Swydd Wag -- Pennaeth Prosiect 2050

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Is-adran y Gymraeg
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
£62,320
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Arwain yr Uned Cynllunio Ieithyddol newydd (Prosiect 2050) a sefydlir i yrru strategaeth Cymraeg 2050 yn ei blaen a chynyddu’r ffocws ar gynllunio ieithyddol o fewn Llywodraeth Cymru.

 Rôl yr Uned newydd fydd:


  • Cynllunio, creu a gwerthuso rhaglenni i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd gan ddefnyddio gwybodaeth o’r gwyddorau ymddygiadol.
  • Darparu cyngor proffesiynol i adrannau Llywodraeth Cymru ynghylch eu cyfraniad i wireddu strategaeth Cymraeg 2050.
  • Cynyddu gallu Llywodraeth Cymru i gynllunio’n ieithyddol yn effeithiol yn unol â nodau Cymraeg 2050.
  • Gweithio gydag Awdurdodau Lleol i gynllunio’n strategol yng nghyd-destun Cymraeg 2050.
  • Arwain rhaglen i gyflawni Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru. 

  • Arwain ar weithredu agweddau perthnasol o strategaeth Cymraeg 2050.
  • Sicrhau bod canfyddiadau ymchwil perthnasol yn cael eu gweithredu’n llawn ym mhob agwedd o’r rhaglen cynllunio ieithyddol.
  • Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth fanwl ar gynllunio ieithyddol a gweithgareddau hyrwyddo’r Gymraeg i Weinidogion ac uwch-swyddogion er mwyn eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau sy’n cyfrannu tuag at dargedau Cymraeg 2050.

Prif dasgau

  • Cydlynu’r gwaith cynllunio i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr a hynny o’r blynyddoedd cynnar, drwy ddarpariaeth addysg statudol cyfrwng Cymraeg, addysg ôl-orfodol a Chymraeg i oedolion drwy gydweithio â Chyfarwyddwyr a Phrif Weithredwyr ledled Cymru.
  • Datblygu mentrau newydd ar draws ystod eang o feysydd sydd â’r nod penodol o gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ddyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.
  • Datblygu partneriaethau, yn fewnol ac yn allanol, i gynyddu effaith y gweithgareddau a gyflwynir i weithredu Cymraeg 2050.
  • Datblygu arbenigedd cynllunio ieithyddol oddi fewn i Prosiect 2050 mewn adrannau ar draws Llywodraeth Cymru ac yn allanol, gan ganolbwyntio’n benodol ar gefnogi’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGAu) a fforymau iaith o fewn yr Awdurdodau Lleol. Bydd disgwyl hefyd i ddeiliad y swydd gynghori Gweinidogion ar y Cynlluniau a mynychu fforymau iaith fel bo’n briodol.
  • Dylanwadu a chefnogi meysydd polisi penodol ar draws Llywodaeth Cymru i gyfranu at:
    • gynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith;
    • ymwybyddiaeth gynyddol o ddwyieithrwydd ymhlith arweinwyr yn y sector cyhoeddus;
    • mwy o ddefnydd a chefnogaeth i’r Gymraeg mewn technoleg ddigidol
    • agweddau eraill ar strategaeth Cymraeg 2050 yn ôl yr angen.
  • Arwain ar waith traws-Lywodraeth i sicrhau bod polisïau ym meysydd datblygu economaidd, cynllunio, addysg, iechyd, diwylliant ayb yn cefnogi gweledigaeth Cymraeg 2050.
  • Bod yn atebol i’r Gweinidog, uwch swyddogion a Bwrdd Rhaglen Cymraeg 2050 ynghylch cyflawni Cymraeg 2050.
  • Cyfrifoldeb uniongyrchol am gyllideb o £10miliwn ynghyd â chyfrifoldeb dros ddylanwadu ar wariant mewn meysydd allweddol eraill gan sicrhau gwerth am arian.
  • Cyflwyno argymhellion ar ddyrannu cyllideb i holl weithgareddau hyrwyddo iaith Llywodraeth Cymru, gan ddangos gwariant yn erbyn blaenoriaethau strategol allweddol Cymraeg 2050.
  • Anfon cyngor at y Gweinidog ar uchelgeisiau a blaenoriaethau Prosiect 2050.
  • Gwerthuso rhaglenni a chyngori ar strategaethau/polisiau newydd.
  • Comisiynu ymchwil ar faterion yn ymwneud â chyflawni strategaeth Cymraeg 2050.
  • Arwain a datblygu tîm o oddeutu 25 staff o fewn Prosiect 2050.
  • Rheoli cytundebau gydag academyddion i ddarparu cyngor arbenigol ar gynllunio ieithyddol.
  • Cyflwyno mewn cynadleddau a digwyddiadau cyhoeddus ynghylch y Gymraeg a chynllunio ieithyddol yng Nghymru a thu hwnt.

Cyfleoedd datblygu

Dyma gyfle unigryw i arwain rhaglen o newid mewn maes polisi uchel ei phroffil.  Bydd galw i ddeiliad y swydd greu partneriaethau a gweithio ar draws ffiniau sefydliadol gan weithio’n agos gydag arweinwyr ym mhob sector.

 

Dyddiad Cau

16/03/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

1. Gweld y Darlun Cyfan

Rhagweld datblygiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol, amgylcheddol a thechnolegol i sicrhau bod gweithgareddau yn berthnasol ac yn cael eu targedu’n briodol.

2. Newid a Gwella

Annog diwylliant o arloesi gyda’r nod o ychwanegu gwerth – gan roi cyfle i bobl i feddwl yn greadigol.

3. Cyflawni’n Brydlon

Egluro blaenoriaethau busnes, rolau a chyfrifoldebau, a sicrhau bod unigolion a’r tim yn teimlo perchnogaeth arnynt.

4. Cyflawni’n Brydlon
Adolygu, herio ac addasu perfformiad er mwyn sicrhau bod canlyniadau safonol yn cael eu gwireddu’n brydlon yn ogystal a gwobrwyo llwyddiant.


Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Profiad a gwybodaeth eang ynghylch Rheoli Prosiectau
  2. Profiad a gwybodaeth eang mewn cynllunio iaith, datblygu polisi a’r gwyddorau ymddygiadol
  3. Mae arbenigedd mewn technoleg iaith a dealltwriaeth o GDPR yn ddymunol gan bod disgwyl i’r deiliad swydd arwain ar a gweithredu Strategaeth Technoleg Iaith y Llywodraeth.

Proses Asesu

Gweler adran ‘Sut i Wneud Cais’ isod. Noder y bydd disgwyl i’r ymgeiswyr a fydd yn cael cynnig cyfweliad roi cyflwyniad 5 munud i asesu sgiliau cyflwyno a sgiliau Cymraeg llafar.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Bethan Webb - bethan.webb@gov.wales - 03000256565

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.