Swydd Wag -- Cynghorydd Tân ac Achub Cynorthwyol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cangen y Gwasanaethau Tân
Arall
Rheolwr Grŵp B (Cymwys) y Gwasanaeth Tân ac Achub
£52,301 y flwyddyn a lwfans dyletswydd hyblyg o 20%
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Secondiad
Secondiad am gyfnod o 2 flynedd gyda'r posibilrwydd o'i ymestyn am 12 mis arall, yn amodol ar gydsyniad Comisiwn y Gwasanaeth Sifil
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae'r Cynghorydd Tân ac Achub Cynorthwyol yn swydd amser llawn o fewn Cangen y Gwasanaethau Tân yn Llywodraeth Cymru a gaiff ei llenwi gan secondai o'r Gwasanaeth Tân ac Achub. Prif bwrpas y swydd yw rhoi cymorth i Brif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru a rhoi cyngor uniongyrchol i Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu polisïau ar gyfer y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru. Felly, mae'n hanfodol bod gan yr ymgeiswyr brofiad eang a chyfredol o weithio yn y gwasanaethau tân ac achub.

Bydd y rôl yn cynnwys darparu cyngor proffesiynol a thechnegol i Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n ymwneud â thân ac achub. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu'n helaeth at y gwaith o ddatblygu canllawiau, polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Bydd yn gwneud hynny drwy gysylltu â phersonél priodol yn y tri Gwasanaeth Tân ac Achub ac â rhanddeiliaid eraill fel y bo'n briodol.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm yn y Gangen Gwasanaethau Tân a bydd yn adrodd i'r Prif Gynghorydd Tân ac Achub. Bydd ar secondiad â Llywodraeth Cymru drwy gydol cyfnod y swydd, drwy gytundeb â'r Awdurdod Tân ac Achub sy'n ei gyflogi.

Prif dasgau

  1. Darparu cyngor proffesiynol a thechnegol i Weinidogion a Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a gweithredu dogfennau polisi strategol a deddfwriaeth. Bydd hyn yn cynnwys materion sy'n ymwneud â gwasanaethau Atal, Diogelu ac Ymateb ynghyd â chydnerthedd a materion o lywodraethiant corfforaethol, datblygu'r gweithlu a rheoli perfformiad.
  2. Rheoli a rhoi cymorth ac arweiniad i Arolygydd Safleoedd y Goron yng Nghymru. Adrodd i'r Prif Gynghorydd Tân ac Achub ar Arolygu a Gorfodi Safleoedd y Goron. Cytuno ar raglen o archwiliadau blynyddol â'r Prif Gynghorydd Tân ac Achub ac Arolygydd Safleoedd y Goron yng Nghymru. Cysylltu â'r Grŵp Arolygu Safleoedd y Goron a'r Swyddfa Gartref. Adrodd i'r Prif Gynghorydd Tân ac Achub ar yr holl faterion sy'n ymwneud â Safleoedd y Goron.
  3. Nodi arferion da wrth gynllunio, rheoli a chyflawni gwasanaethau tân ac achub, annog i'r arferion da hyn gael eu mabwysiadu yng Nghymru a darparu mathau eraill o gyngor, cymorth a her i dri Awdurdod Tân ac Achub Cymru.
  4. Cefnogi'r gwaith o ddatblygu, gweithredu ac adolygu systemau rheoli perfformiad, gan gynnwys cynllunio i wella, dangosyddion perfformiad a dyfodol Sicrwydd Gweithredol Cyflenwi Gwasanaethau.
  5. Cynnal cysylltiadau effeithiol â'r rheini sy'n rhan o'r gwaith o ddatblygu a gweithredu rhaglenni gwella/diwygio yr Awdurdodau Tân ac Achub yng ngwledydd eraill y DU.
  6. Bod yn bwynt cyswllt a chymorth i Gydgysylltydd Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru a monitro materion cyfredol a newydd ynghylch bod yn gydnerth i ddarparu sicrwydd i swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Gweinidogion.
  7. Cyfrannu at ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig COVID-19. Gall hyn gynnwys gwasanaethu fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Grŵp Cydgysylltu Strategol rhanbarthol os ceir ton arall o’r haint yn y dyfodol.
  8. Darparu cymorth uniongyrchol i'r Prif Gynghorydd Tân ac Achub gan gynnwys ei gynrychioli mewn cyfarfodydd neu ddigwyddiadau ffurfiol yn ôl yr angen.

 

Cyfleoedd datblygu

Hysbysebir y swydd hon fel cyfle datblygu. Gwahoddir ceisiadau gan staff a gyflogir ar hyn o bryd gan unrhyw Wasanaeth Tân ac Achub yn y DU fel Rheolwr Gorsaf A amser llawn neu uwch.

Bydd gan ddeiliad y swydd y cyfle i gyfrannu'n uniongyrchol at ddatblygu a gweithredu polisïau tân ar lefel genedlaethol, a bydd yn ennill dealltwriaeth ehangach o'r ffordd y caiff penderfyniadau strategol sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth Tân ac Achub eu gwneud fel rhan o agenda polisïau a gwleidyddol ehangach. Bydd hyn yn cynnwys cyswllt uniongyrchol â Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, Cadeiryddion yr Awdurdodau Tân ac Achub, Prif Swyddogion Tân ac uwch randdeiliaid eraill, yn lleol ac yn genedlaethol. Felly, mae'r swydd yn cynnig cyfle datblygu delfrydol i'r rheini sydd â'r potensial a'r dyhead i symud i rolau arwain strategol uwch yn y Gwasanaeth. Mae cynghorwyr cynorthwyol blaenorol bellach mewn swyddi rheoli uwch, gan gynnwys swydd y Prif Swyddog Tân, yn rhai o'r Gwasanaethau mwyaf yn y DU.

