Swydd Wag -- Cynorthwyydd Gweinyddol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Addysg Gychwynnol Athrawon ac Ymchwil
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
19240
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Caerdydd
11/07/19

Pwrpas y swydd

Prif bwrpas y swydd yw rhoi cymorth gweinyddol i reolwr dall, a sicrhau ei bod yn gallu cyflawni'i rôl yn effeithiol. Mae hon yn swydd unigryw yn Llywodraeth Cymru gan ei bod yn gyfle i weithio mewn sefyllfa un-ac-un ar amrywiaeth o faterion pwysig sy'n ymwneud â'r Llywodraeth, ac yn gyfle i weithio fel rhan o dîm mwy. Lleolir y swydd ym Mharc Cathays, yng Nghaerdydd.

Prif dasgau

• Prawfddarllen dogfennau sy'n cael eu teipio gan y rheolwr a'i chynghori ar ddiwyg.

• Fformadu dogfennau ar gyfer Braille (nid yw gwybodaeth flaenorol am Braille yn angenrheidiol).

• Cydgysylltu â'r uned argraffu ynghylch argraffu dogfennau mewn Braille, a chydgysylltu ag isadrannau eraill i gynghori ar fformadu dogfennau i Braille.

• Cynnal rhestr ffeilio ar gyfer dogfennau Braille a ffeiliau o ddeunyddiau argraffedig ac arbed ffeiliau'n electronig (darperir hyfforddiant lle bo angen).

• Trosi dogfennau i'r fformat priodol ar gyfer y llywodraeth dan bwysau amser e.e. briffiau, dyddiaduron, cyflwyniadau a dogfennau perthnasol eraill, gan sicrhau bod y cynnwys yn y fformat cywir.

• Llenwi ffurflenni ar ran y rheolwr e.e. taflenni amser hyblyg, ffurflenni teithio a chynhaliaeth ac ati.

• Cynnal calendr Outlook a dyddiadur y rheolwr a'i chynghori ynghylch apwyntiadau.

• Cyflawni dyletswyddau ysgrifenyddol - trefnu cyfarfodydd, cymryd cofnodion a gweithredu unrhyw gamau dilynol ar ran y rheolwr.

• Cynnal chwiliadau ar y rhyngrwyd/fewnrwyd yn ôl y gofyn.

• Darllen yn uchel ddeunydd all fod yn faith ac yn gymhleth.

• Defnyddio offer arbennig - peiriant labelu Braille yn bennaf (darperir hyfforddiant)

• Mynd gyda'r rheolwr i gyfarfodydd.

• Cyflawni dyletswyddau gweinyddol cyffredinol, ffeilio, llungopïo a darllen negeseuon e-bost etc.

• Unrhyw ddyletswyddau eraill fel y gwêl y rheolwr yn dda.

• Bydd hefyd cyfleoedd diddorol i ddarparu cymorth gweinyddol yn ehangach o fewn y tîm.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd yn cynnig cyfleoedd rhagorol i ddod i ddeall amrywiaeth o bynciau sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru, a helpu i baratoi amryw o ddogfennau gan gynnwys papurau, briffiau ayyb, i gefnogi’r Gweinidogion. Bydd cyfle hefyd i weithio ar eich liwt eich hun a datblygu sgiliau trefnu. Oherwydd gofynion y swydd, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus aros yn y swydd am 2 flynedd.

Dyddiad Cau

25/06/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Cydweithredu a Phartnera - Dod i adnabod aelodau eraill y tîm/cydweithwyr a deall eu safbwyntiau a’u dewisiadau
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Monitro a storio data critigol mewn modd diogel, priodol a chyfrifol gan gynnal cyfrinachedd
Cyflawni’n Brydlon - Cymryd cyfrifoldeb am ansawdd eu gwaith a rhoi gwybod i’w rheolwyr sut y mae’r gwaith yn dod yn ei flaen
Cyflawni’n Brydlon - Gweithio mewn modd trefnus, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u harbenigedd i gyflawni’n brydlon a safonol

Meini prawf penodol i'r swydd

Gwybodaeth dda am becynnau Microsoft Office a'r rhyngrwyd.
Y gallu i dalu sylw manwl i'r manylion, er enghraifft wrth wirio cynllun dogfennau.
Y gallu i weithio'n hyblyg.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Gellir cynnig cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 ar y raddfa gyflog yn eithriadol.
Heledd Evans 03000 616041

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.