Swydd Wag -- Dylunydd Technegol (x4)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yr Uned Dysgu Digidol
SEO - £41,700 - £49,370
Cyflog cychwynnol o £39,310 - Gellir cynnig cyflog cychwynnol o hyd at £43,760 i ymgeiswyr eithriadol yn seiliedig ar eu sgiliau a'u profiad. Dydy hwn ddim yn warantiad ac yn aros wrth ddisgresiwn Llywodraeth Cymru.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Y Cefndir

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru, ac mae ganddi gyllideb flynyddol o oddeutu £15 biliwn. Mae'n gyfrifol am agweddau allweddol ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a'r amgylchedd.

Mae gweithlu o dros 5,000 o weision sifil yn cefnogi Gweinidogion Cymru mewn swyddfeydd yng Nghymru, Llundain, Brwsel, a gwledydd eraill dramor.

Caiff blaenoriaethau Llywodraeth Cymru eu hamlinellu yn Symud Cymru Ymlaen. Yr uchelgais cyffredinol yw creu Cymru hunanhyderus, ffyniannus ac iach, a chreu cymdeithas deg. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi pennu blaenoriaethau clir ar gyfer Cymru yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio denu pobl sy'n gallu darparu cymorth a chyngor rhagorol, sy'n gallu ffocysu adnoddau a chanddynt egni ac arbenigedd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhoi cyd-destun i'n gwaith. 

Mae trawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol yn hanfodol o ran cyflenwi'r gwasanaethau y mae pobl Cymru eu hangen ac yn eu disgwyl. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru'n cyflenwi nifer o wasanaethau digidol i bobl a busnesau ar draws Cymru. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth ar ein gwefannau. 

O dan arweiniad ein Prif Swyddog Digidol, mae Llywodraeth Cymru yn cyflenwi mwy a mwy o wasanaethau ar-lein. Mae'r Prif Swyddog Digidol yn darparu gwasanaeth ymgynghori ar arbenigedd digidol ac arbenigedd data ar draws Llywodraeth Cymru.

Y Rôl

Fel dylunydd technegol fyddwch yn gyfrifol am ddylunio ac adeiladu pensarnïaeth technegol. Fyddwch yn:

  • Ddadansoddi materion/problemau technegol mewn ffordd strwythuredig, er mwyn creu atebion technegol
  • Ymgynghori ar waith dylunio technegol a gallu darparu patrymau dylunio
  • Nodi'r materion technegol dyfnach y mae angen eu datrys
  • Nodi cyfleoedd i gydweithio ac ailddefnyddio elfennau, gan gyfathrebu â rhanddeiliaid technegol ac annhechnegol

Rydym yn recriwtio i rôlau yn y timoedd canlynol:

Rhaglen EdTech Hwb (1 swydd)

Mae'r Gweinidog Addysg wedi gwneud ymrwymiad cadarn i wella Technoleg Addysg (EdTech) ledled Cymru trwy'r rhaglen EdTech Hwb. Mae'r rhaglen addysg ganolog hon yn rhoi mynediad cyson i ran ddeiliaid ledled Cymru at ystod eang o offer ac adnoddau digidol dwyieithog a ariennir yn ganolog a all gefnogi a chynorthwyo i drawsnewid arferion addysg ddigidol.

Prif ddiben y swydd hon yw cefnogi gwaith dylunio technegol a strwythur nifer o ffrydiau gwaith, gan gynnwys Azure Active Directory sy'n gyfeiriadur cenedlaethol, tenantiaeth Microsoft Office 365 a pharth Google for Education. Mae yna heriau sylweddol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chyflwyno'r prosiect hwn yn llwyddiannus, a bydd y Dylunydd Technegol Cyswllt yn rhan o dîm a fydd yn gyfrifol am eu goresgyn ac am sicrhau canlyniadau o fewn amserlenni y cytunir arnynt.

