Swydd Wag -- Rheolwr Arolygu Awdurdodau Lleol x2

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Arolygiaeth Gofal Cymru
SEO - £41,700 - £49,370
/ Gellir ystyried cyflog cychwynnol o hyd at bwynt 3 (£45,970) ar gyfer ymgeiswyr sy'n dangos y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad hanfodol i lefel eithriadol.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
/ Gall y swydd hon fod wedi'i lleoli yn unrhyw un o swyddfeydd AGC, ym Merthyr, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o gartref, fel sy'n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i'ch man gwaith dynodedig na'ch telerau ac amodau cytundebol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu unrhyw gostau cymudo i'w fan gwaith arferol. Mae'r swydd hon yn golygu ymgymryd â gweithgarwch craffu, adolygu ac arolygu perfformiad ledled Cymru ac felly bydd angen teithio ac aros dros nos ar adegau yn ogystal â gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i'w gilydd.
I’w gadarnhau.

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant.  Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn sicrhau llesiant pobl Cymru. Mae Arolygu Awdurdodau Lleol yn swyddogaeth allweddol wrth sicrhau y caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol diogel ac o ansawdd da eu darparu i ddinasyddion Cymru. Mae rôl Rheolwr Arolygu Awdurdodau Lleol yn hanfodol wrth roi sicrwydd ac ysgogi gwelliant o ran ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Prif dasgau'r Rheolwr Arolygu – Tîm Arolygu Awdurdodau Lleol yw cefnogi a helpu'r uwch-reolwr i adolygu ac arolygu awdurdodau lleol, a chraffu arnynt. Bydd y Rheolwr Arolygu yn helpu ac yn cefnogi'r Uwch-reolwr gyda'r gwaith o ddarparu rhaglen waith genedlaethol y cytunwyd arni yn effeithiol, yn amserol ac yn effeithlon. Mae'r tîm awdurdod lleol wrthi'n ailddylunio ei ddull o fonitro, adolygu ac arolygu. Bydd datblygu'r gwaith hwn yn agwedd allweddol ar y rôl.

Bydd y rôl yn arwain y gwaith o ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofalwyr. Cyflawnir rhywfaint o'r gwaith yn rhithwir, er y bydd rhywfaint o waith wyneb yn wyneb yn y dyfodol, yn enwedig wrth ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau.

Bydd Rheolwyr Arolygu yn atebol i Uwch-reolwr. Bydd ganddynt rôl bwysig i'w chwarae er mwyn sicrhau y caiff cyfrifoldebau craidd AGC eu cyflawni'n effeithiol ac yn amserol ym mhob agwedd ar waith gydag awdurdodau lleol.

Cynhelir arolygiadau ledled Cymru. Efallai y bydd yn ofynnol i chi deithio ledled Cymru – er bod y gweithgarwch arolygu yn cael ei gynnal o bell ar hyn o bryd, byddwn yn gweithio i gynyddu ein cyswllt wyneb yn wyneb â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gan fod llais y defnyddiwr wrth wraidd popeth a wnawn.

Bydd angen i chi feddu ar sgiliau TG digonol, gan gynnwys PowerPoint, Excel a Word. Mae profiad o weithio ar raglenni datblygu a newid yn fuddiol.

