Pan fyddaf yn ceisio cofrestru mae'n nodi bod gennyf gyfrif yn barod
NId yw'n bosib creu dau gyfrif gyda'r un cyfeiriad e-bost.
Os ydych yn ceisio cofrestru gyda chyfeiriad e-bost sydd eisioes wedi'i gofrestru, byddwch yn derbyn y neges ganlynol:
"Mae cyfrif sydd eisoes wedi cofrestru â'r cyfeiriad e-bost rydych wedi'i ddefnyddio. Defnyddiwch y ddolen 'Ail-osod Cyfrinair' ar ochr chwith y dudalen hafan i ail-osod eich cyfrinair."
Dylech ddefnyddio yr un cyfeiriad e-bost ar gyfer pob cais fel eich bod yn gallu eu cysylltu â'i gilydd.
Sut i Edrych a oes Gennych Gyfrif yn Barod
Os nad ydych yn siŵr a oes gennych gyfrif neu eich bod yn cael problemau i gofrestru eich cyfrif e-bost, efallai eich bod wedi mewngofnodi â ni eisoes. Defnyddiwch y ddolen cofio cyfrinair er mwyn i'ch cyfrinair gael ei anfon atoch.
Neu mae'n bosib y cewch y neges hon bob tro y byddwch yn ceisio cofrestru:
Rydym wedi sylwi bod gennych enw defnyddiwr a chyfrinair sy'n mynd â'i gilydd yn barod.
Mae'r Ffurflen Gais hon yn caniatáu i chi fewnforio unrhyw wybodaeth sy'n cael ei holi'n aml, fel manylion personol ac addysgol i'r ffurflen gais heb ichi orfod eu hail-deipio.
Os ydych chi wedi anghofio eich manylion mewngofnodi, cliciwch y ddolen 'Cofio Cyfrinair' ar y chwith a byddwn yn eu hanfon atoch mewn E-bost.'
Os ydych, am ba reswm bynnag, wedi cofrestru ar gyfer nifer o gyfrifon gan ddefnyddio yr un e-bost a chyfeiriad, nid yw'n golygu y bydd eich enw defnyddiwr yr un fath am bob cyfrif.
Os mai eich enw defnyddiwr ar gyfer eich cyfrif cyntaf yw:
5ian@derbusbahnof.com
Yna mae'n bosib mai eich enw defnyddiwr ar gyfer eich ail gyfrif yw:
5ian@derbusbahnhof.com1
Os oes gennych nifer o gyfrifon, cofiwch ddefnyddio'r un cyfrif ar gyfer pob cais. Os oes gennych nifer o gyfrifon, cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio'r un cyfrif ar gyfer pob cais. Os ydych wedi dechrau ar ffurflen gais gan ddefnyddio un cyfrif, ni fydd yn bosib i chi fynd yn ôl i'r un ffurflen gais drwy ddefnyddio cyfrif gwahanol. Yn yr un ffordd, ni fydd manylion mewngofnodi cyfrif 2 yn caniatáu i chi fewngofnodi i ffurflen gais y gwnaethoch ei decrhau drwy ddefnyddio cyfrif 1.