Swydd Wag -- Uwch Reolwr Gwasanaethau TG

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
TG RPW
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
53,440
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
‘I’w gadarnhau’

Pwrpas y swydd

Mae'r proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) yn Llywodraeth Cymru yn cefnogi amrywiaeth o wasanaethau digidol yn y sefydliad cyfan. Fel rhan o'n proffesiwn DDaT, byddwch yn rhan allweddol o dîm TG RPW ac yn gwneud cyfraniad arwyddocaol ac uniongyrchol er lles pobl Cymru.

Cefndir

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru, ac mae ganddi gyllideb flynyddol o ryw £15 biliwn. Mae'n gyfrifol am agweddau pwysig ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a'r amgylchedd. Gwasanaethir Gweinidogion Cymru gan weithlu o ragor na 5,000 o bobl gyda swyddfeydd yng Nghymru, Llundain a thramor.

Mae Llywodraeth Cymru’n disgrifio’i blaenoriaethau yn Symud Cymru Ymlaen a’i nod yw adeiladu Cymru’n wlad hunan-hyderus, ffyniannus ac iach ac yn gymdeithas sy’n deg i bawb. Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ar flaenoriaethau clir i Gymru yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

Rydym yn chwilio am bobl sy'n gallu rhoi cyngor a chefnogaeth ragorol, yn gallu canolbwyntio adnoddau ac sydd ag egni ac arbenigedd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi cyd-destun i'n gwaith.

Mae’n hanfodol ein bod yn trawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus digidol er mwyn i ni allu darparu'r gwasanaethau y mae pobl Cymru yn eu disgwyl a'u hangen. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru'n darparu gwasanaethau digidol i bobl a busnesau ledled Cymru. O dan arweiniad ein Prif Swyddog Digidol, mae Llywodraeth Cymru yn darparu mwy a mwy o’i wasanaethau ar-lein. Mae'r Prif Swyddog Digidol yn darparu gwasanaeth cynghori data a digidol arbenigol i feysydd busnes ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.

Prif dasgau

  • Gweithio gyda thîm o reolwyr gwasanaethau, gan arfer gwerthoedd Llywodraeth Cymru (LlC) a Pharch yn y Gwaith.
  • Datblygu swyddogaeth Rheoli Gwasanaethau broffesiynol, yn seiliedig ar ITIL v4.
  • Arwain senarios rheoli problemau i'w casgliad rhesymegol, gan gefnogi blaenoriaethau busnes bob amser.
  • Optimeiddio perfformiad y gwasanaeth a gwerth am arian, deall costau gwasanaeth a dylanwadu arnynt yn ôl y gofyn.
  • Deall a chyfleu strategaethau, mapiau ffordd, argaeledd, capasiti y gwasanaethau, y risgiau a chynnal prosesau cyson i wella gwasanaethau.
  • Trafod â rheolwyr prosiectau i sicrhau bod allbwn DevOps yn troi’n wasanaethau gan ddefnyddio methodolegau ITIL v4 sefydledig.
  • Ceisio lleihau problemau a digwyddiadau.
  • Cefnogi a monitro targedau masnachol ar sail perfformiad cyflenwyr.
  • Sicrhau bod Cynlluniau Parhad Busnes yn eu lle ac yn gadarn.

Cyfleoedd datblygu

Mae RPWIT yn annog datblygiad proffesiynol a byddwn yn rhoi cyfle i chi ennill ardystiad a gydnabyddir gan y diwydiant trwy fod yn aelod o’n BCS corfforaethol ac i chi lunio llwybrau datblygu i chi’ch hun a’ch tîm.  Fe’ch anogir i sicrhau statws siartredig.

Dyddiad Cau

17/04/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Ymddygiadau’r Gwasanaeth Sifil

Rheoli Gwasanaeth Safonol – Gwneud cynlluniau clir, ymarferol a hawdd eu rheoli ar gyfer cyflawni gwasanaethau.

Newid a Gwella - Annog, nodi a rhannu syniadau arloesol gan ystod amrywiol o gydweithwyr a rhanddeiliaid.

Sgiliau DDaT

Gwella’r gwasanaeth yn barhaus - Dadansoddi prosesau cyfredol, nodi a gweithredu cyfleoedd i optimeiddio prosesau, ac arwain a datblygu tîm o arbenigwyr i wella gwasanaethau.

