Swydd Wag -- Swyddog Cymorth Tîm AGIC/AGC x10

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£21,300
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru – Merthyr Tudful. Arolygiaeth Gofal Cymru – Merthyr, Cyffordd Llandudno neu Gaerfyrddin
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella.

Diben AGC yw annog gwaith i wella gwasanaethau cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol drwy reoleiddio, arolygu, adolygu a rhoi cyngor proffesiynol. 

Mae'r ddwy Arolygiaeth yn cyflawni swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru ac maent yn rhan o Grŵp y Prif Swyddog Gweithredol yn Llywodraeth Cymru.  

Bydd y deiliaid swydd llwyddiannus yn cefnogi'r Arolygiaethau i gyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol ac yn eu helpu i gyflawni eu hamcanion busnes corfforaethol. 

O ran AGIC, mae'n bosibl y bydd angen i'r deiliad swydd roi cymorth i dimau eraill yn AGIC yn ôl y galw. 

Prif dasgau

Tasgau sy'n benodol i'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn rhoi cymorth i un o'r timau yn AGIC neu AGC. Bydd y dyletswyddau penodol yn ddibynnol ar yr Arolygiaeth a'r tîm, ond byddant yn cynnwys rhai o'r tasgau gweinyddol isod neu bob un ohonynt: 

  • Trefnu ymweliadau a chyfarfodydd i aelodau o'r tîm, gan gynnwys trefnu lleoliadau ac arlwyo drwy'r Tîm Gwasanaethau Corfforaethol.  
  • Prosesu trefniadau teithio ar gyfer aelodau o'r tîm, gan gynnwys gwestai, tocynnau trên, tocynnau awyren, llogi car ac ati drwy'r Tîm Gwasanaethau Corfforaethol.
  • Darparu cymorth ysgrifenyddol a gweinyddol ar gyfer cyfarfodydd tîm, cyfarfodydd mewnol/allanol, gweithdai, digwyddiadau hyfforddi ac ymweliadau allanol – gan gynnwys paratoi agendâu, dosbarthu papurau perthnasol, cymryd nodiadau a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu yn cael eu cymryd. 
  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y tîm, gan gyfeirio cwsmeriaid at ganllawiau perthnasol a sicrhau, os na allwch ddatrys yr ymholiad, y caiff eitemau eu dirprwyo neu eu cyfeirio at y tîm/arolygwr perthnasol er mwyn iddo ymateb iddynt. 
  • Rheoli blwch post y tîm, gan sicrhau yr ymdrinnir â gohebiaeth ac ymholiadau yn brydlon, a chyfeirio ymholiadau at gysylltiadau perthnasol yn AGC/AGIC a Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth fel y bo'n briodol neu eu cyfeirio'n allanol at bartneriaid a sefydliadau eraill. 
  • Cofnodi gohebiaeth a sicrhau ei bod yn cael ei hanfon ymlaen at sylw'r aelod perthnasol o'r tîm.   Monitro hynt yr ohebiaeth, gan sicrhau y bodlonir yr holl derfynau amser/targedau.
  • Drafftio llythyrau a cheisiadau am wybodaeth gyffredinol ar ran aelodau o'r tîm.  
  • Ymgymryd â rôl Rheolwr Cynllun Ffeilio'r tîm, a fydd yn golygu creu a chau ffeiliau iShare.
  • Cwblhau gwiriadau cychwynnol ffurflenni'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a thrin gwybodaeth bersonol yn unol â'r polisïau priodol.
  • Cofnodi gwybodaeth yn gywir ar systemau mewnol perthnasol. 
  • Rhoi cymorth i gydweithwyr yn nhîm y Prif Arolygydd a thîm ehangach yr Uwch-reolwyr, a chyflenwi yn eu lle, yn ôl yr angen. 
  • Cynnal cyfrinachedd ym mhob agwedd ar eich gwaith, gan gynnwys trin gwybodaeth gyfrinachol. 
  • Rheoli eich datblygiad proffesiynol eich hun a cheisio cyfleoedd priodol mewn trafodaeth â'r Rheolwr. 
  • Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer gwefan a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr Arolygiaeth. 
  • Unrhyw ddyletswyddau eraill y gall fod angen eu cyflawni ar gais Rheolwr y Tîm.

Cyfleoedd datblygu

Bydd y rôl yn cynnig sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad da mewn perthynas â rheoli gwaith, gwasanaeth cwsmeriaid a systemau a phrosesau gweinyddol.

