Swydd Wag -- Rheolwr Gwaith Achos

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Gweithrediadau
HEO - £32,460 - £39,690
£32,460
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cefnogi cyflawni Cynllun Strategol Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) a Nodau Llywodraeth Cymru drwy arwain y tîm(timau) Gwaith Achos i sicrhau darparu’r gwasanaeth apeliadau i fodloni targedau a bennwyd gan Weinidogion Cymru.

Prif dasgau

Cyflawni Gweithredol

  • Darparu goruchwyliaeth reoli dros swyddogaeth y Tîm Gwaith Achos i sicrhau ei fod yn gweithio’n effeithiol a chyfranogi’n weithredol yn Nhîm Rheoli PCAC i gyflawni Cynllun Strategol PCAC a swyddogaethau craidd sy’n berthnasol i’ch maes cyfrifoldeb.
  • Sicrhau bod gweithdrefnau ar waith ac yn cael eu rheoli i gyflawni prosesu gwaith achos effeithiol o fewn yr adnoddau sydd ar gael, a sicrhau bod perfformiad yn erbyn targedau (ansawdd, cost a chynhyrchiant) yn cael ei fonitro a’i sicrhau.
  • Darparu cyngor ac arweiniad ar waith achos i staff, apelyddion a rhanddeiliaid eraill, dehongli a chymhwyso polisi a deddfwriaeth gyfredol, gan gynnwys penderfynu dilysrwydd apeliadau, datrys problemau gweithdrefnol a cheisio cyngor cyfreithiol yn ôl y gofyn.
  • Sicrhau bod gwelliannau’n cael eu cyflawni ym mhrosesu gweithredol gwaith achos gan staff gweinyddol trwy ddefnyddio mesurau perfformiad priodol a dadansoddeg data i fonitro ac ysgogi gwella perfformiad.
  • Ymateb ar lafar neu’n ysgrifenedig i faterion a chwynion i sicrhau eu bod yn cael eu datrys yn effeithiol gan ddysgu gwersi er mwyn gwella prosesau’n barhaus.
  • Rheoli adnoddau a llwythi gwaith staff, gan sicrhau gweithio hyblyg ac effeithlon i fodloni safonau perfformiad gweithredol ac ansawdd a gytunwyd.
  • Rheoli eich gwaith eich hun yn rhagweithiol, a lle bo angen, sicrhau bod eich amser chi ac amser y tîm a dreulir ar waith achos yn cael ei gofnodi’n gywir at unrhyw ddibenion ailgodi tâl.
  • Mynychu cyfarfodydd yn lle’r Arweinydd Gweithrediadau lle bo’n angenrheidiol.
  • Monitro a sicrhau cydymffurfio â gweithdrefnau rheoleiddio, cyfraith achosion berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau PCAC a LlC (fel y bo’n briodol).
  • Sicrhau eich bod chi a’ch tîm yn rheoli’r holl “ddata personol” neu “wybodaeth bersonol” yr ydych, fel rhan o’r drefn arferol, yn eu derbyn, creu neu brosesu o fewn eich maes cyfrifoldeb er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth GDPR a gweithdrefnau adrannol.

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

  • Bod yn fodel rôl ar gyfer ymddygiadau Arweinyddiaeth y Gwasanaeth Sifil ac annog rhai eraill yn eich tîm i wneud yr un peth ar lefel sy’n briodol i’w gradd.
  • Rheoli perfformiad, presenoldeb ac ymddygiad yn weithredol yn eich tîm yn unol â pholisïau perthnasol PCAC a pholisïau ehangach LlC.
  • Cyflawni perfformiad cryf a rheoli newid o fewn eich maes cyfrifoldeb.
  • Dangos pwysigrwydd gwelliant parhaus.
  • Hyrwyddo cynhwysiant a lles ac annog safbwyntiau pawb.
  • Delio â gwrthdaro a materion o fewn y tîm yn gyflym ac yn sensitif.
  • Creu a meithrin amgylchedd tîm lle mae aelodau'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u datblygu i alluogi'r tîm i gyflawni eu potensial a chyfrannu'n llawn at lwyddiant y sefydliad.
  • Mae dawn ac uchelgais yn cael eu meithrin o fewn y tîm a staff yn cael eu grymuso i ddefnyddio’u sgiliau a’u gwybodaeth yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Perthnasoedd Cwsmeriaid/Rhanddeiliaid