Ffocws ar y gwasanaeth - Byddwch chi'n gwybod sut i weld y darlun ehangach a byddwch yn gallu ymchwilio i sut i gael y gorau o wasanaethau sylfaenol.

Am ragor o wybodaeth am Ymddygiadau’r Gwasanaeth Sifil a beth sydd ei angen ar bob gradd, darllenwch Proffiliau Llwyddiant - Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil.

Am ragor o wybodaeth am y sgiliau DDAT sydd eu hangen ar y swydd, darllenwch am y  swydd Uwch Reolwr Gwasanaethau TG yn Fframwaith Galluoedd DDAT.


Job Specific Criteria

  1. Profiad y gellir ei brofi o gynnal methodolegau ITIL a darparu technoleg Rheoli Gwasanaethau TG.
  2. Profiad y gellir ei brofi o wella gwasanaethau’n gyson ac adrodd arnynt.
  3. Profiad o weithio mewn timau gwasanaeth amlddisgyblaeth sy’n rheoli matricsau, o weithio’n annibynnol ac o weithio gyda thimau eraill.

Proses Asesu

Mae 4 cam i’r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 – Llenwi’r ffurflen gais ar-lein a chyflwyno CV (dim mwy na 2 dudalen)

Lanlwythwch eich CV.

Pwysig: byddwn ond yn asesu’ch CV ar sail y meini prawf sy’n benodol i’r swydd fydd wedi’u rhestru ar yr hysbyseb.  Maen nhw i’w gweld yn adran Meini Prawf sy’n Benodol i’r Swydd yr hysbyseb.

Felly, RHAID i’ch CV ddangos yn glir eich bod yn gallu bodloni’r Meini Prawf sy’n Benodol i’r Swydd gydag enghreifftiau. Os na fyddwch yn rhoi enghreifftiau manwl, caiff eich cais ei wrthod yn ystod y sifft.

Gofalwch farcio adran yn glir ar eich CV sy’n disgrifio sut ydych yn bodloni’r Meinir Prawf sy’n Benodol i’r Swydd (tua 300 o eiriau ar gyfer pob maen prawf).

Cam 2 – Sifftio’r CV

Ar ôl y dyddiad cau, bydd CVs pob ymgeisydd yn cael eu hasesu.

Bydd ymgeiswyr fydd wedi dangos eu bod yn bodloni o leiaf y Meini Prawf sy’n Benodol i’r Swydd yn cael prawf sgiliau ar-lein.

Cam 3 – Prawf Sgiliau Ar-lein

Caiff prawf sgiliau ei drefnu ar gyfer 09/05/2023 a chewch 7 niwrnod calendr i’w wneud.

Bydd y prawf sgiliau’n ymdrin â’r pynciau hyn:

RHEOLI GWASANAETHAU ITIL (ITI 2011)

  • Rheoli’r Berthynas â Busnesau

RHEOLI GWASANAETHAU ITIL (ITIL V3)

  • Rheoli Capasiti ac Argaeledd
  • Rheoli Newid
  • Gwella Gwasanaethau’n Barhaus
  • Rheoli’r Galw
  • Rheoli Parhad Gwasanaethu TG
  • Rheoli Problemau a Digwyddiadau
  • Rheoli Gwybodaeth
  • Rheoli Rhyddhau a Chyflwyno
  • Rheoli Asedau a Ffurfweddiad Gwasanaethau
  • Rheoli’r Catalog Gwasanaethau
  • Rheoli Lefel y Gwasanaeth
  • Gweithredu’r Gwasanaeth

   

Os llwyddwch i basio’r prawf sgiliau ar-lein, byddwn yn gofyn ichi ddod i gyfweliad.

Cynhelir y cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 22/05/2023.

Cam 4 – Cyfweliad

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar yr Ymddygiadau/Sgiliau a’r Meini Prawf sy’n Benodol i’r Swydd a restrir yn yr hysbyseb hon.

Yn y cyfweliad, byddwn yn gofyn cwestiynau fydd yn rhoi cyfle i chi roi tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) o’r modd rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf sy’n Benodol i’ch Swydd a’r Ymddygiadau a’r Sgiliau sydd eu hangen ar y swydd.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Ble ca i weithio?

