Swydd Wag -- Arweinydd Masnachol - Digidol/Rheoli Contract TGCh

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Masnachol a Chaffael - Digidol, Data a TGCh
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£48,650
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru gyda chyllideb flynyddol o oddeutu £15 biliwn. Mae'n gyfrifol am y prif agweddau ar fywyd cyhoeddus Cymru, gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, thrafnidiaeth, amaethyddiaeth a'r amgylchedd.

Mae Gweinidogion Cymru yn cael eu cefnogi gan weithlu o dros 5,000 o weision sifil gyda swyddfeydd yng Nghymru, Llundain, Brwsel a thramor.

Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wedi'u hamlinellu yn Symud Cymru Ymlaen, gyda'r uchelgais gyffredinol o greu Cymru hyderus, ffyniannus ac iach, a chreu cymdeithas lle mae pawb yn cael tegwch. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu blaenoriaethau clir ar gyfer Cymru ar gyfer y cyfnod ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio denu pobl all gynnig cymorth a chyngor rhagorol, sy'n gallu ffocysu adnoddau ac sydd ag egni a menter.  Mae Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yn cynnig cyd-destun i'n gwaith. 

Mae trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol yn hollbwysig er mwyn darparu'r gwasanaethau y mae pobl Cymru yn eu disgwyl a'u hangen. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu nifer o wasanaethau digidol i bobl a busnesau ledled Cymru. Rydym hefyd yn rhoi gwybodaeth ar ein gwefannau. 

O dan arweiniad y Prif Swyddog Digidol, mae Llywodraeth Cymru yn darparu mwy a mwy o wasanaethau ar-lein. Mae'r Prif Swyddog Digidol yn darparu gwasanaeth ymgynghori ar gyfer arbenigedd digidol a data ar draws Llywodraeth Cymru.

Mae'r gangen Masnachol a Chaffael - Digidol, Data a TGCh yn rheoli gweithgareddau masnachol a chaffael Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith Digidol a TGCh, ac yn cefnogi gweithgareddau y Grŵp Gweinidogol Digidol a Data sy'n adrodd i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip sydd â chyfrifoldeb y cabinet dros faterion Digidol.  Mae'r gangen yn adrodd i Gyfarwyddwr Masnachol Llywodraeth Cymru. 

Mae'r gangen hefyd yn rheoli Categori Digidol a TGCh y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol sy'n rhoi arbenigedd ar draws y sector Cyhoeddus ehangach yng Nghymru, i gefnogi trawsnewidiad digidol y sector cyhoeddus.  Mae hyn yn cynnwys rheoli cyflenwr a chontract y dulliau eGaffael a ddefnyddir gan y Sector Cyhoeddus ehangach yng Nghymru.

Bydd deiliad y swydd yn adrodd i Bennaeth Masnachol a Chaffael - y gangen Ddigidol, Data a TGCh a bod yn arweinydd gweithgareddau rheoli contract y gangen.  Byddant hefyd yn gyfrifol am reoli contract a dulliau eGaffael.

