Swydd Wag -- Arweinydd Datblygu ac Ansawdd, Y Gwasanaeth Cyfieithu

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Y Gwasanaeth Cyfieithu
SEO - £41,700 - £49,370
Disgwylir penodi ar waelod y band cyflog, ond mewn rhai amgylchiadau ceir hyblygrwydd i gynnig cyflog cychwyn hyd at bwynt 3 ar y raddfa gyflog.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
i'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Dyma swydd broffesiynol yng Ngwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru sy’n gofyn am gyfuniad o sgiliau gwas cyhoeddus craff ac ieithydd profiadol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod allweddol o Uned Ddatblygu’r Gwasanaeth Cyfieithu. Dyma’r uned sy’n gyfrifol am ddarparu arweiniad a chefnogaeth i’r Gwasanaeth Cyfieithu cyfan – a’r Llywodraeth yn ehangach – ar faterion yn ymwneud ag arddull cyfieithu, terminoleg, sicrhau ansawdd, datblygu sgiliau cyfieithu proffesiynol, a hyrwyddo’r Gwasanaeth fel canolfan ragoriaeth.

Bydd yr Arweinydd Datblygu ac Ansawdd yn benodol gyfrifol am:

  1. Arwain y gwaith o sicrhau bod defnyddio technoleg yn gwella ansawdd ac effeithlonrwydd gwaith cyfieithu
  2. Arwain y gwaith o osod safon arddull glir ar gyfer gwaith cyfieithu Llywodraeth Cymru, a chynnal ac ehangu agweddau annherminolegol BydTermCymru a’r Arddulliadur
  3. Arwain prosesau sicrhau ansawdd ymatebol ar gyfer gwaith cyfieithwyr mewnol a chyflenwyr allanol y Gwasanaeth Cyfieithu
  4. Arwain rhaglen ar gyfer datblygu sgiliau proffesiynol cyfieithwyr ar bob lefel yn y Gwasanaeth Cyfieithu
  5. Denu a datblygu adnodd cyfieithu addas

Prif dasgau

1. Arwain y gwaith o sicrhau bod defnyddio technoleg yn gwella ansawdd ac effeithlonrwydd gwaith cyfieithu

  • Monitro ansawdd cynnyrch y system cof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol yn rheolaidd dros amser, gan gydweithio ag arbenigwyr TG i weithredu ar y canfyddiadau a gwella’r cynnyrch
  • Arwain y gwaith o gynnal a chadw cofau cyfieithu er mwyn gwella ansawdd cynnyrch y cof, gan gynnwys datblygu arweiniad i gyfieithwyr ynghylch swyddogaeth Ceidwaid y Cofau
  • Cefnogi’r gwaith o sefydlu system cof cyfieithu a banc termau newydd y Gwasanaeth Cyfieithu, a datblygu’r defnydd ohoni
  • Hybu a hyrwyddo defnydd arloesol o dechnoleg i gefnogi gwaith cyfieithu, drwy ymchwilio i ddatblygiadau yn y maes a rhannu arferion da o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu

2. Arwain y gwaith o osod safon arddull glir ar gyfer gwaith cyfieithu Llywodraeth Cymru, a chynnal ac ehangu agweddau annherminolegol BydTermCymru a’r Arddulliadur

  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau arddull gan gyfieithwyr mewnol ac allanol y Gwasanaeth Cyfieithu, gan gynnwys arwain ar ymholiadau ynghylch ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, sloganau, arwyddion mewnol a theitlau (ee mewnflychau, swyddi yn y Llywodraeth, adrannau’r Llywodraeth, teitlau cwrteisi ar gyfer deddfwriaeth, dogfennau, sefydliadau, cynlluniau, mentrau, rhaglenni)
  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau ieithyddol a gramadegol
  • Mynd ati’n rhagweithiol i adolygu’r canllawiau arddull presennol a gyhoeddir yn yr Arddulliadur ar BydTermCymru, a chynhyrchu canllawiau ac adnoddau newydd, gan ddefnyddio deunyddiau cyfeirio safonol yn sail ar gyfer gwaith ymchwil pellach ac ymgynghori’n fewnol ac yn allanol
  • Gweinyddu gwaith a chyfarfodydd Panel Safoni Arddull y Gwasanaeth Cyfieithu
  • Ar gais Pennaeth yr Uned, cynrychioli’r Gwasanaeth Cyfieithu mewn cyfarfodydd allanol ynghylch materion arddull ac ansawdd ieithyddol

