryd rhan yng ngweithgareddau corfforaethol AGIC
- Rheoli ei ddatblygiad proffesiynol parhaus ei hun a datblygiad aelodau ei dîm.
- Cynnal cenhadaeth, diben, rôl a gwerthoedd AGIC.
Cyfleoedd datblygu
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Sgiliau ac ymddygiadau
Gweld y Darlun Mawr
- Bod yn ymwybodol o faterion a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg a all fod o fudd neu effeithio ar eich gwaith eich hun neu ar waith y tîm
Gwneud penderfyniadau effeithiol
- Nodi amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth perthnasol a chredadwy a chydnabod yr angen i gasglu data newydd pan fo angen o ffynonellau mewnol ac allanol
Cydweithredu a Phartneru
- Meithrin cydberthnasau gydag ystod o randdeiliaid i gefnogi'r gwaith o gyflawni canlyniadau busnes
Cyflawni'n Gyflym
- Monitro gwaith personol a gwaith y tîm yn rheolaidd yn unol â cherrig milltir neu dargedau, a gweithredu'n brydlon er mwyn cadw'r gwaith ar y trywydd cywir a chynnal perfformiad
Meini prawf penodol i'r swydd
- Profiad o gydlynu rhaglen o ddigwyddiadau, gan arwain y gwaith o sicrhau presenoldeb sefydliad mewn digwyddiadau a gwerthuso llwyddiant / effaith rhaglenni o'r fath.
- Y gallu i ddangos profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid mewnol ac allanol.
- Y gallu i ddangos dealltwriaeth o ddulliau ymgysylltu, gan gynnwys adnoddau digidol.
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Mae hon yn swydd llawn amser sydd hefyd ar agor i ymgeiswyr rhan-amser a rhannu swydd.
Bydd angen teithio'n achlysurol, gan gynnwys gyrru ledled Cymru
Bydd y swydd hon yn destun gwiriad datgeliad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.