Swydd Wag -- Lleoliad Is-raddedig Ymwchwil Cymdeithasol x 2

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£20,000
Amser llawn (dydy hyn ddim yn addas i bobl sydd am weithio'n rhan-amser neu rannu'r swydd).
Tymor penodol
50 wythnos (agored i fyfyrwyr israddedig rhwng 2ail a 3ydd blwyddyn o'u hastudiaethau)
Caerdydd
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Llywodraeth Cymru yw lywodraeth ddatganoledig Cymru. Mae'r Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth yn rhan greiddiol o weithrediad ddadansoddol y lywodraeth. Mae'r is-adran yn cynnwys tua 40 o ymchwilwyr cymdeithasol sy'n gweithio'n agos gyda dadansoddwyr polisi a rhai eraill (e.e. ystadegwyr, economegwyr) i ddarparu cyngor a thystiolaeth ddadansoddol i gefnogi penderfyniadau polisi allweddol mewn meysydd datganoledig fel addysg, iechyd a'r amgylchedd. Mae dadansoddwyr yn chwarae rhan allweddol o ran darparu tystiolaeth o ansawdd uchel i gefnogi'r broses o lunio polisi a Llywodraeth Cymru yn fwy eang.  

 

Mae'r swyddi hyn ar agor i israddedigion a bydd ar flwyddyn leoliad rhwng yr ail a’r trydedd flwyddyn eu hastudiaethau. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus eu lleoli yn yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth, yn weithio'n agos gydag ymchwilwyr cymdeithasol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno gwahanol fathau o brosiectau ymchwil. Bydd cyfrifoldebau'r ymgeiswyr llwyddiannus yn amrywio yn dibynnu ar y tîm; a bydd yr union swyddi yn dibynnu ar ddiddordebau, sgiliau a phrofiadau'r ymgeiswyr llwyddiannus. Mae dwy swydd ar gael, pob un wedi'i lleoli mewn timau gwahanol o fewn yr is-adran. Ein nod yw llenwi swyddi yn y timau canlynol:

 

Swydd Un: yn y Tîm Ymchwil Gorfforaethol


Bydd y rôl hon yn cynnwys ymchwil a dadansoddi gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a ffynonellau data i helpu i lywio gwelliannau i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio. Bydd hyn yn cynnwys dylunio, cynnal ac adrodd ar brosiectau ymchwil sylfaenol (er enghraifft, arolygon) gyda staff Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yn ogystal â dadansoddi data sefydliadol arall (megis data gweinyddol). Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cynnal adolygiadau o dystiolaeth a datblygu canllawiau arfer gorau ymchwil gymdeithasol ar gyfer y tîm. Bydd cyfle hefyd i gynorthwyo gyda chyfrifoldebau corfforaethol megis cynhyrchu bwletinau ar gyfer yr is-adran ymchwil gymdeithasol.


Swydd Dau: yn y Tîm Ymchwil Dyfodol Cynaliadwy


Bydd y rôl hon yn golygu cydweithio'n agos ag ymchwilwyr ar ystod eang o feysydd pwnc, gan gynnwys tai, yr amgylchedd, materion gwledig a diwylliant. Bydd y rôl yn cynnwys cynorthwyo gyda'r gwaith o gynllunio, cyflwyno, dadansoddi ac adrodd ar ymchwil cynradd ac eilaidd. Mae tasgau tebygol yn cynnwys cynnal adolygiadau o dystiolaeth, datblygu a gweinyddu arolygon ar-lein ar raddfa fach, a chynorthwyo gydag ymchwil ansoddol. Bydd cyfle hefyd i gynorthwyo gyda chyfrifoldebau corfforaethol, megis darparu cymorth gweinyddol i Bwyllgor Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru.