Adran Gwasanaethau TG (3 swyddi)

As a member of the Architects Office within central IT Services, you will work across a number of initiatives to plan, design, approve and sustain services and projects that impact across all of Welsh Government. Over the near term future the Architects Office will work on maturing end user device provisioning, the Microsoft Power Platform, Dynamics, Azure security and cost management, and the development of guidance and standards that will be used across a number of internal and citizen-facing services. Welsh Government is constantly developing and improving technology enabled services, such as the Hwb EdTech programme, that deliver for Wales and its people, and this role will be key to enabling their success.

Prif dasgau

  • Arwain a rheoli adnoddau'r tîm yn effeithiol er mwyn mynd i'r afael â phwysau a blaenoriaethau busnes fel bod allbynnau allweddol yn cael eu cyflawni o fewn amser penodol y cytunir arno
  • Gweithio gyda'r gweithgorau perthnasol i ddatblygu'r Cynllun Cyflawni Rhaglenni cyffredinol er mwyn gwella potensial ac ymarfer o ran addysgu a dysgu
  • Ddadansoddi materion/problemau technegol mewn ffordd strwythuredig, er mwyn creu atebion technegol
  • Ymgynghori ar waith dylunio technegol a gallu darparu patrymau dylunio
  • Nodi'r materion technegol dyfnach y mae angen eu datrys
  • Nodi cyfleoedd i gydweithio ac ailddefnyddio elfennau, gan gyfathrebu â rhanddeiliaid technegol ac annhechnegol
  • Gweithio gyda defnyddwyr i sicrhau bod agweddau technegol y llwyfan yn bodloni anghenion
  • Bod â dealltwriaeth dda o ystod eang o dechnolegau

Cyfleoedd datblygu

Byddwch yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru.  Mae hwn yn broffesiwn sy'n tyfu ac fe gewch gyfle i fod yn rhan o'r gwaith o'i lywio a'i ehangu. .

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau a galluoedd ein staff a'u hannog i ddefnyddio pum diwrnod y flwyddyn i ddysgu.  I gefnogi hyn, rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd a allai gynnwys:

  • Cysgodi
  • Mentora
  • Dysgu seiliedig ar waith
  • Cymwysterau
  • Coetsio
  • Y Rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP)

Bod yn rhagweithiol wrth greu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o dimau Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol gan gynnwys Llywodraethau eraill yn y DU.

Dyddiad Cau

01/11/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Mae'r sgiliau technegol canlynol yn HANFODOL i lwyddo yn y rôl hon.  Sicrhewch eich bod yn atodi CV, dim mwy na 2 ochr A4, sy'n dangos eich gallu yn y sgiliau hyn.

  • Profiad o ddarparu a rheoli ystâd Azure mawr (yn ddelfrydol dros 5k defnyddwyr) gan gan gynnwys:

- Gweinyddiaeth a ffurfweddiad o Azure Active Directory a Microsoft 365
- Technolegau bwrdd gwaith modern (Intune, Windows 10)

  • Profiad gellir ei ddangos yn rheoli datblygiad a ffurfweddiad o ystod eang o wasanaethau cwmwl gan darparwyr adnabyddus, fel Google Workspace, AWS ac Azure
  • Rheoli darpariaeth ac integreddio’r gwasanaethau cwmwl i gynyddu mabwysiadu ac ymwybyddiaeth defnyddwyr
  • Profiad o ddilyn arferion gorau i ddiogelu technolegau cwmwl
  • Yn gyfarwydd â phrotocolau rhwydweithiau - TCP/IP, HTTP, SSL, etc

Proses Asesu

Drwy gydol y broses asesu gyfan, caiff ymgeiswyr eu hasesu yn erbyn yr Ymddygiadau o Broffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil a'r fframwaith galluogrwydd Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT). Anwybyddwch unrhyw cyfeiriad at cymhwyseddau o fewn ein system cais.  Fydd yr ymddygiadau canlynol yn cael eu hasesu fel rhan o’r broses yma:

Cyfathrebu a Dylanwadu, Gwneud Penderfynniadau Effeithiol, Newid a Gwella, Pontio'r bwlch rhwng y technegol a'r annhechnegol, Gwneud a llywio penderfyniadau, Troi problemau busnes yn gynlluniau technegol a Deall y cyd-destun cyfan