  • Hyrwyddo darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid o fewn timau.
  • Sefydlu a chynnal perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
  • Darparu cyngor ar faterion gwaith achos ac ymatebion i Aelodau o’r Senedd/Aelodau Seneddol
  • Rhoi gwybodaeth gyson i staff am faterion dadleuol a chymhleth sydd â goblygiadau gweithredol

Cynllunio’r gweithlu

  • Caiff adnoddau eu rheoli a’u cydlynu i ddarparu gwasanaethu, caiff gwaith ei flaenoriaethu i sicrhau bod targedau statudol a thargedau eraill yn cael eu bodloni a chaiff blaenoriaethau corfforaethol eu cyflawni

Rheolaeth Ariannol

  • Sicrhau bod gwaith y gellir codi tâl amdano yn cael ei gofnodi o ran amser ar gyfer ailgodi tâl, fel y bo’n briodol

Cyfrifoldebau Corfforaethol

  • Bod yn fodel rôl ar gyfer Gwerthoedd Craidd Llywodraeth Cymru.
  • Gwneud penderfyniadau sydd er budd cyffredinol PCAC a chyflawni’r Cynllun Strategol yn llwyddiannus.
  • Cefnogi gweithgareddau newid trwy gyfranogi’n weithgar a chyfathrebu â thimau.
  • Adolygu a gwella polisïau a phrosesau i sicrhau effeithlonrwydd parhaus
  • Sicrhau a rheoli data personol a data sefydliadol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau.
  • Mae grwpiau corfforaethol a thimau prosiect yn cael eu cynorthwyo trwy gyfranogiad gweithgar a chyfathrebu â thimau.

Cyfleoedd datblygu

Bydd deiliad y swydd yn cael cymorth i ymgymryd â DPP a hyfforddiant sy’n cryfhau ei gyfraniad at y tîm. Bydd deiliad y swydd yn elwa o gael profiad o weithio mewn amgylchedd cyflawni gweithredol â ffocws, sy’n prosesu gwaith achos sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r Rhaglen Lywodraethu, h.y.

  • Adeiladu economi gryfach, wyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at ddatgarboneiddio
  • Gwreiddio ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi hyd yn oed yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt

Dyddiad Cau

18/04/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Dadansoddi a defnyddio ystod o wybodaeth berthnasol, gredadwy o ffynonellau mewnol ac allanol i gefnogi penderfyniadau.

Gweithio ar y Cyd

  • Sefydlu perthynas broffesiynol gydag ystod o randdeiliaid. Cydweithio â'r rhain i rannu gwybodaeth, adnoddau a chymorth.

Cyflawni’n Brydlon

  • Hyrwyddo diwylliant o ddilyn y gweithdrefnau priodol i sicrhau bod y canlyniadau'n cael eu cyflawni ar amser tra'n galluogi arloesi o hyd.

Rheoli Gwasanaeth Safonol

  • Cyflawni canlyniadau o safon uchel sy'n bodloni anghenion cwsmeriaid yn llwyddiannus ac yn rhoi gwerth am arian.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Hanfodol: Sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys y gallu i gyfathrebu’n glir a chryno gyda staff ar bob lefel a rhanddeiliaid allanol.
  2. Gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith i sicrhau cyflawni yn erbyn y fframwaith statudol ar gyfer gwaith achos amgylcheddol o fewn cyfrifoldeb PCAC.
  3. Hanfodol: Llythrennog o ran defnyddio cyfrifiaduron, gan gynnwys gwybodaeth ymarferol am feddalwedd Microsoft (Word, Excel, Teams) a’r gallu i ddysgu systemau eraill sy’n ofynnol yn y rôl.

