Swydd Wag -- Prif Ystadegydd x2 - Pennaeth yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil & Pennaeth yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
Yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Gyfarwyddiaeth Cymunedau a Threchu Tlodi
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£51,380
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Ein nod yw helpu’r Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru i adeiladu Cymru decach, wyrddach a mwy cyfartal. Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig a galluog o bob cefndir. Nid yw profiad blaenorol fel gwas sifil yn ofynnol. Rydym yn chwilio am bobl â phrofiadau bywyd gwahanol i’n helpu yn ein penderfyniadau. Pobl sy’n gallu ffynnu mewn timau cydweithredol a fydd yn helpu i newid y ffordd rydym yn meddwl. Rydym yn chwilio am geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol sy'n dod â sgiliau newydd, profiadau bywyd a safbwyntiau gwahanol i'n gwaith.

Dyma gyfle cyffrous i arwain tîm o ddadansoddwyr sy'n gweithio fel rhan o broffesiwn Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth (GSG) a phroffesiwn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR) yn ogystal â swyddogion polisi yng Nghyfarwyddiaeth Cymunedau a Threchu Tlodi Llywodraeth Cymru. Mae 2 swydd Prif Ddadansoddwr (Gradd 7) ar gael yn yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd sydd newydd eu sefydlu:

  • Pennaeth yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil;
  • Pennaeth yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd. 

Mae dau lwybr mynediad ar gyfer y rolau hyn. Gall deiliad y swydd naill ai fod yn Brif Ystadegydd neu’n Brif Ymchwilydd Cymdeithasol. Dylai’r ymgeisydd ddewis a yw am wneud cais o dan lwybr Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth ynteu drwy lwybr Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth ynteu'r ddau. Os yw’r ymgeisydd yn dewis gwneud cais drwy’r ddau lwybr, rhaid iddo gyflwyno dau gais i’w hystyried o dan bob un o’r proffesiynau.

Mae gwaith y timau hyn yn datblygu’n gyflym, a rhaid i ddeiliad llwyddiannus y swydd fod yn gyfforddus â chydbwyso blaenoriaethau a delio a safbwyntiau a blaenoriaethau sydd weithiau yn mynd yn groes i’w gilydd gan randdeiliaid yr ydym yn gweithio gyda nhw ac yn ymgysylltu â nhw. Bydd raid i ddeiliad y swydd fod yn hyblyg a gallu addasu i ofynion a blaenoriaethau gwaith sy’n newid, yn enwedig yn ystod blwyddyn gyntaf sefydlu’r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd reoli eich tîm drwy amgylchedd sy’n newid yn ôl y gofyn. Bydd tîm deiliad y swydd yn cefnogi anghenion tymor hirach a ddaw i’r amlwg o feysydd polisi perthnasol ynghyd ag arwain prosiectau arloesol gan weithio ar y cyd â gwahanol dimau yn y Proffesiynau Dadansoddi. Fel arweinydd y tîm bydd datblygiad proffesiynol aelodau’r tîm yn rhan bwysig o’r rôl, ynghyd â chyfrannu at reoli ac arwain y proffesiwn Ystadegau. 

Bydd gwaith yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil a’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd yn cynnwys ymchwilio i broblemau hirsefydlog ar sail ystadegau ac ymchwil sy’n ddigon cadarn ar draws Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru; gwella trefniadau casglu data; a meddwl am ffyrdd arloesol o fynd i’r afael ag anghenion parhaus o ran tystiolaeth yn ymwneud ag ethnigrwydd neu anabledd; datblygu cynllun tystiolaeth a fydd yn mynd i’r afael â’r anghenion hynny. Bydd gan y cynllun hwn fudd lefel uchel yn wleidyddol ac i randdeiliaid. Bydd deiliad y swydd yn nodi, yn cydlynu ac yn blaenoriaethu gofynion dadansoddi sy’n ymwneud ag ethnigrwydd neu anabledd ar gyfer y sefydliad, gan randdeiliaid mewnol ac allanol.

Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil: 

Bydd deiliad y swydd yn arwain rhaglen dystiolaeth yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil, y mae disgwyl iddi gwmpasu amrediad eang o bynciau polisi ac y gall natur ei phrosiectau unigol amrywio’n sylweddol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain a goruchwylio gwelliannau i ystod o ystadegau ac ymchwil gymdeithasol yn ymwneud ag ethnigrwydd gan gynnwys prosiectau pwrpasol a gyflwynir gan yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil. Byddai diddordeb mewn dulliau gweithredu Gwrth-hiliol yn hanfodol, ynghyd â dealltwriaeth o’r ystod o rwystrau a wynebir gan unigolion yng Nghymru o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Bydd tîm deiliad y swydd yn ystyried ethnigrwydd drwy lens groestoriadol, felly bydd angen ichi fod yn gyfarwydd ag ystod o ystyriaethau cydraddoldeb. Er enghraifft, byddai gwybodaeth am y Model Cymdeithasol o Anabledd a’r rhwystrau a wynebir gan y gymuned LHDTC+ yn ddymunol. 

Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd: 

Bydd deiliad y swydd yn arwain rhaglen dystiolaeth yr Uned Dystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd, y mae disgwyl iddi gwmpasu amrediad eang o bynciau polisi ac y gall natur ei phrosiectau unigol amrywio’n sylweddol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain a goruchwylio gwelliannau i ystod o ystadegau ac ymchwil gymdeithasol yn ymwneud ag anabledd gan gynnwys prosiectau pwrpasol a gyflwynir gan yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd. Byddai diddordeb yn y Model Cymdeithasol o Anabledd yn hanfodol, ynghyd â dealltwriaeth o’r ystod o rwystrau a wynebir gan bobl anabl yng Nghymru. Bydd tîm deiliad y swydd yn ystyried ethnigrwydd drwy lens groestoriadol, felly bydd angen ichi fod yn gyfarwydd ag ystod o ystyriaethau cydraddoldeb. Er enghraifft, byddai gwybodaeth am ddulliau gweithredu Gwrth-hiliol a’r rhwystrau a wynebir gan y gymuned LHDTC+ yn ddymunol.

Mae hon yn hysbyseb am gontract parhaol gyda Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, bydd modd symud ar draws i’r rôl hefyd o un o adrannau eraill y Llywodraeth pe byddech yn llwyddiannus. Bydd y rôl ar gael ar ffurf benthyciad o un o adrannau eraill y Llywodraeth (a gwneir cais am fenthyciad yn hytrach na symudiad parhaol yn ystod y cam cynnig). Gallwch bori drwy waith Llywodraeth Cymru ac ennill gwell dealltwriaeth o’r Gwasanaeth Sifil yng Nghymru drwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru a gwylio ein hymgyrch recriwtio ‘croeso i Lywodraeth Cymru’ (mae fersiwn Iaith Arwyddo Prydain a fersiynau eraill ar gael).

