Swydd Wag -- Archwilydd

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Tîm Archwilio Cronfeydd Ewropeaidd
HEO - £32,460 - £39,690
£31,210. Mae lwfans yn daladwy ar gyfer cymwysterau archwilio/cyfrifyddu proffesiynol perthnasol a ddelir (IIA/CCAB)
Amser llawn (dydy hyn ddim yn addas i bobl sydd am weithio'n rhan-amser neu rannu'r swydd).
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
i'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni rhaglen archwiliadau Awdurdod Archwilio Cymru, a gynhelir ar ran y Comisiwn Ewropeaidd. Gan adrodd i Uwch Archwilydd, bydd deiliad y swydd yn cynnal adolygiadau archwilio ac archwiliadau rheolaeth ariannol gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni o fewn amserlenni caeth ac yn unol â'r Safonau Archwilio Rhyngwladol. 

Mae'r adolygiadau hyn yn cynnwys:

  • Prosiectau a ariennir o Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESI) 2014-2020 (a roddwyd drwy law Llywodraeth Cymru a Chyrff eraill y Llywodraeth);
  • Prosiectau a ariennir o Raglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon-Cymru (cronfeydd Interreg IVA yr UE);
  • Y rheolaethau o fewn Llywodraeth Cymru yn ei rôl fel Asiantaeth Dalu o dan y rheoliadau Amaethyddiaeth Ewrop perthnasol;
  • Systemau rheoli Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a'i Chyrff Cyfryngol dynodedig;
  • Archwiliadau mewnol o adrannau Llywodraeth Cymru a chyrff eraill.

Mae methu â chyrraedd safonau a chyflawni amcanion yn unol ag amserlenni caeth yn rhoi Cronfeydd Ewropeaidd i Gymru mewn perygl.

Prif dasgau

  • Cynllunio, gweithredu a chyflwyno portffolio o archwiliadau ar draws ystod o brosiectau a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd (rhai'n cael eu rhedeg gan Lywodraeth Cymru ond y rhan fwyaf yn cael eu rhedeg gan sefydliadau allanol) o fewn terfynau amser y cytunwyd arnynt ac i'r safon ansawdd ofynnol.
  • Prosesau caffael archwilio, cydymffurfiaeth cymorth gwladwriaethol, cymhwysedd costau prosiectau a thrafodion cyflogres/ariannol.
  • Dod i gasgliadau ar ganfyddiadau eich gwaith archwilio a bwydo’r canlyniadau yn ôl i’r rhai a gafodd eu harchwilio – gan gynnwys canlyniadau archwilio ac argymhellion i fynd i'r afael â'r camau unioni sydd eu hangen.
  • Llunio ffeil dystiolaeth archwilio glir a llawn i gefnogi'r gwaith a'r casgliadau a wnaed.
  • Drafftio'r adroddiadau archwilio ar gyfer adolygiad yr Uwch Archwilydd (cyn eu cyhoeddi i'r prosiect archwiliedig).
  • Cyfrannu at ddatblygu papurau gwaith archwilio a gwella prosesau busnes yn barhaus.
  • Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Reoliadau a gofynion cyfredol y Comisiwn Ewropeaidd.
  • Ymgymryd â gwaith archwilio mewnol - gwerthuso systemau a rheolaethau, asesu risgiau, ac argymell gwelliannau.

Bydd gofynion archwilio cyllid Ewropeaidd yng Nghymru yn dod i ben yn 2025. O ganlyniad, bydd y gwaith wedyn yn canolbwyntio ar waith archwilio mewnol trefniadau domestig a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru a chyrff eraill.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd yn rhoi cyfle i’r deiliad weithio mewn maes proffil uchel a chyfrannu at rôl allweddol yn y gwaith o gyflawni rhaglenni Cronfa Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd Cymru (ESI) yn effeithiol hyd at 2025.  Bydd yn cael profiad ehangach o brosiectau a ariennir gan ESI ar draws sbectrwm eang o feysydd a chyfle i feithrin dealltwriaeth o reolaeth ariannol prosiectau o'r fath yn ogystal â phrofiad archwilio o fewn cyfundrefn reoleiddio gymhleth. 

