Swydd Wag -- Swyddog Cynllunio
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Prif dasgau
Cyflawni Gweithredol
- Arwain a darparu cymorth cynllunio ac amgylcheddol ar brosiectau ym mhob rhan o’r cyfundrefnau caniatáu seilwaith mawr perthnasol a bennir gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys cyngor amgylcheddol cyn gwneud cais i ddatblygwyr a rhanddeiliaid eraill.
- Gweithredu, â chymorth, wrth asesu ac ymateb i ymgeiswyr, rhanddeiliaid eraill, Arolygwyr a thimau achosion PCAC ar agweddau technegol Asesiadau o’r Effeithiau Amgylcheddol ac Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd.
- Rheoli prosiectau penodedig a chyflwyno cynhyrchion craidd megis: cyfarwyddiadau sgrinio; cyfarwyddiadau cwmpasu; adolygiadau o Ddatganiadau Amgylcheddol; adolygiadau o Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd.
- Cynorthwyo a chynghori Arolygwyr, apelyddion/ymgeiswyr a swyddogion achos ar faterion yn ymwneud ag Asesiadau o’r Effeithiau Amgylcheddol o ran gwaith achos wrth wneud penderfyniadau sgrinio gan ysgrifennu Cyfarwyddiadau Sgrinio, penderfynu ar ddigonolrwydd Datganiadau Amgylcheddol a gwneud ceisiadau, â chymorth, am ragor o wybodaeth amgylcheddol.
- Rhoi cyngor a chymorth i ymgeiswyr/apelyddion i sicrhau bod y wybodaeth dechnegol sydd ei hangen i benderfynu ar geisiadau am sgrinio ar gyfer Asesiadau o’r Effeithiau Amgylcheddol a safbwyntiau cwmpasu ar gyfer Asesiadau o’r Effeithiau Amgylcheddol yn gadarn ac yn briodol.
- Mentora pobl eraill, gan eu cefnogi â’u hamcanion datblygu personol, darparu hyfforddiant a chymorth arall gan gynnwys hyfforddiant mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’u rôl yn ôl yr angen.
- Gwerthuso ac adolygu tystiolaeth yn effeithiol gan bob parti o ran gwaith achos perthnasol, a deall tystiolaeth ysgrifenedig gymhleth, gwrthgyferbyniol ac anghyffelyb wrth lunio barn gynllunio.
- Llunio barn resymegol a diduedd, ac adrodd ar eich argymhellion neu wneud penderfyniadau ar ran Gweinidogion Cymru sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi’u mynegi’n argyhoeddiadol ac yn gryno mewn Saesneg ysgrifenedig clir.
- Darparu cymorth proffesiynol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol gan gynnwys tasgau arwahanol a/neu gymorth i Arolygwyr yn ystod y broses archwilio megis cwmpasu cychwynnol ar gyfer cynlluniau, adolygu a dadansoddi sylwadau.
- Cyflwyno gwaith achos a ddyrannwyd o fewn safonau amser ac ansawdd.
- Cefnogi ymateb PCAC ar gais i newidiadau mewn polisi, deddfwriaeth a chyfraith achosion, gan ddarparu cyngor strwythuredig a chyngor anffurfiol ar faterion newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, ar draws ystod lawn o feysydd polisi a mathau o waith achos.
- Drafftio cyngor technegol cymhleth ar gyfer amrywiaeth o benderfynwyr proffesiynol, gan sicrhau ei fod yn gywir ac yn cydymffurfio â’r gyfraith.
- Adolygu diweddariadau yng nghynnwys y cyngor a roddir, gan sicrhau cywirdeb, nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth, a datblygu cynnwys newydd i ymateb i anghenion busnes.
- Ymgymryd â phrosiectau ymchwil penodol mewn meysydd gwaith achos cymhleth neu newydd.
- Datblygu eich arbenigedd pwnc eich hun o ddefnyddio polisi a deddfwriaeth i sicrhau mwy o alluedd a gwydnwch o fewn y tîm a thu hwnt.
- Darparu cynnwys ar gyfer rhaglenni hyfforddiant a chyflwyno hyn, lle bo angen, i swyddogion achos, Arolygwyr neu randdeiliaid.
- Cynnal ymchwiliadau i gŵynion ar ôl i benderfyniadau gael eu gwneud ac ystyried hawliadau am ad-daliad o dan bolisïau’r sefydliad, gan dangos rhesymu a chasgliadau manwl.
Tîm
- Meithrin perthnasoedd effeithiol a chefnogol o fewn timau, ar draws PCAC a gyda rhanddeiliaid. Cydweithio ag eraill i helpu i gyflawni amcanion strategol sefydliadol.
- Gweithredu fel mentor a hyfforddwr i eraill o fewn y tîm i sicrhau bod aelodau’r tîm yn cael datblygiad proffesiynol priodol, a bod talent yn cael ei datblygu.
- Rhannu gwelliannau i brosesau, syniadau a datrysiadau o ran effeithlonrwydd, er mwyn gwella perfformiad y tîm a pherfformiad sefydliadol.
- Gwrando ar adborth a gweithredu arno, a chymryd cyfrifoldeb dros hunanddatblygiad.
- Bod yn fodel rôl ar gyfer Gwerthoedd Craidd PCAC.
- Sicrhau bod data personol a sefydliadol yn cael eu storio a’u rheoli yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad.
Cysylltiadau â Chwsmeriaid/Rhanddeiliaid
- Hyrwyddo darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol o fewn timau.