Prif dasgau

  • Rhoi cyfeiriad arweinyddol a strategol i dîm o rhwng 3 a 5 aelod o staff dadansoddi ac un neu ddau aelod arall o staff. Mae hyn yn cynnwys hyfforddi a datblygu staff a bod yn gyfrifol am sicrhau bod pawb yn deall ac yn gweithredu blaenoriaethau corfforaethol.
  • Briffio’r Gweinidogion ac uwch-swyddogion polisi ar faterion ystadegol yn ymwneud â chydraddoldeb/hil/anabledd.
  • Darparu cyngor a chymorth ystadegol i swyddogion polisi er mwyn llywio datblygiad polisi ar ystod eang o bynciau, gan fonitro naill ai Hil neu Anabledd fel pwnc trawsbynciol. Rheoli’r berthynas â chwsmeriaid polisi cydraddoldeb mewnol, gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ddadansoddwyr ym maes portffolio cydraddoldeb i ddatblygu rhaglen dystiolaeth wedi’i chydlynu.
  • Rheoli’r berthynas â defnyddwyr data allanol gan gynnwys rheoli’r grwpiau rhanddeiliaid perthnasol sy’n ymwneud â chydraddoldeb/hil/anabledd a deall ac ymateb i anghenion y rhai sy’n defnyddio ystadegau ac ymchwil hil ac anabledd y llywodraeth.
  • Cynrychioli Llywodraeth Cymru ar weithgorau ystadegau ac ymchwil hil ac anabledd trawslywodraethol, gan roi mewnbwn i’r rhaglen waith yn ôl y gofyn gan weithio’n agos gyda gweithwyr sy’n cyfateb i’r rolau hyn ar draws y DU (ee GEO, DRU y DU ac Uned Anabledd y DU).
  • Gweithio’n agos gyda chydweithwyr cydraddoldeb/hil/anabledd i fwrw ymlaen â gwaith ar dystiolaeth ar gyfer grwpiau Atebolrwydd ar gyfer Cynlluniau Gweithredu ar Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru. Ymateb i geisiadau am dystiolaeth mewn perthynas â gwneud tystiolaeth o hil ac anabledd yn fwy hygyrch a chadarn. Mae hyn yn cynnwys bwrw ymlaen â thrafodaethau ynghylch cytuno ar raglen dystiolaeth a’i datblygu.
  • Yn dilyn gweithredu, rheoli’r rhaglen ystadegau ac ymchwil Hil ac Anabledd estynedig. Adolygu ac ailbennu blaenoriaethau gwaith tystiolaeth Hil ac Anabledd yng ngoleuni blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg, ee y pandemig coronafeirws.
  • Hyrwyddo arferion da mewn perthynas ag ystadegau, gan sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar Ystadegau a deddfwriaeth gysylltiedig ar brotocolau Cyhoeddi a Chod Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru.
  • Rheoli staff, gan sicrhau bod amcanion unigol yn cyd-fynd â chynllun gwaith y tîm ynghyd â blaenoriaethau adrannol a sefydliadol. 

Cyfleoedd datblygu

Bydd deiliad y swydd yn rhoi cymorth i feysydd polisi sy'n cynnwys ymrwymiadau proffil uchel llywodraethol a Gweinidogol ar Hil neu Anabledd. O ganlyniad bydd gan ddeiliad y swydd gyfleoedd sylweddol i weithio gydag uwch-swyddogion polisi a hefyd y Gweinidogion. Mae cyfleoedd hefyd i gydweithio â dadansoddwyr eraill o fewn Llywodraeth Cymru a'r byd academaidd. Bydd deiliad y swydd yn rheoli rhaglen waith sydd â’i blaenoriaethau’n gwrthdaro a bydd yn helpu i osod cyfeiriad strategol ar gyfer yr is-adran.

Dyddiad Cau

28/11/22 12:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Ymddygiadau:

  1. Gweld y Darlun Mawr - Datblygu a chynnal dealltwriaeth o ddatblygiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol, amgylcheddol a thechnolegol er mwyn sicrhau bod gweithgarwch yn berthnasol.
  2. Arweinyddiaeth - Croesawu ac ymateb i safbwyntiau a heriau gan eraill, er gwaethaf unrhyw bwysau croes i'w hanwybyddu neu i ildio iddynt.
  3. Cyfathrebu a Dylanwadu - Cyfathrebu ag eraill mewn ffordd glir, onest a brwdfrydig er mwyn meithrin ymddiriedaeth.
  4. Cydweithio - Deall anghenion amrywiol y tîm i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a bod eu profiadau'n cael eu defnyddio.
  5. Gwybodaeth am Wrth-hiliaeth ac am y Model Cymdeithasol o Anabledd  - Amlinellu eich gwybodaeth am ddulliau gweithredu Gwrth-hiliol a/neu’r Model Cymdeithasol o Anabledd a sut y byddech yn defnyddio’r wybodaeth hon wrth oruchwylio’r gwaith o gynhyrchu ystadegau. Dylech roi trosolwg o’ch profiad perthnasol fel tystiolaeth.
  6. Caffael data a deall anghenion cwsmeriaid - Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys y canlynol, ond dylech ganolbwyntio ar y rhai sydd wedi ei tanlinellu: Gweithio gyda defnyddwyr a chyflenwyr data i gaffael a defnyddio data priodol. Sicrhau bod ansawdd y data a ddefnyddir yn briodol, gan gynrychioli’r boblogaeth berthnasol yn ddigonol i fod mor gynhwysol â phosibl. Sicrhau bod y data yn cael eu trin yn unol â phrosesau llywodraethu (er enghraifft, y Cod Ymarfer), rheoliadau ac ystyriaethau perthnasol.
  7. Dadansoddi data - Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys y canlynol, ond dylech ganolbwyntio ar y rhai sydd wedi ei tanlinellu: Gweithio gyda defnyddwyr i ddeall a chofnodi eu hanghenion yn iawn. Dewis a defnyddio technegau a threfniadau ystadegol priodol, gan ddeall y rhagdybiaethau sy’n perthyn i bob un. Arloesi a cheisio ffyrdd newydd o ddadansoddi data. Sicrhau bod y dadansoddi yn atgynyrchadwy, yn dryloyw ac yn gadarn gan ddefnyddio arferion da o ran codio a rheoli codau. Sicrhau bod y dadansoddi yn gynhwysol ac yn cynrychioli’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu. Sicrhau allbynnau o ansawdd uchel, gan ystyried tuedd ac ansicrwydd.
  8. Cyflwyno a lledaenu data yn effeithiol - Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys y canlynol, ond dylech ganolbwyntio ar y rhai sydd wedi ei tanlinellu: Nodi anghenion a buddiannau gwahanol ddefnyddwyr ac ystyried y rhain wrth gyflwyno data i helpu â deall a hyrwyddo cynhwysiant. Cyflwyno data gan ddefnyddio technegau priodol a darparu naratif clir yn adrodd hanes y data. Sicrhau bod data yn cael eu cyfleu mewn ffordd sy’n ennyn Ymddiriedaeth, Ansawdd a Gwerth.

