Swydd Wag -- UWCH-SWYDDOG MEDDYGOL - GOFAL SYLFAENOL A CHYMUNEDOL

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Uwch Wasanaeth Sifil 1
tua £71,000
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Mae'r swydd hon ar gael fel apwyntiad tymor penodol neu secondiad/benthyciad am hyd at 4 blynedd. Mae ar gael i weithwyr parhaol Gwasanaeth Sifil y DU (a recriwtiwyd drwy gystadleuaeth deg ac agored) ar sail benthyciad. Mae'r swydd hon hefyd ar gael i'r rhai sy'n dymuno ymuno â'r Gwasanaeth Sifil ar apwyntiad tymor penodol ac i'r rhai sy'n dymuno gwneud cais ar sail secondiad.
Hyd at 4 blynedd.
Cymru gyfan

Dyddiad Cau

15/08/22 23:55

Pwrpas y Swydd

Mae’r swydd wedi’i lleoli o fewn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n adran unigryw o fewn Llywodraeth Cymru gan ei bod yn gyfrifol am arfer arweinyddiaeth a rheolaeth strategol ar y GIG yng Nghymru yn ogystal â chynnig cymorth i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a phrosesau democrataidd Senedd Cymru. Mae'n cyflawni hyn trwy 7 Bwrdd Iechyd Lleol a 3 Ymddiriedolaeth y GIG sy'n atebol yn uniongyrchol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol trwy Brif Weithredwr GIG Cymru a'r Cyfarwyddwr Cyffredinol.

Mae'r swydd yn atebol i'r Cyfarwyddwr Gofal Cymunedol, Gofal Sylfaenol, Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed, gydag atebolrwydd proffesiynol i'r Prif Swyddog Meddygol.

Mae gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol a Chymunedol ystod amrywiol o ddyletswyddau, gan gynnwys cyfrifoldeb am y canlynol:

  • Datblygu a gweithredu polisïau mewn perthynas â gwasanaethau meddygol cyffredinol; deintyddiaeth; fferylliaeth, rhagnodi a mynediad i feddyginiaethau newydd; optometreg, offthalmoleg ac awdioleg; diagnosteg a therapïau
  • Diwygio parhaus ar gyfer y contractau a ddefnyddir i gomisiynu gwasanaethau gofal sylfaenol gan ymarferwyr annibynnol er mwyn gallu darparu gofal a chymorth lleol di-dor.

Mae Gofal Sylfaenol yn amgylchedd amlochrog amrywiol, yn seiliedig ac yn dibynnu ar gydweithio ar draws llawer o ddisgyblaethau i ddarparu gofal i unigolyn mewn modd amserol, effeithiol, cydgysylltiedig a darbodus gan osod yr unigolyn hwnnw wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau gofal.

Mae'r swydd yn adlewyrchu hyn, ac er y bydd gweithio o fewn Llywodraeth Cymru yn amgylchedd newydd i lawer, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn brofiadol o fewn gwahanol agweddau ar ddarpariaeth gofal iechyd. Un elfen allweddol fydd cyfathrebu a rhyngweithio'n effeithiol o fewn yr adran, ond yn hollbwysig, i bontio ar draws i wahanol ardaloedd gan ganiatáu gweithio matrics ehangach – gweler cydberthnasau allweddol.

O ganlyniad, mae'r swydd ei hun yn brysur ac yn eang ei chwmpas ond wrth ei gwraidd mae'r nod o wella'r canlyniadau iechyd i bobl Cymru, gan gynyddu'r gwasanaethau sydd ar gael yn y gymuned fel bod pobl yn cael eu gofal yn nes at eu cartrefi, gan y person mwyaf priodol, a chyda llwybrau integredig di-dor i wasanaethau eraill.

Mae hyn yn gofyn am gydweithio agos â gwahanol adrannau o Lywodraeth Cymru, y GIG a chontractwyr preifat.

Nid yw o reidrwydd yn ymwneud â chael proffil uchel ar gyfer gwreiddiau ehangach y proffesiwn - mae'r agwedd honno'n fwy o swyddogaeth i'r Arweinydd Clinigol Cenedlaethol.

 

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Bydd y gweithgareddau isod yn rhan o'r asesiad cyffredinol sy'n ofynnol ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwn:


• Profion Seicometrig Ar-lein - bydd y rhain yn cynnwys rhesymu rhifiadol a llafar a thrafodaeth gyda seicolegydd. Byddwch yn cael dolen at y profion ar-lein ymhen 10 diwrnod gwaith i'r cyfarfod llunio rhestr fer.
Os ydych wedi cwblhau'r profion seicometrig ar-lein yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, am swydd ar yr un radd, ni fydd angen i chi sefyll y profion hyn eto ar gyfer yr ymarfer recriwtio penodol hwn.

• Prawf Cyfryngau - Gofynnir i ymgeiswyr ar y rhestr fer gymryd rhan mewn prawf cyfryngau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 5 Medi 2022. Rhagor o fanylion i ddilyn.

• Cyfweliadau a Chyflwyniadau'r Panel – mae'r rhain wedi'u trefnu ar gyfer 30 Medi 2022. Bydd y rhain hefyd yn digwydd yn rhithwir drwy Microsoft Teams. Bydd y cyfweliadau’n para tua 45 munud. Bydd y panel yn cael adborth ar ôl ichi gwblhau'ch profion seicometrig a’r ymarfer ymgysylltu â staff/rhanddeiliaid, cyn ichi gael eich cyfweld. Bydd eich cyfweliad yn ystyried sut mae eich sgiliau a'ch profiad fel yr amlinellir yn eich CV a'ch datganiad personol yn bodloni gofynion y rôl. Bydd ymgeiswyr yn derbyn o leiaf wythnos o rybudd o’r pwnc ar gyfer y cyflwyniad. Nodwch na ellir defnyddio taflenni na dyfeisiau electronig ar gyfer y cyflwyniad oni bai eu bod yn rhan o addasiad rhesymol. Fodd bynnag, mae croeso ichi ddefnyddio cardiau i brocio'r cof.

Sylwer, gellir gwneud addasiadau recriwtio ar unrhyw ran o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr sydd â nam neu gyflwr iechyd, sy'n niwro-ymwahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â RecriwtioUWS@llyw.cymru i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

Recriwtio Di-enw
Dylid tynnu eich enw o'ch CV a'ch datganiad personol pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
30 Medi 2022
RecriwtioUWS@llyw.cymru

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.