Swydd Wag -- 2 x Rheolwr Gwasanaethau Technegol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA)
SEO - £41,700 - £49,370
Mae Llywodraeth Cymru’n cadw’r hawl i gynnig hyd at bwynt tri, £44,200 ar y raddfa gyflog i ymgeiswyr eithriadol sy’n gallu dangos bod ganddynt yr wybodaeth a’r profiad helaeth y gofynnir amdanynt.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Penodiad Cyfnod Penodol/Secondiad 2 flynedd (mewn cystadleuaeth deg ac agored)
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae’r proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDAT) yn Llywodraeth Cymru’n cefnogi amrywiaeth o wasanaethau digidol ar draws y corff cyfan. Fel rhan o’n proffesiwn DDAT, byddwch yn aelod allweddol o dîm y PSBA a byddwch yn gwneud cyfraniad arwyddocaol ac uniongyrchol er lles pobl Cymru. 

Cefndir

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru ac mae ganddi gyllideb flynyddol o ryw £15 biliwn. Rydyn ni’n gyfrifol am agweddau pwysig ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaeth a’r amgylchedd. Cefnogir Gweinidogion Cymru gan weithlu o ragor na 5,000 o bobl mewn swyddfeydd yng Nghymru, Llundain a thramor. 

Disgrifir blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn Symud Cymru Ymlaen. Ei hamcan cyffredinol yw adeiladu gwlad hunan-hyderus, llewyrchus ac iach a chymdeithas sy’n deg i bawb.  Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio blaenoriaethau clir ar gyfer Cymru yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. 

Rydyn ni’n chwilio am bobl fydd yn gallu rhoi cyngor a chefnogaeth ardderchog, fydd yn gallu sianelu adnoddau ac sydd ag egni ac arbenigedd. Bydd Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi cyd-destun i’n gwaith.

Mae’n hanfodol bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn profi trawsnewidiad digidol er mwyn i ni allu darparu’r gwasanaethau y mae pobl Cymru yn eu disgwyl a’u hangen.  Mae Llywodraeth Cymru’n darparu gwasanaethau digidol i bobl a busnesau ledled Cymru. O dan arweiniad ein Prif Swyddog Digidol, mae mwy a mwy o wasanaethau Llywodraeth Cymru’n cael eu darparu ar-lein. Mae’r Prif Swyddog Digidol yn darparu gwasanaeth cynghori data a digidol arbenigol i feysydd busnes ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru. 

Mae PSBA yn gontract tymor hir â BT i ddarparu Rhwydwaith Ardal Eang (WAN) i 117 o gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru. 

Y Rôl

Gan adrodd i Uwch Reolwr Contractau PSBA, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod y contract yn sicrhau ei ganlyniadau technegol a chyflawni drwy: 

•    Gydweithio’n glos â chwsmeriaid PSBA a BT i sicrhau bod y contract yn diwallu anghenion cwsmeriaid
•    Fod yn rheolwr perthnasau i’ch sector e.e. addysg, sector iechyd, a chadw golwg ar anghenion y sector. 
•    Monitro perfformiad cyflenwyr o ran ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt;  
•    Sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cyflenwi yn unol â’r disgrifiadau gwasanaeth a’r lefelau gwasanaeth a bennwyd; 
•    Datblygu'r contract drwy hyrwyddo'r nifer sy'n defnyddio’r gwasanaethau presennol a nodi cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau newydd.

Mae angen cysylltu’n rheolaidd â chwsmeriaid PSBA ledled Cymru.  Ar hyn o bryd, mae hyn yn cael ei wneud ar-lein ond bydd angen ychydig o deithio o gwmpas Cymru yn y dyfodol.  

Prif dasgau

Gweithgaredd                                     Amser

Rheoli’r Contract/Masnachol                 10%
Sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gan y cyflenwr yn bodloni gofynion y contract ac yn gwneud synnwyr masnachol.

Herio/Gwarantu Technegol                    50%
Sicrhau bod y gwasanaethau rhwydwaith a ddarperir yn cynnig yr ateb technegol gorau i’n cwsmeriaid.

Rheoli Rhanddeiliaid                              30%
Gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i ddeall eu hanghenion a pha mor fodlon ydynt â’r gwasanaeth.

Rheoli Pobl/Staff                                     10%
Rheoli staff cyflenwyr a rhanddeiliaid i sicrhau bod gwasanaethau PSBA yn rhedeg yn esmwyth.

Cyfleoedd datblygu

Bydd eich swydd yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru.

Bydd cyfle i weithio ar lawer o brosiectau a rhaglenni ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.  

Byddwch yn gweithio gyda staff ar bob lefel, gan gynnwys gyda staff uwch, Gweinidogion a’n cohort o Brentisiaid Digidol.