Proses Asesu

Darllenwch y Ddogfen Ganllawiau i Ymgeiswyr am y swydd wag hon i gael manylion asesu llawn.

Recriwtio Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd: cyngor i ymgeiswyr | LLYW.CYMRU

Meini Prawf Cymhwysedd: 

Mae'n rhaid eich bod yn meddu ar un o'r canlynol er mwyn gwneud cais:

  • Gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth mewn pwnc sy'n cynnwys hyfforddiant ystadegol ffurfiol (ee Ystadegau, Mathemateg, Economeg, y Gwyddorau, Astudiaethau Busnes, Seicoleg, Daearyddiaeth, Gwyddor Data neu bwnc tebyg); neu
  • Gradd uwch, ee MSc neu PhD, mewn pwnc sy'n cynnwys hyfforddiant ystadegol ffurfiol (ee Ystadegau, Mathemateg, Economeg, y Gwyddorau, Astudiaethau Busnes, Gwyddor Data, Seicoleg, Daearyddiaeth neu bwnc tebyg); neu
  • Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr nad oes ganddynt radd, ond bydd yn rhaid iddynt ddangos eu bod wedi gweithio mewn maes sy'n gysylltiedig ag ystadegau/gwyddor data. Bydd angen i ymgeiswyr heb radd berthnasol ddangos eu datblygiad proffesiynol parhaus (drwy Gofnodlyfr DPP) ym maes ystadegau/gwyddor data i ddangos gwybodaeth ar yr un lefel â gradd sylfaen/Diploma Cenedlaethol Uwch (Lefel 5).

Sylwch, os cewch eich gwahodd i gyfweliad, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cymhwysedd (ee drwy ddarparu copi o'ch tystysgrif gradd).

Y Cam Sifftio: 

I wneud cais am y cyfle hwn, bydd angen i chi gyflwyno CV (dim mwy na 2 ochr A4) a datganiad personol.

Dylai’r datganiad personol ddangos tystiolaeth ar gyfer y meini prawf Ymddygiadau a Phrofiad. Mae’r rhain wedi’u rhestru yn adran `Cymwyseddau/Meini Prawf Penodol i'r Swydd' yr hysbyseb ar gyfer eich llwybr dewisol. Ni ddylai eich Datganiad Personol fod yn fwy na 2,400 o eiriau (gan gynnwys penawdau). Yn eich datganiad personol dylech egluro sut yr ydych yn dangos tystiolaeth o bob un o'r 8 maes. Rydym yn argymell tua pharagraff (300 o eiriau) ar gyfer pob un o'r 8 maes. Dylai eich tystiolaeth, am y ymddygiadau (5-8), fynd i'r afael â'r rhan benodol o'r dystiolaeth y gofynnir amdani yn hytrach na'r ymddygiad cyffredinol. Dylai eich tystiolaeth ar gyfer MPPS 2-4 fynd i'r afael â'r ddedfryd wedi ei thanlinellu yn hytrach na'r cymhwysedd GSG cyfan. 

