Swydd Wag -- ~~OPPORTUNITY_TITLE_2F51538B-AB54-459D-B21B-32D333909FB7~~
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Mae Swyddfa’r Wasg Llywodraeth Cymru yn rhan allweddol o Wasanaeth Cyfathrebu Llywodraeth Cymru, sy’n darparu gwasanaeth newyddion 24/7.
Mae swyddfa’r wasg yn le prysur a diddorol i weithio ynddo, yn ymdrin â nifer fawr o ymholiadau gan y cyfryngau tra hefyd yn datblygu cyfleoedd rhagweithiol a chreadigol er mwyn hyrwyddo’r Llywodraeth.
Fel Swyddog y Wasg Llywodraeth Cymru, byddwch yn gweithio gyda’ch tîm i gyfathrebu rhai o’r pynciau mwyaf pwysig ag uchel eu proffil sy’n gwynebu Cymru heddiw. Byddech hefyd yn gweithio ochr yn ochr â’n cydweithwyr yn y cyfryngau digidol i ddatblygu cynnwys digidol creadigol ag effeithiol ar ran Llywodraeth Cymru a’i Gweinidogion.
Gan weithio gyda chydwithwyr polisi, marchnata a digidol, byddwch yn cyfathrebu negeseuon y Llywodraeth drwy’r cyfryngau, gan ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd a datblygu cynlluniau cyffrous i’r wasg.
Byddwch yn rhoi cyngor a chymorth ynglŷn â materion y wasg a’r cyfryngau i Weinidogion Cymru ac uwch swyddogion. Drwy fonitro a gwerthuso eich gwaith yn y cyfryngau, byddwch yn sicrhau bod amcanion cyfathrebu'n cael eu cyflawni.
Mae ennill sylw cadarnhaol yn cyfryngau yn rhan ganolog o'r swydd, felly mae synnwyr newyddion da, creadigrwydd a brwdfrydedd yn hanfodol. Rhan fawr o hyn yw gwerthu straeon yn llwyddiannus i olygyddion newyddion a newyddiadurwyr – felly, rydym yn chwilio am rywun sydd yn frwdfrydig, gydag agwedd gadarnhaol a gwydn.
Wrth ymateb yn gyflym ac yn gywir i newyddion sy'n torri, rhaid i chi allu graffu ar y newyddion yn effeithiol er mwyn nodi problemau posibl a gweithio gyda chydweithwyr i ddrafftio ymatebion cryno a chywir.
Fel aelod o Swyddfa’r Wasg, bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn y rota tu hwnt i oriau swyddfa, ac y mae tâl ychwanegol ar gyfer y gwaith hwn.
Prif dasgau
Gweithredu fel cyswllt â'r cyfryngau i Weinidogion ar bortffolio penodol.
Sicrhau bod polisïau a mentrau Llywodraeth Cymru yn cael eu cyfleu'n glir drwy'r cyfryngau drwy gyfathrebu rhagweithiol ac adweithiol yn y cyfryngau, gan gynnwys hysbysiadau i'r wasg a datganiadau i'r cyfryngau
Datblygu a rheoli sianeli cyfryngau cymdeithasol, a chreu cynnwys, gan ddefnyddio dadansoddeg i werthuso effaith.
Cyfarfod yn rheolaidd â Gweinidogion, Cynghorwyr Arbennig ac uwch swyddogion i gynllunio a thrafod gweithgarwch yn y cyfryngau yn y dyfodol yn ôl y gofyn.
Datblygu cynlluniau cyfathrebu i gefnogi cyhoeddiad neu faterion allweddol.
Gwerthuso gweithgarwch yn rheolaidd ar gyfer Gweinidogion a swyddogion.
Mynd gyda Gweinidogion i ddigwyddiadau, cynghori ar drefniadau'r cyfryngau, trefnu a rheoli cyfweliadau, a chipio cynnwys cyfryngau cymdeithasol.
Meithrin cysylltiadau cryf â chyfryngau'r DU, Cymru, rhanbarthol ac arbenigol.