Prif dasgau

  1. Bod yn rheolwr llinell i dîm o bump aelod staff o fewn y gangen Masnachol a Chaffael - y gangen Data Digidol a TGCh.
  2. Sicrhau bod gweithgareddau rheoli perfformiad effeithiol ar gyfer cyflenwyr yn cael eu cynnal ar gyfer pob contract Digidol/TGCh sy'n cael eu rheoli gan y gangen (y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru)
  3. Nodi a rheoli mentrau i wella'r fframweithiau Digidol/fframweithiau TGCh, contractau, trwyddedau a gwasanaethau sy'n cael eu rheoli gan y gangen yn barhaus (y gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru).  Mae hyn yn cynnwys ond nid yw wedi'i gyfyngu i weithgareddau lleihau costau.
  4. Gweithredu a rheoli systemau rheoli perfformiad sy'n gynhwysfawr, gwrthrychol ac yn cynnig cymhellion i'r cyflenwr fodloni neu wella ar safonau perfformiad y cytunwyd arnynt. Os nad yw'r cyflenwyr yn perfformio, gallai hyn gynnwys cynhyrchu a rheoli cynlluniau gwella cyflenwyr.
  5. Rheoli prosesau, gan gynnwys trafod â'r cyflenwyr, i fynd i'r afael â newidiadau mewn contractau, gan gynnwys dulliau cymeradwyo ac atebolrwydd clir, a rheolau i ddangos bod newidiadau yn cynnig gwerth am arian.
  6. Creu, rheoli a gwella mesurau Gwerth am Arian i arddangos Economi, Effeithiolrwydd ac Effeithlonrwydd ar gyfer Contractau Digidol/TGCh yn ystod oes y cynnyrch yn erbyn cynigion cyfatebol.  (e.e. meincnodi, llyfr agored ac ati). Caiff gwerth ei ddiffinio fel pris (meincnodwyd) ac/neu fanteision ychwanegol sy'n cael eu cynnig gan gynnwys Manteision Cymunedol a chanlyniadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
  7. Caiff risgiau eu nodi'n ffurfiol a'u monitro'n rheolaidd, gyda camau lliniaru'n cael eu datblygu a'u gweithredu pan fo'n bosibl, a risgiau nad ydynt bellach yn berthnasol yn cael eu dileu pan yn briodol.  Mae hyn yn cynnwys creu a chynnal strategaethau a chynlluniau rheoli gadael ar gyfer pob contract mawr.
  8. Cynnal a datblygu perthynas weithio gref yn fewnol ac yn allanol sy'n hwyluso'r cyflawni gyda chyflenwyr a phrif randdeiliaid contractau (e.e. Timau Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, Gwasanaeth Masnachol y Goron.
  9. Cynllunio a rheoli gweithgareddau datblygu cyflenwr yn unol â Datganiad Polisi Caffael Cymru.
  10. Bod yn ymwybodol ac yn gyfredol o ran y datblygiadau priodol yng Nghymru, gweddill y DU ac Ewrop (e.e. deddfwriaeth gaffael yr UE), i ddarparu cyngor arbenigol a gweithredu fel ffynhonnell arfer gorau i'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru.
  11. Cynnig cymorth ac arweiniad i'r Pennaeth Cangen fel y bo angen.  Dylai deiliad y swydd gael ei gydnabod fel "arbenigwr" ym maes Rheoli Cyflenwyr a Chontractau.   

Cyfleoedd datblygu

Bydd eich swydd yn rhan o broffesiwn Masnachol a phroffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) Llywodraeth Cymru.   

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau a gallu ein staff a'u hannog i ddefnyddio pum diwrnod o ddysgu y flwyddyn.  I gefnogi hyn rydym yn cynnig amrywiol gyfleoedd allai gynnwys:

  • Cysgodi
  • Mentora
  • Dysgu seiliedig ar waith
  • Cymwysterau
  • Hyfforddi
  • Rhaglen Profiad Tymor Byr

Bod yn rhagweithiol wrth greu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o dimau LlC a phartneriaid allanol gan gynnwys Llywodraethau eraill y DU. 

Wedi penodi yr ymgeisydd llwyddiannus bydd disgwyl iddynt fod yn bresennol yn Asesiad Masnachol a chanolfan ddatblygu Llywodraeth y DU i nodi unrhyw anghenion datblygu pellach.

https://www.gov.uk/government/publications/commercial-assessment-and-development-centre