Byddwch yn helpu i greu a gwella’r cysylltiadau a’r cydweithio o fewn y gymuned Ddigidol, Data a Thechnoleg ar draws y llywodraeth. 

Dyddiad Cau

07/12/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Dim sgiliau
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Ymddygiadau a Sgiliau

Caiff yr Ymddygiadau a Sgiliau canlynol eu hasesu yn y cyfweliad. 

Ymddygiadau’r Gwasanaeth Sifil:

Arweinyddiaeth: Cyfathrebu mewn ffordd syml, gonest a gafaelgar gyda phob rhanddeiliad gan sefyll eich tir pan fydd angen.

Gwneud penderfyniadau effeithiol: Nodi ystod eang o ffynonellau gwybodaeth perthnasol a chredadwy a chydnabod bod angen casglu data newydd pan fydd angen o ffynonellau mewnol ac allanol. 

Sgiliau DDAT: 

Rheoli gwasanaeth o ansawdd: Creu trefniadau i gasglu adborth gan gwsmeriaid am y gwasanaeth a ddarperir ac ymateb i’r adborth hwnnw. Defnyddio sgiliau a thechnegau rheoli prosiectau’n effeithiol i sicrhau canlyniadau, gan gynnwys nodi risgiau a gweithredoedd lliniaru. 

Gweld y darlun mawr: Bod yn effro i broblemau all ymddangos ac i dueddiadau all effeithio ar eich gwaith neu waith eich tîm neu fod o fantais iddo. 

Am ragor o wybodaeth am Ymddygiadau’r Gwasanaeth Sifil a beth sydd ei angen ar bob gradd, darllenwch Proffiliau Llwyddiant: Ymddygiadau Gwasanaeth Sifil.
Am ragor o wybodaeth am y sgiliau DDAT sydd eu hangen ar y swydd, darllenwch am swydd Rheolwr Gwasanaethau TG yn Fframwaith Galluoedd DDAT.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd 

Caiff y meini prawf isod sy’n benodol i’r swydd eu hasesu yn ystod y sifft a’r cyfweliad. 

Yn eich CV, rhowch dystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut ydych chi’n bodloni’r Meini Prawf sy’n Benodol i’r Swydd hon.

1.    Yn gallu dangos bod gennych wybodaeth helaeth am dechnegau darparu a gwella’r gwasanaeth, ynghyd â gwybodaeth ymarferol am arferion ITIL.
2.    Profiad helaeth o arwain gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a dylanwadu ar uwch randdeiliaid y tu allan i’ch tîm/swyddogaeth.
3.    Profiad o roi gwybodaeth reoli i uwch reolwyr ac o gynnig neu addasu dangosyddion perfformiad fydd yn dylanwadu ar benderfyniadau uwch reolwyr. 


Proses Asesu

Mae 4 cam i’r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 – Llenwi’r ffurflen gais ar-lein a chyflwyno CV (dim mwy na 2 dudalen)
Lanlwythwch eich CV (dim mwy na 2 dudalen).  Rydym am weld yn arbennig sut ydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf sy’n Benodol i’r Swydd.  Maen nhw wedi’u rhestru yn adran Meini Prawf sy’n Benodol i’r Swydd yr hysbyseb. 

Pwysig: byddwn ond yn asesu’ch CV CV Template ar sail y meini prawf sy’n benodol i’r swydd fydd wedi’u rhestru ar yr hysbyseb.  Felly, RHAID i’ch CV ddangos yn glir eich bod yn gallu bodloni’r Meini Prawf sy’n Benodol i’r Swydd gydag enghreifftiau. Os na fyddwch yn rhoi enghreifftiau manwl, caiff eich cais ei wrthod yn ystod y sifft. 

Cam 2 – Sifftio’r CV
Ar ôl y dyddiad cau, bydd CVs pob ymgeisydd yn cael eu hasesu.

Bydd ymgeiswyr fydd wedi dangos eu bod yn bodloni o leiaf y Meini Prawf sy’n berthnasol i’r swydd yn cael prawf sgiliau ar-lein. 

Cam 3 – Prawf Sgiliau Ar-lein
Caiff prawf sgiliau ei drefnu a byddwch yn cael 7 niwrnod calendr i wneud y prawf. 

Am ragor o wybodaeth am y pynciau sy’n cael eu hasesu yn y prawf sgiliau ar gyfer y swydd hon, darllenwch ddogfen Rheolwr Gwasanaethau TG. IT Service Manager role

Os llwyddwch chi i basio’r prawf sgiliau ar-lein, byddwn yn gofyn ichi ddod i gyfweliad. 

Mae dyddiad y cyfweliad i’w drefnu. 