Creu a chynnal cysylltiadau da gydag amrywiaeth o unigolion a sefydlaidau gan gynnwys Gweinidogion, Ymgynghorwyr arbennig, cyd-weithwyr polisi, Adrannau Llywodraethol eraill, asiantaethau allanol, rhanddeiliaid a chontractwyr.
Cadw at safonau proffesiynol uwch, gan gynnwys sgiliau ysgrifenedig dda
Cadw golwg ar ddatblygiadau ym maes cyfathrebu, yn arbennig sut i ymgorffori cyfryngau cymdeithasol a digidol i mewn i gynlluniau cyfathrebu cyfannol a rhannu darganfyddiadau gyda chyd-weithwyr
Gweithio gyda chyd-weithwyr cyfathrebu mewn meysydd eraill i ddarparu gwaith cyfathrebu strategol draws-disgybliedig a ddatblygu gwybodaeth ehangach o’r maes cyfathrebu
Cymryd rhan yn y rota ddyletswydd swyddfa’r wasg gyda’r nosweithiau a phenwythnosau fel bo’r angen.
Cyfleoedd datblygu
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau
Y Clwstwr Strategol – Gosod y Trywydd (Gwneud Penderfyniadau Effeithiol):
Gwneud penderfyniadau pan fo angen, hyd yn oed os ydynt yn rhai anodd neu amhoblogaidd.
Ymwneud â Phobl (Arwain a Chyfathrebu):
Cyfathrebu mewn modd syml, gonest ac ym gysylltiol â'r holl ran ddeiliaid a sefyll eich tir pan fo angen.
Dealltwriaeth (Cymhwysedd Gwasanaeth Cyfathrebu y Llywodraeth):
Cynnal ymwybyddiaeth o'r agenda newyddion a themâu newyddion sy'n datblygu.
Syniadau (Cymhwysedd GCLl):
Datblygu cynlluniau cyfathrebu amlinellol, gan nodi'r sianeli a'r offer mwyaf effeithiol i ymgysylltu â chynulleidfaoedd a sicrhau'r cyrhaeddiad mwyaf posibl.
Meini Prawf Sy'n Benodol i'r Swydd
- Y gallu i gynllunio strategaethau ac ymgyrchoedd cyfryngau creadigol wedi'u targedu
- Sgiliau ysgrifenedig effeithiol y gellir eu haddasu ar gyfer datganiadau adweithiol, ysgrifennu datganiadau i'r wasg, sgriptiau, negeseuon cyfryngau cymdeithasol ac ati.
- Profiad o weithio i derfynau amser tynn wrth roi cyngor priodol ar ymdrin â materion chyfathrebu i gydweithwyr uwch.
Proses Asesu
Creu rhestr fer o geisiadau
Ar ôl inni dderbyn eich cais, bydd yn mynd drwy broses sifftio cychwynnol i’w wirio yn erbyn y dystiolaeth rydych wedi'i darparu o dan y Meini Prawf Penodol i’r Swydd. Os byddwch yn llwyddo i basio'r broses sifftio cychwynnol, bydd gweddill y cais yn cael ei asesu. Bydd hyn yn penderfynu a fyddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad.
Cyfweliadau
Bydd dwy elfen i’r cyfweliad ei hun, ymarfer ysgrifenedig a chyfweliad gan banel. Bydd manylion pellach am yr ymarfer ysgrifenedig ar gael i chi cyn eich cyfweliad.
Dim ond yr ymgeiswyr sy’n mynychu cyfweliad a fydd yn cael adborth ar eu cais.
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Lleoliad: Mae'r rôl yn gofyn am gyswllt rheolaidd (tua dwywaith yr wythnos) â Gweinidogion yng Nghaerdydd.
Gwasanaeth Cyfathrebu Llywodraeth Cymru
Mae Gwasanaeth Cyfathrebu Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo Gweinidogion i ddarparu cyfathrebu sector cyhoeddus effeithiol.
Mae'r gwasanaeth yn cefnogi'r Llywodraeth i hysbysu pobl am ddeddfwriaethau a pholisïau sy'n effeithio arnynt, a darparu cyfathrebiadau ymatebol a ffeithiol 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.