Swydd Wag -- Dirprwy Gyfarwyddwyr - Rolau lluosog mewn Adrannau amrywiol o fewn Llywodraeth Cymru

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Uwch Wasanaeth Sifil 1
£71,000
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Parhaol, Benthyciad neu Secondiad
Parhaol neu trwy fenthyciad / secondiad am hyd at 5 blynedd
Cymru gyfan

Dyddiad Cau

20/09/20 23:55

Pwrpas y Swydd

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am ystod amrywiol o bobl dalentog i weithio mewn amrywiaeth o swyddi arwain uwch. Rydym yn chwilio’n arbennig am bobl sydd â sgiliau mewn llunio polisïau, rhoi rhaglenni a phrosiectau ar waith, cyflawni gweithredol, cyflawni digidol a rolau dadansoddi, i gynorthwyo'r Gweinidogion i wireddu eu hymrwymiadau. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y cyfle i ymgymryd â swyddi ar draws Llywodraeth Cymru.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Asesiadau:
Cynhelir y cyfarfod rhestr fer ar wythnos yn cychwyn 5 Hydref 2020. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael profion seicometreg ar-lein a fydd yn cynnwys rhesymu rhifiadol a llafar, a thrafodaeth â seicolegydd. Byddwch yn cael dolen at y profion ar-lein hyn o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cyfarfod y rhestr fer. 

Ymarfer Ymgysylltu â Staff/Rhanddeiliaid:
Gofynnir i ymgeiswyr ar y rhestr fer gymryd rhan mewn ymarfer ymgysylltu gyda Staff/Rhanddeiliaid ar wythnos yn cychwyn 19 Hydref neu 2 Tachwedd 2020. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn.
Bydd y gweithgareddau uchod yn rhan o asesiad cyffredinol sy’n ofynnol ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwn yn ogystal â chyfweliad y panel dethol.


Cyfweliadau:
Mae cyfweliadau wedi’u hamserlennu ar gyfer wythnos yn cychwyn 9 Tachwedd 2020 ac maent yn debygol o gael eu cynnal o bell. Bydd y cyfweliadau yn para rhyw 45 munud. 

Dyma Gadeiryddion y Panel Dethol:


• Carla Lyne, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Grwˆ p Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
• Natalie Pearson, Pennaeth Strategaeth Adnoddau Dynol, Datblygu Sefydliadol ac Ymgysylltu
• Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych amhariad neu gyflwr iechyd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag amhariad neu gyflwr iechyd, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

Mae hysbyseb yma ar gyfer sawl swydd ar haen Dirprwy Gyfarwyddwyr ar draws Llywodraeth Cymru.

Mae’r swyddi ar gael, ar sail barhaol i’r rheini sy’n dymuno ymuno â’r Gwasanaeth Sifil, Gweision Sifil presennol, a’r rheini sy’n dymuno ymuno ar secondiad am hyd at bum mlynedd lle gallech gadw eich telerau ac amodau presennol gan gynnwys eich cyflog.

Mae ein dull Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymraeg yn golygu ein bod yn anelu at greu cyfleoedd i unigolion ennill profiad mewn sefydliad arall i rannu eu gwybodaeth, ennill profiad ehangach ac ehangu eu rhwydweithiau i greu gwasanaethau cyhoeddus cryfach i bobl Cymru yn y pen draw.

Cymru gyfan yw’r swyddi ac mae’n bosibl y byddwch yn gweithio o unrhyw un o swyddfeydd
Llywodraeth Cymru yng Nghymru, er bod natur rhai o’r swyddi yn golygu y bydd angen i chi dreulio
rhywfaint o amser yng Nghaerdydd. Ar gyfer rhai o’r swyddi, disgwylir y bydd gofyn i chi deithio ar
draws Cymru i gyfarfod â rhanddeiliaid a staff y gyfarwyddiaeth sydd wedi’u gwasgaru. Rydym yn
gefnogol i weithio gartref a theilwra patrymau i weddu i amgylchiadau unigolion. Yn y tymor byr, bydd y rhan fwyaf o ddeiliaid y swyddi wedi’u lleoli gartref/yn gweithio o bell. Rydym wedi croesawu ffyrdd newydd o weithio a dylech fod yn gallu arwain drwy esiampl wrth fabwysiadu arferion gweithio o bell a gweithio’n hyblyg sy’n addas ar gyfer y byd ar ôl COVID-19.

Recriwtio dienw:
Bydd yr holl geisiadau ar gyfer y swydd wag hon yn ddienw yn y cam sifftio. Bydd y panel yn ystyried eich datganiad personol a'ch CV, ond dylai'r dogfennau hyn fod yn ddienw pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy? Rydym yn trefnu sesiwn wybodaeth rithwir ar ddydd Llun 7 Medi rhwng 11:30 a 12:30, a fydd yn rhoi cyfle i chi ddarganfod mwy am Lywodraeth Cymru, y cyfleoedd sydd ar gael a sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth gyda ni. Gallwch gofrestru eich diddordeb ar gyfer y digwyddiad hwn trwy e-bostio EngagementEvents@gov.wales.

Yr wythnos sy'n cychwyn ar yr 9fed o Dachwedd
Peter Kennedy - Peter.Kennedy@gov.wales

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.