Swydd Wag -- Gweithiwr Proffesiynol Gwybodaeth / Llyfrgellydd x2

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwasanaethau Llyfrgell
EO - £26,900 - £30,610
Trafodadwy
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cynorthwyo’r Uwch Weithiwr Proffesiynol Gwybodaeth/Llyfrgell i gyflawni’r prif brosiectau gwybodaeth a llyfrgell ganlynol (gweithio matrics):

  • Chwiliadau Llenyddiaeth – yn unol â’r amcanion y cytunwyd arnynt a chytundeb lefel gwasanaeth (40% o’r amser)
    • Datblygu a chynnal chwiliadau llenyddiaeth systematig o ansawdd uchel a nodi data o dan arweiniad yr uwch reolwr prosiect;
    • Trafod, esbonio a thrafod dichonoldeb chwiliadau yng nghyd-destun tîm y prosiect er mwyn sicrhau bod y strategaethau chwilio yn ateb y cwestiynau ymchwil a’u bod yn briodol i gyllideb a methodoleg y prosiect;
    • Cyfathrebu gwybodaeth dechnegol am faterion chwilio i’r rheini nad ydynt yn arbenigwyr;
    • Ysgrifennu canlyniadau chwilio ar gyfer adroddiadau yn ôl safonau arfer gorau ar gyfer adroddiadau chwilio;
    • Cysylltu’r â’r cleient o fewn y prosiect, gyda chymorth ac arweiniad uwch gydweithwyr;
    • Helpu i ddatblygu gweithdrefnau mewnol i sicrhau cysondeb ar draws y tîm gwybodaeth/Llyfrgell;
    • Cadw gwybodaeth ac arbenigedd proffesiynol yn gyfredol drwy barhau i fod yn ymwybodol o wybodaeth berthnasol, ymchwil adalw ac adnoddau gwybodaeth;
    • Lle bo’n berthnasol, rhoi arweiniad a chymorth i gydweithwyr mewnol ar faterion yn ymwneud â chwilio;
    • Gwaith y gallai eich rheolwr prosiect ei neilltuo i chi.
  • Trefnu ein ffynonellau gwybodaeth (Catalogio) a rheolaeth o System Rheoli Llyfrgell (LMS) – yn unol â’r amcanion y cytunwyd arnynt (targedau) a chytundeb lefel gwasanaeth (40% o’r amser)
    • Catalogio’n gywir ac yn amserol yn unol â safonau metadata cydnabyddedig sy’n galluogi defnyddwyr i ddarganfod adnoddau a’u bod yn ategu’r broses o reoli casgliadau;
    • Cynnal holl gyhoeddiadau newydd Llywodraeth Cymru, gan sicrhau eu bod yn cael eu casglu ar gyfer catalogio, dosbarthu ac ychwanegu at ein System Rheoli Llyfrgell (LMS);
    • Cynnal archif cyhoeddiadau copi called Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r cyn Swyddfa Gymreig;
    • Catalogio a dosbarthu holl gyhoeddiadau newydd Llywodraeth Cymru; gan gynnwys cylchlythyrau a dogfennau electronig;
    • Ymgymryd â chatalogio, dosbarthu ac archifo casgliadau/deunyddiau priodol yn ôl-weithredol;
    • Glynu at safonau catalogio a dosbarthu a sicrhau eu bod yn cael eu cymhwyso’n gyson;
    • Cynnal thesawrws o fewn y system rheoli Llyfrgell (LMS) er mwyn sicrhau bod y rhain yn gweithio’n effeithiol a’u bod yn gyfredol;
    • Cynnal a chadw ein System Rheoli Llyfrgell (LMS);
    • Gwaith y gallai eich rheolwr prosiect ei neilltuo i chi.

Bydd dyletswyddau eraill (20% o’r amser) yn cynnwys:

  • Dyletswyddau desg ymholiadau, gan gynnwys ymdrin ag ymholiadau, materion a chwynion am ein cynhyrchion a’n gwasanaethau drwy wrando ar ein cwsmeriaid a gwella ein cynhyrchion a’n prosesau o ganlyniad;
  • Gweithgareddau hyfforddi (llythrennedd gwybodaeth), hyfforddiant ar ddefnyddio’r rhyngrwyd ac adnoddau electronig (cronfa ddata ar-lein);
  • Canllawiau a chymorth ar faterion rheoli gwybodaeth;
  • Marchnata a hyrwyddo ein cynhyrchio a’n gwasanaethau;
  • Rhoi arweiniad a chymorth i gydweithwyr Llywodraeth Cymru ar fabwysiadu neu wella arferion ac ymddygiad Rheoli Gwybodaeth a Hysbysrwydd.

