Swydd Wag -- Cyfreithiwr y Llywodraeth - Cyfraith Gyhoeddus

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Gwasanaethau Cyfreithiol
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£50,870 gyda dros dair blynedd o brofiad ac yn codi’n raddol dros dair blynedd i £60,830. Yn dechrau ar £30,600 os oes gennych lai na thair blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru yng nghanol cyfnod o newid a heriau na welwyd eu tebyg erioed o’r blaen ac mae angen ymgymryd â gwaith hollbwysig mewn cysylltiad â chyfnod threfniadau pontio’r UE, yr ymateb i bandemig COVID-19 a’r gwaith adfer cysylltiedig, ymhlith pethau eraill. Mae'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol o fewn Llywodraeth Cymru yn chwilio am nifer o gyfreithwyr hynod ddawnus i gryfhau ei gallu i weithredu mewn cyfnod hanfodol bwysig yn hanes Cymru a'r DU.

Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yw’r fwyaf o’i math yng Nghymru, gyda mwy na 100 o gyfreithwyr a staff cymorth yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd. Mae'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yn gyfrifol am ddarparu’r holl wasanaethau cyfreithiol i Lywodraeth Cymru. Mae'r gwaith hwn yn gosod cyfreithwyr y llywodraeth wrth wraidd llywodraeth ddatganoledig. Maent yn rhoi cyngor ar faterion cymhleth sy’n ymwneud â chyfraith gyhoeddus, ar brosiectau o arwyddocâd cenedlaethol, ar ddatblygiadau cyfansoddiadol mawr ac yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â threfniadau pontio'r UE, ac maent yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu deddfwriaeth Cymru.

Hysbysebir y swyddi o fewn meysydd pwnc sy’n ymwneud â chyfraith weinyddol gyhoeddus.

Os yw gweithio ar flaen y gad ym maes y gyfraith yn apelio atoch, byddai Llywodraeth Cymru yn falch o glywed gennych. Gallech fod newydd gymhwyso, yn gyfreithiwr profiadol sydd am ddefnyddio eich sgiliau mewn cyd-destun newydd a gwahanol, neu'n rhywun sy’n cael eich denu gan amgylchedd sy'n cynnig ac yn croesawu trefniadau gweithio hyblyg. Croesewir ceisiadau gan unigolion nad ydynt wedi cymhwyso eto hefyd, ond bydd eu penodiad yn amodol ar ennill cymhwyster cyn y dyddiad cychwyn. Byddai ceisiadau gan bobl sydd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â thîm cyfreithiol Llywodraeth Cymru o’r blaen yn cael eu croesawu hefyd.

Prif dasgau

Yn benodol, mae'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol am benodi cyfreithwyr a all ddarparu adnodd  ychwanegol ac arbenigedd mewn cyfraith gyhoeddus

Byddwch yn darparu cyngor cyfreithiol mewn amgylchedd cyfraith gyhoeddus, lle mae’r gwaith yn digwydd yn gyflym a'r materion o dan sylw yn aml yn uchel eu proffil ac yn arwyddocaol o ran sut mae cyfansoddiad y DU yn datblygu. Byddwch yn gweithio mewn tîm, gan ennill profiad o gydweithio â chyfreithwyr, cleientiaid polisi a Gweinidogion Cymru i lywio polisi yng Nghymru.

I gael rhagor o fanylion ynghylch y swyddi hyn, darllenwch y pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr https://llyw.cymru/sites/default/files/inline-documents/2020-11/legal-services-information-pack-cy.pdf

Cyfleoedd datblygu

Fel un o gyfreithwyr y llywodraeth byddwch yn rhan o'r Gwasanaeth Sifil ac o Broffesiwn Cyfreithiol y Llywodraeth. Bydd eich profiad yn rhoi dealltwriaeth unigryw ichi o’r setliad datganoli yng Nghymru. Mae’n cynnig cyfle unigryw i gyfreithwyr weithio mewn amgylchedd deinamig sy'n eu rhoi yng nghanol llywodraeth ddatganoledig a phrosiectau o bwys cenedlaethol, ac yn y rheng flaen o ran datblygiadau cyfansoddiadol pwysig, gan gynnwys yr heriau mawr sy'n codi o ganlyniad i gyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd, a'r broses o lunio polisi a chyfreithiau.

Dyddiad Cau

11/01/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau;

Gosod Cyfeiriad – Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Dehongli beth yw’r prif faterion mewn problemau cymhleth, a chadarnhau dealltwriaeth neu ddisgwyliadau rhanddeiliaid, er mwyn chwilio am yr opsiwn gorau.

Ymgysylltu â Phobl – Arwain a Chyfathrebu

  • Arwain drwy esiampl, gan gyfathrebu mewn modd gonest a chlir a chan ddangos moeseg, uniondeb a didueddrwydd a hyrwyddo amgylchedd gweithio sy’n cefnogi gwerthoedd a chod y Gwasanaeth Sifil.