3. Arwain prosesau sicrhau ansawdd ymatebol ar gyfer gwaith cyfieithwyr mewnol a chyflenwyr allanol y Gwasanaeth Cyfieithu

  • Datblygu gweithdrefnau ar gyfer asesu ansawdd gwaith a gynhyrchir gan gyfieithwyr mewnol y Gwasanaeth Cyfieithu a chyflenwyr cyfieithu allanol pan fo angen gwneud hynny
  • Hyfforddi uwch-gyfieithwyr i gyfrannu at yr asesiadau ansawdd, gan gynnwys llunio a chynnal canllawiau clir ar eu cyfer
  • Cyflwyno adroddiadau i benaethiaid y Gwasanaeth Cyfieithu, ac i reolwyr fframwaith cyfieithu allanol y Llywodraeth yn ôl y galw, ar ganlyniadau'r holl asesiadau ansawdd, a gwneud argymhellion ar y camau priodol i'w cymryd yn eu sgil
  • Cyfathrebu â chyfieithwyr mewnol a chyflenwyr allanol yn ôl y galw, gan gynnwys darparu adborth ar ganlyniadau’r asesiadau ansawdd a’r camau sydd i'w cymryd yn eu sgil
  • Sicrhau bod negeseuon pwysig a ddaw i’r amlwg yn sgil y rhaglen asesu ansawdd yn cael eu rhannu drwy gyfrwng BydTermCymru a/neu gyfryngau priodol eraill, a bod y cyfieithwyr mewnol ac allanol yn rhoi’r penderfyniadau hynny ar waith
  • Sicrhau bod asesiadau ansawdd ymatebol yn rhan allweddol o weithrediad fframwaith cyfieithu allanol y Llywodraeth.

4. Arwain rhaglen ar gyfer datblygu sgiliau proffesiynol cyfieithwyr ar bob lefel yn y Gwasanaeth Cyfieithu

  • Sicrhau bod y Fframwaith Datblygu Cyfieithwyr yn cael ei roi ar waith yn effeithiol ar gyfer cyfieithwyr y Gwasanaeth, gan gynnwys rheoli’r broses o ymgeisio am ddyrchafiadau i swyddi uwch-gyfieithwyr
  • Adolygu’r Fframwaith Datblygu Cyfieithwyr er mwyn darparu rhaglen gynefino a datblygu addas ar gyfer cyfieithwyr a gaiff eu recriwtio yn y dyfodol (ar lefel EO neu HEO)
  • Gweithredu Cynllun Datblygu Proffesiynol Parhaus ar gyfer datblygu sgiliau proffesiynol staff y Gwasanaeth Cyfieithu, gan gynnwys cydlynu cyfleoedd datblygu, cynhyrchu deunyddiau, a darparu hyfforddiant neu gefnogaeth un i un
  • Datblygu fframwaith yn cymhwyso’r Proffiliau Llwyddiant a strwythur graddio swyddi’r Llywodraeth i’r proffesiwn cyfieithu yn y Llywodraeth

5. Denu a datblygu adnodd cyfieithu addas

  • Ymwneud â rhanddeiliaid allanol gan gynnwys prifysgolion er mwyn cyfrannu at ymdrechion i ddatblygu’r proffesiwn cyfieithu yng Nghymru, gan gydlynu cyfraniad y Gwasanaeth Cyfieithu at gyrsiau fel y bo’n addas
  • Rheoli a chydlynu rhaglenni ar gyfer cynnig cyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr prifysgol, ac interniaethau i raddedigion
  • Rheoli’r gwaith o asesu sgiliau cyfieithu fel rhan o brosesau recriwtio ar gyfer holl swyddi’r Gwasanaeth Cyfieithu, gan gynnwys paratoi profion addas, cynnal ac addasu gridiau a chanllawiau asesu, cyfarwyddo a hyfforddi’r aseswyr, a sicrhau cysondeb o fewn ac ar draws prosesau asesu
  • Cyfrannu at brosesau caffael fel y bo’r angen, gan gynnwys drwy gyfrannu at lunio manylebau a gwerthuso ceisiadau (asesu ansawdd gwaith cyfieithu a gyflwynir, ac arfarnu tystiolaeth sy’n ymwneud â sicrhau ansawdd a datblygu proffesiynol).

