Swydd Wag -- Dylunydd Rhyngweithio

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyfathrebu
HEO - £32,460 - £39,690
£29,100
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 flynedd gyda'r posibilrwydd o swydd barhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Bydd deiliaid y swydd yn atebol i'r Rheolwr Dylunio Rhyngweithiol, ac yn gweithio fel rhan o'r Tîm Digidol Corfforaethol i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y defnydd gorau posibl o'i gwefannau. Bydd y swydd yn golygu gweithio ar y broses dylunio rhyngweithiol ar holl wefannau gwasanaeth rhyngrwyd corfforaethol Llywodraeth Cymru. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu dyluniadau gwefan proffesiynol, sy'n cydymffurfio â safonau, ar gyfer gwefannau Llywodraeth Cymru, gan roi ystyriaeth briodol i ymchwil ymhlith cwsmeriaid a siwrnai'r defnyddiwr.

Prif dasgau

• Dylunio gwefannau a systemau ar-lein gan ddefnyddio Iaith Profiad Cyflawn (GEL) (Global Experience Language) Llywodraeth Cymru
• Datblygu HTML a CSS ar gyfer gwefannau hawdd eu defnyddio, hygyrch, sy'n cydymffurfio â safonau'r we
• Datblygu cydrannau rhyngweithiol cymhleth gan ddefnyddio iaith, llyfrgelloedd a thechnegau yn cynnwys JavaScript, jQuery, ac AJAX
• Datblygu templedi penodol i ddyfeisiau symudol, sy'n ymatebol
• Dylunio a chynhyrchu elfennau graffigol ar draws prosiectau
• Creu fframiau gwifren (wireframing) a phrototeipio cyflym ar gyfer siwrnai'r defnyddwyr
• Cynorthwyo gyda sesiynau profi defnyddioldeb a gweithgareddau eraill ar gyfer cynnal ymchwil ymhlith defnyddwyr
• Rhoi amcangyfrifon a diweddariadau i'r Uwch-reolwr Dylunio Rhyngweithiol
• Gweithio o fewn amgylchedd tîm gan ddilyn prosesau a methodolegau'r Tîm Dylunio Rhyngweithiol
• Rhoi cyngor i gleientiaid ar brofiad y defnyddiwr a'r arferion gorau o ran saernïaeth gwybodaeth
• Cynnig cyngor creadigol a syniadau ymarferol ynghylch gwella lefelau presenoldeb presennol cleientiaid ar y wefan

Cyfleoedd datblygu

Mae hon yn rôl ymestynnol ond yn un sy'n cynnig boddhad mewn maes cyfathrebu allweddol. Mae'r swydd yn cynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau ym meysydd dylunio rhyngweithiol a disgyblaethau cyfathrebu ehangach sy'n datblygu'r ystod lawn o gymwyseddau ar gyfer dyrchafiad yn y dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod yn aelod o Rwydwaith Cyfathrebu'r Llywodraeth.

Mae hon yn cael ei chynnig fel swydd tymor penodol am 2 flynedd i ddechrau, ond gallai gael ei gwneud yn un barhaol.

Dyddiad Cau

24/02/17 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Arwain a Chyfathrebu:
- Cyfathrebu’n brydlon drwy ddefnyddio arddulliau a chyfryngau priodol, gan gynnwys sianeli digidol, er mwyn sicrhau bod gymaint o ddealltwriaeth ac effaith â phosibl.
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol:
- Nodi amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth berthnasol a dibynadwy a chydnabod, lle bo hynny'n angenrheidiol, bod angen casglu data newydd o ffynonellau mewnol ac allanol.
Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth:
- Mynd ati i ofyn am adborth gan amrywiaeth o bobl.
Rheoli gwasanaethau ansawdd:
- Sefydlu mecanweithiau i ofyn am adborth gan gwsmeriaid am y gwasanaeth a ddarperir, ac i ymateb i’r adborth hwnnw.

Meini prawf penodol i'r swydd:
1. Profiad sylweddol o ddylunio gwefannau cymhleth, a'u codio â llaw, gan gynnwys ar gyfer dyfeisiau symudol trwy ddefnyddio HTML/CSS/jQuery/JavaScript, mewn amgylcheddau systemau rheoli cynnwys.

2. Hyfedredd creadigol mewn gwahanol offer dylunio o safon diwydiant megis Photoshop, Illustrator, Fireworworks ac Axure RP Pro.

3. Dealltwriaeth dda o egwyddorion a phrosesau Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr ar gyfer y we.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

- Mae hwn yn gyfle 2 flynedd gyda'r posibilrwydd o swydd barhaol.

- Cofiwch, mae’r ceisiadau a dderbynnir yn ddarostyngedig i ddau gam sifftio.  Bydd y cam sifftio cyntaf yn ystyried y meini prawf sy’n benodol i’r swydd.  Dim ond y ceisiadau hynny sy’n bodloni’r meini prawf sy’n benodol ar gyfer y swydd fydd yn cael symud i’r cam nesaf o’r broses sifftio.

Tim Andrews (029 20825012) - timothy.andrews@wales.gsi.gov.uk // Aeddan Davies (029 20821647) aeddan.davies@wales.gsi.gov.uk

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.