Swydd Wag -- Uwch-reolwr Atebion Eiddo

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Atebion Busnes
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£48,650
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w Gadarnhau

Pwrpas y swydd

Er wybodaeth, mae pecyn gwybodaeth ar gael i bawb sydd a diddordeb yn y  swydd. Gwelir y linc isod i weld pecyn hon:

https://llyw.cymru/sites/default/files/inline-documents/2019-06/rheolwr-atebion-eiddo.pdf



Ffurfiwyd y Gyfarwyddiaeth Seilwaith Economaidd yn ystod haf 2017 yn sgil ad-drefnu'r adrannau Economi a Seilwaith o fewn Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol.

Gweledigaeth y Gyfarwyddiaeth yw helpu i greu seilwaith modern a chysylltiedig er mwyn cydgysylltu gwasanaethau cyhoeddus a datblygiadau eraill er mwyn manteisio i'r eithaf ar fuddion economaidd rhanbarthol. 

Mae cylch gwaith y Gyfarwyddiaeth yn cwmpasu Ffyrdd; Rheilffyrdd; Hedfan; Masnach a Buddsoddiad Rhyngwladol; Eiddo Masnachol a Seilwaith Digidol. 

O ganlyniad, rydym yn gyfrifol am rai o'r rhaglenni a'r prosiectau mwyaf, mwyaf cymhleth a mwyaf mentrus a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru. 

Mae’r 320 o aelodau staff yn cynnwys amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol sy'n cwmpasu meysydd megis Syrfewyr Siartredig, Cynllunwyr Trefi, Economegwyr, Peirianwyr a Chyfrifwyr, sy’n creu tîm amlddisgyblaethol cryf. 

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid mewnol ar draws y Llywodraeth, Rhanbarthau Cymru, cyrff cyhoeddus eraill ac, yn gynyddol, y sector preifat. 

Mae Is-adran Atebion Busnes yn y Gyfarwyddiaeth Seilwaith Economaidd yn dîm sy'n wynebu cwsmeriaid ac sydd â phwyslais masnachol, sy’n creu pecynnau ariannol a masnachol arloesol i helpu i gyflawni llawer o'r rhaglenni a phrosiectau mwy cymhleth a ymgymerir o fewn y Gyfarwyddiaeth Seilwaith Economaidd. 

Mae'r Gangen Atebion Eiddo yn un o dair cangen sy'n ffurfio'r Is-adran Atebion Busnes, ynghyd â'r timau Atebion Masnachol a Phrosiectau. Mae datblygu eiddo a buddsoddi wrth wraidd llawer o'n prosiectau ac, yn aml, rydym yn gweithio'n agos gyda datblygwyr a buddsoddwyr y sector preifat. 

Yr allwedd i lwyddiant o ran sicrhau mewnfuddsoddiad newydd i Gymru a chefnogi twf cwmnïau cynhenid yn aml fu gallu'r tîm i ddatblygu atebion arloesol ar gyfer eiddo. 

Yn ddiweddar, mae ein sgiliau eiddo wedi chwarae rhan allweddol mewn galluogi Seilwaith Trafnidiaeth, yn enwedig pan fo’r rhain yn gysylltiedig â chyfleoedd adfywio. 

Mae gweithgareddau cyfredol a diweddar wedi manteisio ar yr arbenigedd Eiddo Tirol hwn ym meysydd Datblygu Masnachol; Buddsoddi; Cyllid Datblygu; Cyd-fenter; Prynu a gwaredu Tir; Arwain ac ati. 

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain trafodaethau ar y setliad masnachol a allai gynnwys prynu, rheoli, arwerthu, gwerthu neu drosglwyddo asedau seilwaith. Bydd deiliad y swydd yn darparu penderfyniadau sicrwydd, technegol a gweithredol uwch, ar gyfer nifer o raglenni a phrosiectau cymhleth. 

Bydd deiliad y swydd yn cynrychioli Cymru mewn trafodaethau ar y lefel uchaf un gyda chwmnïau amlwladol a chyrff cyhoeddus yng Nghymru a chyda Llywodraeth y DU.