Bydd cyfleoedd hefyd i weithio gydag Awdurdodau Archwilio eraill o bob rhan o'r DU ac Iwerddon a chynrychioli Awdurdod Archwilio Cymru yng nghyfarfodydd a digwyddiadau'r UE.

Bydd deiliad y swydd yn cael y cyfle i drefnu, rheoli a chyflawni ei gynllun gwaith penodedig o fewn y terfynau amser gofynnol.

Ar ôl 2025, bydd yr ymgeisydd yn cael profiadau ehangach o swyddogaethau Llywodraeth Cymru fel rhan o'r rôl archwilio mewnol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cymorth ariannol gyda chostau hyfforddi sy'n berthnasol i'r rôl. Bydd ffioedd aelodaeth proffesiynol blynyddol (IIA / CCAB) sy'n berthnasol i'r swydd hefyd yn cael eu had-dalu.

Dyddiad Cau

22/08/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Ymddygiadau:

Arwain

  • Rheoli achosion o wrthdaro, camymddwyn ac ymddygiad anghynhwysol yn effeithiol, gan godi’r materion gydag uwch reolwyr lle bo hynny'n briodol.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Dadansoddi a defnyddio ystod o wybodaeth berthnasol a chredadwy o ffynonellau mewnol ac allanol i gefnogi penderfyniadau.

Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy'n ennyn diddordeb, gan ddewis arddulliau priodol er mwyn sicrhau cymaint o ddealltwriaeth ac effaith â phosibl.

Cyflawni’n Brydlon

  • Gweithredu'n brydlon i ailasesu llwythi gwaith a blaenoriaethau pan fo galwadau croes i gynnal perfformiad.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Archwilydd/cyfrifydd cymwysedig; NEU, yn rhannol gymwysedig gydag ymrwymiad i gwblhau eu hyfforddiant (IIA / CCAB) NEU, hyfforddai (gyda phrofiad archwilio perthnasol) sy'n barod i ymgymryd â chymhwyster proffesiynol a'i gwblhau (IIA / CCAB). Rhaid i bob ymgeisydd fod wedi ymrwymo i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).
  2. Gallu dangos gwybodaeth resymol am archwilio systemau, techneg asesu risg a chysyniadau \ arferion archwilio mewnol.
  3. Y gallu i ddangos profiad cadarn o archwilio ariannol a/neu wybodaeth am fecanweithiau Ariannu Ewropeaidd (mae'r maen prawf penodol hwn yn ddymunol).

Proses Asesu

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr fodloni meini prawf 1 a 2 sy'n benodol i'r swydd er mwyn symud ymlaen i gam nesaf y broses sifftio.

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn ystod y cam sifftio yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Bydd y cyfweliad yn cynnwys cwestiynau sy'n seiliedig ar fframwaith Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil a'r meini prawf sy'n benodol i'r swydd.

Dolen i'r fframwaith: Proffiliau Llwyddiant - Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil (publishing.service.gov.uk)

Bydd cyflwyniad 10 munud hefyd. Bydd manylion y pwnc cyflwyno yn cael eu rhannu gydag ymgeiswyr cyn y cyfweliad.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau. Efallai y bydd ymgeiswyr yn gweld y dull STAR yn ddefnyddiol wrth ddangos tystiolaeth o'r ymddygiadau.

Dolen i'r Canllawiau Recriwtio ar gyfer Ymgeiswyr Allanol


Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Bydd angen mynychu swyddfeydd Merthyr neu CP2 yn achlysurol ar gyfer cyfarfodydd yr Is-adran a'r Gangen e.e. byddai hyn yn digwydd bob chwarter ar hyn o bryd.

Efallai y bydd yn ofynnol hefyd i ddeiliad y swydd deithio i safleoedd busnes eraill sy'n destun y gwaith archwilio ac efallai y bydd angen aros dros nos mewn rhai achosion, yn dibynnu ar y lleoliad. 

Bydd ceisiadau rhan-amser o leiaf 30 awr yr wythnos hefyd yn cael eu hystyried.

auditassuranceandcounterfraud@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.