Ymgysylltu â Phobl – Cydweithio a Phartneriaeth

  • Chwilio am ganlyniadau adeiladol i drafodaethau, gan herio rhagdybiaethau ond bod yn barod i gyfaddawdu pan fydd hynny‘n helpu i symud pethau yn eu blaenau.

Gwireddu Canlyniadau – Cyflawni'n Brydlon

  • Cynnal perfformiad effeithiol mewn amgylchiadau anodd a heriol, ac annog eraill i wneud yr un fath.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd;

  1. Dealltwriaeth o gyfraith Gyfansoddiadol neu Weinyddol (e.e. y seiliau cyfreithiol dros herio penderfyniadau awdurdodau cyhoeddus), sy'n ddigonol i nodi peryglon cyfreithiol posibl.
  2. Dealltwriaeth o gyfraith yr UE neu gyfraith Hawliau Dynol, sy'n ddigonol i nodi peryglon cyfreithiol posibl.

Proses Asesu

Ffurflen Ymgeisio yn dangos tystiolaeth o bob cymhwysedd a maen prawf penodol i'r swydd.

CV

Bydd proses sifftio gychwynnol yn cael ei chynnal ar yr ymateb i’r meini prawf penodol i'r swydd, dim ond yr ymgeiswyr hynny sy'n bodloni'r gofyniad sylfaenol fydd yn mynd ymlaen i'r cam nesaf. Yna, bydd ail broses sifftio yn asesu'r cymwyseddau, dim ond yr ymgeiswyr hynny sy'n bodloni'r gofyniad sylfaenol fydd yn cael eu gwahodd i'r cam nesaf.

 

Cam y cyfweliad (os yw'r ymgeisydd wedi llwyddo yn y cam sifftio);

Bydd ymgeiswyr sy'n pasio'r cam sifftio yn cael eu gwahodd i sefyll prawf cyfreithiol a dim ond y rheini sy'n pasio'r prawf fydd yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Bydd y meini prawf penodol i'r swydd a'r cymwyseddau hefyd yn cael eu hasesu yn y cam hwn.

Bydd y prawf yn seiliedig ar Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gweler y ddolen er mwyn paratoi:  http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2006/32/contents


Adborth;

Darperir adborth ar gyfer y cam sifftio dim ond ar ôl i'r cynllun gael ei gwblhau. 

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i ymarfer fel Cyfreithiwr, Bargyfreithiwr neu Weithredwr Cyfreithiol Siartredig (gan fodloni'r meini prawf mynediad proffesiynol isod, neu rai cyfatebol) yng Nghymru a Lloegr. Caiff cyfreithwyr o dan hyfforddiant, disgybl fargyfreithwyr a'r rhai sy'n hyfforddi i fod yn Weithredwr Cyfreithiol Siartredig wneud cais hefyd, ond bydd yn ofynnol cymhwyso cyn y dyddiad cychwyn.

Mynediad proffesiynol i Weithredwyr Cyfreithiol Siartredig (h.y. Cymrodyr): mae Gweithredwyr Cyfreithiol Siartredig yn gymwys i wneud cais (i) pan fo ganddynt Radd Gymwys yn y Gyfraith (QLD); neu (ii) pan fyddant wedi cwblhau Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith (GDL)/yr Arholiad Proffesiynol Cyffredinol (CPE); neu (iii) pan fyddant wedi pasio arholiadau (h.y. wedi cael sgôr o 50% neu uwch) Lefel 6 CILEx ym mhob un o'r saith pwnc cyfraith sylfaenol a ganlyn:

  1. Cyfraith Contractau
  2. Cyfraith Trosedd
  3. Cyfraith Ecwiti ac Ymddiriedolaethau
  4. Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd
  5. Cyfraith Tir
  6. Cyfraith Gyhoeddus
  7. Y Gyfraith Gamweddau

Dylai Gweithredwyr Cyfreithiol Siartredig nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn fodlon derbyn sgôr gyfartalog gyffredinol o 65% neu uwch ar gyfer yr arholiadau yn y saith pwnc cyfraith sylfaenol (pan y'u hastudiwyd ar Lefel 6 CILEx).

Mae'r Diploma Lefel 6 CILEx yn y Gyfraith ac ym maes Ymarfer yn cael ei osod a'i asesu ar Lefel 6, lefel gradd anrhydedd. I'r unigolion y mae ganddynt eisoes radd gymwys yn y gyfraith, mae CILEx hefyd yn cynnig diploma cyflym i Raddedigion y gellir ei ddefnyddio yn hytrach nag LPC neu BPTC i gwblhau eich astudiaethau cyfreithiol. Ar ôl ichi gwblhau'r Diploma Lefel 6 yn y Gyfraith ac ym maes Ymarfer, bydd arnoch angen cwblhau cyfnod o gyflogaeth gymhwyso ac yna bydd modd ichi ymgeisio i fod yn Gymrawd CILEx a defnyddio'r dynodiad CILEx.

Fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi, bydd hi'n ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu tystiolaeth eu bod yn gyfreithwyr cymwys.

Barbara Brown - 03000 625406 - Barbara.Brown@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.