Swydd Wag -- Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Uwch Wasanaeth Sifil 2
Cyflog y swydd fydd oddeutu £110,000
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Mae'r penodiad yn benodiad tair blynedd i ddechrau gyda phosibilrwydd o'i ymestyn
Y De-ddwyrain, Y De-orllewin
Gall deiliad y swydd weithio o unrhyw un o swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Ne Cymru. Fodd bynnag, bydd rhaid teithio'n wythnosol i Gaerdydd i drafod â Gweinidogion ac Uwch-swyddogion.

Dyddiad Cau

21/01/18 23:55

Pwrpas y Swydd

Bydd penodiad y prif weithredwr yn benodiad Gwasanaeth Sifil i ddechrau cyn symud i fod yn swydd barhaol o fewn yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol. Mae'r penodiad yn benodiad tair blynedd i ddechrau gyda phosibilrwydd o'i ymestyn

Y cefndir

Mae ymchwil ryngwladol yn dangos mai ail yn unig i addysgu yn yr ystafell ddosbarth yw arweinyddiaeth ysgolion o ran y dylanwad ar ddysg disgyblion.   Mae tystiolaeth yn dangos bod angen i Gymru adeiladu capasiti arweinyddiaeth os yw am alluogi dysgwyr i gyflawni eu potensial. Roedd adolygiad yr OECD (Improving Schools in Wales: An OECD Perspective 2014) yn awgrymu bod angen datblygu capasiti arweinyddiaeth yng Nghymru a chryfhau arweinyddiaeth mewn ysgolion ac ar draws y system er mwyn gwella perfformiad myfyrwyr.  

Aeth yr OECD ymlaen i nodi bod datblygu capasiti arweinyddiaeth ar bob lefel y system wedi bod yn wan, bod diffyg adnoddau a’i bod yn ymddangos fel ôl-ystyriaeth i ymdrechion ehangach Llywodraeth Cymru i ddiwygio. Mewn ymateb i hyn, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg roi mwy o sylw i arweinyddiaeth yn system addysg Cymru.

Ym mis Gorffennaf 2016, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn cael ei sefydlu fel sefydliad ar wahân sy'n gweithredu hyd braich o Lywodraeth Cymru (LlC). Ni fydd yn darparu addysg, ond bydd yn broceru ac yn sicrhau ansawdd ystod o ddarpariaethau a gymeradwywyd ar gyfer y system addysg yng Nghymru.  

Drwy Grŵp Gorchwyl a Gorffen a arweinir gan Ann Keane, mae'r gwaith datblygu cynnar, gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, wedi arwain at ddatblygu gweledigaeth, gwerthoedd a strwythurau llywodraethu yr Academi Genedlaethol. Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen hwn yn cynnwys arbenigwyr addysg a rhanddeiliaid perthnasol. Mae'r Grŵp wedi gwneud sawl argymhelliad i Ysgrifennydd y Cabinet gan gynnwys y dylai’r Academi Genedlaethol fod yn gwmni cyfyngedig trwy warant.

Bydd yr Academi Genedlaethol yn gyfrifol am oruchwylio strategol a chyfeirio'r ddarpariaeth arweinyddiaeth er mwyn diwallu anghenion y system addysg yng Nghymru.  Bydd ganddo rôl allweddol i sicrhau tegwch a mynediad at ddatblygiad arweinyddiaeth o safon uchel drwy gefnogi ystod o ddarpariaethau datblygu arweinyddiaeth i bob lefel arweinyddiaeth addysg a chomisiynu darpariaeth pan fydd bylchau.  Bydd yr Academi Genedlaethol hefyd yn gyfrifol am ddatblygu system arweinyddiaeth ar draws y system addysg, gan fwydo i gynlluniau'r gweithlu strategol dros arweinyddiaeth, gweithredu fel dolen gyswllt a chanolbwyntio ar feddwl am bolisïau, casglu tystiolaeth a lledaenu ymchwil o ran arweinyddiaeth addysgol.


Rôl y Prif Weithredwr

Bydd gan y Prif Swyddog Gweithredol rôl allweddol i ddatblygu gweledigaeth yr Academi Genedlaethol a bydd yn darparu rôl arweinyddiaeth strategol i sefydlu’r Academi  ac wrth ddatblygu diwylliant sy'n uchelgeisiol, sy'n ysbrydoli ac sy'n galluogi'r Academi ei hun ymysg ei rhanddeiliaid, y darpar arweinwyr addysg a'r arweinwyr addysg presennol yng Nghymru.

Bydd y Prif Swyddog Gweithredol yn sicrhau bod llywodraethiant priodol, arweinyddiaeth, systemau a phobl yn cael eu rhoi ar waith i gyflawni'r nodau a'r amcanion a nodwyd ar gyfer y sefydliad newydd.

Bydd y Prif Swyddog Gweithredol yn gweithio gyda'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen, is-grwpiau a Chadeirydd AGGA (pan fydd wedi ei benodi) i arwain y broses o sefydlu'r corff newydd. Bydd deiliad y swydd yn arwain datblygiad model newydd i sicrhau ansawdd darpariaeth arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru.  Bydd llwyddiant yn arwain at sicrhau bod darpariaeth arweinyddiaeth o'r safon uchaf ar gael i arweinwyr a darpar arweinwyr yng Nghymru fydd yn helpu i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru sef bod Cymru yn cael ei hystyried - yn genedlaethol ac yn rhyngwladol - fel lle gwych i fod yn arweinydd addysg. 

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

Bydd penodiad y prif weithredwr yn benodiad Gwasanaeth Sifil i ddechrau cyn symud i fod yn swydd barhaol o fewn yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol. 

Gall deiliad y swydd weithio o unrhyw un o swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Ne Cymru.  Fodd bynnag, bydd rhaid teithio'n wythnosol i Gaerdydd i drafod â Gweinidogion ac Uwch-swyddogion.

Dylid danfon ffurflenni cais wedi eu cwblhau, CV diweddar, ynghyd â datganiadau personol ynghylch eich addasrwydd ar gyfer y swydd i Lywodraeth Cymru drwy’r system arlein, erbyn 23:55yh ar 21 Ionawr 2018.

Bydd tîm Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru yn cydnabod eich cais ac yn eich hysbysu ynghylch canlyniadau’r cyfarfod sifftio.  Caiff  y ceisiadau eu sifftio er mwyn dewis y rheini sydd yn cwrdd â’r meini prawf penodol ar gyfer y swydd yn y modd mwyaf effeithiol.

Efallai y caiff yr ymgeiswyr hynny sydd yn eu gwneud hi i’r rhestr fer gael cyfle i gymryd rhan mewn sgyrsiau anffurfiol cyn y cyfweliadau panel dethol terfynol i ddysgu mwy am y rôl a'r sefydliad.

Cynhelir y cyfweliadau yn swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd ar 12 Chwefror 2018. 

Os hoffech drafod y swydd hon ymhellach, cysylltwch â Tanya Wigfall ar 03000 251101.

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.