Nodwch, gan mai fframwaith y Gwasanaeth Sifil yw rhain, mae’r gwybodaeth i gael yn Saesneg yn unig, trwy wefan gov.uk

Caiff eich cais ei asesu mewn tri cham:

1.     Bydd sifft gychwynnol yn cael ei chynnal ar sail eich CV a’r sgiliau hanfodol.  Fel rhan o’ch cais, fydd gofyn i chi lwytho copi o’ch CV.  Ddylai hwn ddim bod mwy na 2 ochr A4.  Fydd unrhywbeth dros 2 ochr A4 yn cael ei ddiystyru, a ddim yn cael ei ystyried fel rhan o’r sifft.  I cefnogi ni i ymgymryd â sift “ddi-enw”, tynnwch eich enw a chyfeiriad oddi ar eich CV.

2.     Gwahoddir ymgeiswyr sy’n pasio'r sifft i gymryd rhan mewn Ymarfer Technegol

3.     Gwahoddir ymgeiswyr sy’n pasio'r Ymarfer Technegol i gymryd rhan mewn Cyfweliad

Darperir rhagor o wybodaeth am y camau yn dilyn y cam sifftio.

Rhestr Wrth Gefn

Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus sydd wedi derbyn yr isafswm sgôr ar draws yr holl ymddygiadau  gofynnol yn cael y cyfle i fod ar restr ‘wrth gefn’ Llywodraeth Cymru am 12 mis o ddyddiad cyhoeddi'r canlyniadau.  Os bydd rolau ychwanegol ar gael neu os bydd rolau presennol yn dod yn wag yn ystod y cyfnod hwn, gall Llywodraeth Cymru gynnig y rôl i'r ymgeisydd sydd wedi sgorio uchaf ar y rhestr wrth gefn.  Os byddant yn gwrthod, gall Llywodraeth Cymru gynnig y rôl i'r ymgeisydd nesaf sydd wedi sgorio uchaf ac yn y blaen.

 

 

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Mae rhestr o swyddfeydd Llywodraeth Cymru i'w gweld ar ein gwefan (www.llyw.cymru). Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.

Mae amryw o fanteision i gael os ydych yn gweithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Mae pawb yn cael cefnogaeth i wella neu gael sgiliau Iaith Gymraeg
  • Trafodaethau datblygiad cyson a'r hyfforddiant sydd ei angen arnoch yn y swydd ac i fagu hyder
  • Ychwanegiadau blynyddol at gyflog, sy'n caniatáu i chi gyrraedd brig eich graddfa gyflog o fewn 3-4 blynedd
  • 31 o ddiwrnodau o wyliau blynyddol (yn ogystal a 10 gwyl cyhoeddus a braint)
  • Absenoldeb rhiant hael, gan gynnwys 26 wythnos ar gyflog llawn i weithwyr cymwys
  • Cynllun Pensiwn hael gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
  • Talebau Gofal Plant, yn arbed hyd at £933 y flwyddyn
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith: dewiswch feic newydd sbon sy'n costio hyd at £1000, gan arbed o leiaf 32%
  • Blaenswm Cyflog: gwneud cais am flaenswm cyflog Nadolig, ar gyfer cyfarpar cyfrifiadurol neu ar gyfer Blaendaliadau Tenantiaeth
  • Benthyciadau Tocyn Tymor
  • Polisi Oriau Hyblyg
  • Cit TG diweddaraf
  • Marwolaeth mewn gwasanaeth
  • Cynllun Ceir Gwyrdd

Ein Hymrwymiad i Gydraddoldeb

Oherwydd tangynrychiolaeth gyfredol yn y sefydliad, bydd ymgeiswyr sy'n datgan eu bod yn anabl neu o gefndir pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn cael eu cyflwyno'n awtomatig i'r Porth Asesu os yw eu cais yn bodloni'r meini prawf sylfaenol. Dim ond os bydd ymgeiswyr yn darparu'r wybodaeth hon yn eu cais y gallwn wneud hyn. Bydd gwybodaeth am ymgeiswyr BAME yn cael ei chymryd o'r ffurflen monitro cydraddoldeb ac mae'n bwysig eich bod yn cwblhau hyn fel rhan o'ch cais.