- Sefydlu a chynnal cysylltiadau cryf â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
- Cynnal a gwella gwasanaeth cynllunio ac amgylcheddol y sefydliad a rheoli cysylltiadau pwysig â chwsmeriaid, gan gynnwys ymgeiswyr, asiantaethau ac adrannau’r llywodraeth, a mynychu a chymryd rhan mewn digwyddiadau allanol, lle bo angen.
Cyfleoedd datblygu
Bydd deiliad y swydd yn cael y cyfle i ehangu a dyfnhau ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o’r gwaith achos a brosesir gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, gan gynnwys ceisiadau ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, apeliadau cynllunio a gwaith achos cysylltiedig arall.
Gweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i ddarparu gwasanaeth effeithiol a phrydlon.
Bydd deiliad y swydd yn cael cefnogaeth i ymgymryd â DPP a hyfforddiant sy’n cryfhau ei gyfraniad i’r tîm.
Bydd deiliad y swydd yn elwa ar brofiad o weithio mewn amgylchedd cyflawni gweithredol â ffocws, sy’n prosesu gwaith achos yn ymwneud yn uniongyrchol â’r Rhaglen Lywodraethu, h.y.
- Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth i ni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl
- Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn
- Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau
Mae'r recriwtio hwn yn cael ei wneud yn unol â dull proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil:
https://www.gov.uk/government/publications/success-profiles.cy
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
- Dadansoddi a defnyddio ystod o wybodaeth berthnasol, gredadwy o ffynonellau mewnol ac allanol i gefnogi penderfyniadau.
Gweithio ar y Cyd
- Sefydlu perthynas broffesiynol gydag ystod o randdeiliaid. Cydweithio â’r rhain i rannu gwybodaeth, adnoddau a chymorth.
Cyflawni’n Brydlon
- Hyrwyddo diwylliant o ddilyn y gweithdrefnau priodol i sicrhau bod y canlyniadau’n cael eu cyflawni ar amser tra’n galluogi arloesi o hyd.
Rheoli Gwasanaeth Ansawdd Da
- Cyflawni canlyniadau o ansawdd uchel sy’n bodloni anghenion cwsmeriaid yn llwyddiannus ac yn rhoi gwerth am arian.
Meini Prawf Penodol i’r Swydd
- Hanfodol: Gradd mewn cynllunio gwlad a thref neu ddisgyblaeth briodol amgylcheddol / defnydd tir (e.e. gwyddor yr amgylchedd, asesu effeithiau amgylcheddol, tirwedd, ecoleg, rheoli llygredd aer).
- Hanfodol: Lefel uchel o ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth eang a chymhleth o faterion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sy’n gysylltiedig â phrosiectau seilwaith.
- Hanfodol: Dealltwriaeth brofedig o egwyddorion a chamau Asesu Effeithiau Amgylcheddol mewn perthynas â phrosiectau seilwaith, gan gynnwys prosesau sgrinio a chwmpasu.
Proses Asesu
Bydd y camau canlynol yn cael eu defnyddio i gysoni a dewis ymgeiswyr addas:
Cam 1) Ansolfedd: Bydd y Panel Recriwtio yn cysoni'r broses o gyflwyno CVs. Bydd y CV yn cael ei ddefnyddio i asesu eu profiad sy'n berthnasol i'r rôl yn unol ag elfen Profiad Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Bydd yr ymgeiswyr hynny sy'n dangos profiad digon perthnasol yn cael gwahoddiad i gyfweld
Cam 2) Cyfweliad: Yn dilyn cam 1, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad drwy MS Teams. Defnyddir cwestiynau'r cyfweliad i asesu Ymddygiadau ac elfennau technegol Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil sy'n berthnasol i'r rôl hon. Yr elfennau technegol sy'n cael eu hasesu yw'r rhai sy'n berthnasol i feini prawf penodol y swydd uchod.
Asesiad a dewis - Bydd ymgeiswyr sy'n pasio'r rhagdybiaeth a'r cyfweliad wedyn yn cael eu rhestru mewn trefn teilyngdod yn seiliedig ar eu sgoriau cyfweliad.
Bydd yr ymgeisydd â'r sgôr uchaf yn cael cynnig swydd barhaol.
Os bydd swydd barhaol arall ar gael, bydd yr ymgeisydd â'r sgôr uchaf nesaf yn cael cynnig y swydd honno.
Ar ôl llenwi'r holl swyddi parhaol, bydd yr ymgeisydd â'r sgôr uchaf nesaf yn cael cynnig y swydd tymor penodol.
Lle mae gan fwy nag un ymgeisydd yr un sgôr cyfan, bydd eu gwybodaeth dechnegol mewn perthynas â'r meini prawf hanfodol canlynol yn cael ei defnyddio i benderfynu ar orchymyn teilyngdod:
- Lefel uchel o ymwybyddiaeth o'r materion amgylcheddol, cymdeithasol, ac economaidd eang sy'n gysylltiedig â phrosiectau seilwaith.
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
A oes gennych radd mewn cynllunio gwlad a thref neu ddisgyblaeth briodol amgylcheddol / defnydd tir (e.e. gwyddor yr amgylchedd, asesu effeithiau amgylcheddol, tirwedd, ecoleg, rheoli llygredd aer)?
Rhaid i'r ymgeisydd uwchlwytho tystiolaeth o'r cymhwyster perthnasol.
Bydd yr ymgeiswyr hynny sy'n ateb 'ydw' i'r cwestiwn uchod ac yn darparu tystiolaeth o'u cymhwyster yn gallu gwneud cais. Mae gofyn i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais a chyflwyno CV cyfredol (dim mwy na 2 dudalen) drwy ein porth recriwtio
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.