Swydd Wag -- Rheolwr Tîm – Arolygu Gwasanaethau Oedolion

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Arolygiaeth Gofal Cymru
SEO - £41,700 - £49,370
Gellid ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£44,200) os bydd y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad hanfodol yn cael eu dangos.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Merthyr
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant.  Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.  Mae arolygu a gorfodi yn swyddogaethau allweddol wrth ddarparu gwasanaethau rheoledig diogel o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru. 

Prif dasgau'r Rheolwr Tîm yw rheoli tîm o rhwng 6 – 8 arolygydd i sicrhau bod gwasanaethau gofal a reoleiddir ar gyfer oedolion a phlant yn darparu gofal diogel o ansawdd da ac i annog ac ysgogi gwelliant.  Bydd y Rheolwr Tîm yn cynorthwyo ac yn cefnogi'r Uwch Reolwr i reoli'r gwaith o gyflenwi'r gwasanaeth yn effeithiol, amserol ac effeithlon. 

Bydd Rheolwyr Tîm yn atebol i Uwch Reolwr. Bydd gennych swyddogaeth hollbwysig i’w chyflawni i sicrhau bod cyfrifoldebau craidd AGC yn cael eu cyflawni’n effeithiol ac mewn modd amserol ar draws sbectrwm llawn gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a phlant sy’n derbyn gofal. 

Prif dasgau

  • Rheoli tîm o arolygwyr yn effeithiol o ddydd i ddydd
  • Sicrhau y darperir sesiynau goruchwylio myfyriol rheolaidd a rheoli perfformiad effeithiol ar gyfer arolygwyr dynodedig.
  • Hyrwyddo a chyfrannu at wreiddio’r defnydd o systemau digidol a TGCh yn AGC.
  • Cefnogi datblygiad staff yn y tîm trwy ddarparu hyfforddiant sefydlu, sesiynau briffio a gweithredu fel mentor neu hyfforddwr gydag arolygwyr rheoleiddio penodedig ac aelodau staff. Arsylwi a monitro arfer arolygu i nodi a rhannu arfer dda a meysydd ar gyfer datblygiad proffesiynol
  • Bod yn gyfrifol am ddyrannu gwaith i arolygwyr dynodedig mewn modd amserol ac effeithlon ac yn unol â phrosesau a gofynion y sefydliad.
  • Cefnogi'r Uwch Reolwr perthnasol a Phennaeth Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant i gyfrannu at sicrhau ymateb amserol a chyflawn i bob sylw, canmoliaeth a chwyn, a cheisiadau Deddf Diogelu Data yn unol â phrosesau a gofynion y sefydliad.
  • Gwneud penderfyniadau rheoli achosion a gorfodi yn unol â'r cyfrifoldebau dirprwyedig a nodir yng nghanllawiau sicrhau gwelliant a gorfodi AGC.
  • Gweithio'n agos gydag uwch-reolwyr yn y tîm Arolygu Awdurdodau Lleol i rannu gwybodaeth.
  • Bod yn gyfrifol am reoli gweithgareddau rheoleiddio a pherfformiad trwy wneud cyfraniad effeithiol yn y gwaith o ddethol, recriwtio a sefydlu staff.
  • Goruchwylio rheolwyr llinell o ddydd i ddydd mewn perthynas â gwneud trefniadau ar gyfer atebolrwydd a chydymffurfiaeth â safon ac ansawdd holl weithgarwch arolygu a rheoleiddio'r Gwasanaethau Oedolion a Phlant.
  • Bod yn rheolwr llinell cryf a gweladwy i arolygwyr rheoleiddio gan ddangos ymrwymiad personol i werthoedd a nodau'r sefydliad ar bob lefel o weithgarwch.
  • Bod yn gyfrifol am hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus, lle mae materion amrywiaeth a chydraddoldeb yn cael eu trin yn llawn a’u hintegreiddio i arferion rheoleiddio, a gweithredu fel hyrwyddwr ar gyfer newid fel sy’n ofynnol gan y sefydliad.
  • Bod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch Llywodraeth Cymru o fewn y maes cyfrifoldeb.
  • Cynorthwyo i gyflawni archwiliadau ac adolygiadau sicrhau ansawdd effeithiol yn ôl yr angen.
  • Cefnogi arolygwyr gyda gweithgarwch arolygu cymhleth a heriol pan fo angen.
  • Bod yn gyfrifol am gysylltu â rheoleiddwyr eraill gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, yr heddlu ac arolygiaethau eraill i gefnogi’r gwaith o gyflawni prosesau rheoleiddio’n effeithiol. 
  • Bod yn gyfrifol am gysylltu ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd mewn perthynas â diogelu ac ansawdd gwasanaethau a gomisiynir.
  • Rhoi cymorth i Uwch Reolwyr yn y tîm Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant sy'n goruchwylio ac yn monitro darparwyr â gwasanaethau lluosog yn unol â chanllawiau AGC.
  • Ystyried cynrychiolaethau yn unol â'r rota y cytunwyd arni.
  • Coladu a darparu tystiolaeth ar gyfer gwrandawiadau o’r Tribiwnlys Safonau Gofal, a bod yn bresennol yn y gwrandawiadau hyn.
  • Cydgysylltu'n agos â rheolwyr tîm yn y Tîm Cofrestru a Gorfodi a Thîm Arolygu'r Awdurdod Lleol i rannu gwybodaeth er mwyn llywio penderfyniadau.
  • Bod yn gyfrifol am reoli eich perfformiad a’ch datblygiad proffesiynol eich hun, gan gynnwys bod yn ymwybodol o ddatblygiadau polisi a deddfwriaethol perthnasol a chwilio am gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses perfformiad a datblygu Llywodraeth Cymru ac mewn trafodaeth â’r Uwch Reolwr - Arolygu Gwasanaethau Oedolion