Os ydych eisoes yn aelod o Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth, rhaid ichi ddarparu eich rhif aelodaeth fel y gallwn eich eithrio rhag sefyll y prawf ystadegau a rhifedd. Os nad ydych yn gwybod eich rhif aelodaeth, cysylltwch â GSS.Gareers@ons.gov.uk i ofyn amdano.

Cofiwch roi manylion am bob un o'r 8 maes tystiolaeth.

I leihau tuedd o fewn y broses ymgeisio, byddwn yn sifftio ceisiadau heb ddynodwyr, felly peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth a allai ddangos pwy ydych chi yn eich CV na’ch Datganiad Personol. Mae hyn yn cynnwys eich enw ac enw eich sefydliad lle cawsoch eich cymwysterau.

Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam sifftio, ni fydd modd i chi ofyn am eich sgoriau hyd nes y bydd y broses asesu lawn wedi'i chwblhau.

Prawf Amlddewis: 

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar gyfer addasrwydd ar gyfer y cyfle Gradd 7 Ystadegau hwn drwy broses asesu amlddewis. Bydd disgwyl ichi ymgymryd â phrawf amlddewis ar-lein, cyfweliad a Phrawf Lledaenu GSG (Cyflwyniad). Ni fydd ymgeiswyr sydd eisoes yn aelodau o GSG angen sefyll y prawf amlddewis.

Bydd ymgeiswyr sy’n pasio’r cam sifftio yn cael dolen drwy e-bost i ymgymryd â’r prawf amlddewis GSG ar-lein. Bydd gan ymgeiswyr wythnos i gwblhau’r prawf. Caiff ymgeiswyr sydd angen addasiadau recriwtio eu hannog i gysylltu â’r tîm recriwtio cyn gynted â phosibl yn ystod y broses ymgeisio. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn cael canlyniad eu prawf drwy e-bost ac yn cael eu gwahodd i drefnu slot cyfweliad.

Cyfweliad Ar-Lein a Phrawf Lledaenu: 

Os byddwch yn pasio'r prawf amlddewis, cewch eich gwahodd i gyfweliad ar-lein. Bydd y cyfweliad ar-lein yn cael ei gynnal dros Microsoft Teams. Bydd y cyfweliad yn defnyddio technegau asesu amrywiol sy'n cyd-fynd â fframwaith Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil a Chymwyseddau Technegol GSG.

Cyn y cyfweliad, byddwch yn cael 40 munud i sefyll prawf byr, a fydd yn ffurfio cyflwyniad 5 munud i'w roi i'r panel ar ddechrau'r cyfweliad.

I gael rhagor o fanylion ynghylch y Broses Asesu, edrychwch ar y Canllawiau i Ymgeiswyr

Recriwtio Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd: cyngor i ymgeiswyr | LLYW.CYMRU

Y Canlyniad Terfynol: 

Yn dilyn pob asesiad, caiff ymgeiswyr eu rhestru yn nhrefn teilyngdod a bydd swyddi'n cael eu cynnig i'r ymgeiswyr sy'n sgorio uchaf yn ôl y drefn teilyngdod. Bydd trefn teilyngdod ar gyfer ymchwil ac ar gyfer ystadegau, byddwn yn defnyddio trefn teilyngdod i lenwi’r swyddi.

Os yw ymgeisydd yn llwyddiannus, bydd ganddo gyflog dechreuol o £51,380. Pan fo’r ymgeisydd yn llwyddiannus ac am symud ar draws ar ffurf benthyciad o un o adrannau eraill y Llywodraeth, bydd y cyflog dechreuol yn cael ei symud i’r swm agosaf (uchaf) ar fand cyflog Gradd 7 Llywodraeth Cymru. 