Ar gyfer llawer o rolau, rydym o blaid cynnig ffordd hybrid o weithio – ‘Gweithio Clyfar’ fel y’i gelwir. Mae’n golygu cyfuniad o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa.  Efallai y cewch gyfle i weithio gartref gan ddibynnu ar anghenion y busnes a'r ymrwymiadau i’ch tîm.  Byddwch yn trafod ac yn cytuno ar eich trefniadau gweithio gyda’ch rheolwr llinell pan fyddwch yn ymuno.

Byddwn ni'n ystyried ceisiadau gennych i weithio mewn lleoliad penodol oherwydd eich amgylchiadau personol fel cyfrifoldebau gofalu neu a oes nam neu gyflwr ar eich iechyd. Dywedwch ble yr hoffech weithio yn eich CV, yn y blwch 'Dewis lleoliadau'.

Drwy ymgeisio am y rôl hon, byddwch yn barod i weithio yn un o'r lleoliadau canlynol fel eich prif swyddfa:

  • Caerdydd, Bedwas, Merthyr Tudful, Abertawe, Aberystwyth, Llandudno, Caerfyrddin

Beth yw'r manteision?

Mae llawer o fanteision o weithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Yr ystod cyflog ar gyfer y radd hon yw £53,440 i £63,900.
  • Byddwch yn ennill £53,440 am y 12 mis cyntaf. Wedi hynny, cewch increment blynyddol tan ichi gyrraedd uchafswm y radd (cyn belled â’ch bod yn pasio’r cyfnod prawf)
  • O dan amgylchiadau eithriadol, gallech fod yn gymwys i ddechrau’n uwch i fyny’r raddfa.
  • Byddwch yn cael 31 diwrnod o wyliau yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint.
  • Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.
  • Byddwch hefyd yn cael bod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

 Manteision eraill

  • Gweithio Hyblyg – Rydym yn helpu staff sydd am reoli’r cydbwysedd rhwng eu bywyd a’u gwaith trwy weithio gartref (gan ddibynnu ar anghenion y busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl)
  • Patrymau Gweithio – Mae opsiynau gwahanol ar gael: Llawn Amser, Rhan Amser, Rhannu Swydd, Oriau Cywasgedig, Amser Tymor ac ati (gan ddibynnu ar anghenion y busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl)
  • Cynllun Ceir Gwyrdd – i chi gael prydlesu car allyriadau carbon isel iawn newydd sbon a thalu amdano drwy’ch cyflog
  • Cyllid Cymorth – Benthyciadau cyn talu cyflog ar gyfer amrywiaeth o bethau gan gynnwys: tocynnau teithio tymor, gofal llygaid, offer TG, Cycle2Work a mwy
  • Absenoldeb rhiant – 26 wythnos o gyfnod mamolaeth/mabwysiadu ar gyflog llawn a 15 diwrnod o gyfnod tadolaeth
  • Awr Les – Awr les bwrpasol bob wythnos i'w defnyddio yn ystod oriau swyddfa. Boed er mwyn mynd am dro yn y parc lleol, ioga, myfyrdod neu amser yn y gampfa. Amser i chi yw hwn
  • Tâl – Incrementau cystadleuol drwy’r bandiau cyflog
  • Hyfforddiant a Dyrchafiad – Cyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi'i deilwra i'ch rôl
  • Cynhwysiant ac Amrywiaeth – Rydym yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael bod nhw eu hunain, a does neb yn teimlo unrhyw wahaniaethu yn ei erbyn
  • Cysylltu â Staff – Mae gennym ystod eang o rwydweithiau bywiog a chroesawgar iawn, ar gyfer: Awtistiaeth, Gofalwyr, Merched Gyda'n Gilydd, PRISM (ein rhwydwaith LGBTQ+) a llawer mwy
  • Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol – Timau ymroddedig i roi cymorth a chefnogaeth i staff pan fydd eu hangen fwyaf
  • Iechyd Meddwl – Rhaglen Cymorth i Weithwyr a llinell gymorth bwrpasol i gefnogi staff i ofalu am eu hiechyd meddwl
  • Offer TG modern – Gliniaduron Office 365 i roi mwy o hyblygrwydd i chi o ran pryd, sut a ble i weithio
  • 3 Undeb – Mae gennym 3 undeb ar hyn o bryd
Antony Lantzos

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.