Swydd Wag -- Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Tir

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Uwch Wasanaeth Sifil 1
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan

Dyddiad Cau

18/11/19 23:55

Pwrpas y Swydd

Mae swydd Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Tir yn swydd newydd, gref, allblyg ac uchel ei phroffil sy'n gofyn am arbenigedd a rhagoriaeth broffesiynol i roi cyngor i Weinidogion ar bortffolio asedau tir ac adeiladau sector cyhoeddus Cymru. Bydd yn rhoi'r cyfeiriad, trosolwg a'r arweiniad strategol priodol i sicrhau bod yr asedau a ddelir yn enw Gweinidogion Cymru yn cael eu rheoli'n effeithiol ac effeithlon gan wneud gwahaniaeth i'r ffordd y mae eiddo'n cael ei reoli ar ran pobl Cymru.

Bydd Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Tir yn arwain yr agenda ar gyfer Rheoli Asedau Strategol a newid y ffordd i bwrir ymlaen â'r egwyddor o ddefnyddio 'tir sector cyhoeddus er manteision polisïau cyhoeddus' ledled Cymru Y Dirprwy Gyfarwyddwr fydd yn arwain y gwaith o wireddu'r uchelgais i gyflymu a chynyddu'r gwaith sy'n cael ei wneud o dan faner 'Ystadau Cymru' (y Gweithgor Asedau Cenedlaethol gynt); gweithio gyda chyrff y sector cyhoeddus i reoli ystâd gyhoeddus Cymru'n well a gwneud y defnydd gorau ohoni. Gwerth bras ystâd sector cyhoeddus Cymru yw £12bn ac mae'n cael ei chydnabod bellach fel adnodd allweddol ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi twf economaidd, iechyd a lles yn ogystal â chwarae rôl bwysig o ran diogelu'r amgylchedd. 

Bydd y Dirprwy Gyfarwyddwr yn arwain Is-adran sydd â'r dasg o gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran bwrw ymlaen ar fyrder ag egwyddor defnyddio tir sector cyhoeddus er manteision polisïau cyhoeddus ac yn arbennig helpu i gynyddu nifer y tai fforddiadwy sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru.

Yn ogystal ag ysgwyddo rôl bwysig o ran y sector cyhoeddus ehangach, bydd y Dirprwy Gyfarwyddwr yn arwain hefyd Strategaeth Rheoli Asedau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer tir ac adeiladau a rhoi'r cyfeiriad, trosolwg ac arweiniad strategol priodol i sicrhau bod yr asedau a ddelir yn enw Gweinidogion Cymru yn cael eu rheoli'n effeithiol ac effeithlon.

Bydd y Dirprwy Gyfarwyddwr yn gweithio'n glos â rhanddeiliaid mewnol yn holl adrannau eraill Llywodraeth Cymru ac yn allanol ledled y DU i godi ymwybyddiaeth o gyfraniad tir ac adeiladau'r sector cyhoeddus at gyflawni agendâu polisi. 

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

Bydd angen i chi dangos profiad yn y farchnad eiddo a bydd gennych gymhwyster RICS neu ei gyfatebol; amgaewch gofnod CPD ar gyfer y tair blynedd lawn ddiwethaf (2016, 2017 a 2018)

Bydd yr ymgeiswyr sy'n cael eu rhoi ar y rhestr fer yn cael profion seicometrig ar-lein a fydd yn cynnwys rhesymeg rifyddol a geiriol a thrafodaeth gyda seicolegydd. Byddwch yn cael dolen at y profion ar-lein ymhen 10 diwrnod i'r cyfarfod llunio rhestr fer. 

Pwysig: os ydych yn Was Sifil ac yn gwneud cais llorweddol am y swydd hon, ni fydd angen ichi gael prawf seicometrig ar-lein.

Gofynnir i ymgeiswyr ar y rhestr fer gymryd rhan mewn ymarfer ymgysylltu â staff (canol mis Tachwedd) Cewch ragor o fanylion maes o law.

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar Dydd Mawrth 14 Ionawr 2020. Fe'u cynhelir yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Bydd cyfweliadau'n para tua 45 munud.  

Bydd y panel yn cael adborth ar ôl ichi gwblhau'ch profion seicometrig cyn ichi gael cyfweliad. Bydd eich cyfweliad yn gyfweliad ar sail cymwyseddau a bydd yn ystyried sut mae'ch sgiliau a'ch profiad fel y'u hamlinellir yn eich CV a'ch datganiad personol, yn bodloni gofynion y swydd hon. 

Ionawr 14 2020
Peter Kennedy - Peter.Kennedy@llyw.cymru / 03000 251659

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.