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Gweminar i Ymgeiswyr: 

Byddwn yn cynnal gweminar MS Teams ar 10/11/2022 am 10:00 - 11:00  i ddarparu rhagor o fanylion ynghylch y rôl a’r broses ymgeisio lle bydd cyfle i ddarpar ymgeiswyr ofyn rhagor o gwestiynau a chyfarfod â rheolwyr llinell. Os hoffech chi fynychu un o’r gweminarau hyn, cofrestrwch ag un o’n digwyddiadau Eventbrite (Head of Race x1 and Disability x1 Evidence Units -Virtual Candidate Webinar Tickets, Thu 10 Nov 2022 at 10:00 | Eventbrite) i gael negeseuon atgoffa neu defnyddiwch y cyfarwyddiadau ymuno a ganlyn:

10/11/2022 - 10:00 - 11:00

Microsoft Teams meeting

Join on your computer or mobile app

Click here to join the meeting

Meeting ID: 340 596 007 380
Passcode: Di4YtJ

Download Teams | Join on the web

Or call in (audio only)

  

United Kingdom, Cardiff

Phone Conference ID: 817 421 391#

Find a local number | Reset PIN

Learn more | Meeting options

Ymrwymiad i Amrywiaeth: 

Mae'r amgylchedd allanol wedi dangos bod angen inni wrando ar brofiadau'r rhai sy'n cael eu tangynrychioli yn y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru, a deall y profiadau hynny. Mae hyn yn cynnwys pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl o gymunedau difreintiedig a phobl anabl.

Rydym yn gweithio'n galed i greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle gall yr holl staff dyfu a pherfformio hyd eithaf eu gallu. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r holl staff i ffynnu mewn amgylchedd gwaith cynhwysol.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol.

Addasiadau Recriwtio: 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r model cymdeithasol o anabledd. Byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol i ddiddymu unrhyw rwystrau yn y broses recriwtio ac addasiadau yn y gweithle. Byddwn yn sicrhau cydraddoldeb i staff ag amhariadau, cyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Gallwn wneud addasiadau i unrhyw ran o'r broses recriwtio (y broses gais yn ogystal â'r ganolfan asesu). Byddwn yn sicrhau bod ymgeiswyr anabl yn cael eu paru â rolau lle gellir gwneud addasiadau i'r gweithle. Gallwn ddarparu cyngor i staff sy'n meddwl y gallai fod angen addasiadau rhesymol arnynt, ond sydd angen gwybod mwy am y broses asesu. Gallwn roi gwybodaeth ar ba fath o addasiadau y gallem eu gwneud i sicrhau asesiad teg. 

Os ydych yn gwybod (neu’n meddwl) bod angen gwneud addasiad rhesymol er mwyn ichi wneud cais, cysylltwch â’r DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru. Dylech wneud hyn cyn gynted â phosibl i drafod unrhyw addasiadau sy’n ofynnol.

Hyderus o ran Anabledd: 

Rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os yw ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd.

Benthyciadau: 

Mae trefniadau benthyg ond ar gael i rai sydd eisoes yn Weision Sifil, wedi’u recriwtio gan y Gwasanaeth Sifil drwy gystadleuaeth deg ac agored ar sail teilyngdod. Gan nad yw cyfleoedd am secondiad yn cael eu cynnig, nid yw unigolion sy’n cael eu cyflogi gan gyrff anadrannol yn gymwys i wneud cais. Bydd unigolion sy’n symud ar Fenthyciad yn ddarostyngedig i Egwyddorion Trosglwyddo y Gwasanaeth Sifil (Sut i Symud Swyddi Rhwng Adrannau ac Asiantaethau). Oni bai fod y cytundeb yn am lai na 6 mis, bydd unigolion llwyddiannus yn symud i delerau ac amodau Llywodraeth Cymru.

Oni nodir yn wahanol yn yr hysbyseb swydd, ni ddisgwylir i Fenthyciadau arwain at drosglwyddiad parhaol na dyrchafiad parhaol i Lywodraeth Cymru (mae hyn yn ddarostyngedig i’r angen am y rôl a chadarnhad o gyllid ar ddiwedd y cyfnod benthyg) ac oni nodir yn wahanol yn yr hysbyseb, dim ond y rhai sy’n gwneud cais i symud ar draws sy’n gymwys i ymgeisio. Bydd disgwyl i unigolion ar fenthyg ddychwelyd i’w hadrannau a’u graddau eu hunain ar ddiwedd y cytundeb.

Catrin Awoyemi - 03000625631

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.