Swydd Wag -- Uwch-reolwr Polisi Arbenigol – Rhaglen Seren

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
Cangen Seren
SEO - £41,700 - £49,370
£44,200
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
i'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Seren yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy'n ymroi i helpu dysgwyr mwyaf disglair Cymru i gyflawni eu potensial academaidd llawn a chefnogi eu llwybr addysg i brifysgolion blaenllaw yng Nghymru, y DU, a thramor drwy'r Academi Seren, Sefydliad Seren a chysylltiadau Ryngwladol Seren. Cyflwynir y rhaglen ar draws holl ysgolion a cholegau Cymru, gan gefnogi tua 21,500 o ddysgwyr o flynyddoedd 8-13, ac mae'n rhan o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Mae hon yn rôl arbenigol sy'n gofyn am wybodaeth ar sut i gefnogi myfyrwyr sy'n cyflawni'n uchel ar draws cyfnodau allweddol 3, 4 a 5 mewn ysgolion a cholegau drwy raglen ehangu cyfranogiad debyg. Ers sefydlu Seren, mae Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ceisiadau a hefyd cynigion gan y prifysgolion blaenllaw. Rhan allweddol o'r rôl fydd gweithio gyda Rhydychen, Caergrawnt a phrifysgolion blaenllaw eraill i ddeall lle mae bylchau yng ngwybodaeth dysgwyr, ac addasu a llunio ymyriadau newydd i gefnogi dysgwyr Cymru i gyflawni eu potensial academaidd.

Mae angen profiad a gwybodaeth flaenorol o'r gymuned addysgol ledled Cymru ar gyfer y cyfnod cyn ac ar ôl-16, yn ogystal â gwybodaeth am ofynion derbyn y prifysgolion dethol yn y DU a thramor drwy Gynghrair Ivy yn yr Unol Daleithiau. Mae cael lle yn y prifysgolion hyn yn gofyn am geisiadau cryf iawn gan fyfyrwyr o Gymru sy'n cystadlu ag ysgolion preifat ledled y DU ac yn fyd-eang. Mae cefnogi'r dysgwyr hyn i gystadlu a llwyddo yn erbyn eu cymheiriaid yn fyd-eang yn gofyn am wybodaeth fanwl am y broses dderbyn yn Oxbridge a phrifysgolion dethol eraill ar draws pynciau penodol, a chynnig cymorth ar y profion derbyn sy'n cael eu sefyll gan fyfyrwyr Seren. Mae'r rôl hon yn gofyn am brofiad o gefnogi'r myfyrwyr galluog drwy nodi darpariaeth ymestyn a herio academaidd i'r dysgwyr hynny.

Bydd deiliad y swydd yn arwain ar bolisi Seren o fewn Llywodraeth Cymru, yn rhoi cyngor i Weinidog y Gymraeg ac Addysg a'r timau, a hefyd yn cefnogi digwyddiadau a chyfarfodydd amrywiol. 

Prif dasgau

  • Arwain ar ddatblygu a gweithredu polisi ar gyfer Seren yn unol ag ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu
  • Arwain ar integreiddio polisi Seren i'r rhaglenni cenedlaethol a chanolfannau Seren ac alinio i flaenoriaethau'r Gweinidog
  • Alinio blaenoriaethau polisi allweddol â strategaeth Seren 2022-2025, ar draws Llywodraeth Cymru, a chyda rhanddeiliaid allweddol o brifysgolion Cymru, y DU a'r byd
  • Arwain ar greu a gweithredu polisi i ddiogelu dysgwyr Seren, staff a phartneriaid allanol
  • Nodi a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel uwch ledled Cymru gan gynnwys nodi arferion gorau, sy'n cefnogi ac yn ategu rhaglenni partner fel Fulbright, Ymddiriedolaeth Sutton, awdurdodau lleol
  • Bod yn arweinydd polisi ar gyfer pob un o’r is-frandiau Academi, Sefydliad a Rhyngwladol
  • Goruchwylio a chydlynu grŵp llywio cenedlaethol o gydgysylltwyr Seren a gweithgorau eraill i ddatblygu a gwella cynnig Seren
  • Sefydlu ymyriadau newydd gyda phrifysgolion blaenllaw ledled y DU i gefnogi'r gwaith o gyflwyno gweithgareddau i gefnogi dysgwyr Seren o flynyddoedd 8-13 ar draws ysgolion a cholegau Addysg Bellach
  • Arwain ar sefydlu prosesau casglu data clir yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) i gefnogi blaenoriaethau a gofynion adrodd Gweinidogol

Cyfleoedd datblygu

Cyfleoedd i ddatblygu partneriaethau gyda phrifysgolion yng Nghymru, y DU a thramor.

Dyddiad Cau

04/07/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gweld y Darlun Cyflawn

  • Ceisio deall sut y mae’r gwasanaethau, y gweithgareddau a’r strategaethau yn y maes yn ategu ei gilydd i greu gwerth am arian ar gyfer y cwsmer/defnyddiwr

Arwain a Chyfathrebu

  • Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen

Collaborating and Partnering

  • Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes

Delivering at Pace

  • Cymryd cyfrifoldeb dros wireddu’r canlyniadau a ddisgwylir yn brydlon a safonol, gan roi’r lle a’r awdurdod i dimau gyflenwi amcanion

Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

1. Y gallu i ddatblygu ymgysylltu cryf â rhanddeiliaid.
2. Profiad a gwybodaeth o'r gymuned addysgol yng Nghymru 
3. Profiad o gyflawni polisi'n llwyddiannus ar lefel strategol. 

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cyfweld.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Dawn Chadwick - dawn.chadwick@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.