Prif dasgau

  • Helpu i arolygu awdurdodau lleol, gan gynnwys cynnal adolygiadau ffeiliau a chyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol, casglu a dadansoddi tystiolaeth a sicrhau bod cofnodion manwl yn cael eu cadw.
  • Cyfrannu at ddadansoddi gwybodaeth a data perfformiad, darllen, craffu a syntheseiddio dogfennau allweddol a ddarperir gan awdurdodau lleol a gweithio'n agos gyda'r tîm o ddadansoddwyr.
  • Arwain gweithgareddau ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a'u gofalwyr, gan ystyried materion amrywiaeth a chydraddoldeb a defnyddio amrywiaeth o dechnegau i hwyluso cyfraniad.
  • Datblygu adnoddau a methodolegau i ategu gwaith y tîm arolygu awdurdodau lleol.
  • Cefnogi'r uwch-reolwr yn y rôl gyswllt ag awdurdodau lleol, cyfarfod â rhanddeiliaid allweddol a gwerthuso perfformiad.
  • Mae'r tîm awdurdod lleol wrthi'n ailddylunio ei ddull o fonitro, adolygu ac arolygu. Bydd datblygu'r gwaith hwn yn agwedd allweddol ar y rôl.
  • Arwain y gwaith o gynllunio ymlaen llaw a chydlynu gwaith monitro, arolygu ac adolygu mewn nifer o awdurdodau lleol, gyda chymorth priodol.
  • Bod yn gyfrifol am hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus, lle caiff materion amrywiaeth a chydraddoldeb eu hystyried yn llawn a'u hintegreiddio mewn ymarfer rheoleiddio, a gweithredu fel hyrwyddwr newid fel sy'n ofynnol gan y sefydliad.
  • Bod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch Llywodraeth Cymru yn y maes cyfrifoldeb.
  • Helpu i gynnal archwiliadau ac adolygiadau sicrhau ansawdd yn ôl y gofyn.
  • Ystyried cynrychiolaethau yn unol â'r rota y cytunwyd arno.
  • Gweithio'n agos gyda'r rheolwyr tîm yn y timau arolygu rheoleiddiol i rannu gwybodaeth a fydd yn llywio penderfyniadau.
  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau polisi a deddfwriaeth berthnasol, ynghyd â'r arferion gorau mewn meysydd a nodir a rhannu'r wybodaeth hon â chydweithwyr.
  • Cydgysylltu'n agos â rheolwyr tîm yn y timau cofrestru a gorfodi i rannu gwybodaeth a fydd yn llywio penderfyniadau.
  • Cymryd cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad a'ch datblygiad proffesiynol eich hun a manteisio ar gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru ac ar ôl trafod â'r Rheolwr Llinell.
  • Darparu rheolaeth linell ar gyfer rheolwyr cymorth arolygu yn ôl yr angen.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

19/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gosod y Trywydd – Gweld y Darlun Cyflawn - Ceisio deall sut y mae’r gwasanaethau, y gweithgareddau a’r strategaethau yn y maes yn ategu ei gilydd i greu gwerth am arian ar gyfer y cwsmer/defnyddiwr. 

Gosod y Trywydd – Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl.

Ymwneud â Phobl – Arwain a Chyfathrebu - Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.

Gwireddu Canlyniadau – Cyflawni'n Brydlon - Blaengynllunio ond ailasesu llwythau gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os bydd pobl yn wynebu gofynion sy'n gwrthdaro.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. . Yn ddelfrydol, dylid meddu ar gymhwyster gofal cymdeithasol/addysg cydnabyddedig ynghyd â phrofiad perthnasol. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gymwys i lefel gradd neu'n uwch (mewn unrhyw bwnc) y mae ganddynt brofiad sylweddol o ddiogelu a/neu wella canlyniadau i bobl mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol.  Mae enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol / addysg derbyniol yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i):Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol),
    • cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â gofal iechyd,
    • cymhwyster addysgu neu addysg,
    • gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod,
    • Diploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant.
  2. Profiad ôl-gymhwyso perthnasol o wasanaethau i oedolion, pobl hŷn neu blant.
  3. Profiad o wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ar lefel uwch-ymarferydd a/neu brofiad o gynnal arolygiadau.

Proses Asesu

Mae'r broses recriwtio yn cynnwys dau gam:

Cam 1 – Cwblhau cais ar-lein a chyflwyno CV (heb fod yn fwy na 2 dudalen) a datganiad personol

Cam 2 – Cyfweliad ac asesiad.

Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru sef ffurflenni cais a chyfweliadau sy'n seiliedig ar gymwyseddau. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru a Phecyn Ymgeiswyr AGC cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddiwch ddull STAR wrth roi tystiolaeth.

Llunio Rhestr Fer/Sifftio Ceisiadau

Caiff rhestr fer o ymgeiswyr ei llunio drwy asesu'r dystiolaeth a ddarparwyd yn y CV a'r datganiad personol a lanlwythwyd.

