Swydd Wag -- Arolygydd Henebion

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cadw
HEO - £32,460 - £39,690
£29,100
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae'r Arolygydd Henebion yn gyfrifol am gyflawni nifer o ddyletswyddau statudol sy'n ymwneud â chadw, cynnal, gwarchod a deall amgylchedd hanesyddol Cymru ac, yn arbennig, gadw a gwarchod henebion dynodedig (cofrestredig) ac asedau archaeolegol eraill.

 

Mae gan yr Arolygydd Henebion gyfrifoldeb Cymru gyfan am ddewis henebion o bwys cenedlaethol er mwyn iddynt gael eu dynodi (cofrestru) o dan Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979 a hefyd gyfrifoldeb rhanbarthol am waith achos sy'n effeithio ar henebion cofrestredig yng Ngogledd-ddwyrain Cymru (Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Sir Wrecsam).

Prif dasgau


  • Archwilio ac asesu henebion, safleoedd archaeolegol ac adeiladau o ddiddordeb hanesyddol o bob cyfnod ledled Cymru a gwneud argymhellion ar gyfer eu cofrestru
  • Rhoi cyngor archaeolegol arbenigol ar gydsyniad heneb gofrestredig, ceisiadau am grant henebion a gwaith achos arall sy'n effeithio ar henebion cofrestredig
  • Datblygu a chefnogi prosiectau i wella cyflwr yr amgylchedd hanesyddol ac asedau hanesyddol unigol a hyrwyddo gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd ohonynt
  • Rhoi cyngor archaeolegol arbenigol ar achosion o ddifrod sy'n effeithio ar henebion cofrestredig
  • Rheoli gwaith wardeiniaid henebion maes rhanbarthol
  • Cynrychioli Cadw a rhoi cyngor arbenigol ar reoli treftadaeth a'r amgylchedd hanesyddol mewn fforymau rhanbarthol a grwpiau eraill sy'n canolbwyntio ar gadwraeth.
  • Cynorthwyo un o'r Uwch Arolygwyr Henebion i fonitro gwaith a wneir gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, gan gynnwys arwain prosiectau thematig
  • Gweithio ar brosiectau i gadw a dehongli'r henebion cyhoeddus sydd yng ngofal Cadw a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch
  • Cynorthwyo gyda briffiau i Weinidogion a/neu uwch swyddogion ar gyfrifoldebau pwnc, gan gynnwys briffiau llafar neu fynd i gyfarfodydd, a chyfrannu cyngor ysgrifenedig ar gyfer comisiynau briffio Cadw.

Cyfleoedd datblygu

Bydd deiliad y swydd yn ymuno â thîm arolygiaeth archaeolegol Cadw a chaiff ei annog i gymryd rhan mewn ystod o gyfleoedd hyfforddi mewnol ac allanol.  Cefnogir datblygiad proffesiynol parhaus, gan gynnwys cymwysterau academaidd a chymryd rhan mewn hyfforddiant a ddarperir gan Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (SSyA).

Bydd cyfleoedd i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn prosiectau yn ymwneud â chadwraeth henebion ac archaeoleg gymunedol, gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Parciau Cenedlaethol a sefydliadau treftadaeth eraill, ac arwain prosiectau o'r fath.

Dyddiad Cau

23/11/18 16:55

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Arwain a chyfathrebu – cyfathrebu mewn modd syml, gonest a diddorol â phob rhanddeiliad a sefyll eich tir pan fo angen.

Cydweithio a phartneriaeth – creu cydberthnasau ag amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn helpu i gyflawni canlyniadau busnes.

Rheoli gwasanaeth o ansawdd – gwneud defnydd effeithiol o sgiliau a thechnegau rheoli prosiect er mwyn cyflawni canlyniadau, gan gynnwys nodi risgiau a chamau lliniaru.

Cyflawni'n gyflym – monitro eich gwaith eich hun a gwaith eich tîm yn rheolaidd yn erbyn cerrig milltir neu dargedau a gweithredu'n brydlon er mwyn sicrhau bod gwaith yn parhau ar y trywydd cywir a chynnal perfformiad.


Meini Prawf penodol i'r swydd

1.    Gradd anrhydedd dda mewn archaeoleg neu bwnc perthnasol arall.  Mae cymhwyster ôl-raddedig perthnasol hefyd yn ddymunol.

2.    Gwybodaeth gyffredinol dda am archeoleg safleoedd a henebion o bob cyfnod gan gynnwys y cyfnodau cynharaf.  Mae gwybodaeth benodol am archeoleg a hanes Cymru yn ddymunol.

3.    Profiad o ymgymryd â gwaith maes archaeolegol a rheoli safleoedd archaeolegol a henebion hanesyddol mewn modd ymarferol ar lefel sy'n cyfateb i Aelod Cyswllt o Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (SSyA).

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Ian Halfpenney - ian.halfpenney@gov.wales - 07968 609837

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.