 

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn rhoi'r cyfle i weithio mewn sefydliad deinamig sydd yn hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol trwy ddull sydd â phwyslais penodol ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

10/08/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gweld y Darlun Cyflawn

  • Ceisio deall sut mae gwasanaethau, gweithgareddau a strategaethau yn yr ardal yn cydweithio i greu gwerth i'r cwsmer/defnyddiwr.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl.

Arwain a Chyfathrebu

  • Cyfathrebu mewn modd syml, gonest ac atyniadol gyda’r holl randdeiliaid a sefyll tir pan fo angen.

Cyflawni’n Gyflym

  • Cynllunio ymlaen llaw ond ailasesu llwythi gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os yw pobl yn wynebu gofynion sy'n gwrthdaro.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  • Byddai cymhwyster gofal cymdeithasol / addysg cydnabyddedig, ochr yn ochr â phrofiad perthnasol yn cael ei ffafrio. Serch hynny, croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau lefel gradd neu uwch (mewn unrhyw bwnc) ac sydd â phrofiad sylweddol mewn diogelu a/neu wella canlyniadau ar gyfer pobl mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol.

Dyma enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol / addysg derbyniol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

- Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster cyfatebol Gofal Cymdeithasol Cymru)
- cymhwyster nyrsio neu berthynol i ofal iechyd
- cymhwyster addysgu neu addysg
- gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar / Plentyndod
- Diploma Lefel 5 mewn naill ai Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu Ofal, Dysgu a Datblygiad Plant
- Dyfarniad Rheoleiddio Gwasanaethau Gofal (RCSA)

  • Profiad o arwain, rheoli a datblygu tîm yn effeithiol.

  • Tystiolaeth o arwain ac ysgogi gwelliant yn ansawdd a diogelwch gwasanaethau i ddiwallu anghenion a gofynion amrywiol defnyddwyr/cwsmeriaid y gwasanaeth.

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff y cyfweliadau eu cynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams.

Y broses ymgeisio

Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru, sef ffurflenni cais a chyfweliadau ar sail cymhwysedd. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru a Phecyn Ymgeisydd AGC cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddio dull STAR wrth ddarparu tystiolaeth.

Cyfweliadau

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn rhithwir trwy Microsoft Teams. Os na allwch gynnal cyfweliad ar-lein am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau eraill lle bo modd.

Os ydych yn unigolyn anabl, â nam neu gyflwr iechyd, neu’n niwrowahanol, neu os ydych yn defnyddio BSL ac yn dymuno gwneud cais am addasiad rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at CIWHR@llyw.cymru.

Bydd cyflwyniad ar ddechrau'r cyfweliad – darperir y testun yn y gwahoddiad i gael cyfweliad.

Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rolau hyn. Rydym yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg i wneud cais am y swyddi hyn.


Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Lleoliad

Mae’r rôl hon wedi’i lleoli yn Swyddfa AGC Merthyr. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o amser yn gweithio gartref, yn ôl yr angen. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i’ch man gwaith dynodedig neu’ch telerau ac amodau contractiol.Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu am gostau cymudo i'w fan gwaith arferol. Bydd deiliad y swydd yn rheolwr llinell ar arolygwyr o ardal De-ddwyrain Cymru ac felly bydd angen teithio o bryd i'w gilydd. Bydd AGC yn talu costau teithio i leoliadau eraill nad ydynt yn fan gweithio arferol o'ch dewis.

Y broses ymgeisio

Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru, sef ffurflenni cais a chyfweliadau ar sail cymhwysedd. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru a Phecyn Ymgeisydd AGC cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddio dull STAR wrth ddarparu tystiolaeth.

Rhestr fer / sifftio

Bydd ymgeiswyr yn cael eu rhoi ar y rhestr fer trwy asesu'r dystiolaeth a ddarparwyd yn y cais a’r CV a'r dystiolaeth a lanlwythwyd.  Bydd hon yn cael ei hasesu gan ddefnyddio'r matrics sgorio (gweler y Canllawiau i Ymgeiswyr Allanol ym mharagraff 6) yn erbyn meini prawf y cymwyseddau penodol i'r swydd fel y nodir yn y disgrifiad o’r swydd / hysbyseb swydd. 