Cam 1 - Sifftio

Lanlwythwch eich CV (heb fod yn fwy na 2 dudalen) yn manylu ar eich rôl bresennol, hanes gwaith blaenorol, cymwysterau ac unrhyw hyfforddiant perthnasol. Nid oes angen i ni weld tystysgrifau ar y cam hwn.

Ynghyd â'ch CV, gwnewch yn siŵr eich bod yn lanlwytho datganiad personol yn amlinellu sut rydych yn bodloni'r 4 cymhwysedd a'r 3 maen prawf penodol i'r swydd yn yr hysbyseb (un enghraifft ar gyfer pob un = 7 enghraifft i gyd).  Sicrhewch eich bod yn defnyddio penawdau fel bod y panel yn gallu gweld pa gymhwysedd neu faen prawf penodol i'r swydd y mae eich tystiolaeth yn berthnasol iddo hefyd.

Os daw nifer mawr o geisiadau i law, efallai mai dim ond yn seiliedig ar eich ymatebion i'r tri maen prawf penodol i'r swydd y bydd y panel yn llunio'r rhestr fer.  Noder: bydd angen i chi ddarparu ymateb ysgrifenedig mewn perthynas â'r pedwar cymhwysedd o hyd, er mwyn pasio'r cam rhestr fer yn llwyddiannus.

Cewch wybod y canlyniad drwy'r system ar-lein. Bydd rhywfaint o adborth ysgrifenedig yn cael ei roi yn ystod y cam sifftio.

Cam 2 – Cyfweliad

Os byddwch yn llwyddiannus ar y cam sifftio, cewch eich gwahodd i gyfweliad rhithwir dros Microsoft Teams. Efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflawni asesiad neu roi cyflwyniad fel rhan o'r broses gyfweld. Os felly, byddwn yn rhoi rhybudd o bum diwrnod gwaith o leiaf o'r gofynion.

Os yw'r swydd yn gofyn am sgiliau Cymraeg, bydd asesiad ysgrifenedig Cymraeg hefyd.

Os na allwch gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein am ba reswm bynnag, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau amgen lle y bo'n bosibl. 

Os ydych yn anabl, os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, os ydych yn niwrowahanol neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ac yr hoffech wneud cais am addasiadau rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i CIWHR@gov.wales.

Yn ystod y cam sifftio a chyfweld, byddwn yn eich   asesu gan ddefnyddio'r matrics sgorio (gweler y Canllawiau i Ymgeiswyr Allanol ym mharagraff 6) yn erbyn y pedwar cymhwysedd a'r tri maen prawf penodol i'r swydd a nodir yn y disgrifiad swydd/hysbyseb swydd

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Cyflog

Gellir ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£45,970) os caiff y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad hanfodol eu dangos yn y cyfweliad. Nid yw cyflog presennol yn ystyriaeth.

Lleoliad

Gall y swydd hon fod wedi'i lleoli yn unrhyw un o swyddfeydd AGC, ym Merthyr, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o gartref, fel sy'n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i'ch man gwaith dynodedig na'ch telerau ac amodau cytundebol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu unrhyw gostau cymudo i'w fan gwaith arferol.

Mae'r swydd hon yn golygu ymgymryd â gweithgarwch craffu, adolygu ac arolygu perfformiad ledled Cymru ac felly bydd angen teithio ac aros dros nos ar adegau yn ogystal â gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i'w gilydd.

Sgiliau Cymraeg

Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rolau hyn. Rydym yn annog ceisiadau ar gyfer y swyddi hyn gan siaradwyr Cymraeg a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn cydnabod yr heriau y gall pobl â nodweddion gwarchodedig (lluosog) eu hwynebu yn y farchnad swyddi ac wrth symud ymlaen yn eu gyrfa. Rydym yn gwbl ymrwymedig i fod yn gyflogwr cynhwysol a sicrhau cyfle cyfartal. Rydym yn awyddus i wneud ein gweithlu mor amrywiol â phosibl, ac yn gobeithio denu ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anabledd, a phobl â hunaniaethau amrywiol o ran rhywedd.

Gweithio Hyblyg – Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng gwaith a bywyd.