Bydd y Prif Gynghorydd Tân ac Achub yn cyfathrebu'n rheolaidd â deiliad y swydd a'i wasanaeth er mwyn sicrhau y caiff camau datblygu yn ystod y secondiad eu cydnabod a'u gwerthfawrogi.

Dyddiad Cau

07/12/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Sgiliau Allweddol sy'n Berthnasol i'r Swydd:-

Caiff holl swyddi Llywodraeth Cymru eu hysbysebu drwy ddefnyddio Fframwaith Cymwyseddau'r Gwasanaeth Sifil:

https://documents.hf.wales.gov.uk/id:A4858854/document/versions/published 

Ar gyfer y swydd hon, fodd bynnag, rydym yn chwilio'n benodol am unigolyn sydd â'r sgiliau, y cymwyseddau a'r ymddygiadau sydd wedi'u cydnabod yn Fframwaith Rhinweddau a Phriodweddau Personol y Gwasanaeth Tân ac Achub i Reolwyr Canol.

Felly, at ddibenion cofnodi i'r system, daw'r penawdau isod mewn print trwm o fframwaith cymwyseddau'r gwasanaeth sifil. Er hyn, bydd angen dangos tystiolaeth o'r ymddygiadau perthnasol o dan y penawdau hyn sydd wedi'u cymryd yn syth o'r Fframwaith i Reolwyr Canol yn y ffurflen gais a'r cyfweliad.
Y Clwstwr Strategol – Gosod y Trywydd

Gweld y Darlun Cyflawn – Ymwybyddiaeth Wleidyddol/Sefydliadol – yn cydnabod yr effaith wleidyddol bosibl a goblygiadau camau gweithredu o safbwynt strategol.

Newid a Gwella – Yn Agored i Newid – cefnogi newid yn rhagweithiol, ceisio cyfleoedd i wella effeithiolrwydd y sefydliad

Y Clwstwr Pobl – Ymwneud â Phobl

Dysgu a Chyfathrebu – Cyfathrebu'n Effeithiol – yn cyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth – Gweithio gydag Eraill – yn arwain, yn cynnwys ac yn ysgogi eraill yn y Gwasanaeth Tân ac Achub a'r gymuned

Y Clwstwr Perfformiad – Gwireddu Canlyniadau

  • Rheoli Gwasanaeth Safonol – Datrys Problemau – deall gwybodaeth berthnasol a'i rhoi ar waith er mwyn gwneud penderfyniadau priodol sy'n ystyried gofynion a blaenoriaethau allweddol

Proffesiynau

Hysbysebir y swydd hon fel cyfle datblygu. Gwahoddir ceisiadau gan staff a gyflogir ar hyn o bryd gan unrhyw Wasanaeth Tân ac Achub yn y DU fel Rheolwr Gorsaf A amser llawn neu uwch.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Mae meddu ar wybodaeth weithredol, dechnegol a phroffesiynol o safon uchel am wasanaethau tân ac achub yn hanfodol. Nid oes rhaid eich bod yn gweithio i Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru, ond byddai dealltwriaeth eang o gyd-destun gweithredu a pholisi Cymru yn fanteisiol. 
  2. Rhaid bod gan ddeiliad y swydd ddealltwriaeth fanwl o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007 a Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.

Nid yw'n ofynnol i ddeiliad y swydd allu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Proses Asesu

Gwahoddir ceisiadau gan staff a gyflogir ar hyn o bryd gan unrhyw Wasanaeth Tân ac Achub yn y Deyrnas Unedig fel Rheolwr Gorsaf A neu uwch ar sail parhaol ac amser cyflawn.

Er mwyn gwneud cais bydd angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth yn erbyn pob un o'r 5 o Rinweddau a Phriodweddau Personol a nodwyd uchod ynghyd â'r 2 gwestiwn sy’n benodol i’r swydd.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch ffurflen gais, bydd y broses ddethol yn cynnwys y camau canlynol:

Cam 1 - Rhestr fer yn seiliedig ar ymatebion i'r holl gwestiynau uchod

Cam 2 - Cyfweliad panel ar gymwyseddau a meini prawf penodol i’r swydd. Bydd y cyfweliad yn cael ei gynnal trwy Microsoft Teams.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Er mwyn gwneud cais am y swydd hon, bydd angen i chi ateb yn bositif i'r cwestiynau isod;

Ydych chi ar hyn o bryd yn gyflogedig fel Rheolwr Gorsaf A neu uwch ar sail parhaol ac amser cyflawn mewn Gwasanaeth Tân ac Achub yn y Deyrnas Unedig?

A yw'ch Prif Swyddog Tân wedi cytuno ichi wneud cais am y swydd hon?

Steve Pomeroy - steve.pomeroy@gov.wales - 03000 628219 / Steve Bryant, Assistant Fire and Rescue Advisor- steve.bryant001@gov.wales - 03000 625149

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.