Os yw nifer y ceisiadau’n uchel, dim ond ar sail eich ymatebion i’r 3 maen prawf sy’n benodol i’r swydd y gall y panel lunio rhestr fer. Sylwch, bydd angen i chi ddarparu ymateb ysgrifenedig mewn perthynas â’r 4 cymhwysedd i basio’r cam llunio rhestr fer yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael gwybod am y canlyniad drwy'r system ar-lein.  

Cyfweliadau

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn rhithwir trwy Microsoft Teams.  Os na allwch gynnal cyfweliad ar-lein am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau eraill lle bo modd. 

Os ydych yn unigolyn anabl, â nam neu gyflwr iechyd, neu’n niwrowahanol, neu os ydych yn defnyddio BSL ac yn dymuno gwneud cais am addasiad rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at CIWHR@llyw.cymru.

Efallai y gofynnir i ymgeiswyr wneud asesiad neu gyflwyniad fel rhan o'r broses gyfweld. Os felly, byddwn yn rhoi o leiaf 5 diwrnod gwaith o rybudd o'r gofynion.

Sgiliau Cymraeg

Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rolau hyn. Rydym yn annog siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg i ymgeisio am y swyddi hyn.

Gweithio hyblyg – Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i gael y cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.  

Gwyliau blynyddol – Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 31 diwrnod o wyliau blynyddol os ydych yn gweithio’n llawn amser, pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser (e.e 4 diwrnod = 25 diwrnod).

Gwyliau banc – Mae gweithwyr amser llawn yn cael 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint y flwyddyn, pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser.

Cyflog – Rydym yn gyflogwr Cyflog Byw gyda graddfeydd cyflog cynyddrannol. Mae gennym hefyd strwythur cyflog cyfartal, waeth beth fo'ch oedran, statws priodasol, anabledd, hil, crefydd neu gred, neu hunaniaeth rhywedd. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma: https://llyw.cymru/datganiad-polisi-tal-llywodraeth-cymru-2020

Lwfans Defnyddiwr Car Hanfodol - Mae Arolygwyr, Rheolwyr Tîm ac Uwch Reolwyr sy'n cynnal Arolygiad a Gweithgaredd a Reoleiddir yn gymwys i gael Lwfans Defnyddiwr Car Hanfodol (ECUA) o £1,000 y flwyddyn os ydych yn defnyddio eich car eich hun ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae angen trwydded yrru ddilys ac yswiriant modur.

Teithio a chynhaliaeth – Bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu costau ychwanegol angenrheidiol i weithwyr ar gyfer teithio a chynhaliaeth wrth gymryd rhan mewn teithiau busnes swyddogol i ffwrdd o'r swyddfa arferol.  Ni fydd treuliau y gellid bod wedi eu hosgoi trwy gynllunio gwell neu a oedd fel arall yn ddiangen at ddiben swyddogol yr ymweliad yn cael eu had-dalu.

Pensiwn – Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gael yma: https://www.civilservicepensionscheme.org.uk/

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ei holl weithwyr. Mae gennym rwydweithiau staff cadarn a rhagweithiol a rhaglenni talent amrywiaeth i helpu pawb, waeth beth fo'u cefndir, i gyflawni eu llawn botensial.

Dysgu a datblygu – Mae pawb yn Llywodraeth Cymru yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau a’u galluoedd, sy’n cynnwys mynediad at ddysgu a datblygu gyda darparwyr o’r radd flaenaf. Mae AGC wedi ymrwymo i ddysgu a datblygu ac yn sicrhau bod ein staff yn cael o leiaf pum diwrnod o ddysgu bob blwyddyn.  Cefnogir hyn gan raglen ddysgu wedi’i theilwra ar gyfer gweithwyr AGC. 

Cyfnod sefydlu – Mae pob dechreuwr newydd yn cael cyfnod sefydlu fel gweithiwr Llywodraeth Cymru.  Cefnogir hyn gan raglen sefydlu wedi’i theilwra ar gyfer gweithwyr AGC.

Cod y Gwasanaeth Sifil – Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r gwerthoedd a safonau craidd a ddisgwylir gan bob gwas sifil: uniondeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd.  Disgwylir i bob gwas sifil ymddwyn yn unol â Chod y Gwasanaeth Sifil, https://llyw.cymru/cod-y-gwasanaeth-sifil

Gwerthoedd craidd AGC – Mae ein gwerthoedd craidd yn sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth a wnawn a phopeth yr ydym yn anelu at fod fel sefydliad.

  • Gofalgar: rydym yn dosturiol ac mae’n hawdd mynd atom
  • Teg: rydym yn gyson, yn ddiduedd ac yn gynhwysol
  • Uniondeb: rydym yn onest ac yn ddibynadwy
  • Proffesiynol: rydym yn fedrus, yn wybodus ac yn arloesol
  • Parch: rydym yn gwrando ar bobl, yn ymgysylltu â nhw ac yn eu gwerthfawrogi
CIWHR@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.