Cam 4 – Cyfweliad
Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar yr Ymddygiadau/Sgiliau a’r Meini Prawf sy’n Benodol i’r Swydd a restrir yn yr hysbyseb hon. 

Yn y cyfweliad, byddwn yn gofyn cwestiynau fydd yn rhoi cyfle i chi roi tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) o’r modd rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf sy’n Benodol i’ch Swydd a’r Ymddygiadau a’r Sgiliau sydd eu hangen ar y swydd. 

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Caiff rhestr wrth gefn ei chadw am 12 mis rhag ofn y daw swydd yn wag yn y dyfodol. 

Ble ca i weithio? 

Ar gyfer llawer o rolau, rydym o blaid cynnig ffordd hybrid o weithio – ‘Gweithio Clyfar’ fel y’i gelwir. Mae’n golygu cyfuniad o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa.  Efallai y cewch gyfle i weithio gartref gan ddibynnu ar anghenion y busnes a'r ymrwymiadau i’ch tîm.  Byddwch yn trafod ac yn cytuno ar eich trefniadau gweithio gyda’ch rheolwr llinell pan fyddwch yn ymuno.

Byddwn ni'n ystyried ceisiadau i weithio mewn lleoliadau penodol yn ôl eich amgylchiadau personol fel cyfrifoldebau gofalu neu a oes nam neu gyflwr ar eich iechyd. Dywedwch ble yr hoffech weithio yn eich CV, yn y blwch 'Dewis leoliadau'. 

Drwy ymgeisio am y rôl hon, byddwch yn barod i weithio yn un o'r lleoliadau canlynol fel eich prif swyddfa:
• Caerdydd, Bedwas, Merthyr Tudful, Abertawe, Aberystwyth, Llandudno, Caerfyrddin

Beth yw'r manteision?

Mae llawer o fanteision o weithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:
•    Yr ystod cyflog ar gyfer y radd hon yw £40,100 i £47,700. 
•    Bydd unigolion ar delerau ac amodau Llywodraeth Cymru yn cael 31 diwrnod o wyliau yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint.  
•    Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i gael y cydbwysedd bywyd / gwaith cywir.  
•    Byddwch hefyd yn cael bod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Manteision eraill

•    Gweithio Hyblyg – Rydym yn helpu staff sydd am reoli eu cydbwysedd bywyd -gwaith trwy weithio gartref (yn amodol ar anghenion y busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl)

•    Patrymau Gweithio – Mae opsiynau gwahanol ar gael: Llawn Amser, Rhan Amser, Rhannu Swyddi, Oriau Cywasgedig, Amser Tymor ac ati (yn amodol ar anghenion y busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl)

•    Cynllun Ceir Gwyrdd – i chi gael prydlesu car allyriadau carbon isel iawn newydd sbon a thalu amdano drwy’ch cyflog

•    Cyllid Cymorth – Benthyciadau cyn talu cyflog ar gyfer amrywiaeth o bethau gan gynnwys: tocynnau teithio tymor, gofal llygaid, offer TG, Cycle2Work a mwy

•    Absenoldeb rhiant – 26 wythnos o gyfnod mamolaeth/mabwysiadu ar gyflog llawn a 15 diwrnod o gyfnod tadolaeth

•    Awr Les – Awr les bwrpasol bob wythnos i'w defnyddio yn ystod oriau swyddfa. Boed er mwyn mynd am dro yn y parc lleol, ioga, myfyrdod neu amser yn y gampfa. Amser i chi yw hwn

•    Tâl – Incrementau cystadleuol drwy’r bandiau cyflog

•    Hyfforddiant a Dyrchafiad – Cyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi'i deilwra i'ch rôl

•    Cynhwysiant ac Amrywiaeth – Rydym yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael bod nhw eu hunain, a does neb yn teimlo unrhyw wahaniaethu yn ei erbyn

•    Cysylltu â Staff – Mae gennym ystod eang o rwydweithiau bywiog a chroesawgar iawn, ar gyfer: Awtistiaeth, Gofalwyr, Merched Gyda'n Gilydd, PRISM (ein rhwydwaith LGBTQ+) a llawer mwy

•    Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol – Timau ymroddedig i roi cymorth a chefnogaeth i staff pan fydd ei angen fwyaf 

•    Iechyd Meddwl – Rhaglen Cymorth i Weithwyr a llinell gymorth bwrpasol i gefnogi staff i reoli eu hiechyd meddwl

•    Offer TG modern – Gliniaduron Office 365 i roi mwy o hyblygrwydd i chi o ran pryd, sut a ble i weithio

•    3 Undeb – Mae gennym 3 undeb ar hyn o bryd

Dean Rust - dean.rust@gov.wales, 03000625177

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.