Prif dasgau

  • Ateb ystod eang o ymholiadau ymchwil (chwiliadau llenyddiaeth) gan staff polisi a chyfreithiol, isadrannau Llywodraeth Cymru ac adrannau eraill y Llywodraeth gan ddefnyddio gwybodaeth ffynhonnell agored.
  • Catalogio a rheolaeth adnoddau, gan gynnwys datblygu casgliadau, catalogio, System Rheoli’r Llyfrgell ac ail-ddefnyddio (cynllun cyhoeddi a gwybodaeth sector gyhoeddus – PSI).
  • Dyletswyddau desg ymholiadau, gan gynnwys ymdrin ag ymholiadau, materion a chwynion am ein cynhyrchion a’n gwasanaethau drwy wrando ar ein cwsmeriaid a gwella ein cynhyrchion a’n prosesau o ganlyniad.
  • Gweithgareddau hyfforddi (llythrennedd gwybodaeth), hyfforddiant ar ddefnyddio’r rhyngrwyd ac adnoddau electronig (cronfa ddata ar-lein).
  • Canllawiau a chymorth ar faterion rheoli gwybodaeth.
  • Marchnata a hyrwyddo ein cynhyrchio a’n gwasanaethau.
  • Rhoi arweiniad a chymorth i gydweithwyr Llywodraeth Cymru ar fabwysiadu neu wella arferion ac ymddygiad Rheoli Gwybodaeth a Hysbysrwydd.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn rhoi cyfle i weithio gydag ystod eang o adnoddau gwybodaeth a deall anghenion gwybodaeth cydweithwyr polisi a'r broses ddeddfu mewn lleoliad Llywodraeth. Bydd y swydd yn galluogi unigolion i ddatblygu eu sgiliau ymchwil a rheoli casgliadau. Mae cyfle i feithrin perthynas waith cryf gyda'r proffesiwn Rheoli Gwybodaeth a Hysbysrwydd ar draws Llywodraeth y DU yn ogystal â hyfforddiant ar y safle ar gyfer prosiectau penodol.  Mae datblygiad proffesiynol parhaus yn cael ei annog yn frwd i ddatblygu sgiliau a helpu i gefnogi proffesiwn Rheoli Gwybodaeth a Hysbysrwydd o fewn Llywodraeth Cymru.

Dyddiad Cau

31/03/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

  1. Gweld y Darlun Cyflawn - Bod yn ymwybodol o’r diweddaraf am gyfres o faterion cyffredinol sy’n berthnasol i waith yr Adran.
  2.  Newid a Gwella - Deall technoleg a’i defnyddio i wireddu canlyniadau effeithlon ac effeithiol i’r busnes ac iddyn nhw’n bersonol.
  3.  Gwella Gallu Pawb - Cymryd cyfrifoldeb am ansawdd eu gwaith eu hunain a chwilio am gyfleoedd i wella drwy ddysgu’n barhaus.
  4.  Rheoli Gwasanaeth Safonol - Gweithio gyda’r tîm i osod blaenoriaethau, creu cynlluniau clir a rheoli’r holl waith er mwyn diwallu anghenion y cwsmer a’r busnes.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. GKIM sgil 1. Defnyddio a manteisio ar wybodaeth a hysbysrwydd - Creu cydberthnasau, ffyrdd gwell o weithio, rhannu gwybodaeth a chyfathrebu'n effeithiol â rhanddeiliaid. GKIM Ymarferydd lefel sgiliau.
  2. GKIM sgil 2. Rheoli a threfnu gwybodaeth - Creu, trefnu a rheoli gwybodaeth a hysbysrwydd drwy gydol eu hoes i gefnogi'r busnes yn effeithiol. GKIM Ymarferydd lefel sgiliau.
  3. GKIM sgil 3. Llywodraethu Gwybodaeth - Dadansoddi risgiau gwybodaeth, hawliau gwybodaeth, cydymffurfio cyfreithiol, perchnogaeth ar wybodaeth ac atebolrwydd. GKIM Ymarferydd lefel sgiliau.

Proses Asesu

  • Sifft.
  • Cyfweliad ffurfiol.
  • Prawf gwybodaeth.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Emma Harvey-Woodason - Emma.Harvey-Woodason@gov.wales - 03000 250381

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.