 

Prif dasgau

 Bydd tasgau allweddol yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dibynnu ar ba dîm y cânt eu lleoli, ond bydd yn cynnwys cyfuniad o'r canlynol:

  •  Cynorthwyo gyda rheoli a sicrhau ansawdd ymchwil
  • Helpu gyda prosiectau ymchwil sy’n defnyddio dulliau ansoddol (e.e. chyfweliadau mewn-dyfnder, grwpiau ffocws) a dulliau meintiol (e.e. cynnal arolygon, dadansoddiad ystadegol, a chasglu gwybodaeth adrodd a monitro)
  • Dylunio, dadansoddi a synthesis ymchwil
  • Cynnal chwiliadau ac adolygiadau llenyddiaeth
  • Gweithio gyda dadansoddwyr ar draws Lywodraeth Cymru
  • Darparu cymorth gweinyddol mewn ymarferion casglu data
  • Paratoi adroddiadau i'w cyhoeddi ar dudalennau gwe ymchwil cymdeithasol Llywodraeth Cymru neu i'w defnyddio yn fewnol
  • Rheoli prosiect
  • Cyflawni tasgau gweinyddol, megis trefnu cyfarfodydd, seminarau a digwyddiadau, cymryd a chadw cofnodion

 

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swyddi hyn yn cynnig cyfleoedd datblygu ardderchog, gan gynnwys:

  •  Dysgu sut mae ymchwil gymdeithasol yn cael ei chomisiynu, ei chyflawni, a'i defnyddio o fewn llywodraeth a’u cyrff a ariennir (e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru)   Datblygu dealltwriaeth o sut mae tystiolaeth yn gallu llywio a gwella polisi a dulliau gweithio o fewn y sefydliad
  • Datblygu sgiliau allweddol (megis sgiliau cyfathrebu, meddwl yn feirniadol, a gweithio fel rhan o dîm, yn aml o fewn amserlen gaeth)
  • Cyfleoedd i ddatblygu dealltwriaeth a chael profiad ymarferol o amrywiaeth o dechnegau ymchwil (megis cynllunio arolygon, cynnal cyfweliadau, dadansoddi a chyflwyno canfyddiadau, ysgrifennu adroddiadau ac egluro casgliadau ymchwil i gynulleidfa sydd ddim yn arbenigo yn y maes)
  • Datblygu sgiliau rheoli prosiectau
  • Mynychu cyrsiau, cynadleddau a seminarau perthnasol (gan gynnwys cyrsiau dadansoddi meintiol ac ansoddol)
  • Cysgodi ymchwilwyr, dadansoddwyr, a swyddogion polisi o adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru yn ystod y lleoliad. Hefyd mae'n bosibl y bydd cyfle i weithio’n cydweithredol â swyddogion o gyrff a’u hariannir gan y lywodraeth.

 

Dyddiad Cau

26/11/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Newid a Gwella - Adolygu arferion gweithio a meddwl am syniadau i wella'r ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Ymgymryd â dadansoddiad priodol i gefnogi penderfyniadau neu argymhellion

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Cyfrannu'n rhagweithiol i waith y tîm cyfan

 

Cyflawni’n Brydlon - Gweithio mewn modd trefnus, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u harbenigedd i gyflawni’n brydlon a safonol

Meini prawf penodol i'r swydd

Ymwybyddiaeth eang o sut y gellid defnyddio ymchwil gymdeithasol i lywio penderfyniadau yn y llywodraeth.
Cynefindra sylfaenol gydag un neu fwy o'r pecynnau cyfrifiadurol canlynol: Microsoft Excel; Statistical Package for Social Sciences (SPSS) (neu raglen feddalwedd debyg arall ar gyfer dadansoddi meintiol); NVivo neu MaxQDA (neu raglen feddalwedd debyg arall ar gyfer dadansoddi ansoddol).
Profiad o gymhwyso a / neu gyfathrebu ymchwil (megis ysgrifennu adroddiadau, llunio holiaduron, cynnal cyfweliadau, dadansoddiadau ystadegol).

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Charlie Heywood-Heath - charlie.heywoodheath@llyw.cymru - 03000 250383

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.