Swydd Wag -- Cyfleoedd Cyfnod Penodol a Secondiad Llywodraeth Cymru, Ymgyrch Recriwtio Swyddogion Gweithredol (EO)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
EO - £26,900 - £30,610
£25,030
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Mae'r rolau hyn yn swyddi dros dro ac ar gael fel cyfle tymor byr (6-12 mis) neu gyfle tymor hwy (hyd at uchafswm o ddwy flynedd)
Cymru gyfan

Lleoliad swydd hyblyg yw ystyr Cymru gyfan, yn amodol ar anghenion y busnes. Sylwch efallai na fydd bob amser yn bosibl bodloni cais i ddewis swyddfa benodol, ond bydd modd ystyried ceisiadau.

Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru swyddfeydd yn Aberystwyth, Bedwas, Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin, Llandrindod, Cyffordd Llandudno, Merthyr Tudful, y Drenewydd ac Abertawe. Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ddweud pa leoliad y byddent yn eu ffafrio yn ystod y cam penodi, pan fo sawl lleoliad yn bosibl ar gyfer y swydd.

Rydym yn gefnogol i weithio hyblyg a theilwra patrymau gwaith i amgylchiadau unigol. pan fo angen busnes yn gallu caniatáu hynny. Yn dibynnu ar natur y swydd, efallai y bydd hi’n bosibl i ymgeiswyr llwyddiannus gytuno i weithio rhai o’u horiau gwaith gartref drwy gytundeb anffurfiol gyda’u rheolwr llinell.

Dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y swyddi y recriwtir ar eu cyfer yn yr ymgyrch hon, nid dramor.

I’w cadarnhau

Manylion am y cyfle

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio yn ôl y gwerthoedd a nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil: sef uniondeb, gwrthrychedd, gonestrwydd ac amhleidioldeb. Yn ychwanegol at y cod mae gennym ein gwerthoedd a’n disgwyliadau ein hunain sy’n crynhoi ein ‘ffordd Gymreig’ o weithio, gan adlewyrchu’r uchelgeisiau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dyma gyfle i symud ymlaen i’n band cyflog Swyddog Gweithredol, sef y lefel gyntaf fel arfer gyda chyfrifoldebau rheoli pobl. Gall y rôl reoli gynnwys trefnu llwythi gwaith, monitro llif gwaith, rheoli perfformiad, hyfforddi a datblygu, mentora a choetsio. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi i ddatblygu yn eu gradd newydd a bydd amrywiaeth o gyfleoedd ar gael wrth i ymgeiswyr ymgymryd â'u rolau newydd.

Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru amrywiaeth eang o rolau blaenoriaeth ar gael sy'n gofyn am sgiliau, profiad a gwybodaeth yn unol â’r Disgrifiad Gradd ac Ymddygiad ar gyfer Swyddogion Gweithredol (EO) a restrir isod. Bydd y rolau a benodir iddynt trwy'r cynllun hwn mewn meysydd megis datblygu a chyflawni polisïau, rheoli prosiectau a chyflawni gweithredol. Efallai y bydd rolau hefyd yn cefnogi proffesiynau amrywiol ar draws Llywodraeth Cymru, megis y Gwasanaethau Cyfreithiol, Technoleg a Data Digidol, neu broffesiynau Cyfathrebu.

Disgrifiad o'r Gradd

Beth mae’r sefydliad yn ei ddisgwyl gennych mewn rôl Swyddog Gweithredol (EO)

• Byddwch yn gallu gweithio'n annibynnol ar faterion o ddydd i ddydd, gan roi cyngor i unigolion uwch a chefnogi blaenoriaethau adrannol.

• Byddwch yn hyblyg, yn rhagweithiol ac yn hunan-gymhellol, yn gweithio ar draws timau pan fo angen i gyflawni amcanion busnes y Sefydliad; yn deall eich meysydd cyfrifoldeb ac arddangos ymwybyddiaeth o effaith ehangach eich gweithredoedd.

• Bydd gennych ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o sut mae eich maes gwaith yn cysylltu â meysydd gwaith eraill a strwythur ehangach y sefydliad.