Addasiadau Recriwtio

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r model cymdeithasol o anabledd ac i wneud addasiadau rhesymol i ddileu unrhyw rwystrau yn y broses recriwtio ar gyfer staff â namau, cyflyrau iechyd neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.  Gallwn wneud addasiadau i unrhyw ran o'r broses recriwtio (y cais yn ogystal â'r ganolfan asesu) a byddwn yn sicrhau bod ymgeiswyr anabl yn cael eu paru â rolau sy'n gydnaws ag addasiadau yn y gweithle. Gallwn roi cyngor i staff sy'n credu bod angen addasiadau rhesymol arnynt neu a allai fod angen addasiadau rhesymol ond y mae angen iddynt wybod mwy am y broses asesu a pha fath o addasiadau y gallem eu gwneud i sicrhau asesiad teg. 

Os gwyddoch (neu os credwch) fod angen unrhyw fath o addasiad rhesymol arnoch er mwyn gwneud eich cais, cysylltwch â'r tîm recriwtio trwy ebostio ddat@llyw.cymru cyn gynted â phosibl i drafod unrhyw addasiad rhesymol.

Ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, byddwn yn cysylltu â'r holl ymgeiswyr i roi manylion am sut y gall ymgeiswyr anabl ofyn a chael unrhyw addasiadau y cytunwyd arnynt y gallai fod eu hangen arnynt ar gyfer y digwyddiad asesu. Bydd hyn yn cynnwys y cyfle am sesiynau cyngor 1-1 i ymgeiswyr sy'n ansicr a oes angen addasiadau rhesymol neu pa fath o addasiadau y gallent neu y dylent ofyn amdanynt er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwneud eu gorau.

Yn y cyfamser, mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr anabl am gyfeirio at Atodiad A i'r Canllawiau i Ymgeiswyr (dolen) ar gyfer ein Ffurflen Addasiadau Recriwtio newydd yr ydym yn ei threialu.

Manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth  

ddat@llyw.cymru

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. 

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain a bod angen i chi drafod gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, e-bostiwch ddat@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig â nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gael cyfrif ar ein system ymgeisio ar-lein. Cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Bydd angen i chi glicio ar ‘Mewngofnodi’ os oes gennych chi gyfrif eisoes, neu ‘Cofrestru’ os nad oes gennych chi gyfrif. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r manylion cofrestru. Bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch er mwyn cofrestru.  Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer cyfrif ac wedi mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiad cau. 

I wneud cais yn Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

**Noder:  Os oes cyfrif Penodi gennych eisoes ac os hoffech ddiweddaru eich enw defnyddiwr a'ch cyfeiriad e-bost i'r cyfeiriad @llyw.cymru newydd, dylech fewngofnodi gan ddefnyddio eich hen fanylion, clicio ar eich enw yn y ddewislen, a dewis 'Golygu Manylion Personol' ar y gwymplen. Gallwch ddiweddaru unrhyw un o'ch manylion personol cofrestredig ar y dudalen hon.**

Sesiwn Gwyboaeth Rhith

Os hoffech gwybod fwy am y swyddi yma a gweithio yn Llywodraeth Cymry, ddylech mynychu un o’n sesiynnau gwybodaeth rhith.  Yn ystod y sesiynnau fyddwch yn ffeindio allan fwy am Llywodraeth Cymru, cewch cwrdd â pobl o’r timoedd, gofyn cwestiynnau am y rôlau a ffeindio allan beth i ddisgwyl o’r broses recriwtio.  Isod mae rhest o sesiynnau, i gofrestri eich diddordeb yn mynychu un o’r sesiynnau yma, ebostiwch ddat@llyw.cymru

  • 8 Hydref 13:00 – 14:00
  • 22 Hydref 13:00 – 14:00

 

 

 

ddat@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.