Dyddiad Cau

06/12/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol: 

Monitro a storio data critigol yn ddiogel ac yn gywir, yn gyfrinachol ac yn gyfrifol.  

Arwain a Chyfathrebu:

Defnyddio iaith glir a gwirio'r gwaith am wallau sillafu a gramadeg, gan ddysgu o wallau blaenorol.

Rheoli Gwasanaeth o Safon: 

Mynd ati i geisio gwybodaeth gan gwsmeriaid er mwyn deall eu hanghenion a'u disgwyliadau a rheoli gwybodaeth mewn ffordd briodol.

Cyflawni yn Gyflym: 

Cymryd cyfrifoldeb am safon eich gwaith eich hun a diweddaru'r rheolwr yn gyson am sut mae eich gwaith yn dod yn ei flaen.

Meini prawf penodol i'r swydd

Y gallu i ddarparu gwasanaeth rheng flaen o ansawdd uchel i gwsmeriaid mewnol ac allanol, dros y ffôn, ar-lein neu yn ysgrifenedig, gan nodi'r camau gweithredu mwyaf priodol.
Y gallu i gadw a chynnal cofnodion cywir a bod yn fedrus wrth ddefnyddio meddalwedd gyfrifiadurol fel Word ac Excel.
Ability to work with confidential and sensitive information with the utmost discretion and to record this information safely and securely

Proses Asesu

Llunio Rhestr Fer/Sifftio Ceisiadau :

Caiff rhestr fer ei llunio drwy asesu'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn y cais, y CV a'r dystiolaeth a lanlwythwyd. Caiff hyn ei asesu gan ddefnyddio'r matrics sgorio (gweler y Canllawiau i Ymgeiswyr Allanol ym mharagraff 6) yn erbyn y cymwyseddau a'r meini prawf penodol i'r swydd a nodir yn y disgrifiad swydd/hysbyseb swydd. 

Os daw nifer uchel o geisiadau i law, mae'n bosibl mai dim ond yn seiliedig ar eich ymatebion i'r tri maen prawf penodol ar gyfer y swydd y bydd y panel yn llunio'r rhestr fer. Noder bydd y bydd angen i chi ddarparu ymateb ysgrifenedig o hyd mewn perthynas â'r pedwar cymhwysedd a'r tri maes penodol ar gyfer y swydd er mwyn pasio'r cam llunio rhestr fer yn llwyddiannus.

Cewch wybod y canlyniad drwy'r system ar-lein.


Cyfweliadau:

Caiff cyfweliadau eu cynnal yn rhithwir dros Microsoft Teams.  Os na allwch gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein am ba reswm bynnag, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau amgen lle y bo'n bosibl.

Os ydych yn anabl, os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, os ydych yn niwrowahanol neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain a hoffech wneud cais am addasiadau rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy e-bostio CIWHR@gov.wales.

Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu penodi i rôl yn AGC neu AGIC yn seiliedig ar eu sgiliau, eu profiad a'u lleoliad daearyddol. Byddant yn cael disgrifiad swydd llawn ar gyfer y rôl honno pan gynigir y swydd iddynt.

Cedwir rhestr wrth gefn fel y gellir penodi ymgeiswyr ar y rhestr fer i rôl Swyddog Cymorth Tîm o fewn 12 mis i'r cynnig cychwynnol, os bydd swydd addas sy'n cyfateb i'w sgiliau a'u lleoliad yn codi. Cynigir swyddi i ymgeiswyr ar y rhestr wrth gefn ar sail teilyngdod.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae hon yn ymgyrch recriwtio ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bedair swydd wag cymorth tîm. Bydd pob swydd wedi'i lleoli yn swyddfa Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful .

Mae gan Arolygiaeth Gofal Cymru chwe swydd wag cymorth tîm ar adeg yr hysbyseb ond mae''n bosibl y bydd y nifer hwn wedi cynyddu erbyn i gynnig gael ei wneud. Gall y swyddi hyn fod wedi'u lleoli yn swyddfa Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno.

Mae AGC ac AGIC yn defnyddio dull hybrid o weithio, sef 'Gweithio'n Glyfar' fel y'i gelwir yn Llywodraeth Cymru; mae hyn yn cynnwys cyfuniad o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa yn unol â'ch ymrwymiadau ac anghenion y busnes.

CYN GWNEUD CAIS AM Y ROLAU HYN, SICRHEWCH EICH BOD WEDI DARLLEN CANLLAWIAU RECRIWTIO YMGEISWYR ALLANOL LLYWODRAETH CYMRU A'CH BOD YN EU DEALL


Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rolau hyn. Rydym yn annog ceisiadau ar gyfer y swyddi hyn gan siaradwyr Cymraeg a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.

