Swydd Wag -- Prif Swyddog Digidol
Egwyddorion Recriwtio
Manylion y Swydd
Dyddiad Cau
Pwrpas y Swydd
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").
Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.
Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Proses Asesu
Bydd yr holl geisiadau ar gyfer y swydd wag hon yn ddienw yn y cam sifftio. Bydd y panel yn ystyried eich datganiad personol a'ch CV, ond dylai'r dogfennau hyn fod yn ddienw pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.
Bydd yr ymgeiswyr sy'n cael eu rhoi ar y rhestr fer yn cael profion seicometrig ar-lein a fydd yn cynnwys rhesymeg rifyddol a geiriol a thrafodaeth gyda seicolegydd. Byddwch yn cael dolen at y profion ar-lein ymhen 10 diwrnod i'r cyfarfod llunio rhestr fer. Cynhelir y cyfarfod llunio rhestr fer ar 27 Mawrth 2020.
Os ydych chi wedi cwblhau'r profion seicometrig ar-lein yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, ar gyfer swydd ar yr un radd, ni fydd angen ichi gwblhau'r profion hyn eto ar gyfer yr ymarfer recriwtio penodol hwn.
Ymarfer Ymgysylltu â Staff
Gofynnir i ymgeiswyr ar y rhestr fer gymryd rhan mewn ymarfer ymgysylltu â
staff ar 20 Ebrill 2020. Manylion i ddilyn.
Briffiadau
Gall yr ymgeiswyr ddisgwyl mynychu cyfarfod un i un gyda Gweinidog Cabinet ar 23 Ebrill.
Bydd y gweithgareddau uchod yn rhan o'r asesiad cyffredinol sydd ei angen ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwn, yn ogystal â'r cyfweliad â'r panel dethol.
Cyfweliadau
Bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal ar 29 Ebrill 2020. Fe'u cynhelir yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Bydd y cyfweliadau yn para rhyw 45 munud.
Bydd y panel yn cael adborth ar ôl ichi gwblhau'ch profion seicometrig cyn ichi gael cyfweliad. Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar gymwyseddau a bydd yn ystyried sut y mae eich sgiliau a'ch profiad, fel yr amlinellwyd yn eich CV a'ch datganiad personol, yn diwallu gofynion y swydd hon.
Os bydd gofyn i'r ymgeiswyr baratoi cyflwyniad ar gyfer eu cyfweliad, byddant fel arfer yn cael o leiaf wythnos o rybudd o'r testun. Nodwch, dylid gwneud cyflwyniadau hyn heb rannu taflenni a heb ddyfeisiau electronig, ond mae croeso ichi ddefnyddio cardiau atgoffa.
Y panel dethol fydd:
- Margaret Edwards, Comisiynydd y Gwasanaeth Sifil (Cadeirydd)
- Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru
- Peter Kennedy, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Corfforaethol, Llywodraeth Cymru
- Caren Fullerton, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Sut i ymgeisio
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu'n Saesneg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rheini a wneir yn Saesneg.
Dylid cyflwyno ceisiadau drwy system ar-lein Llywodraeth Cymru a hynny ddim hwyrach na 4 Mawrth 2020. I wneud cais, gofynnir ichi gofrestru i gael cyfrif ar y system ymgeisio ar-lein gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost. Rydym yn argymell eich bod yn dewis cyfeiriad cyfrif e-bost nad oes gan neb arall fynediad ato, gan mai dyma fydd ein prif ddull o gyfathrebu gyda chi ynglŷn â’r broses ddethol.
Os oes gennych amhariad sy’n golygu na allwch wneud cais ar-lein, anfonwch neges e-bost at: SCSrecruitment@llyw.cymrui ofyn am fformat arall, neu i ofyn am addasiad rhesymol sy’n gysylltiedig ag amhariad, er mwyn cyflwyno'ch cais.
Gwybodaeth arall am y swydd
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.