Dyddiad Cau

16/11/18 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau


  1. Gosod Trywydd - Newid a Gwella - Deall a chydnabod rôl technoleg wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus a gweithredu polisi
  2. Ymwneud â Phobl - Gweithio ar y cyd ac mewn Partneriaeth -. - Sicrhau bod partneriaid yn cael eu cynnwys yn y broses o wireddu canlyniadau busnes, drwy gydweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y cyhoedd
  3. Gwireddu Canlyniadau. -  Bod yn ymwybodol o ddulliau masnachol – fel modelau prisio, cyfrifon agored, a rheolaeth ar y gadwyn gyflenwi – y gall arbenigwyr masnachol eu defnyddio i dynnu gwerth o gontractau
  4. Gwireddu Canlyniadau - - Sicrhau bod y gwasanaeth yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion cwsmeriaid a’r amrywiol ffyrdd sydd ar gael o’u bodloni, gan gynnwys technoleg newydd lle y bo’n bosibl

Meini Prawf Penodol i'r Swydd: 


  1. Wedi gweithio mewn swyddi caffael a rheoli contract ar lefel uwch o fewn y Sector Cyhoeddus.
  2. Fod gennych allu eang wrth ddethol a dyfarnu cytundebau contractau newydd, ac yn ddelfrydol o reoli contractau parhaus a chyflenwyr presennol Digidol a TGCh y Sector Cyhoeddus;
  3. Meddu ar gymhwyster MCIPS, a Diploma Proffesiynol ym maes Caffael a Chyflenwi;

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

I wneud cais am y swydd hon, bydd angen ichi atodi'r canlynol:

  • Datganiad Personol yn amlinellu pam yr ydych yn addas ar gyfer y swydd ac sy'n darparu tystiolaeth i esbonio sut y mae'ch profiad a'ch sgiliau yn bodloni gofynion y swydd. Ni ddylai eich Datganiad Personol fod yn fwy na dwy dudalen A4.
  • CV diweddar sy'n rhoi tystiolaeth i ddangos eich bod yn meddu ar y gofynion hanfodol ac unrhyw alluoedd penodol i'r swydd, os yw hynny'n berthnasol.

Os byddwch yn llwyddiannus yn ystod y broses sifftio, cewch eich gwahodd i gyfweliad.  Bydd y cyfweliad yn canolbwyntio ar eich sgiliau a'ch profiad o safbwynt gofynion hanfodol y swydd.

Ar ôl y cyfweliad, os byddwch yn llwyddiannus, mae'n bosibl y byddwn yn cadw'ch manylion ar restr wrth gefn am hyd at 12 mis rhag ofn y bydd swyddi tebyg ar gael yn y dyfodol.

NODER: Mae'n bwysig eich bod yn atodi'r ddwy ddogfen hon (y Datganiad Personol a'r CV) i'ch cais ar-lein er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.


Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiol fanteision, gan gynnwys:

  • Cefnogaeth i wella neu fagu sgiliau yn y Gymraeg i bob gweithiwr
  • Trafodaethau datblygu rheolaidd a'r hyfforddiant y byddwch ei angen ar gyfer eich swydd ac i ddatblygu
  • Cynyddrannau tâl blynyddol, gan ganiatáu ichi ddatblygu i ben uchaf eich cyfradd cyflog o fewn 3-4 mlynedd
  • 31 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â diwrnod ar gyfer y Nadolig a Phen-blwydd y Frenhines 
  • Absenoldeb rhiant hael, gan gynnwys 26 wythnos ar dâl llawn i weithwyr cymwys 
  • Cynllun pensiwn hael gyda chyfraniadau gweithwyr
  • Cynllun Talebau Gofal Plant, gan arbed hyd at  £933 y flwyddyn
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith: dewis beic newydd hyd at £1000, gan arbed o leiaf 32%
  • Cais am gyflog Ymlaen Llaw: gwneud cais am gyflog ymlaen llaw ar gyfer y Nadolig, offer cyfrifiadurol neu Flaendaliadau Tenantiaeth
  • Benthyciadau ar gyfer Tocynnau Tymor
  • Polisi gweithio'n hyblyg
David Nicholson - david.nicholson@gov.wales - 0300 025 7310

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.