Swydd Wag -- Arolygydd Gofal Iechyd Cynorthwyol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
EO - £26,900 - £30,610
£25,030
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Helpu i reoli pryderon a hysbysiadau rheoliadol sy'n dod i law am wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru 

Gweithio fel rhan o'r tîm gan gefnogi ymchwiliadau i farwolaethau yn y ddalfa

Prif dasgau

Tasgau allweddol Tasgau sy'n benodol i'r swydd

  • Darparu cymorth wrth ystyried pryderon a godir gydag AGIC am sefydliadau a gwasanaethau gofal iechyd yn erbyn y gweithdrefnau a nodwyd gan AGIC, a gwneud argymhellion i'r rheolwr arolygu am sut i fynd i'r afael â'r rhain. Rheoli llwyth achosion bach o bryderon am sefydliadau gofal iechyd.
  • Gweinyddu a rheoli prosesau hysbysiadau AGIC gan gynnwys pryderon a hysbysiadau rheoliadol.
  • Helpu i gynnal adolygiadau lle y bo angen, a gwneud gwaith dadansoddi rhagarweiniol, yn unol â gweithdrefnau, protocolau a safonau AGIC.
  • Bod yn bwynt cyswllt gweithredol allweddol gyda'r Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth ar gyfer ymchwiliadau i Farwolaethau yn y Ddalfa.
  • Helpu i ddatblygu argymhellion ar gyfer gwella.
  • Cefnogi prosesau asesu risg AGIC mewn perthynas â'r sefydliadau y mae'n eu harolygu a'u rheoleiddio.

Tasgau cyffredin

  • Rheoli staff, gan ddilyn prosesau sefydledig Llywodraeth Cymru.
  • Cydweithio â chydweithwyr yn AGIC.
  • Cymryd rhan yng ngweithgareddau corfforaethol AGIC.
  • Rheoli ei ddatblygiad proffesiynol parhaus ei hun a datblygiad aelodau'r tîm.
  • Cynnal cenhadaeth, diben, rôl a gwerthoedd AGIC.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn rhan o'r Proffesiwn Arolygwyr Gofal Iechyd. Bydd disgwyl i chi lunio, cynnal a dilyn cynllun datblygu proffesiynol priodol a chwblhau hyfforddiant fel sy'n ofynnol gan AGIC.

Dyddiad Cau

30/11/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseaddau;

Cydweithio a Phartneru

  • Nodi cyfleoedd i rannu gwybodaeth a dysgu a datblygu drwy weithio gyda chydweithwyr

Arwain a Chyfathrebu

  • Delio â sgyrsiau neu gyfweliadau heriol yn hyderus.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Archwilio gwybodaeth gymhleth a chael gafael ar wybodaeth bellach i wneud penderfyniadau cywir.

Cyflawni yn Gyflym

  • Cymharu ei berfformiad ei hun a pherfformiad y tîm â chanlyniadau, gwneud argymhellion i wella neu gymryd camau cywirol pan gaiff problemau eu nodi

Meini prawf sy'n benodol i'r swydd; 

  • Y gallu i nodi patrymau a thueddiadau sylfaenol mewn data a dod i gasgliadau perthnasol. Tystiolaeth o ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gyfathrebu'n briodol ac yn effeithiol wrth ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. 
  • Tystiolaeth o ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gyfathrebu'n briodol ac yn effeithiol wrth ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol
  • Y gallu i weithio gyda gwybodaeth gyfrinachol a sensitif gyda'r disgresiwn mwyaf.

Proses Asesu

Caiff pob ymgeisydd sy'n llwyddiannus yn y cam sifftio, wahoddiad i gyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae hon yn swydd lawn amser sydd hefyd ar agor i ymgeiswyr rhan-amser a rhannu swydd.  

Bydd teithio a gyrru ledled Cymru yn ofynnol.


Bydd y swydd hon yn dibynnu ar wiriad datgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Luke Irons - 03000 257800

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.