Beth fydd eich tîm yn ei ddisgwyl gennych

• Byddwch yn gallu rheoli eich gwaith a'ch blaenoriaethau er mwyn sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni ar amser ac i ansawdd uchel gan ddefnyddio eich crebwyll a'ch gallu eich hun i wneud penderfyniadau

• Byddwch yn buddsoddi amser yn eich datblygiad eich hun, gan weithredu fel model rôl a chefnogi datblygiad pobl eraill. Darparu cyfleoedd ac yn annog unigolion i ddatblygu, yn rhannu eich gwybodaeth a'ch profiad.

• Byddwch yn rheoli/goruchwylio, datblygu, ysgogi a chefnogi grŵp amrywiol o staff a chydweithwyr, gan wneud y defnydd gorau o staff ac adnoddau. Byddwch yn cefnogi a chynnwys yr holl staff a chydweithwyr, eu trin yn deg a pharchu pawb fel unigolion.


Beth fydd rhanddeiliaid allweddol yn ei ddisgwyl

• Byddwch yn sefydlu perthynas broffesiynol gyda grŵp amrywiol o randdeiliaid a chwsmeriaid mewnol ac allanol er mwyn sicrhau canlyniadau.

• Byddwch yn cyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio sianeli cyfathrebu priodol.

Cyfleoedd datblygu

Dyma gyfle gwych i gael effaith trwy ddod â'ch gallu, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad byw gwerthfawr ac unigryw i Lywodraeth Cymru.

Bydd gennych y gallu i ddatblygu eich galluoedd trwy fod yn rhan o amrywiaeth eang o waith hanfodol (megis ymateb i COVID-19 a materion pontio’r UE) a thrwy weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid e.e. awdurdodau lleol, cwmnïau preifat a sefydliadau'r trydydd sector.

Byddwch yn gallu datblygu eich dealltwriaeth o'r dirwedd wleidyddol hefyd a'r rôl y mae Gweinidogion yn ei chwarae wrth osod yr agenda ar gyfer eich maes busnes.

Dyddiad Cau

21/04/21 12:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r diffiniad cymdeithasol o anabledd, lle cydnabyddir bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu i analluogi pobl sydd â namau neu gyflyrau iechyd, sy’n niwrowahanol neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel bo pob aelod staff (neu ddarpar staff newydd) yn gallu cyflawni hyd eithaf eu gallu.

Rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw berson anabl y mae ei gais yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd. ‘Meini prawf gofynnol’ yw bod rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ar bob cam o’r broses asesu cyn cyfweliad sy’n dangos eich bod yn bodloni’r gofynion yn y disgrifiad swydd yn gyffredinol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfa pobl anabl.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, yn niwrowahanol neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ac am drafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o’r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddwn yn rhoi addasiadau ar waith pe baech yn llwyddo, e-bostiwch RecriwtioAllanol@llyw.cymru cyn gynted â phosibl a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiad

Cyflawni'n Gyflym - Sicrhau bod cydweithwyr yn cael eu cefnogi lle mae tasgau'n heriol.
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Ysgwyddo cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau effeithiol a theg, mewn modd amserol.
Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd - Rhoi gwybod i gydweithwyr a rhanddeiliaid yn llawn am gynlluniau, posibiliadau a chynnydd.
Gweithio ar y Cyd - Datblygu amrywiaeth o gysylltiadau y tu allan i'ch tîm eich hun a nodi cyfleoedd i rannu gwybodaeth a dysgu.
Cyfathrebu a Dylanwadu - Gwrando ar wahanol syniadau, safbwyntiau a ffyrdd o weithio a'u gwerthfawrogi.
Mae chweched maes ymddygiad wedi'i restru'n anghywir fel un gorfodol yn y ffurflen gais. Anwybyddwch hyn gan fod angen i chi ddarparu tystiolaeth yn erbyn y pum ymddygiad a restrir uchod. Ychwanegwch 'Ddim yn Berthnasol' yn y chweched blwch ymddygiad i symud ymlaen i adran nesaf y ffurflen.