Prif dasgau

Er wybodaeth, mae pecyn gwybodaeth ar gael i bawb sydd a diddordeb yn y  swydd. Gwelir y linc isod i weld pecyn hon:

https://llyw.cymru/sites/default/files/inline-documents/2019-06/rheolwr-atebion-eiddo.pdf



  • Cynghori cleientiaid mewnol ynghylch atebion eiddo a arweinir gan y sector preifat ar gyfer cwmnïau a phrosiectau.
  • Datblygu dulliau ariannu sy’n cydymffurfio ag “Egwyddor Gweithredwr Economi'r Farchnad” i gefnogi datblygiad pecynnau eiddo i gwmnïau, megis prif brydlesau, gwarantau, benthyciadau cyllid prosiect ac ati.
  • Trafod Cyd-fentrau (contractiol, corfforedig ac anffurfiol) gyda phartneriaid cyhoeddus a phreifat a sicrhau cyllid dyledion trydydd parti (oddi ar fantolen).
  • Gweithio gyda pherchnogion a hyrwyddwyr prosiectau mawr er mwyn i brosiectau symud ymlaen i'r cam lle bônt yn barod am fuddsoddiad. Wedi hynny, gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a’r Adran Fasnach Ryngwladol i hyrwyddo'r prosiectau hynny i ddarpar fuddsoddwyr.
  • Datblygu a chynnal amrywiaeth o gydberthnasau cynhyrchiol gyda Buddsoddwyr, Datblygwyr a Pherchnogion Eiddo gyda'r nod o feithrin dealltwriaeth o gyfleoedd yn y farchnad er mwyn cyflawni prosiectau sydd o fudd i Gymru.
  • Negodi prydlesau, gwarediadau, caffaeliadau eiddo ac ati ac wedyn cyfarwyddo a rheoli cynghorwyr allanol gan gynnwys priswyr a chyfreithwyr.
  • Bydd deiliaid y swydd yn darparu gwasanaeth datrys problemau rhagorol i gwsmeriaid mewnol ac allanol a byddant yn darparu ymateb hyblyg a chyflym i fewnfuddsoddiadau mawr a chwmnïau cynhenid o ran datblygu atebion gweithredol sy'n galluogi busnesau i fuddsoddi a thyfu yng Nghymru.

Cyfleoedd datblygu

Er wybodaeth, mae pecyn gwybodaeth ar gael i bawb sydd a diddordeb yn y  swydd. Gwelir y linc isod i weld pecyn hon:

https://llyw.cymru/sites/default/files/inline-documents/2019-06/rheolwr-atebion-eiddo.pdf



The post offers the opportunity to work in a high profile delivery area. Infrastructure investment is one of the highest priorities for the Welsh Government. It can provide an important and much needed stimulus, creating the conditions for increased and sustainable growth in the medium and longer term. The Economic Infrastructure directorate is responsible for the largest infrastructure investments ever made by the Welsh Government with a total public funding contribution exceeding £2bn over the next 5 years. The post holder will lead on complex negotiations that will ensure that much needed private sector investment can be secured to match this very significant public funding.

Dyddiad Cau

22/07/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Er wybodaeth, mae pecyn gwybodaeth ar gael i bawb sydd a diddordeb yn y  swydd. Gwelir y linc isod i weld pecyn hon:

https://llyw.cymru/sites/default/files/inline-documents/2019-06/rheolwr-atebion-eiddo.pdf



Cymwyseddau:

  1. Cyflawni Canlyniadau Masnachol - Deall y sbardunau masnachol a fydd yn dylanwadu ar sefydliad preifat neu drydydd sector a'r dulliau ysgogi y gellir eu defnyddio wrth drafod/dylanwadu ar drefniadau contractiol
  2. Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Nodi'r prif faterion mewn problemau cymhleth, egluro dealltwriaeth neu ddisgwyliadau rhanddeiliaid, er mwyn ceisio’r dewis gorau
  3. Cyflawni’n Gyflym - Cynnal perfformiad effeithiol mewn amgylchiadau anodd a heriol, annog eraill i wneud yr un peth
  4. Cyflawni Canlyniadau Masnachol - Rhyngweithio'n hyderus ac yn effeithiol fel cwsmer deallus a chredadwy iawn gyda chyfatebwyr o'r sefydliadau cyflawni masnachol ac arbenigwyr masnachol

Meini Prawf Penodol I'r Swydd:

  1. Profiad o reoli datblygiadau eiddo mawr neu gymhleth.
  2. Nid yw gwybodaeth am grantiau a chymorth Gwladwriaethol yn hanfodol ond byddai'n ddymunol, fel arall y gallu i gymathu gwybodaeth gymhleth, ariannol, rheoliadol neu gyfreithiol yn gyflym.
  3. Cefndir yn y Diwydiant eiddo masnachol (Datblygu, Buddsoddi, Prynu Tir, Cynghori, Eiddo Tirol Corfforaethol, ac ati) Craffter masnachol, a enillwyd yn ddelfrydol yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Chris Munday - christopher.munday@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.