Swydd Wag -- Cymorth Gweinyddol Swyddfeydd Preifat, Bae Caerdydd x5

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Is-adran y Cabinet
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£20,000
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Tymor Penodol hyd at 2 flynedd, gyda posibilrwydd i'w droi'n parhaol
Caerdydd
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Darparu cymorth gweinyddol i Swyddfeydd Preifat y Gweinidogion ym mhob agwedd ar eu gwaith.

 Mae Is-adran y Cabinet yn chwarae rôl ganolog sydd wrth galon Llywodraeth Cymru. Ei diben yw sicrhau y darperir gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i'r Gweinidogion. Mae'r swyddi hyn yn rhan o dimau Swyddfeydd Preifat y Gweinidogion a byddant yn gyfle i ymgeiswyr llwyddiannus ddysgu a datblygu sgiliau gweinyddol allweddol mewn amgylchedd unigryw.

Prif dasgau

Byddwch yn gyfrifol am y canlynol:

  •  Trefnu cyfarfodydd ac ymgysylltiadau mewnol ac allanol
  • Sicrhau y cofnodir gyfarfodydd/ymgysylltiadau yn gywir yn nyddiadur y Gweinidog
  • Comisiynu, argraffu a dosbarthu papurau yn ôl yr angen  
  • Gwneud trefniadau teithio a lletygarwch
  • Cyfarch ymwelwyr mewnol ac allanol
  • Cofnodi pob eitem o ohebiaeth a ddaw i mewn i'r gronfa ddata electronig
  • Neilltuo gohebiaeth a dderbynnir ar gyfer ymateb drafft, gan drefnu atebion ar gyfer y Gweinidog yn unol â'r amserlenni sydd wedi’u pennu
  • Comisiynu diwygiadau i ymatebion drafft, ar gais y Gweinidog
  • Paratoi atebion a dychwelir, er mwyn i’r Gweinidog eu clirio.

Bydd disgwyl ichi roi cymorth i gyd-weithwyr yn ôl y galw.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swyddi hyn yn gyfle ardderchog i weithio'n agos gyda Gweinidogion ac i ddysgu llawer am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu. Maent hefyd yn rhoi trosolwg ardderchog i ddeiliad y swydd o Lywodraeth Cymru a'r amrywiaeth eang o swyddogaethau a chyfrifoldebau sydd ganddi.

Dyddiad Cau

29/11/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Arwain a Chyfathrebu – Gweithredu mewn modd teg a pharchus wrth ymdrin ag eraill.
Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth – Cyfrannu’n rhagweithiol i waith y tîm cyfan.
Rheoli Gwasanaeth Safonol – Cymryd camau i osgoi problemau, gan dynnu sylw at faterion lle bo angen
Cyflawni'n Brydlon – Gweithio mewn modd trefnus, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd i gyflawni’n brydlon a safonol.

Meini prawf penodol i'r swydd

Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar bapur ac ar lafar

Y gallu i weithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm bach


Sgiliau trefnu ardderchog, yn enwedig wrth weithio o dan bwysau

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Canllawiau ar ymgeisio ar gyfer y swyddi hyn;

Mae gofyn ichi ddarparu tystiolaeth yn erbyn yr HOLL gymwyseddau a'r meysydd penodol i'r swydd a nodir ar gyfer y rôl. Dylech wneud hyn drwy gyfeirio at eich profiad blaenorol, eich gwybodaeth a'ch cyflawniadau i ddarparu enghreifftiau sy'n dangos sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf.

 Wrth ddewis enghreifftiau ar gyfer y cymwyseddau, ystyriwch y canlynol;

  • Sicrhau y cyflwynir yr enghreifftiau mor gryno â phosibl a pheidio ag ysgrifennu mwy na nifer y geiriau a ganiateir (300 o eiriau ar gyfer pob cymhwysedd)
  • Drafftio mewn iaith glir sy'n ramadegol gywir, gan gynnwys y sillafu
  • Peidio â rhoi gormod o fanylion yn eich enghraifft, dim ond rhoi digon i ddangos tystiolaeth – sut y gwnaethoch ymgymryd â'r dasg; pam y dewisoch chi'n ffordd honno; a disgrifiad o unrhyw rwystrau a wynebwyd
  • Osgoi defnyddio jargon, byrfoddau a thermau arbenigol
  • Gwneud yn siŵr eich bod yn nodi sut y gwnaethoch oresgyn unrhyw broblemau
  • Cofio cynnwys canlyniadau i ddangos sut yr oedd eich gweithredoedd yn effeithiol
  • Rhoi strwythur i'ch atebion, efallai y bydd y dull gweithredu STAR yn eich helpu i gyflwyno eich tystiolaeth drwy ddarparu strwythur a ffocws i'ch enghreifftiau. Mae'r dull gweithredu STAR yn cynnwys y canlynol

 Y sefyllfa – rhowch ddisgrifiad cryno o gyd-destun eich rôl

Y dasg - her, tasg neu swydd benodol a wynebwyd

Y cam gweithredu – yr hyn a wnaethoch, sut y gwnaethoch chi hynny a pham

Y canlyniad – y canlyniadau a'r hyn a gyflawnoch drwy eich gweithredoedd  

Elaine Dyer - elaine.dyer@gov.wales - 03000258952

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at framwaith cymwyseddau'r Gwasanaeth Sifil. Cysylltwch a'r Canolfan Cydwasanaethau (DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru) i ofyn am gopi electronig.

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.