Gwyliau Blynyddol – Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 31 diwrnod o wyliau blynyddol os byddwch yn gweithio'n llawn amser, pro rata ar gyfer rhan amser (e.e. 4 diwrnod = 25 diwrnod).

Gwyliau Banc – Mae cyflogeion llawn amser yn cael 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint y flwyddyn, pro rata ar gyfer rhan amser.

Cyflog – Rydym yn gyflogwr Cyflog Byw â graddfeydd cyflog cynyddrannol. Mae gennym hefyd strwythur cyflog cyfartal, beth bynnag fo oedran, statws priodasol, anabledd, hil, crefydd neu gred, neu hunaniaeth o ran rhywedd. Ceir rhagor o wybodaeth yma. https://llyw.cymru/datganiad-polisi-tal-llywodraeth-cymru-2020

Lwfans Defnyddiwr Car Hanfodol – Mae rolau Arolygwyr, Rheolwyr Tîm ac Uwch-reolwyr sy'n cynnal Arolygiadau a Gweithgarwch Rheoleiddiedig yn gymwys ar gyfer Lwfans Defnyddiwr Car Hanfodol o £1,000 y flwyddyn os ydych yn defnyddio eich car eich hun ac yn teithio mwy na 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae trwydded yrru ddilys ac yswiriant cerbyd modur yn ofynnol.

Teithio a Chynhaliaeth – Bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu costau angenrheidiol, ychwanegol yr eir iddynt ar deithio a chynhaliaeth pan fydd cyflogeion yn teithio i ffwrdd o leoliad arferol y swyddfa o ganlyniad i fusnes swyddogol.  Ni fydd yn ad-dalu costau y gellid bod wedi eu hosgoi drwy gynllunio'n well neu a oedd yn angenrheidiol fel arall i gyflawni diben swyddogol yr ymweliad.

Pensiwn – Ceir rhagor o wybodaeth am gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yma: https://www.civilservicepensionscheme.org.uk/

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ei holl gyflogeion. Mae gennym rwydweithiau staff cryf a rhagweithiol a rhaglenni hybu talentau ar sail amrywiaeth er mwyn helpu pawb, ni waeth beth fo'u cefndir, i gyrraedd eu llawn botensial.

Dysgu a Datblygu – Caiff pob aelod o staff yn Llywodraeth Cymru ei gefnogi i ddatblygu ei sgiliau a'i alluoedd, sy'n cynnwys mynediad i gyfleoedd dysgu a datblygu gyda darparwyr o'r radd flaenaf.  Mae AGC yn ymrwymedig i Ddysgu a Datblygu ac i sicrhau bod ein staff yn cwblhau pum diwrnod o ddysgu o leiaf bob blwyddyn.  Caiff hyn ei gefnogi gan raglen ddysgu bwrpasol ar gyfer cyflogeion AGC. 

Sefydlu – Caiff pob newydd-ddyfodiad hyfforddiant Sefydlu fel un o gyflogeion Llywodraeth Cymru.  Caiff hyn ei gefnogi gan raglen sefydlu bwrpasol ar gyfer cyflogeion AGC.

Cod y Gwasanaeth Sifil – Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi'r gwerthoedd craidd a'r safonau a ddisgwylir gan bob gwas sifil: hygrededd, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd.  Disgwylir i bob gwas sifil ymddwyn yn unol â Chod y Gwasanaeth Sifil, https://llyw.cymru/cod-y-gwasanaeth-sifil


Gwerthoedd Craidd AGC – Mae ein gwerthoedd craidd yn sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth a wnawn a'n dyheadau fel sefydliad.

  • Gofalgar: rydym yn dosturiol ac yn gyfeillgar
  • Teg: rydym yn gyson, yn ddiduedd ac yn gynhwysol
  • Uniondeb: rydym yn onest a gellir ymddiried ynom
  • Proffesiynol: rydym yn fedrus, yn wybodus ac yn arloesol
  • Parch: rydym yn gwrando ar bobl, yn ymgysylltu â nhw ac yn eu gwerthfawrogi
Lou Bushell-Bauers - ciwhr@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.