Gweithio Hyblyg – Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng gwaith a bywyd.

Gwyliau Blynyddol – Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 31 diwrnod o wyliau blynyddol i gyflogeion llawn amser, pro rata ar gyfer staff rhan-amser (e.e. 4 diwrnod = 25 diwrnod.

Gwyliau Banc – Caiff cyflogeion llawn amser 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint y flwyddyn, pro rata ar gyfer cyflogeion rhan-amser.

Cyflog – Rydym yn gyflogwr Cyflog Byw â graddfeydd cyflog cynyddrannol. Mae gennym hefyd strwythur cyflog cyfartal, beth bynnag fo oedran, statws priodasol, anabledd, hil, crefydd neu gred, neu hunaniaeth o ran rhywedd. Ceir rhagor o wybodaeth yma. https://llyw.cymru/datganiad-polisi-tal-llywodraeth-cymru-2020

Teithio a Chynhaliaeth – Bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu cyflogeion am gostau ychwanegol angenrheidiol yr eir iddynt mewn perthynas â theithio a chynhaliaeth ar deithiau busnes swyddogol i ffwrdd o'r swyddfa arferol. Ni fydd yn ad-dalu costau y gellid bod wedi eu hosgoi drwy gynllunio'n well neu a oedd yn angenrheidiol fel arall i gyflawni diben swyddogol yr ymweliad.

Pensiwn – Ceir rhagor o wybodaeth am gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yma: https://www.civilservicepensionscheme.org.uk/

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ei holl gyflogeion. Mae gennym raglenni talent amrywiol a rhwydweithiau staff cryf a rhagweithiol er mwyn helpu pawb, beth bynnag fo'u cefndir, i wireddu eu potensial yn llawn.

Dysgu a Datblygu – Caiff pob aelod o staff yn Llywodraeth Cymru ei gefnogi i feithrin ei sgiliau a'i alluoedd, gan gynnwys cyfleoedd dysgu a datblygu gyda darparwyr o'r radd flaenaf.  Mae AGC ac AGIC yn ymrwymedig i Ddysgu a Datblygu ac i sicrhau bod ein staff yn cwblhau pum diwrnod o ddysgu o leiaf bob blwyddyn. Caiff hyn ei gefnogi gan raglen ddysgu bwrpasol ar gyfer cyflogeion AGC ac AGIC.

Sefydlu – Caiff pob newydd-ddyfodiad hyfforddiant Sefydlu fel un o gyflogeion Llywodraeth Cymru.  Caiff hyn ei gefnogi gan raglen ddysgu bwrpasol ar gyfer cyflogeion AGC ac AGIC.

Cod y Gwasanaeth Sifil – Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi'r gwerthoedd craidd a'r safonau a ddisgwylir gan bob gwas sifil: uniondeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd.  Disgwylir i bob gwas sifil ymddwyn yn unol â Chod y Gwasanaeth Sifil, https://llyw.cymru/cod-y-gwasanaeth-sifil

Gwerthoedd Craidd AGC – Mae ein gwerthoedd craidd yn sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth a wnawn a'n dyheadau fel sefydliad.

        Gofalgar: rydym yn dosturiol ac yn gyfeillgar

        Teg: rydym yn gyson, yn ddiduedd ac yn gynhwysol

        Uniondeb: rydym yn onest a gellir ymddiried ynom

        Proffesiynol: rydym yn fedrus, yn wybodus ac yn arloesol

        Parch: rydym yn gwrando ar bobl, yn ymgysylltu â nhw ac yn eu gwerthfawrogi

Gwerthoedd Craidd AGC – Mae pobl wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn:

        Annibynnol: rydym yn ddiduedd wrth benderfynu pa waith rydym yn ei wneud a lle rydym yn ei wneud

        Gwrthrychol: rydym yn rhesymol, yn deg ac yn gweithredu ar sail tystiolaeth

        Pendant: rydym yn gwneud dyfarniadau clir ac yn cymryd camau i wella safonau gwael ac amlygu'r arferion da rydym yn dod ar eu traws

        Cynhwysol: rydym yn gwerthfawrogi ac yn annog cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy ein gwaith

        Cymesur: rydym yn ystwyth ac yn gwneud ein gwaith lle mae o'r pwys mwyaf

For HIW: HIW@gov.wales For CIW email : CIWHR@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.