Cyffredinol

  • Cydweithio’n agos â gweddill aelodau’r Uned Ddatblygu er mwyn sicrhau ei bod yn cynnal ei holl swyddogaethau mewn modd effeithiol ac effeithlon
  • Cyflawni unrhyw dasg resymol arall ar gais penaethiaid o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu.

Cyfleoedd datblygu

  • Cyfle i arwain ar agweddau allweddol ar ddatblygu’r proffesiwn cyfieithu Cymraeg/Saesneg a helpu i roi ar waith agweddau ar y weledigaeth ar gyfer y proffesiwn a amlinellir yn strategaeth Cymraeg 2050 a strategaeth fewnol y Llywodraeth, “Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd”
  • Cyfle i gydweithio ag arweinwyr proffesiynol mewnol ac allanol er mwyn darparu rhaglen ddatblygu proffesiynol o’r radd flaenaf ym maes cyfieithu
  • Cyfle i gydweithio â’r sector addysg uwch yng Nghymru a chyfrannu at hyfforddiant a datblygiad cyfieithwyr y dyfodol
  • Cyfle i ddatblygu adnoddau arddull o fewn arlwy BydTermCymru, sy’n gyfrwng i Wasanaeth Cyfieithu’r Llywodraeth rannu ei adnoddau â’r proffesiwn cyfieithu yn ehangach
  • Cyfle i ddatblygu’r defnydd o’r dechnoleg ddiweddaraf ym maes cyfieithu, gan ymwneud ag arbenigwyr TG y Llywodraeth.

Dyddiad Cau

06/09/22 12:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Ymddygiadau:

Newid a Gwella

  • Chwilio am gyfleoedd i greu newid effeithiol ac awgrymu syniadau arloesol ar gyfer gwella. Adolygu ffyrdd o weithio, gan gynnwys ceisio a darparu adborth.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth i gefnogi penderfyniadau a chyngor cywir, arbenigol. Ystyried yn ofalus yr opsiynau, y goblygiadau a risgiau eraill o benderfyniadau.

Leadership

  • Show pride and passion for public service. Create and engage others in delivering a shared vision. Value difference, diversity and inclusion, ensuring fairness and opportunity for all.

Rheoli Gwasanaeth Safonol

  • Cyflawni amcanion gwasanaeth gyda rhagoriaeth, arbenigedd ac effeithlonrwydd proffesiynol, gan ystyried anghenion cwsmeriaid amrywiol.

 

Profiad:

  • Profiad o weithio ar lefel uwch fel cyfieithydd neu olygydd Cymraeg, neu mewn disgyblaeth berthnasol

Technegol:

  • Sgiliau drafftio, cyfieithu a golygu o’r radd flaenaf yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • Y gallu i ddarparu cyngor proffesiynol i swyddogion ar bob lefel ynghylch materion ieithyddol a gweithredol

Proses Asesu

Cam 1:

Cyflwyno ffurflen gais. Disgwylir ichi gyflwyno eich atebion yn Gymraeg, ac eithrio yn achos y Dystiolaeth o’r Cymhwysedd ar gyfer y trydydd ymddygiad, sef Arweinyddiaeth / Leadership. Disgwylir ichi ddarparu’r dystiolaeth ar gyfer yr ymddygiad hwn yn Saesneg.


Cam 2:

Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddo yng Ngham 1 y broses yn cael eu gwahodd i brawf ysgrifenedig a chyfweliad drwy Microsoft Teams. Cynhelir y cyfweliad yn Gymraeg, ac eithrio’r cwestiwn ar gyfer y trydydd ymddygiad, sef Arweinyddiaeth / Leadership, a ofynnir yn Saesneg.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Dyma hysbyseb ar gyfer swydd Arweinydd Ansawdd a Datblygu yn y Gwasanaeth Cyfieithu. Mae'n cael ei hysbysebu yn Gymraeg yn unig gan ei bod yn gofyn am sgiliau Cymraeg cryf.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd a benodir aros yn y Gwasanaeth Cyfieithu am o leiaf ddwy flynedd cyn gwneud cais i symud i swydd arall yn Llywodraeth Cymru.

Gellir e-bostio guto.dafydd002@llyw.cymru i drefnu sgwrs anffurfiol ynghylch gofynion y swydd.

cyfieithu@llyw.cymru

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at:

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.