Proses Asesu

Mae pedwar cam i'r Broses Asesu:

1. Ffurflen Gais

Wrth lenwi'r Ffurflen Gais ar gyfer y cyfle hwn gofynnir ichi ddarparu tystiolaeth, ar ffurf enghreifftiau go iawn, o'ch sgiliau, eich profiad a'ch gallu yn y pum Ymddygiad Swyddog Gweithredol (EO) a restrir uchod. Dyma'r rhan bwysicaf o'ch Ffurflen Gais a bydd panel recriwtio yn y Cam Sifftio yn ei hasesu.


2. Prawf Ar-lein

Byddwch yn cael gwahoddiad i gwblhau Prawf Geiriol y Gwasanaeth Sifil Ar-lein. Os ydych yn ei basio’n llwyddiannus byddwch yn cael gwahoddiad i gwblhau Prawf Crebwyll y Gwasanaeth Sifil Ar-lein.

Dim ond y rhai sy'n llwyddo yn y ddau brawf hyn fydd yn symud ymlaen i'r Cam Sifftio.

Os byddwch yn methu’r naill brawf neu’r llall, neu'n methu â chwblhau'r profion ar-lein erbyn y dyddiad cau a roddir, yn anffodus ni fydd eich cais yn symud ymlaen i'r cam nesaf. Fe'ch hysbysir o'r canlyniad hwn.

Sylwer, bydd y rhan hon o'r Asesiad (Prawf Geiriol y Gwasanaeth Sifil Ar-lein a'r Prawf Crebwyll y Gwasanaeth Sifil Ar-lein) yn Saesneg.


3. Cam Sifftio

Cynhelir proses sifftio dau gam ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi pasio'r Profion Ar-lein.

Sifft Cam 1.
Asesir y dystiolaeth a roddwch yn eich Ffurflen Gais ar gyfer y ddau Ymddygiad Swyddogion Gweithredol (EO) cyntaf a restrir uchod (sef Cyflawni'n Gyflym a Gwneud Penderfyniadau Effeithiol) gan banel recriwtio. Os ydych chi'n llwyddiannus yn y cam hwn, bydd eich cais yn symud ymlaen i Sifft Cam 2

Sifft Cam 2.
Bydd panel recriwtio yn asesu'r tri Ymddygiad Swyddog Gweithredol (EO) sy'n weddill yr ydych wedi'u cyflwyno yn eich Ffurflen Gais. Os ydych chi'n llwyddiannus yn y cam hwn, fe'ch gwahoddir i Gyfweliad Ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams.

Os byddwch yn methu naill ai Sifft Cam 1 neu Sifft Cam 2, yn anffodus ni fydd eich cais yn symud ymlaen i Gyfweliad. Fe'ch hysbysir o'r canlyniad hwn.


4. Cyfweliad Ar-lein

Bydd y Cyfweliad ar-lein yn digwydd trwy Microsoft Teams ac yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau yn seiliedig ar Ymddygiad a Chryfder.

Bydd y cwestiynau Ymddygiad yn archwilio'n fanwl yr hyn y gallwch chi ei wneud. Bydd y cwestiynau Cryfderau’n archwilio'r hyn rydych chi'n ei fwynhau a'ch cymhellion sy'n berthnasol i ofynion gradd y swydd.

Bydd yr Ymddygiadau a gaiff eu hasesu yn y cyfweliad yr un fath â'r rhai y gofynnwyd ichi eu cyflwyno yn eich Ffurflen Gais, sef Cyflawni'n Gyflym, Gwneud Penderfyniadau Effeithiol, Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd, Gweithio ar y Cyd, a Chyfathrebu a Dylanwadu.

Y cryfderau a brofir yn ystod y cyfweliad fydd Addasadwy, Rhwydweithiwr, Pendant, Trefnydd a Chynhwysol Nid oes unrhyw ddisgwyliad na gofyniad i chi baratoi ar gyfer y cwestiynau Cryfderau hyn cyn y cyfweliad, er y gallai fod yn ddefnyddiol i chi dreulio rhywfaint o amser yn myfyrio ar yr hyn rydych chi'n mwynhau ei wneud a'r hyn rydych chi'n ei wneud yn dda.


Canlyniad Terfynol

Yn dilyn y cyfweliad, cyhoeddir y canlyniadau.


Paru

Os ydych chi'n llwyddiannus, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwyd gennych chi ar eich Ffurflen Gais i helpu i lywio’r broses o’ch paru chi â swydd.