Proses Asesu

Bydd y recriwto a’r dewis yn cynnwys 3 cham. Didoli ar sail CV, prawf yn seiliedig ar senario ysgrifenedig, a chyfweliad.

 

Cam 1

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fewngofnodi i’r system a chyflwyno CV nad yw’n fwy na dwy ochr A4 (bydd unrhyw beth mwy na hynny’n cael ei ddiystyru) sy’n nodi hanes gweithio, profiad, a chymwysterau, ac yn dangos sut maent yn bodloni’r meini prawf allweddol penodol i swydd ar gyfer y rôl. Mae’n rhaid i’r CV roi sylw penodol i’r 3 maen prawf penodol i swydd sy’n cael eu hasesu. Byddem yn annog ymgeiswyr i deilwra eu CV gan ystyried y 3 maen prawf penodol i swydd. Bydd ymgeiswyr yr ystyrir eu bod yn bodloni’r meini prawf sylfaenol yn cael eu gwahodd i’r camau nesaf.

Rhaid i ymgeiswyr hefyd gyflwyno datganiad personol sy'n mynd i'r afael yn benodol â'r 4 Cymwyseddau a nodwyd ar gyfer y rôl A'r 3 maen prawf penodol i swyddi. Ni ddylai'r dystiolaeth ar gyfer pob maen prawf cymhwysedd/swydd-benodol unigol fod yn fwy na 300 gair. Bydd geiriau ychwanegol yn cael eu diystyru. Uwch RHAID i chi ddarparu tystiolaeth yn erbyn pob un neu efallai na fyddwch yn llwyddiannus yn y cam sifftio.

 

Cam 2 a 3

Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddo yn y cam didoli yn cael eu gwahodd i gyfweliad, a gofynnir iddynt gwblhau asesiad ysgrifenedig byr cyn eu cyfweliad. Bydd manylion yr asesiad yn cael eu darparu mewn negeseuon e-bost yn gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad.

Bydd yr ymarferiad ysgrifenedig hwn yn cynnal prawf ar 1 elfen benodol i’r swydd ac 1 elfen cymhwysedd. Byddant yn cael eu marcio gan y panel fel rhan o farc y cyfweliad cyffredinol.

Yn y cyfweliad, bydd ymgeiswyr yn cael prawf ar y 2 faen prawf penodol i swydd sy’n weddill, a’r 3 maen prawf cymhwysedd sy’n weddill. Wedyn, bydd y panel yn sgorio’r holl feini prawf a’r cymwyseddau penodol i swydd mewn cyfweliad a thrwy asesiad ysgrifenedig. Mae’n rhaid cyflawni sgôr lleiaf o 3 allan o 5 yn yr holl feini prawf er mwyn llwyddo yn y cyfweliad.

Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddo yn y cam didoli a’r cyfweliad yn cael eu rhestru wedyn yn ôl trefn teilyngdod yn seiliedig ar eu sgorau cyfweliad ac asesiad ysgrifenedig.

Yr ymgeisydd â’r sgôr uchaf fydd yn cael cynnig y swydd.

Lle mae’r un cyfanswm sgôr gan fwy nag un ymgeisydd, bydd eu gallu o ran y meini prawf hanfodol canlynol yn cael eu defnyddio i benderfynu’r drefn teilyngdod:

  • Gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith i sicrhau cyflawni yn erbyn y fframwaith statudol ar gyfer gwaith achos amgylcheddol o fewn cyfrifoldeb PCAC.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Gall ymgeiswyr fod yn gweithio mewn unrhyw ardal o Gymru, ond oherwydd natur y gwaith, bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus ddod i swyddfa Parc Cathays, Caerdydd o leiaf 1 waith yr wythnos i ddarparu hyfforddiant wyneb yn wyneb a chymorth i'r Tîm Gwaith Achos sy’n gweithio yno.
Isabel Nethell - pedw.cpi@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.