Byddwn yn ystyried eich sgiliau a'ch gallu ochr yn ochr â gofynion y rolau sydd ar gael a blaenoriaethau busnes.

Ni allwn warantu y cynigir swydd benodol i chi.


Addasiadau Rhesymol

Pan fyddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr i gadarnhau eu bod wedi bod yn llwyddiannus mewn cyfweliad, byddwn yn gofyn iddynt a oes unrhyw addasiadau rhesymol y byddent yn hoffi i ni eu hystyried wrth eu paru â swydd. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei baru â swydd addas.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

• Byddwch yn ymwybodol na ellir ymestyn y dyddiadau cau/terfynau amser a roddir drwy gydol y broses asesu hon.

• Sicrhewch eich bod yn gwirio eich cyfrif(on) e-bost cofrestredig yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn ymwybodol pan gysylltwyd â chi ynglŷn â'r broses asesu.

• Bydd penodiadau trwy'r ymgyrch hon ar sail Penodiad Cyfnod Penodol, fodd bynnag, os ydych yn gyflogedig eisoes, gellir ystyried secondiad gan eich cyflogwr presennol.

• Mae'n ofynnol i Secondai barhau i gael ei gyflogi gan ei gyflogwr presennol trwy gydol y cyfnod secondiad, cadw telerau ac amodau’r cyflogwr (fel y nodir yn y Contract Cyflogaeth gyda'r cyflogwr) ac aros ar Gyflogres ei gyflogwr. Yna bydd y cyflogwr yn anfonebu Llywodraeth Cymru am ddarparu Gwasanaethau'r Secondai ar sail ôl-ddyledion chwarterol ar gyfer cyflog gwirioneddol (gan gynnwys Pensiwn, Yswiriant Gwladol ac ati).

• Rydym ni'n rhagweld y bydd mwyafrif yr ymgeiswyr sy'n gofyn am secondiad trwy'r cyfle hwn yn symud ar draws, fel y byddent yn gallu aros ar yr un cyflog ag y maen nhw'n ei dderbyn gan eu cyflogwr. Dim ond mewn achosion eithriadol, e.e. lle byddai secondiad yn cyfateb i ddyrchafiad dros dro o ran cyflog, y caniateir hyblygrwydd. Yn y sefyllfa hon gall Llywodraeth Cymru fod yn barod i'r Secondai gael ei dalu ar leiafswm y Band Cyflog ar gyfer y Radd y’i penodir iddi, fodd bynnag, byddai angen i gyflogwr y Secondai gytuno â thelerau'r penodiad a'r cynnydd dros dro yng nghyflog y gweithiwr dros gyfnod y secondiad.

Pwynt cyswllt i gael mwy o wybodaeth: RecriwtioAllanol@llyw.cymru

ExternalRecruitment@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylid gwneud pob cais am y swydd hon ar-lein trwy system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.

Os oes gennych nam a fyddai'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch RecriwtioAllanol@llyw.cymru i ofyn am becyn cais mewn fformat arall, neu i ofyn am addasiad rhesymol sy'n gysylltiedig â nam er mwyn cyflwyno'ch cais .

I wneud cais, bydd angen i chi gael cyfrif ar ein system ymgeisio ar-lein. Cliciwch y botwm 'Gwneud Cais' isod, a gofynnir i chi 'Fewngofnodi' os oes gennych gyfrif eisoes, neu 'Gofrestru' os nad oes gennych gyfrif eto. Gallwch gofrestru mewn ychydig funudau. Bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i allu cofrestru. Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer cyfrif a mewngofnodi, cewch eich cyfeirio at y cam cyntaf y broses asesu.

Os hoffech chi wneud cais am y swydd wag hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen ‘Newid Iaith / Change Language’ ar frig y dudalen hon, i fynd â chi i fersiwn Gymraeg yr hysbyseb hon, a gallwch ei defnyddio i wneud cais yn Gymraeg.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio, gweler Canllawiau Recriwtio Ymgeiswyr Allanol.

I gael rhagor o wybodaeth am Ymddygiad a Chryfderau'r Gwasanaeth Sifil a sut y cânt eu defnyddio ar gyfer recriwtio yn y Gwasanaeth Sifil, gweler Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil.

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.